Neidio i'r prif gynnwy

Prif bwyntiau

  • Yn 2022, cafodd 53.9 miliwn o dunelli (Mt) o nwyddau eu trin ym mhorthladdoedd Cymru (mawr a bach gyda'i gilydd) - cynnydd o 14.5% ers 2021, ond dim ond 1.8% o gynnydd ers 2019.
  • Gwnaeth porthladdoedd Cymru drin 11.7% o gyfanswm nwyddau cludiant y DU, o ran pwysau, yn 2022.
  • O'r holl nwyddau a gludwyd trwy borthladdoedd mawr Cymru, roedd 87.4% ohono o ran pwysau yn draffig rhyngwladol gydag ychydig dros dri chwarter (76.9%) o'r traffig rhyngwladol hwn yn fewnforion.
  • Mae porthladdoedd Cymru yn borth rhwng Gweriniaeth Iwerddon a gweddill Ewrop, gyda Chaergybi yn trin y gyfran fwyaf o'r nwyddau a gludwyd rhwng Iwerddon a Chymru, sef 4.1 miliwn tunnell yn 2022.
  • Yn 2022, roedd 430,000 o lorïau a threlars heb gwmni yn teithio trwy borthladdoedd Cymru i ac o Iwerddon. Er bod hyn yn gynnydd o 6.7% o'i gymharu â 2021, mae hyn yn ostyngiad o 24.3% o'i gymharu â 2019.

Ffigur 1: Mynegeion ar gyfer cludo nwyddau a theithwyr ar y môr ym mhob porthladd yng Nghymru, 1998 i 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Mae'r siart yn dangos mynegeion cyfres amser o'r newidiadau yng nghludiant nwyddau a theithwyr ar y môr dros amser. Yn 2022, cynyddodd traffig teithwyr môr 91.6% o'i gymharu â 2021 (cyfnod yr effeithiwyd arno gan bandemig COVID-19).

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata Forol yr Adran Drafnidiaeth

Yn 2022, cynyddodd traffig teithwyr môr 91.6% o'i gymharu â 2021 (cyfnod yr effeithiwyd arno gan bandemig COVID-19). Fodd bynnag, mae cyfanswm 2022 yn cynrychioli gostyngiad o 19.3% mewn teithwyr fferi o'i gymharu â 2019 (cyn pandemig COVID-19).

Cludo nwyddau ar y môr

Mae'r adran hon yn edrych ar y traffig cludo nwyddau domestig a thramor yn ôl math o nwyddau a'r symudiadau rhwng rhanbarthau. Cafodd cyfanswm o 53.9 miliwn tunnell (Mt) o nwyddau eu cludo trwy borthladdoedd Cymru yn 2022 (Ffigur 2), cynnydd o 14.5% o'i gymharu â 2021, ond dim ond cynnydd o 1.8% o'i gymharu â 2019. Mae cyfanswm y nwyddau o ran pwysau sy'n mynd trwy borthladdoedd Cymru wedi gostwng yn raddol dros y 12 mlynedd diwethaf.

Ffigur 2: Cludiant nwyddau drwy borthladdoedd Cymru, 2012 i 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart yn dangos symudiad cyfres amser o gludiant nwyddau môr drwy borthladdoedd Cymru ers 2012. Cafodd cyfanswm o 53.9 miliwn tunnell (Mt) o nwyddau eu cludo trwy borthladdoedd Cymru yn 2022.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata Forol yr Adran Drafnidiaeth

O'r 53.9Mt o nwyddau sydd wedi pasio trwy borthladdoedd Cymru, roedd 38.9Mt (72.1%) yn nwyddau i mewn a 15Mt (27.9%) yn nwyddau allan. Cafodd 11.7% o'r nwyddau basiodd trwy borthladdoedd y DU, o ran pwysau, eu trin ym mhorthladdoedd Cymru yn 2022.

Y cydrannau nwyddau mwyaf drwy borthladdoedd mawr Cymru yn 2022

  • Cynhyrchion olew, gyda chyfanswm o 17.3Mt, a bron 10.6Mt ohono'n cael ei gludo allan: Cludwyd 3.5Mt i leoedd yn rhannau eraill y DU ac allforiwyd 7.1Mt i weddill y byd.
  • Nwy hylif, gyda chyfanswm o 12.4Mt, a'r rhan fwyaf (97.6%) yn cael ei fewnforio o weddill y byd.
  • Olew crai gyda chyfanswm cyfaint o 8.8Mt, a'r rhan fwyaf, 92.7%, yn cael ei fewnforio o weddill y byd.

Prif borthladdoedd Cymru

Cafodd 53.4Mt (99.1% o gyfanswm cludiant nwyddau môr Cymru) o gargo nwyddau ei drin ym mhorthladdoedd mawr Cymru (yn cynnwys Aberdaugleddau, Port Talbot, Caergybi, Abergwaun, Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd [troednodyn 1]) yn 2022. Mae hyn yn gynnydd o 15.1% yn y cludiant nwyddau môr trwy borthladdoedd mawr o'i gymharu â 2021.

