Neidio i'r prif gynnwy

Prif bwyntiau

  • Yn 2023, cafodd 50.6 miliwn o dunelli (Mt) o nwyddau eu trin ym mhorthladdoedd Cymru (mawr a bach gyda'i gilydd) -gostyngiad o 6.1% ers 2022, ond gostyngiad o 4.4% ers 2019.
  • Gwnaeth porthladdoedd Cymru drin 11.6% o gyfanswm nwyddau cludiant y DU, o ran pwysau, yn 2023.
  • O'r holl nwyddau a gludwyd trwy borthladdoedd mawr Cymru, roedd 86.8% ohono o ran pwysau yn draffig rhyngwladol gydag ychydig dros dri chwarter (76.6%) o'r traffig rhyngwladol hwn yn fewnforion.
  • Mae porthladdoedd Cymru yn borth rhwng Gweriniaeth Iwerddon a gweddill Ewrop, gyda Chaergybi yn trin y gyfran fwyaf o'r nwyddau a gludwyd rhwng Iwerddon a Chymru, sef 4.8 miliwn tunnell yn 2023.
  • Yn 2023, roedd 455,000 o lorïau a threlars heb gwmni yn teithio trwy borthladdoedd Cymru i ac o Iwerddon. Er bod hyn yn gynnydd o 5.9% o'i gymharu â 2022, mae hyn yn ostyngiad o 19.9% o'i gymharu â 2019.

Ffigur 1: Mynegeion ar gyfer cludo nwyddau a theithwyr ar y môr ym mhob porthladd yng Nghymru, 2000 i 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Mae'r siart yn dangos mynegeion cyfres amser o'r newidiadau yng nghludiant nwyddau a theithwyr ar y môr dros amser. Yn 2023, cynyddodd traffig teithwyr môr 5.5% o'i gymharu â 2022.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata Forol yr Adran Drafnidiaeth (DfT) 

Yn 2023, cynyddodd traffig teithwyr môr 5.5% o'i gymharu â 2022. Fodd bynnag, mae cyfanswm 2023 yn cynrychioli gostyngiad o 14.9% mewn teithwyr fferi o'i gymharu â 2019 (cyn pandemig coronafeirws (COVID-19).

Cludo nwyddau ar y môr

Mae'r adran hon yn edrych ar y traffig cludo nwyddau domestig a rhyngwladol yn ôl math o nwyddau a'r symudiadau rhwng rhanbarthau. Cafodd cyfanswm o 50.6 miliwn tunnell (Mt) o nwyddau eu cludo trwy borthladdoedd Cymru yn 2023 (Ffigur 2), gostyngiad o 6.1% o'i gymharu â 2022, ond gostyngiad o 4.4% o'i gymharu â 2019. Mae cyfanswm y nwyddau o ran pwysau sy'n mynd trwy borthladdoedd Cymru wedi gostwng yn raddol dros y 12 mlynedd diwethaf.

Ffigur 2: Cludiant nwyddau drwy borthladdoedd Cymru, 2012 i 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart linell yn dangos yn dangos symudiad nwyddau môr drwy borthladdoedd Cymru ers 2012. Cafodd cyfanswm o 50.6 miliwn tunnell (Mt) o nwyddau eu cludo trwy borthladdoedd Cymru yn 2023

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata Forol yr DfT

O'r 50.6Mt o nwyddau sydd wedi pasio trwy borthladdoedd Cymru, roedd 36.1Mt (71.4%) yn nwyddau i mewn a 14.5Mt (28.6%) yn nwyddau allan. Cafodd 11.6% o'r nwyddau basiodd trwy borthladdoedd y DU, o ran pwysau, eu trin ym mhorthladdoedd Cymru yn 2023.

Y cydrannau nwyddau mwyaf drwy borthladdoedd mawr Cymru yn 2023

  • Cynhyrchion olew, gyda chyfanswm o 16.3Mt, a bron 10.1Mt ohono'n cael ei gludo allan: Cludwyd 3.7Mt i leoedd yn rhannau eraill y DU ac allforiwyd 6.4Mt i weddill y byd.
  • Nwy hylif, gyda chyfanswm o 9.9Mt, a'r rhan fwyaf (97.9%) yn cael ei fewnforio o weddill y byd.
  • Olew crai gyda chyfanswm o 8.3Mt, a'r rhan fwyaf, 89.3%, yn cael ei fewnforio o weddill y byd.

Prif borthladdoedd Cymru

Cafodd 50.2Mt (99.2% o gyfanswm cludiant nwyddau môr Cymru) o gargo nwyddau ei drin ym mhorthladdoedd mawr Cymru (yn cynnwys Aberdaugleddau, Port Talbot, Caergybi, Abergwaun, Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd) yn 2023. Mae hyn yn ostyngiad o 6.0% yn y cludiant nwyddau môr trwy borthladdoedd mawr o'i gymharu â 2022.

Mae tri o'r prif borthladdoedd yng Nghymru yn gallu trin anghenion morgludo arbenigol (Ffigur 3 a Ffigur 5).

Aberdaugleddau wedi trin 34.7Mt o nwyddau yn 2023, yn bennaf olew crai, cynhyrchion olew a nwy hylif naturiol. Roedd y tri chynnyrch yn cyfrif am 97.2% o holl gargo'r porthladd hwn yn 2023 ac mae'n debygol eu bod yn gysylltiedig â'r burfa olew yn Noc Penfro.

Port Talbot wedi trin 6.7Mt o nwyddau yn 2023, yn bennaf mwyn haearn, glo a 'swmp sych arall', ar gyfer y gwaith dur cyfagos. Roedd y tri chynnyrch yn cyfrif am 99.9% o holl gargo'r porthladd hwn yn 2023.

Caergybi y prif borthladd ar gyfer cludo nwyddau a theithwyr dros y môr rhwng Prydain a Gweriniaeth Iwerddon. Wedi trin 4.8Mt o nwyddau yn 2023, cargo Roll-on/Roll-off (Ro-Ro) yn bennaf, a 99.2% o holl gargo’r porthladd yn 2023. O’r cargo Ro-Ro gafodd ei drin yng Nghaergybi, roedd 50.6% yn 'gerbydau nwyddau ffordd' a 49.3% yn 'drelars nwyddau ffordd heb gerbyd tynnu a rhan-drelars'.

Yn 2003, Aberdaugleddau oedd y porthladd mwyaf yng Nghymru a’r trydydd mwyaf yn y DU o ran faint pwysau y nwyddau a gludwyd, yn bennaf olew a nwy. Nwyddau trwy Aberdaugleddau sy'n cyfrif am 68.6% o ran pwysau (mwy na dwy ran o dair) o holl gludiant nwyddau porthladdoedd Cymru. Cafodd 34.7 Mt o nwyddau eu trin yn 2023, sef 8.0% o gyfanswm y DU ar gyfer 2023. O'i gymharu â 2022, roedd traffig cludo nwyddau Aberdaugleddau wedi gostwng 4.2Mt (10.8%) (Ffigur 3), ac o'i gymharu â 2019 roedd wedi gostwng 0.8%, (Yr holl draffig nwyddau ym mhorthladdoedd mawr a mân Cymru, yn ôl y porthladd a math o nwyddau). 

Cofrestrodd Caergybi gynnydd o 16.6% mewn tunelli cludo nwyddau rhwng 2022 a 2023, fodd bynnag, o'i gymharu â 2019 mae hyn yn ostyngiad o 10.2%.

Holyhead registered an increase in freight tonnage of 16.6% between 2022 and 2023, however, compared to 2019 this represents 10.2% reduction.

Ffigur 3: Cludo nwyddau môr drwy borthladdoedd mawr Cymru, miliynau o dunelli 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart golofnau'n dangos cyfanswm pwysau’r nwyddau cludiant môr gafodd ei drin gan bob un o'r 7 porthladd mawr yn 2023. Yn 2023, Aberdaugleddau oedd y porthladd mwyaf yng Nghymru a’r trydydd mwyaf yn y DU o ran faint pwysau y nwyddau a gludwyd, yn bennaf olew a nwy.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata Forol yr DfT

Ffigur 4: Lleoliad porthladdoedd mawr Cymru

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Map yn dangos lleoliad prif borthladdoedd môr yng Nghymru a llwybrau'r môr i Weriniaeth Iwerddon.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru

Mae Ffigur 5 yn dangos cyfansoddiad y gwahanol nwyddau a gludir ar y môr ym mhorthladdoedd mawr Cymru yn ystod 2023. Cynhyrchion olew ac yna nwy hylif yw'r rhan fwyaf o'r nwyddau a gludir ar y môr.

Ffigur 5: Gategori cargo nwyddau môr drwy borthladdoedd mawr Cymru yn ôl pwysau, 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart fariau yn dangos y categorïau cargo nwyddau môr drwy borthladdoedd Cymru yn 2023. Cynnyrch olew a nwy hylif yw'r rhan fwyaf o'r nwyddau a gludir ar y môr yn ôl pwysau yng Nghymru.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata Forol yr DfT

Nwyddau domestig a rhyngwladol yn ôl cargo

Mae'r adran hon yn ymdrin â'r cargo môr a symudir trwy borthladdoedd mawr Cymru, gyda thraffig domestig yn cyfeirio at y symud ar hyd yr arfordir (rhwng porthladdoedd Cymru) a thraffig rhyngwladol yn cyfeirio at symud cargo i ac o gyrchfannau tramor. Yn 2023, roedd 86.8% o’r traffig yn ôl pwysau trwy brif borthladdoedd mawr Cymru yn draffig rhyngwladol gyda 76.6% ohono'n fewnforion.

Cymharu traffig domestig a rhyngwladol ar gyfer 2023

  • Roedd 89.3% o'r traffig olew crai trwy borthladdoedd Cymru yn draffig rhyngwladol (roedd 100% o’r olew crai a gludwyd yn fewnforion). Roedd y 10.7% oedd yn weddill yn draffig domestig, y cyfan yn draffig domestig i mewn.
  • Roedd 71.5% o'r traffig cynhyrchion olew yn draffig rhyngwladol, (54.7% yn allforion a 45.3% yn fewnforion). Roedd y 28.5% o'r cynhyrchion olew a gludwyd oedd yn weddill yn draffig domestig (20.3% i mewn a 79.7% yn nwyddau allan).
  • Roedd holl draffig roll-on/roll-off (Ro-Ro) yn 2023 yn draffig rhyngwladol gyda rhaniad eithaf cyfartal rhwng cargo a fewnforiwyd (53.3%) a chargo a allforiwyd (46.7%).