Mae tri o'r prif borthladdoedd yng Nghymru yn gallu trin anghenion morgludo arbenigol (Ffigur 3 a Ffigur 5):

  • Aberdaugleddau wedi trin 38.9Mt o nwyddau yn 2022, yn bennaf olew crai, cynhyrchion olew a nwy hylif naturiol. Roedd y tri chynnyrch yn cyfrif am 96.9% o holl gargo'r porthladd hwn yn 2022 ac mae'n debygol eu bod yn gysylltiedig â'r burfa olew yn Noc Penfro.
  • Port Talbot wedi trin 5.98Mt o nwyddau yn 2022, yn bennaf mwyn haearn, glo a 'swmp sych arall', ar gyfer y gwaith dur cyfagos. Roedd y tri chynnyrch yn cyfrif am 99.9% o holl gargo'r porthladd hwn yn 2022
  • Caergybi y prif borthladd ar gyfer cludo nwyddau a theithwyr dros y môr rhwng Prydain a Gweriniaeth Iwerddon. Wedi trin 4.1Mt o nwyddau yn 2022, cargo Roll-on/Roll-off (Ro-Ro) yn bennaf sy'n cynnwys: 'Cerbydau nwyddau ffordd' (54.8%), 'Trelars nwyddau ffordd heb gerbyd tynnu a rhan-drelars' (45.2%) a 'charafanau heb gerbyd tynnu a cherbydau ffordd, amaethyddol a diwydiannol eraill' (<0%). Roedd y tri phrif gargo hyn yn cyfrif am 99.5% o holl gargo'r porthladd hwn yn 2022.

Yn 2002, Aberdaugleddau oedd y porthladd mwyaf yng Nghymru a’r trydydd mwyaf yn y DU o ran faint pwysau y nwyddau a gludwyd, yn bennaf olew a nwy. Nwyddau trwy Aberdaugleddau sy'n cyfrif am 72.2% o ran pwysau (mwy na dwy ran o dair) o holl gludiant nwyddau porthladdoedd Cymru. Cafodd 38.9 Mt o nwyddau eu trin yn 2022, sef 8.5% o gyfanswm y DU ar gyfer 2022. O'i gymharu â 2021, roedd traffig cludo nwyddau Aberdaugleddau wedi cynyddu 8.6Mt (28.3%) (Ffigur 3), ond o'i gymharu â 2019 cynydd o 11.3% sydd wedi bod, (Yr holl draffig nwyddau ym mhorthladdoedd mawr a mân Cymru, yn ôl y porthladd a math o nwyddau (StatsCymru)). Gwelwyd cynnydd (9.1%) ym Mhorthladd Caergybi rhwng 2021 a 2022, ond gostyngiad o 23.0% o'i gymharu â 2019.

Cofrestrodd Caergybi gynnydd o 9.1% mewn tunelli cludo nwyddau rhwng 2021 a 2022, fodd bynnag, o'i gymharu â 2019 mae hyn yn ostyngiad o 23.0%.

Ffigur 3: Cludo nwyddau môr drwy borthladdoedd mawr Cymru, miliynau o dunelli, 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart golofnau'n dangos cyfanswm pwysau’r nwyddau cludiant môr gafodd ei drin gan bob un o'r 7 porthladd mawr yn 2022. Yn 2002, Aberdaugleddau oedd y porthladd mwyaf yng Nghymru a’r trydydd mwyaf yn y DU o ran faint pwysau y nwyddau a gludwyd, yn bennaf olew a nwy.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata Forol yr Adran Drafnidiaeth

Ffigur 4: Lleoliad porthladdoedd mawr Cymru

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Map yn dangos lleoliad prif borthladdoedd môr yng Nghymru a llwybrau'r môr i Weriniaeth Iwerddon.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru

Ffigur 5 yn dangos cyfansoddiad y gwahanol nwyddau a gludir ar y môr ym mhorthladdoedd mawr Cymru yn ystod 2022. Cynhyrchion olew ac yna nwy hylif yw'r rhan fwyaf o'r nwyddau a gludir ar y môr. Yn Ffigur 4, mae 'Arall' yn cynnwys y categorïau cargo canlynol: 'Cerbydau nwyddau ar y ffordd gyda threlars cysylltiedig neu hebddynt', 'Ceir teithwyr, beiciau modur a threlars/carafanau cysylltiedig', 'Bysiau cludo teithwyr', 'Cerbydau modur sy'n cael eu mewnforio / allforio' ac 'Unedau symudol hunan-yrru eraill'.

Ffigur 5: 5 prif gategori cargo nwyddau môr drwy borthladdoedd mawr Cymru yn ôl pwysau, 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart doesen yn dangos y 5 prif gategori cargo nwyddau môr drwy borthladdoedd Cymru yn 2022. Cynhyrchion olew ac yna nwy hylif yw'r rhan fwyaf o'r nwyddau a gludir ar y môr.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata Forol yr Adran Drafnidiaeth

Nwyddau domestig a thramor yn ôl cargo

Mae'r adran hon yn ymdrin â'r cargo môr a symudir trwy borthladdoedd Cymru, gyda thraffig domestig yn cyfeirio at y symud ar hyd yr arfordir (rhwng porthladdoedd Cymru) a thraffig tramor yn cyfeirio at symud cargo i ac o gyrchfannau tramor. Yn 2022, roedd 87.4% o draffig porthladdoedd mawr Cymru yn draffig rhyngwladol gyda 76.9% ohono'n fewnforion.

Cymharu traffig domestig a thramor ar gyfer 2022

  • Roedd 93.2% o'r traffig olew crai trwy borthladdoedd Cymru yn draffig tramor (92.7% yn fewnforion, 0.5% yn allforion). Roedd y 5.8% oedd yn weddill yn draffig domestig, yn cynnwys traffig domestig i mewn.
  • Roedd 72.7% o'r traffig cynhyrchion olew yn draffig tramor, (40.9% yn allforion a 31.8% yn fewnforion). Roedd y 27.3% o'r traffig oedd yn weddill yn draffig domestig (25.1% i mewn a 74.9% yn nwyddau allan).
  • Roedd holl draffig roll-on/roll-off (Ro-Ro) 2022 yn draffig tramor gyda rhaniad eithaf cyfartal rhwng cargo gafodd ei fewnforio (53.4%) a chargo gafodd ei allforio (46.6%).