Wrth edrych ar fewnforion ac allforion rhyngwladol ar gyfer 2023

  • Bu mwy o fewnforion nag o allforion, gyda 33.3Mt o'r naill a 10.2Mt o'r llall.
  • Roedd y rhan fwyaf naill ai'n hylif swmp (29.2Mt) neu'n ddeunydd sych swmp (7.2Mt). Mae hylif swmp yn cynnwys cynhyrchion fel nwy hylif, olew crai a chynhyrchion olew. Mae deunydd sych swmp yn cynnwys glo, mwynau a chynhyrchion amaethyddol.
  • Gwelwyd gostyngiad o 13.2% yn y mewnforion hylif swmp ers 2022, ond o'i gymharu â 2019, cafwyd gostyngiad o 2.0%. Gwelwyd gostyngiad o 10.3% yn yr allforion hylif swmp o'i gymharu â 2022, ond o'i gymharu â 2019 cafwyd gostyngiad o 11.4%.
  • Gwelwyd cynnydd o 10.0% yn y mewnforion sych swmp ers 2022, ond o'i gymharu â 2019, cafwyd gostyngiad o 1.8%. Gwelwyd gostyngiad o 13.8% yn yr allforion sych swmp ers 2022, ond o'i gymharu â 2019, cafwyd cynnydd o 3.2%.
  • Gwelwyd cynnydd o 12.7% yn y mewnforion Roll-on/Roll-off ers 2022, ond o'i gymharu â 2019, bu gostyngiad o 9.3%. Gwelwyd cwymp o 12.9% yn yr allforion Roll-on/Roll-off ers 2022 ac o’i gymharu â 2019, cafwyd gostyngiad o 19.8%.

Cludo nwyddau môr yn ôl rhanbarth bras

Mae'r rhanbarthau cludo nwyddau môr yn cynnwys Traffig Domestig, traffig yr Undeb Ewropeaidd (UE) a thraffig y tu allan i'r UE. Yn 2023 nwyddau'r rhanbarth y tu allan i'r UE oedd yn cyfrif am 61.4% o'r holl nwyddau a gludwyd trwy borthladdoedd mawr Cymru. Nwy hylif oedd y prif nwydd (Ffigur 6).

Mae mewnforion o wledydd y tu allan i'r UE i Gymru wedi bod yn uwch o'u cymharu â mewnforion o wledydd yr UE neu'r rhanbarth domestig. Ond mae cyfanswm allforion i ranbarth yr UE yn llawer uwch o'i gymharu ag allforion i'r rhanbarth y tu allan i'r UE neu'r rhanbarth domestig.

Ffigur 6: Cludo Nwyddau Môr yn ôl rhanbarth trwy borthladdoedd Cymru, 2013 - 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart linell sy'n dangos symudiad traffig môr y rhanbarthau domestig a rhyngwladol (UE a'r tu allan i'r UE) ym mhorthladdoedd mawr Cymru dros y 10 mlynedd diwethaf. Yn 2023 nwyddau'r rhanbarth y tu allan i'r UE oedd yn cyfrif am 61.4% o’r cyfanswm a gludwyd yn ôl pwysau.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata Forol yr DfT.

Traffig domestig

Mae'r adran hon yn cynnwys symudiadau cludo nwyddau ar y môr ar hyd arfordir Cymru, h.y. cludo nwyddau rhwng porthladdoedd y Deyrnas Unedig (DU). Ers 2015, mae mwy o nwyddau wedi'u cludo allan na thraffig nwyddau i mewn (Ffigur 7). Yn 2023 gwelwyd cynnydd o 1.4% yn y nwyddau a gludwyd o borthladdoedd mawr Cymru o'i gymharu â 2022, a gostyngiad o 11.5% o'i gymharu â 2019. Gwelwyd gostyngiad o 2.1% yn y cludiant nwyddau môr i mewn dros yr un cyfnod, a chynnydd o 13.0% o'i gymharu â 2019.

Ffigur 7: Symudiadau nwyddau domestig rhwng porthladdoedd Cymru a phorthladdoedd y DU, (miliynau o dunelli) 2013 i 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart linell sy'n dangos cyfeiriad symudiadau cludo nwyddau môr domestig ym mhorthladdoedd mawr Cymru a phorthladdoedd y DU dros y 10 mlynedd diweddaraf. Yn 2023 gwelwyd cynnydd o 1.4% yn y nwyddau a gludwyd o borthladdoedd mawr Cymru o'i gymharu â 2022.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata Forol yr DfT

Traffig yr Undeb Ewropeaidd

Mae'r adran hon yn ymdrin â'r nwyddau a symudir ar y môr rhwng Cymru a gwledydd o'r UE ac yn edrych ar yr holl fewnforion ac allforion ar y môr o borthladdoedd mawr.

Yn 2023 gwelwyd cynnydd o 3.3% yng nghyfanswm yr allforion nwyddau a gludwyd ar y môr i'r UE i 7.5Mt ers 2022, ond o'i gymharu â 2019 gwelwyd gostyngiad o 10.7%.

Ers y refferendwm i adael yr UE, bu cynnydd yn y llwybrau morgludo uniongyrchol rhwng Ewrop ac ynys Iwerddon, sydd wedi arwain at ostyngiad yn nifer y cerbydau sy'n defnyddio'r DU fel pont dir rhwng Dover ac Iwerddon. Mae swm yr allforion a gludwyd ar y môr o borthladdoedd Cymru wedi bod yn pendilio rhwng uchafbwynt o 10.9 Mt yn 2004 i 7.2 Mt yn 2015 cyn codi yn 2016 tan 2019 (Ffigur 8).

Ffigur 8: Symudiadau cludo nwyddau rhwng porthladdoedd Cymru a'r UE, 2013 i 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Siart linell sy'n dangos cyfeiriad symudiadau cludo nwyddau môr ym mhorthladdoedd mawr Cymru a'r UE dros y 10 mlynedd diwethaf. Yn 2023 gwelwyd cynnydd o 3.3% yng nghyfanswm yr allforion nwyddau a gludwyd ar y môr i'r UE i 7.5Mt ers 2022.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata'r DfT Forol.