Wrth edrych ar fewnforion ac allforion tramor ar gyfer 2022

  • Bu mwy o fewnforion nag o allforion, gyda 36Mt o'r naill a 10.8Mt o'r llall.
  • Roedd y rhan fwyaf naill ai'n hylif swmp (33.4Mt) neu'n ddeunydd sych swmp (6.8Mt). Mae hylif swmp yn cynnwys cynhyrchion fel nwy hylif, olew crai a chynhyrchion olew. Mae deunydd sych swmp yn cynnwys glo, mwynau a chynhyrchion amaethyddol.
  • Gwelwyd cynnydd o 33.4% yn y mewnforion hylif swmp ers 2021, ond o'i gymharu â 2019, 13.0% o gynnydd fu. Gwelwyd cynnydd o 20% yn yr allforion hylif swmp o'i gymharu â 2021, ond o'i gymharu â 2019 bu gostyngiad o 1.3%.
  • Gwelwyd gostyngiad o 18.6% yn y mewnforion sych swmp ers 2021, ond o'i gymharu â 2019, gostyngiad o 8.2% oedd wedi bod. Gwelwyd cynnydd o 27.8% yn yr allforion sych swmp ers 2021, ond o'i gymharu â 2019, 4.5% o gynnydd fu.
  • Gwelwyd cynnydd o 7.8% yn y mewnforion Roll-on/Roll-off ers 2021, ond o'i gymharu â 2019, bu gostyngiad o 19.5%. Gwelwyd cwymp o 3.6% yn yr allforion Roll-on/Roll-off ers 2021 ac o’i gymharu â 2019, mae gostyngiad o 28.9% wedi bod.

Cludo nwyddau môr yn ôl rhanbarth bras

Mae'r rhanbarthau cludo nwyddau môr yn cynnwys Traffig Domestig, traffig yr Undeb Ewropeaidd (UE) a thraffig y tu allan i'r UE. Yn 2022 nwyddau'r rhanbarth y tu allan i'r UE oedd yn cyfrif am 60.2% o'r holl nwyddau a gludwyd trwy borthladdoedd mawr Cymru. Nwy hylif oedd y prif nwydd (Ffigur 7).

Mae mewnforion o wledydd y tu allan i'r UE i Gymru wedi bod yn uwch o'u cymharu â mewnforion o wledydd yr UE neu'r rhanbarth domestig. Ond mae cyfanswm allforion i ranbarth yr UE yn llawer uwch o'i gymharu ag allforion i'r rhanbarth y tu allan i'r UE neu'r rhanbarth domestig.

Ffigur 6: Cludo Nwyddau Môr yn ôl rhanbarth trwy borthladdoedd Cymru, 2012 i 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart linell sy'n dangos symudiad traffig môr y rhanbarthau domestig a rhyngwladol (UE a'r tu allan i'r UE) ym mhorthladdoedd mawr Cymru dros y 10 mlynedd diwethaf. Yn 2022 nwyddau'r rhanbarth y tu allan i'r UE oedd yn cyfrif am 60.2%.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata Forol yr Adran Drafnidiaeth

Traffig domestig

Mae'r adran hon yn cynnwys symudiadau cludo nwyddau ar y môr ar hyd arfordir Cymru, h.y. cludo nwyddau rhwng porthladdoedd y Deyrnas Unedig (DU). Ers 2015, mae mwy o nwyddau wedi'u cludo allan na thraffig nwyddau i mewn (Ffigur 8). Yn 2022 gwelwyd cynnydd o 7.3% yn y nwyddau a gludwyd o borthladdoedd mawr Cymru o'i gymharu â 2021, a chynnydd o 9.9% o'i gymharu â 2019 ond gwelwyd cynnydd o 17.9% yn y cludiant nwyddau môr i mewn dros yr un cyfnod, a chynnydd o 15.5% o'i gymharu â 2019.

Ffigur 7: Symudiadau nwyddau domestig rhwng porthladdoedd Cymru a phorthladdoedd y DU, (miliynau o dunelli) 2012 i 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart linell sy'n dangos cyfeiriad symudiadau cludo nwyddau môr domestig ym mhorthladdoedd mawr Cymru a phorthladdoedd y DU dros y 10 mlynedd diweddaraf. Yn 2022 gwelwyd cynnydd o 7.3% yn y nwyddau a gludwyd o borthladdoedd mawr Cymru o'i gymharu â 2021.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata Forol yr Adran Drafnidiaeth

Traffig yr Undeb Ewropeaidd

Mae'r adran hon yn ymdrin â'r nwyddau a symudir ar y môr rhwng Cymru a gwledydd o'r UE ac yn edrych ar yr holl fewnforion ac allforion ar y môr o borthladdoedd mawr.

Yn 2022 gwelwyd cynnydd o 13.1% yng nghyfanswm yr allforion nwyddau a gludwyd ar y môr i'r UE i 7.2Mt ers 2021, ond o'i gymharu â 2019 gwelwyd gostyngiad o 13.5%.