Yn 2023, gwelwyd gostyngiad o 12.0% yng nghyfanswm y mewnforion o'r UE o'i gymharu â'r flwyddyn cynt. Ond o'i gymharu â 2019, cafwyd gostyngiad o 4.4%.

Traffig y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd

O ran eu pwysau, daw'r rhan fwyaf o'r mewnforion môr i borthladdoedd Cymru o wledydd y tu allan i'r UE - nid yw'n syndod o ystyried goruchafiaeth cynhyrchion olew a nwy hylifedig (Ffigur 5). Yn 2023 gwelwyd gostyngiad o 23.6% ers 2022 yng nghyfanswm yr allforion i gyrchfannau y tu allan i'r UE, a gwelwyd gostyngiad o 6.3% yn y mewnforion (Ffigur 9). O'i gymharu â 2019 roedd cyfanswm allforion yn 2023 wedi gostwng 22.4% tra bod mewnforion wedi gostwng 3.0% dros yr un cyfnod.

Ffigur 9: Mewnforion ac allforion nwyddau rhwng porthladdoedd Cymru a phorthladdoedd y tu allan i'r UE, 2013 i 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 9: Siart linell sy'n dangos cyfeiriad symudiadau cludo nwyddau môr rhwng porthladdoedd mawr Cymru a phorthladdoedd y tu allan i'r UE dros y 10 mlynedd diwethaf. Yn 2023 gwelwyd gostyngiad o 23.6% ers 2022 yng nghyfanswm yr allforion i gyrchfannau y tu allan i'r UE.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata Forol yr DfT

Symudiadau cludo nwyddau Gweriniaeth Iwerddon drwy borthladdoedd Cymru

Yn hanesyddol, porthladdoedd Cymru (Caergybi yn benodol) fu'r porth rhwng Gweriniaeth Iwerddon a gweddill Ewrop, gyda llawer o gludwyr yn dewis y llwybrau morgludo byrrach a gyrru ar draws y DU (y bont dir). Mae'r tueddiadau diweddaraf yn dangos bod lleihad yn y defnydd o'r bont tir ers i'r DU ymadael yn ffurfiol â Marchnad Sengl ac Undeb Tollau'r UE ym mis Ionawr 2022, gyda chynnydd yn y llwybrau morgludo uniongyrchol rhwng Iwerddon a chyfandir Ewrop.

Yn 2023, gwelwyd 455,000 o lorïau a threlars heb gerbyd tynnu yn teithio trwy borthladdoedd Cymru i ac o Iwerddon. Er bod hyn yn gynnydd o 5.9% o'i gymharu â'r flwyddyn cynt, bu gostyngiad amlwg o 32.0% yn y lorïau a threlars a deithiodd trwy borthladdoedd Cymru yn 2021 o'i gymharu â 2020 a gostyngiad o 19.9% yn y cyfanswm o’i gymharu â 2019 (Ffigur 11). Daeth tua hanner y lorïau a'r trelars o Iwerddon ac roedd eu hanner yn teithio i Iwerddon. Aeth 86.8% o'r traffig hwn trwy Gaergybi, (Nifer y lorïau a threlars heb gerbydau tynnu sy’n pasio trwy borthladdoedd Cymru i Weriniaeth Iwerddon drwy’r porthladd) (StatsCymru)).

Ffigur 10: Nifer y lorïau a'r trelars rhwng porthladdoedd Gweriniaeth Iwerddon a Chymru, yn ôl cyfeiriad, 2013 i 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 10: Mae'r siart golofnau'n dangos nifer y lorïau a'r trelars a deithiodd rhwng porthladdoedd Cymru a Gweriniaeth Iwerddon dros y 10 mlynedd ddiwethaf. Yn 2023, gwelwyd 455,000 o lorïau a threlars heb gerbyd tynnu yn teithio trwy borthladdoedd Cymru i ac o Iwerddon.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata Forol yr DfT

Mae Ffigur 11 yn dangos cyfran y nwyddau a gariwyd ar gerbydau nwyddau trwm (HGV) cofrestredig Gwyddelig trwy'r bont dir. O nwyddau a gludwyd ar HGVs cofrestredig o Iwerddon o Weriniaeth Iwerddon i'r cyfandir yn 2023, aeth 58.2% trwy Gymru, tra o'r cyfandir, aeth 48.7% trwy Gymru i Iwerddon. Mae'r cyfrannau hyn wedi lleihau'n sylweddol ers yr ymadawiad ffurfiol o'r UE yn 2020.

Ffigur 11: Cyfran y nwyddau a gariwyd o/i Weriniaeth Iwerddon o/i'r cyfandir ar HGVs sydd wedi’u cofrestru yn Iwerddon, 2019 i 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 11: Siart golofnau wedi'i chlystyru yn dangos y cyfrannau o nwyddau a gariwyd trwy borthladdoedd Cymru rhwng Gweriniaeth Iwerddon a’r cyfandir rhwng 2019 a 2023. Yn 2023, aeth 54.3% o nwyddau trwy Gymru, tra bod 45.7% yn mynd trwy lwybrau eraill i Weriniaeth Iwerddon.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata Swyddfa Ystadegol Ganolog Iwerddon

Porthladdoedd Cymru o'u cymharu â gweddill Porthladdoedd y Deyrnas Unedig

Yn 2023, cludwyd cyfanswm o 434.9Mt o nwyddau trwy borthladdoedd y DU, gostyngiad o 5.3% ers 2022 a gostyngiad o 9.9% ers 2019.  Gwelwyd gostyngiad o 6.1% yn nwyddau môr Cymru o ran pwysau a gludwyd a gwelwyd gostyngiad o 7.3% yn nwyddau'r Alban. Gwelwyd gostyngiad o 0.4% yn nghludiant nwyddau môr Gogledd Iwerddon o ran pwysau ers 2022. (Cyfanswm y traffig i mewn ac allan ym mhorthladdoedd y Deyrnas Unedig, yn ôl fesul gwlad a blwyddyn (StatsCymru)).