Ers y refferendwm i adael yr UE, bu cynnydd yn y llwybrau morgludo uniongyrchol rhwng Ewrop ac ynys Iwerddon, sydd wedi arwain at ostyngiad yn nifer y cerbydau sy'n defnyddio'r DU fel pont dir rhwng Dover ac Iwerddon. Mae swm yr allforion a gludwyd ar y môr o borthladdoedd Cymru wedi bod yn pendilio rhwng uchafbwynt o 10.9 Mt yn 2004 i 7.2 Mt yn 2015 cyn codi yn 2016 tan 2019 (Ffigur 8).

Ffigur 8: Symudiadau cludo nwyddau rhwng porthladdoedd Cymru a'r UE, 2012 i 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Siart linell sy'n dangos cyfeiriad symudiadau cludo nwyddau môr ym mhorthladdoedd mawr Cymru a'r UE dros y 10 mlynedd diwethaf. Yn 2022 gwelwyd cynnydd o 13.1% yng nghyfanswm yr allforion nwyddau a gludwyd ar y môr i'r UE i 7.2Mt ers 2021.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata'r Adran Drafnidiaeth Forol

Yn 2022, gwelwyd cynnydd o 28.6% yng nghyfanswm y mewnforion o'r UE o'i gymharu â'r flwyddyn cynt, ond o'i gymharu â 2019, 8.6% oedd y cynnydd. Yn gyffredinol, bu cynnydd yn swm y mewnforion o'r UE rhwng 2012 a 2018.

Traffig y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd

O ran eu pwysau, daw'r rhan fwyaf o'r mewnforion môr i borthladdoedd Cymru o wledydd y tu allan i'r UE - nid yw'n syndod o ystyried goruchafiaeth cynhyrchion olew a nwy hylifedig (Ffigur 4). Yn 2022 gwelwyd cynnydd o 19.2% ers 2021 yng nghyfanswm yr allforion i gyrchfannau y tu allan i'r UE, gyda chynnydd yn y mewnforion o 13.0% (Ffigur 8). O'i gymharu â 2019 roedd cyfanswm allforion yn 2022 wedi cynyddu 1.7% tra bod mewnforion wedi cynyddu 3.5% dros yr un cyfnod.

Ffigur 9: Mewnforion ac allforion nwyddau rhwng porthladdoedd Cymru a phorthladdoedd y tu allan i'r UE, 2012 i 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 9: Siart linell sy'n dangos cyfeiriad symudiadau cludo nwyddau môr rhwng porthladdoedd mawr Cymru a phorthladdoedd y tu allan i'r UE dros y 10 mlynedd diwethaf. Yn 2022 gwelwyd cynnydd o 19.2% ers 2021 yng nghyfanswm yr allforion i gyrchfannau y tu allan i'r UE.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata Forol yr Adran Drafnidiaeth

Mewnforion ac allforion chwarterol

Mae'r adran hon yn edrych ar gludiant nwyddau môr chwarterol trwy borthladdoedd mawr yng Nghymru. Mae ffigurau Cymru'n adlewyrchu'n bennaf y gweithgarwch yn Aberdaugleddau. Yn 2022, gwelwyd cynnydd o 28.3% yng nghyfanswm y nwyddau a gludir yn Aberdaugleddau o'i gymharu â 2021.

  • Yn 2022, gwelwyd gostyngiad yng nghyfanswm y mewnforion i Aberdaugleddau yn y pedwerydd chwarter i 6.2Mt, gostyngiad o 3.2% o'i gymharu â'r un chwarter yn 2021.
  • Mae allforion o Aberdaugleddau wedi bod yn gymharol sefydlog yn y blynyddoedd diwethaf, ond yn 2022 gwelwyd gostyngiad o 4.1% yn yr allforion yn y pedwerydd chwarter o'i gymharu â'r un chwarter yn 2021 (Ffigur 10).

Ffigur 10: Mewnforion ac allforion chwarterol o 2018 i 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 10: Siart linell yn dangos tueddiadau yn y mewnforion ac allforion môr chwarterol rhwng 2018 a 2022 ym mhorthladdoedd Cymru. Mae ffigurau Cymru'n adlewyrchu'n bennaf y gweithgarwch yn Aberdaugleddau.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata Forol yr Adran Drafnidiaeth

Symudiadau cludo nwyddau Gweriniaeth Iwerddon drwy borthladdoedd Cymru

Yn hanesyddol, porthladdoedd Cymru (Caergybi yn benodol) fu'r porth rhwng Gweriniaeth Iwerddon a gweddill Ewrop, gyda llawer o gludwyr yn dewis y llwybrau morgludo byrrach a gyrru ar draws y DU (y bont dir). Mae'r tueddiadau diweddaraf yn dangos bod lleihad yn y defnydd o'r bont tir ers i'r DU ymadael yn ffurfiol â Marchnad Sengl ac Undeb Tollau'r UE ym mis Ionawr 2021, gyda chynnydd yn y llwybrau morgludo uniongyrchol rhwng Iwerddon a chyfandir Ewrop.

Ffigur 11: Nifer y lorïau a'r trelars rhwng porthladdoedd Gweriniaeth Iwerddon a Chymru, 2011 i 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 11: Mae'r siart golofnau'n dangos nifer y lorïau a'r trelars a deithiodd rhwng porthladdoedd Cymru a Gweriniaeth Iwerddon dros y 10 mlynedd ddiwethaf. Yn 2022, gwelwyd 430,000 o lorïau a threlars heb gerbyd tynnu yn teithio trwy borthladdoedd Cymru i ac o Iwerddon.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata Forol yr Adran Drafnidiaeth

Mae Ffigur 12 yn dangos cyfran y nwyddau a gariwyd ar gerbydau nwyddau trwm (HGV) cofrestredig Gwyddelig trwy'r bont dir. O nwyddau a draddodwyd ar HGVs cofrestredig o Iwerddon o Weriniaeth Iwerddon i'r cyfandir yn 2022, aeth 41.9% trwy Gymru, tra o'r cyfandir, aeth 42.0% trwy Gymru i Iwerddon. Mae'r cyfrannau hyn wedi lleihau'n sylweddol ers yr ymadawiad ffurfiol o'r UE yn 2020.