O'i gymharu â 2022, gwelwyd gostyngiad o 5.0% yn y nwyddau yn ôl pwysau a gludwyd i mewn i'r DU i 290.0Mt a gostyngiad o 7.1% o’i gymharu â 2019. Gwelwyd gostyngiad o 6% yn y nwyddau yn ôl pwysau a gludwyd o’r DU i 145.0Mt a gostyngiad o 15.0% o’i gymharu â 2019.

O edrych ar faint o dunelli o nwyddau y mae porthladdoedd unigol yn eu trin:

  • Porthladd Llundain oedd prif borthladd y DU yn 2023 o ran pwysau'r nwyddau a gludwyd, gan drin 51.6Mt (11.9% o gyfanswm pwysau’r DU), gostyngiad o 6.0% o'i gymharu â 2022
  • Grimsby ac Immingham oedd yn ail gyda 46.0Mt (10.6% o gyfanswm pwysau’r DU)
  • Porthladd Aberdaugleddau oedd yn drydydd, gan drin 34.7Mt o nwyddau (8.0% o gyfanswm y DU), gostyngiad o 10.9% o'i gymharu â 2022

Teithwyr môr

Mae'r adran hon yn edrych ar gyfanswm y teithwyr môr sy'n teithio trwy borthladdoedd Cymru, ac yn cynnwys teithwyr sy'n teithio ar droed, y rhai sy'n teithio mewn cerbydau a'r rhai sy'n teithio fel gyrwyr cerbydau nwyddau.

Yn 2023, teithiodd cyfanswm o 2.1 miliwn o deithwyr môr rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon. Pasiodd 1.6 miliwn (77.5%) o'r rhain trwy Gaergybi gyda'r gweddill yn defnyddio porthladdoedd Abergwaun ac Aberdaugleddau  (Nifer teithwyr y môr sy’n teithio ar lwybrau rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon, fesul porthladd (StatsCymru)).

Ers 2000, mae symudiadau teithwyr rhwng Iwerddon a phorthladdoedd fferi Cymru wedi dirywio. Parhaodd nifer y teithwyr fferi sy'n defnyddio porthladdoedd Cymru yn fras sefydlog ers 2012, cyn dirywiad serth yn 2020 o ganlyniad i gyfyngiadau teithio sy'n gysylltiedig â phandemig COVID-19. (Ffigur 12).

Yn 2023, cynyddodd nifer y teithwyr fferi 5.5% o'i gymharu â 2022 (Ffigur 12). Ond mae cyfanswm 2023 yn ostyngiad o 14.9% o'i gymharu â chyfanswm 2019. 

Gwelwyd 614,000 o gerbydau teithwyr gyda gyrrwr yn 2023, sy'n ostyngiad o 0.4% o'i gymharu â 2022. Ond o'i gymharu â 2019 gwelwyd gostyngiad o 10.0%.

Y prif borthladdoedd yng Nghymru a ddefnyddir gan deithwyr yw Caergybi (77.5% o deithwyr), Aberdaugleddau (11.3%) ac Abergwaun (11.2%).

Yn 2023, cynyddodd traffig teithwyr môr trwy borthladd Caergybi 7.0% o'i gymharu â 2022. Ond roedd lefelau teithwyr môr porthladd Caergybi yn 2023 15.2% yn is nag yn 2019.

Yn 2023, er i nifer y teithwyr môr yn Aberdaugleddau gynyddu 10.1% o’i gymharu â 2022, roedd y nifer dal 27.7% yn is nag yn 2019.

Yn 2023 gostyngodd teithwyr môr Abergwaun 12.1% o'i gymharu â'r flwyddyn cynt. Roedd lefelau teithwyr môr Abergwaun yn 2023 1.1% yn is nag yn 2019.

Mae’r DfT yn rhoi data teithwyr Doc Penfro i Rosslare o dan ‘Aberdaugleddau’.

Ffigur 12: Llinell Amser Teithwyr Môr rhwng Porthladdoedd Cymru a Gweriniaeth Iwerddon, 2005 i 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 12: Siart linell yn dangos cyfres amser ar gyfer cyfanswm y teithwyr môr sy'n teithio rhwng Porthladdoedd Cymru a Gweriniaeth Iwerddon rhwng 2005 a 2023. Yn 2023, cynyddodd nifer y teithwyr fferi 5.5% o'i gymharu â 2022.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata Forol yr DfT

Gwybodaeth ansawdd allweddol

Cyd-destun

Cyhoeddiadau Cysylltiedig

Mae'r DfT yn cynhyrchu amrywiaeth o ystadegau sy'n ymwneud â'r sector morwrol sy'n cynnwys gwybodaeth am gludo nwyddau domestig, porthladdoedd, mordeithwyr, fflydoedd llongau a morwyr. Mae hefyd yn cynhyrchu dangosfwrdd rhyngweithiol ar gludiant nwyddau porthladdoedd y DU sy'n ddefnyddiol i ddeall ystadegau môr ar lefel y DU.

Mae Transport Scotland yn cynhyrchu cyhoeddiad cryno o'r enw 'Scottish Transport Statistics' sy'n cynnwys pennod ar gludiant ar ddŵr.