Ffigur 12: Cyfran y nwyddau a gariwyd o/i Weriniaeth Iwerddon o/i'r cyfandir ar HGVs cofrestredig Gwyddelig, 2014 i 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 12: Siart colofn wedi'i chlystyru yn dangos y cyfrannau o nwyddau a gariwyd rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon ar y ffordd rhwng 2014 a 2022. Yn 2022, aeth 41.9% o nwyddau trwy Gymru, tra bod 58% yn mynd trwy lwybrau eraill i Weriniaeth Iwerddon.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata Swyddfa Ystadegol Ganolog Iwerddon

Porthladdoedd Cymru o'u cymharu â gweddill Porthladdoedd y Deyrnas Unedig

Yn 2022, cludwyd cyfanswm o 458.9Mt o nwyddau trwy borthladdoedd y DU, cynnydd o 3.0% ers 2021 ond gostyngiad o 4.9% ers 2019.  Gwelwyd cynnydd o 14.5% yn nwyddau môr Cymru o ran pwysau a gludwyd gyda chynnydd o 2.0% yn nwyddau'r Alban. Gwelwyd gostyngiad o 5.3% yn nghludiant nwyddau môr Gogledd Iwerddon o ran pwysau ers 2021. (Cyfanswm y traffig i mewn ac allan ym mhorthladdoedd y Deyrnas Unedig, yn ôl fesul gwlad a blwyddyn (StatsCymru)).

O'i gymharu â 2021, cynyddodd tunelli mewnol i'r DU 4.3% i 304.3Mt ond gostyngodd 2.5% o 2019, a chynyddodd tunellau allanol 1.0% i 154.7Mt ond gostyngodd 9.2% o 2019.

O edrych ar faint o dunelli o nwyddau y mae porthladdoedd unigol yn eu trin:

  • Porthladd Llundain oedd prif borthladd y DU yn 2022 o ran pwysau'r nwyddau a gludwyd, gan drin 54.9Mt (12% o gyfanswm y DU), cynnydd o 6.0% o'i gymharu â 2021.
  • Grimsby ac Immingham oedd yn ail gyda 50.2Mt (10.9% o gyfanswm y DU).
  • Porthladd Aberdaugleddau oedd yn drydydd, gan drin 38.9Mt o nwyddau (8.5% o gyfanswm y DU), cynnydd o 28.3% o'i gymharu â 2021.

Teithwyr môr

Mae'r adran hon yn edrych ar gyfanswm y teithwyr môr sy'n teithio trwy borthladdoedd Cymru, ac yn cynnwys teithwyr sy'n teithio ar droed, y rhai sy'n teithio mewn cerbydau a'r rhai sy'n teithio fel gyrwyr cerbydau nwyddau.

Yn 2022, teithiodd cyfanswm o 2.0 miliwn o deithwyr môr rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon. Pasiodd 1.5 miliwn (75.7%) o'r rhain trwy Gaergybi gyda'r gweddill yn defnyddio porthladdoedd Abergwaun ac Aberdaugleddau [troednodyn 2] ( Nifer teithwyr y môr sy’n teithio ar lwybrau rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon, fesul porthladd (StatsCymru)).

Ers 2000, mae symudiadau teithwyr rhwng Iwerddon a phorthladdoedd fferi Cymru wedi dirywio. Parhaodd nifer y teithwyr fferi sy'n defnyddio porthladdoedd Cymru yn fras sefydlog ers 2012, cyn dirywiad serth yn 2020 o ganlyniad i gyfyngiadau teithio sy'n gysylltiedig â phandemig COVID-19. (Ffigur 12).

Yn 2022, cynyddodd nifer y teithwyr fferi 91.6% o'i gymharu â 2021 (Siart 13), ond mae cyfanswm 2022 yn ostyngiad o 19.3% o'i gymharu â chyfanswm 2019. Gwelwyd 617,000 o gerbydau teithwyr gyda gyrrwr yn 2022, sy'n gynnydd o 88.8% o'i gymharu â 2021, ond o'i gymharu â 2019 dyma ostyngiad o 10.0%.

Y prif borthladdoedd yng Nghymru a ddefnyddir gan deithwyr yw Caergybi (75.7% o deithwyr), Aberdaugleddau (10.9%) ac Abergwaun (13.4%).

Ers 2000, mae symudiadau teithwyr rhwng Iwerddon a phorthladdoedd fferi Cymru wedi gostwng. Yn 2022, cynyddodd y traffig teithwyr môr trwy Gaergybi 85.5%, trwy Abergwaun 153.4% a thrwy Aberdaugleddau 82.4% o'i gymharu â 2021.

  • Yn 2022, cynyddodd traffig teithwyr môr trwy borthladd Caergybi 85.5% o'i gymharu â 2021. Fodd bynnag, roedd lefelau teithwyr môr porthladd Caergybi yn 2022 20.5% yn is o'i gymharu â lefelau 2019.
  • Yn 2022 cynyddodd teithwyr môr Abergwaun 153.4% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, fodd bynnag, roedd lefelau teithwyr môr Abergwaun yn 2022 12.6% yn uwch o'i gymharu â lefelau 2019.
  • Yn 2022 tra bod nifer teithwyr Môr Aberdaugleddau wedi cynyddu 82.4% o'i gymharu â 2021, yn 2022 roeddent 34.3% yn is o'i gymharu â lefelau 2019.