Mae Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon yn cyhoeddi bwletin ystadegol blynyddol o'r enw 'Northern Ireland Ports Traffic' sy'n darparu ystadegau ar draffig teithwyr a nwyddau sy'n mynd trwy borthladdoedd Gogledd Iwerddon.

Perthnasedd

Lluniwyd y ffigurau hyn gan yr DfT a Swyddfa Ystadegau Ganolog Iwerddon (CSO Ireland). Gellir gweld y data ar lefel y DU, ynghyd â disgrifiad llawn o ffynonellau'r data a sut ydym yn crynhoi'r data ar wefan GOV. (Ystadegau am y môr a llongau (DfT). Defnyddir yr ystadegau hyn y tu mewn a’r tu allan i Lywodraeth Cymru er mwyn monitro tueddiadau cludo nwyddau ar y môr ac fel llinell sylfaen a gyfer cynnal rhagor o ymchwil. Mae'r data'n cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru i asesu hefyd effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Cywirdeb

Data cludo nwyddau

Ffynhonnell y data

Mae ystadegau traffig cludo nwyddau porthladdoedd yn seiliedig ar gyfuniad o ddata a roddir i'r DfT gan awdurdodau porthladdoedd a chwmnïau llongau neu eu hasiantau. Cyn 2000 dim ond awdurdodau porthladdoedd oedd yn cyflwyno gwybodaeth o'r fath. Dechreuwyd ar y trefniadau cyfredol ar gyfer casglu ystadegau cludo nwyddau porthladdoedd ar 1 Ionawr 2000 i fodloni gofynion Cyfarwyddeb Ystadegau Morwrol y Comisiwn Ewropeaidd (Cyfarwyddeb y Cyngor 95/64/EC) ynghylch gwybodaeth ystadegol am gludo nwyddau a theithwyr ar y môr. Fe'i cyflwynwyd o'r newydd fel Cyfarwyddeb 2009/42/EC.

Cwmpas

Mae'r ystadegau'n ymdrin â'r traffig sy'n mynd ac yn dod o borthladdoedd yng Nghymru. Nid yw ffigurau ar lefel y DU yn cynnwys porthladdoedd Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel.

Porthladdoedd mawr a bach

Mae'r DfT yn categoreiddio porthladd naill ai fel porthladd mawr neu borthladd bach, ar sail tueddiadau cyfredol a hanesyddol o ran faint o gargo a gludir. Cesglir data manylach ynghylch porthladdoedd mawr nag ynghylch porthladdoedd bach, ac adlewyrchir hyn yn yr ystadegau y gellir eu cynhyrchu.  Mae porthladdoedd bach Cymru’n cynnwys: y Barri, Mostyn, Castell-nedd, Llanddulas, Porth Penrhyn a Phorth Tywyn.

Pwysau

Mae'r data a gyflwynir yn y datganiad hwn yn seiliedig ar bwysau'r nwyddau a gludir. Mae'r holl bwysau mewn tunelli gros, ac yn gynnwys cratiau a deunyddiau pacio eraill. Nid ydym wedi cynnwys pwysau cynwysyddion, cerbydau cludo nwyddau, trelars ac eitemau cludo eraill gwag (hy pwysau'r cerbyd heb lwyth neu'r offer ei hun).

Mathau o gargo

Mae traffig porthladdoedd mawr yn cael ei gategoreiddio yn ôl y math o gargo. Caiff cargo ei gategoreiddio'n bennaf yn ôl sut mae'r nwyddau'n cael eu llwytho ar long neu eu dadlwytho oddi arni - ac er y rhennir rhai mathau o gargo ymhellach yn gynwyddau bras, y dull llwytho sy'n cael blaenoriaeth.  Dangosir tabl o'r mathau o gargo isod.

Traffig unedol
Cynwysyddion
  • Unedau cludo nwyddau 20 troedfedd (Cod cargo 31)
  • Unedau cludo nwyddau 40 troedfedd (Cod cargo 32)
  • Unedau cludo nwyddau >20 troedfedd a <40 troedfedd (Cod cargo 33)
  • Unedau cludo nwyddau >40 troedfedd (Cod cargo 34)
Roll-on/Roll-off (hunan-yrru)
  • Cerbydau nwyddau ar y ffordd, gyda threlars neu hebddynt (Cod cargo    51)
  • Ceir teithwyr, beiciau modur a threlars/carafanau cysylltiedig (Cod cargo 52)
  • Bysiau cludo teithwyr (Cod cargo 53)
  • Cerbydau modur sy'n cael eu mewnforio/allforio (Cod cargo 54)
  • Anifeiliaid byw (Cod cargo 56)
  • Unedau symudol hunan-yrru eraill (Cod cargo 59)
Roll-on/Roll-off (nad ydynt yn hunan-yrru)
  • Trelars nwyddau ffordd heb gerbyd tynnu a rhan-drelars (Cod cargo 61)
  • Carafannau heb gerbyd tynnu a cherbydau ffordd, amaethyddol a diwydiannol eraill (Cod cargo 62)
  • Wagenni rheilffordd, trelars a gludir ar long o borthladd i borthladd, a chychod a gludir ar longau a ddefnyddir i gludo nwyddau (Cod cargo 63)
  • Unedau symudol eraill nad ydynt yn hunan-yrru (Cod cargo 69)
Traffig anunedol
Hylif swmp
  • Nwy hylif  (Cod cargo 11)
  • Olew crai (Cod cargo 12)
  • Cynhyrchion olew (Cod cargo 13)
  • Cynhyrchion hylifol swmp eraill (Cod cargo 19)
Deunydd sych mewn swmp
  • Mwynau (Cod cargo 21)
  • Glo (Cod cargo 22)
  • Cynhyrchion amaethyddol (Cod cargo 23)
  • Deunydd sych swmp arall (Cod cargo 29)
Cargo cyffredinol arall
  • Cynhyrchion coedwigaeth (Cod cargo 91)
  • Cynhyrchion haearn a dur (Cod cargo 92)
  • Cargo cyffredinol arall a chynwysyddion <20 troedfedd (Cod cargo 99)