Ffigur 13: Llinell Amser Teithwyr Môr rhwng Porthladdoedd Cymru a Gweriniaeth Iwerddon, 2005 i 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 13: Siart linell yn dangos cyfres amser ar gyfer cyfanswm y teithwyr môr sy'n teithio rhwng Porthladdoedd Cymru a Gweriniaeth Iwerddon rhwng 2004 a 2022. Yn 2022, cynyddodd nifer y teithwyr fferi 91.6% o'i gymharu â 2021.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata Forol yr Adran Drafnidiaeth

Gwybodaeth ansawdd allweddol

Cyd-destun

Cyhoeddiadau Cysylltiedig

Mae'r Adran Drafnidiaeth yn cynhyrchu amrywiaeth o ystadegau sy'n ymwneud â'r sector morwrol sy'n cynnwys gwybodaeth am gludo nwyddau domestig, porthladdoedd, mordeithwyr, fflydoedd llongau a morwyr. Mae hefyd yn cynhyrchu dangosfwrdd rhyngweithiol ar gludiant nwyddau porthladdoedd y DU sy'n ddefnyddiol i ddeall ystadegau môr ar lefel y DU.

Mae Transport Scotland yn cynhyrchu cyhoeddiad cryno o'r enw 'Scottish Transport Statistics' sy'n cynnwys pennod ar gludiant ar ddŵr.

Mae Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon yn cyhoeddi bwletin ystadegol blynyddol o'r enw 'Northern Ireland Ports Traffic' sy'n darparu ystadegau ar draffig teithwyr a nwyddau sy'n mynd trwy borthladdoedd Gogledd Iwerddon.

Perthnasedd

Lluniwyd y ffigurau hyn gan yr Adran Drafnidiaeth (DfT) a Swyddfa Ystadegau Ganolog Iwerddon (CSO Ireland). Gellir gweld y data ar lefel y DU, ynghyd â disgrifiad llawn o ffynonellau'r data a sut ydym yn crynhoi'r data ar wefan GOV.UK (Maritime and shipping statistics (Department for Transport)). Defnyddir yr ystadegau hyn y tu mewn a’r tu allan i Lywodraeth Cymru er mwyn monitro tueddiadau cludo nwyddau ar y môr ac fel llinell sylfaen a gyfer cynnal rhagor o ymchwil. Mae'r data'n cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru i asesu hefyd effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Cywirdeb

Data cludo nwyddau

Ffynhonnell y data

Mae ystadegau traffig cludo nwyddau porthladdoedd yn seiliedig ar gyfuniad o ddata a roddir i'r Adran Drafnidiaeth gan awdurdodau porthladdoedd a chwmnïau llongau neu eu hasiantau. Cyn 2000 dim ond awdurdodau porthladdoedd oedd yn cyflwyno gwybodaeth o'r fath. Dechreuwyd ar y trefniadau cyfredol ar gyfer casglu ystadegau cludo nwyddau porthladdoedd ar 1 Ionawr 2000 i fodloni gofynion Cyfarwyddeb Ystadegau Morwrol y Comisiwn Ewropeaidd (Cyfarwyddeb y Cyngor 95/64/EC) ynghylch gwybodaeth ystadegol am gludo nwyddau a theithwyr ar y môr. Fe'i cyflwynwyd o'r newydd fel Cyfarwyddeb 2009/42/EC.

Cwmpas

Mae'r ystadegau'n ymdrin â'r traffig sy'n mynd ac yn dod o borthladdoedd yng Nghymru. Nid yw ffigurau ar lefel y DU yn cynnwys porthladdoedd Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel.

Porthladdoedd mawr a bach

Mae'r Adran Drafnidiaeth yn categoreiddio porthladd naill ai fel porthladd mawr neu borthladd bach, ar sail tueddiadau cyfredol a hanesyddol o ran faint o gargo a gludir. Cesglir data manylach ynghylch porthladdoedd mawr nag ynghylch porthladdoedd bach, ac adlewyrchir hyn yn yr ystadegau y gellir eu cynhyrchu.

Pwysau

Mae'r data a gyflwynir yn y datganiad hwn yn seiliedig ar bwysau'r nwyddau a gludir. Mae'r holl bwysau mewn tunelli gros, ac yn gynnwys cratiau a deunyddiau pacio eraill. Nid ydym wedi cynnwys pwysau cynwysyddion, cerbydau cludo nwyddau, trelars ac eitemau cludo eraill gwag (hy pwysau'r cerbyd heb lwyth neu'r offer ei hun).

Mathau o gargo

Mae traffig porthladdoedd mawr yn cael ei gategoreiddio yn ôl y math o gargo. Caiff cargo ei gategoreiddio'n bennaf yn ôl sut mae'r nwyddau'n cael eu llwytho ar long neu eu dadlwytho oddi arni - ac er y rhennir rhai mathau o gargo ymhellach yn gynwyddau bras, y dull llwytho sy'n cael blaenoriaeth.  Dangosir tabl o'r mathau o gargo isod.