Nwyddau unedol

Dywedir bod nwyddau'n nwyddau unedol os ydyn nhw'n cael eu codi ar long neu oddi arni mewn cynwysyddion cludo mawr (20 tr neu fwy o hyd) neu'n cael eu rholio ar long neu oddi arni mewn un o nifer o fathau gwahanol o unedau a dynnir neu a hunan-yrrir. Ar gyfer y mathau hyn o gargo, cofnodir nifer yr unedau yn ogystal â phwysau'r nwyddau. Mae ‘prif unedau cludo nwyddau’ yn is-set o’r nwyddau unedol sy'n cynnwys yr holl gynwysyddion a'r unedau ro-ro hynny sydd wedi'u dylunio i gludo nwyddau (categorïau 51, 61 a 63 uchod).  Pwrpas y categori yw ei fod yn eithrio'r unedau ro-ro hynny nad ydynt yn cludo nwyddau - h.y. cerbydau teithwyr, cerbydau masnach, a cherbydau a threlars arbenigol eraill.

Categoreiddio traffig yn ddaearyddol

Mae traffig porthladdoedd y DU yn cael ei ddosbarthu'n ddaearyddol yn ôl lle cafodd y nwyddau eu llwytho ddiwethaf neu eu dadlwytho nesaf ar y fordaith. Mae'r holl draffig naill ai'n ddomestig neu'n rhyngwladol.

Data mordeithwyr

Yr DfT sy'n casglu'r ffigurau hyn. Gellir gweld y data ar lefel y DU, ynghyd â disgrifiad llawn o ffynonellau'r data a sut ydym yn crynhoi'r data ar wefan GOV.UK (Ystadegau am y môr a llongau (DfT).

Ffynhonnell y data

Cesglir ystadegau teithwyr fferi rhyngwladol yn fisol oddi wrth y cwmnïau fferi gan DfT. Maent yn cynnwys gyrwyr lorïau, bysiau a cherbydau eraill ond nid teithwyr ar lwybrau domestig yn unig.

Ystadegau llongau sy'n cyrraedd

Yr DfT sy'n casglu'r wybodaeth hon ac mae dolen i'r data ar lefel y DU, ynghyd â disgrifiad llawn o'r ffynonellau'r data a sut ydym yn crynhoi'r data ar wefan GOV.UK (Ystadegau am y môr a llongau (DfT).

Ffynhonnell y data

Y brif ffynhonnell a ddefnyddiwyd oedd data masnachol ar symudiadau llongau a gafwyd gan Lloyds List Intelligence (LLI). Cyfunir hynny bellach â gwybodaeth arall am symudiadau llongau gan y DfT drwy'r system a ddisgrifir uchod ar gyfer pob symudiad cludo cargo neu deithwyr mewn porthladd mawr a'r arolwg o fordeithwyr. Mae'r tair ffynhonnell data yn cael eu cyfuno ar lefel y llong unigol wrth iddi alw ym mhob porthladd. Y ffynhonnell sy'n cofnodi'r nifer fwyaf o alwadau sy'n rhoi'r amcangyfrif terfynol.

Cwmpas ac ansawdd

Ystyrir bod y data'n amcangyfrif eithaf cywir o nifer symudiadau llongau masnachol ym mhorthladdoedd y DU, ond nid ydynt o reidrwydd yn union gywir, ac mae manylion rhai llongau neu fathau o draffig yn gallu amrywio ar yr ymylon. Nid yw data am longau sy'n cyrraedd yn cael eu hystyried yn Ystadegau Gwladol.  Mae'r tabl canlynol yn dangos y mathau o longau sydd wedi’u cynnwys ym mhob categori o long. Mae’r rhestr yn dangos hefyd y mathau o longau nad ydynt wedi’u cynnwys yn yr ystadegau o longau sy’n cyrraedd.

  • Tanceri (Masnachu) cynnwys Tancer olew, tancer olew-gemegol, tancer cemegol, tancer nwy hylif, tancer arall
  • Llongau Ro-Ro (Masnachu) cynnwys Ro-Ro teithwyr, cynwysyddion Ro-Ro, cargo arall Ro-Ro
  • Llongau cludo cynwysyddion cwbl gellog (Masnachu) cynnwys Cynwysyddion (cwbl gellog)
  • Llongau cargo sych eraill (Masnachu) cynnwys Swmp-gludwr, cludwr olew swmp, cargo wedi'i oeri, cludwr arbenigol, cargo cyffredinol, llong gargo a theithwyr gyffredinol
  • Teithwyr (Masnachu) cynnwys Teithwyr, mordeithiau
  • Llongau eraill (Anfasnachol) cynnwys Cyflenwi ar y môr, carthu, tancer llwytho
  • Heb eu cynnwys (Anfasnachol) cynnwys Pysgota, cychod tynnu / gwthio, llongau môr  (ac eithrio cychod cyflenwi), llongau gwaith eraill, llongau nad ydynt yn mynd ar y môr, llongau anfasnachol, strwythurau nad ydynt yn llongau, llongau o fath anhysbys neu o fath heb ei gofnodi

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae'r bwletin hwn yn cofnodi Cludiant Môr Cymru yn ystod 2023. Mae'r wybodaeth yn cynnwys traffig i borthladdoedd ac o borthladdoedd yng Nghymru. Nid yw ffigurau ar lefel y DU yn cynnwys porthladdoedd Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel. Mae'r bwletin hwn yn seiliedig ar ddata blynyddol a gyhoeddir gan yr DfT. 