Traffig unedol

Cynwysyddion
  • Unedau cludo nwyddau 20 troedfedd (Cod cargo 31)
  • Unedau cludo nwyddau 40 troedfedd (Cod cargo 32)
  • Unedau cludo nwyddau >20 troedfedd a <40 troedfedd (Cod cargo 33)
  • Unedau cludo nwyddau >40 troedfedd (Cod cargo 34)
Roll-on/Roll-off (hunan-yrru)
  • Cerbydau nwyddau ar y ffordd, gyda threlars neu hebddynt (Cod cargo 51)
  • Ceir teithwyr, beiciau modur a threlars/carafanau cysylltiedig (Cod cargo 52)
  • Bysiau cludo teithwyr (Cod cargo 53)
  • Cerbydau modur sy'n cael eu mewnforio/allforio (Cod cargo 54)
  • Anifeiliaid byw (Cod cargo 56)
  • Unedau symudol hunan-yrru eraill (Cod cargo 59)
Roll-on/Roll-off (nad ydynt yn hunan-yrru)
  • Trelars nwyddau ffordd heb gerbyd tynnu a rhan-drelars (Cod cargo 61)
  • Carafannau heb gerbyd tynnu a cherbydau ffordd, amaethyddol a diwydiannol eraill (Cod cargo 62)
  • Wagenni rheilffordd, trelars a gludir ar long o borthladd i borthladd, a chychod a gludir ar longau a ddefnyddir i gludo nwyddau (Cod cargo 63)
  • Unedau symudol eraill nad ydynt yn hunan-yrru (Cod cargo 69)

Traffig anunedol

Hylif swmp
  • Nwy hylif (Cod cargo 11)
  • Olew crai (Cod cargo 12)
  • Cynhyrchion olew (Cod cargo 13)
  • Cynhyrchion hylifol swmp eraill (Cod cargo 19)
Deunydd sych mewn swmp
  • Mwynau (Cod cargo 21)
  • Glo (Cod cargo 22)
  • Cynhyrchion amaethyddol (Cod cargo 23)
  • Deunydd sych swmp arall (Cod cargo 29)
Cargo cyffredinol arall
  • Cynhyrchion coedwigaeth (Cod cargo 91)
  • Cynhyrchion haearn a dur (Cod cargo 92)
  • Cargo cyffredinol arall a chynwysyddion <20 troedfedd (Cod cargo 99)

Nwyddau unedol

Dywedir bod nwyddau'n nwyddau unedol os ydyn nhw'n cael eu codi ar long neu oddi arni mewn cynwysyddion cludo mawr (20 tr neu fwy o hyd) neu'n cael eu rholio ar long neu oddi arni mewn un o nifer o fathau gwahanol o unedau a dynnir neu a hunan-yrrir. Ar gyfer y mathau hyn o gargo, cofnodir nifer yr unedau yn ogystal â phwysau'r nwyddau. Mae ‘prif unedau cludo nwyddau’ yn is-set o’r nwyddau unedol sy'n cynnwys yr holl gynwysyddion a'r unedau ro-ro hynny sydd wedi'u dylunio i gludo nwyddau (categorïau 51, 61 a 63 uchod).  Pwrpas y categori yw ei fod yn eithrio'r unedau ro-ro hynny nad ydynt yn cludo nwyddau - h.y. cerbydau teithwyr, cerbydau masnach, a cherbydau a threlars arbenigol eraill.

Categoreiddio traffig yn ddaearyddol

Mae traffig porthladdoedd y DU yn cael ei ddosbarthu'n ddaearyddol yn ôl lle cafodd y nwyddau eu llwytho ddiwethaf neu eu dadlwytho nesaf ar y fordaith. Mae'r holl draffig naill ai'n ddomestig neu'n rhyngwladol.

Data mordeithwyr

Yr Adran Drafnidiaeth (DfT) sy'n casglu'r ffigurau hyn. Gellir gweld y data ar lefel y DU, ynghyd â disgrifiad llawn o ffynonellau'r data a sut ydym yn crynhoi'r data ar wefan GOV.UK (Maritime and shipping statistics (Department for Transport)).

Ffynhonnell y data

Cesglir ystadegau teithwyr fferi rhyngwladol yn fisol oddi wrth y cwmnïau fferi gan DfT. Maent yn cynnwys gyrwyr lorïau, bysiau a cherbydau eraill ond nid teithwyr ar lwybrau domestig yn unig.

Ystadegau llongau sy'n cyrraedd

Yr Adran Drafnidiaeth (DfT) sy'n casglu'r wybodaeth hon ac mae dolen i'r data ar lefel y DU, ynghyd â disgrifiad llawn o'r ffynonellau'r data a sut ydym yn crynhoi'r data ar wefan GOV.UK (Maritime and shipping statistics (Department for Transport)).

Ffynhonnell y data

Y brif ffynhonnell a ddefnyddiwyd oedd data masnachol ar symudiadau llongau a gafwyd gan Lloyds List Intelligence (LLI). Cyfunir hynny bellach â gwybodaeth arall am symudiadau llongau gan y DfT drwy'r system a ddisgrifir uchod ar gyfer pob symudiad cludo cargo neu deithwyr mewn porthladd mawr a'r arolwg o fordeithwyr. Mae'r tair ffynhonnell data yn cael eu cyfuno ar lefel y llong unigol wrth iddi alw ym mhob porthladd. Y ffynhonnell sy'n cofnodi'r nifer fwyaf o alwadau sy'n rhoi'r amcangyfrif terfynol.

Cwmpas ac ansawdd

Ystyrir bod y data'n amcangyfrif eithaf cywir o nifer symudiadau llongau masnachol ym mhorthladdoedd y DU, ond nid ydynt o reidrwydd yn union gywir, ac mae manylion rhai llongau neu fathau o draffig yn gallu amrywio ar yr ymylon. Nid yw data am longau sy'n cyrraedd yn cael eu hystyried yn Ystadegau Gwladol.  Mae'r tabl canlynol yn dangos y mathau o longau sydd wedi’u cynnwys ym mhob categori o long. Mae’r rhestr yn dangos hefyd y mathau o longau nad ydynt wedi’u cynnwys yn yr ystadegau o longau sy’n cyrraedd. Mae cwmpas ac ansawdd yr ystadegau o longau sy’n cyrraedd yn cael eu disgrifio’n fanylach yn ystadegau cludiant nwyddau porthladdoedd: nodiadau a diffiniadau ar wefan GOV.UK.

  • Tanceri (Masnachu) cynnwys Tancer olew, tancer olew-gemegol, tancer cemegol, tancer nwy hylif, tancer arall
  • Llongau Ro-Ro (Masnachu) cynnwys Ro-Ro teithwyr, cynwysyddion Ro-Ro, cargo arall Ro-Ro
  • Llongau cludo cynwysyddion cwbl gellog (Masnachu) cynnwys Cynwysyddion (cwbl gellog)
  • Llongau cargo sych eraill (Masnachu) cynnwys Swmp-gludwr, cludwr olew swmp, cargo wedi'i oeri, cludwr arbenigol, cargo cyffredinol, llong gargo a theithwyr gyffredinol
  • Teithwyr (Masnachu) cynnwys Teithwyr, mordeithiau
  • Llongau eraill (Anfasnachol) cynnwys Cyflenwi ar y môr, carthu, tancer llwytho

Heb eu cynnwys (Anfasnachol) cynnwys Pysgota, cychod tynnu / gwthio, llongau môr  (ac eithrio cychod cyflenwi), llongau gwaith eraill, llongau nad ydynt yn mynd ar y môr, llongau anfasnachol, strwythurau nad ydynt yn llongau, llongau o fath anhysbys neu o fath heb ei gofnodi

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae'r bwletin hwn yn cofnodi Cludiant Môr Cymru yn ystod 2022. Mae'r wybodaeth yn cynnwys traffig i borthladdoedd ac o borthladdoedd yng Nghymru. Nid yw ffigurau ar lefel y DU yn cynnwys porthladdoedd Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel. Mae'r bwletin hwn yn seiliedig ar ddata blynyddol a gyhoeddir gan yr Adran Drafnidiaeth.

Mae cyhoeddiadau cysylltiedig ar gael ar y wefan Ystadegau ac Ymchwil.

Mae ystadegau Cludiant Môr Cymru ar gael ar wefan StatsCymru.

Hygyrchedd ac eglurder

Rhag-gyhoeddir y bwletin ystadegol hwn cyn ei roi ar y wefan Ystadegau ac Ymchwil, gyda thablau ategol ar wefan StatsCymru.

Cymaroldeb a chydlyniad

Mae'r Adran Drafnidiaeth yn cynhyrchu amrywiaeth o ystadegau sy'n ymwneud â'r sector morwrol gan ddarparu gwybodaeth am nwyddau domestig a gludir ar ddŵr, porthladdoedd, mordeithwyr, fflydoedd llongau a morwyr.

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi dangosyddion morgludo wythnosol fel rhan o'u Gweithgaredd Economaidd wythnosol a'u dangosyddion newid cymdeithasol mewn amser real.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007, gan nodi eu bod yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ddibynadwyedd, ansawdd a gwerth i'r cyhoedd.

Dylai'r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Cenedlaethol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen rheoleiddio Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau yn bodloni'r safonau uchaf a ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a thrafodaethau cyhoeddus. Cadarnhawyd bod yr ystadegau hyn wedi cael eu dynodi'n Ystadegau Gwladol ym mis Chwefror 2011 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer

Ers yr adolygiad diwethaf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac rydym wedi gwneud y gwelliannau canlynol: 

  • Wedi mireinio ac ychwanegu at wybodaeth am agweddau ar ansawdd ac wedi disgrifio cysylltiadau â pholisïau.
  • Wedi gwella ein dealltwriaeth o'r amryw ffynonellau data a'r fethodoleg y tu ôl iddynt, gan gynnwys eu cryfderau a'u cyfyngiadau.
  • Wedi ychwanegu ffynonellau data perthnasol newydd i roi trosolwg ehangach o'r pwnc.

Wedi gwella deunyddiau gweledol drwy dacluso a safoni siartiau a thablau.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau disgwyliedig ar gyfer Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu nad yw'r ystadegau hyn yn parhau i fodloni'r safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â'r Awdurdod yn brydlon. Gellir tynnu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan na fydd y safonau uchaf yn cael eu cynnal, a'i roi yn ôl pan fydd safonau'n cael eu cyrraedd unwaith eto.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn Adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai'r ystadegau yn y cyhoeddiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol i'w defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer eu hasesiadau llesiant lleol a'u cynlluniau llesiant lleol.

Rydym am gael eich adborth

Byddem yn croesawu unrhyw adborth ar unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. E-bostiwch eich sylwadau i: ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru

Troednodiadau

[1] Mae nifer o borthladdoedd bach yng Nghymru hefyd: Y Barri, Mostyn, Castell-nedd, Llanddulas, Porth Penrhyn a Phorth Tywyn.

[2] Mae data llwybrau teithwyr rhwng Doc Penfro - Rosslare yn cael ei grwpio o dan 'Aberdaugleddau' gan yr Adran Drafnidiaeth.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: James Khonje
E-bost: ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SB 39/2023

Image
Ystadegau Gwladol