Mae cyhoeddiadau cysylltiedig ar gael ar y wefan Ystadegau ac Ymchwil.

Mae ystadegau Cludiant Môr Cymru ar gael ar wefan StatsCymru.

Hygyrchedd ac eglurder

Rhag-gyhoeddir y bwletin ystadegol hwn cyn ei roi ar y wefan Ystadegau ac Ymchwil, gyda thablau ategol ar wefan StatsCymru.

Cymaroldeb a chydlyniad

Mae'r Adran Drafnidiaeth yn cynhyrchu amrywiaeth o ystadegau sy'n ymwneud â'r sector morwrol gan ddarparu gwybodaeth am nwyddau domestig a gludir ar ddŵr, porthladdoedd, mordeithwyr, fflydoedd llongau a morwyr.

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi dangosyddion morgludo wythnosol fel rhan o'u Gweithgaredd Economaidd wythnosol a'u dangosyddion newid cymdeithasol mewn amser real.

Statws Ystadegau Gwladol

Dylai’r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig).

Mae’r rhain yn ystadegau swyddogol wedi’u hachredu. Cafodd eu dynodiad ei gadarnhau ym mis Chwefror 2011 yn dilyn asesiad llawn yn unol â'r Cod Ymarfer (Awdurdod Ystadegau'r DU). Maen nhw’n cydymffurfio â’r safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth a geir yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. 

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau disgwyliedig ag achrediad. Os ydym yn pryderu nad yw'r ystadegau hyn yn parhau i fodloni'r safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â'r OSR yn brydlon. Gellir canslo neu atal achrediad ar unrhyw adeg pan na fydd y safonau uchaf yn cael eu cynnal, a'i roi yn ôl pan fydd safonau'n cael eu cyrraedd unwaith eto. Mae ystadegau swyddogol achrededig yn cael eu galw’n Ystadegau Cenedlaethol yn y Ddeddf Ystadegau a Gwasanaethau Cofrestru 2007.

Datganiad Cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Rheoleiddir ein gwaith ystadegol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR). Yr OSR sy’n pennu’r safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth a geir yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y mae’n rhaid i bawb sy’n cynhyrchu ystadegau swyddogol gadw atynt. 

Cynhyrchir a chyhoeddir ein holl ystadegau yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau er hyrwyddo eu dibynadwyedd, eu hansawdd a’u gwerth. Maent wedi’u gosod allan yn Natganiad Cydymffurfio Llywodraeth Cymru

Mae’r ystadegau swyddogol achrededig (OSR) hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth i’r cyhoedd yn y ffyrdd canlynol

Dibynadwyedd

Mae’r ystadegau hyn yn defnyddio data a gasglwyd gan yr DfT a Swyddfa Ystadegau Ganolog Iwerddon (CSO Ireland). Cewch ddata ar lefel y DU, ynghyd â disgrifiad llawn o’r ffynonellau a’r dulliau a ddefnyddiwyd i gasglu’r data ar wefan GOV.UK (Ystadegau am y môr a llongau (DfT).

 Mae’r ystadegau hyn yn cael eu rhag-gyhoeddi ar adran Ystadegau ac Ymchwil gwefan Llywodraeth Cymru. Wrth brosesu’r data, dim ond y rheini sydd ynghlwm wrth gynhyrchu’r data, sicrhau ei ansawdd a threfnu’r data sy’n cael gweld y data. Dim ond pobl gymwys sy’n cael gweld y data cyn ei ryddhau, yn unol â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig).

Ansawdd

Mae’r ffigurau a gyhoeddir yn cael eu casglu gan ddadansoddwyr proffesiynol sy’n defnyddio’r data diweddaraf ac yn defnyddio dulliau yn unol â’u barn broffesiynol a’u sgiliau dadansoddi. Mae’r ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru’n cydymffurfio â’r Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy’n ategu colofn Ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedigac egwyddorion ansawdd cynnyrch ystadegol System Ystadegol Ewrop.

Mae’r datganiad ystadegol wedyn yn cael ei lunio, ei gymeradwyo gan uwch ystadegwyr a’i gyhoeddi yn unol â datganiad Llywodraeth Cymru ar gyfrinachedd a gweld data sy’n adlewyrchu colofn dibynadwyedd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig).

Gwerth

Diben y datganiad ystadegol a’r data a gyhoeddir ar StatsCymru yw darparu tystiolaeth at ddiben datblygu polisi a rhoi gwybodaeth i’r cyfryngau a phobl Cymru am y newidiadau i drafnidiaeth môr Cymru. 

Mae croeso ichi gysylltu â ni gydag unrhyw sylwadau ynghylch sut yr ydym yn bodloni’r safonau hyn. Neu fel arall, cysylltwch ag OSR trwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk  neu drwy fynd ar wefan OSR.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2022. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2022 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn Adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai'r ystadegau yn y cyhoeddiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol i'w defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer eu hasesiadau llesiant lleol a'u cynlluniau llesiant lleol.

Rydym am gael eich adborth

Byddem yn croesawu unrhyw adborth ar unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. E-bostiwch eich sylwadau i: ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Oscar Carrel
E-bost: ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SB 37/2024

Image