Gwybodaeth am gyraeddiadau llong, teithio tramor a domestig, a chargo ar gyfer 2021.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Cludiant môr
Gwybodaeth am y gyfres:
Ym mis Ionawr 2021 gwnaeth y DU ymadael yn ffurfiol â Marchnad Sengl ac Undeb Tollau'r UE, ac mae'n bosibl bod rhai cyfyngiadau pandemig y coronafeirws (COVID-19) parhaus wedi cael effaith ar gludiant môr yn ystod 2021.
Prif bwyntiau
Image
- Gwelwyd gostyngiad o 8.2% yng nghyfanswm pwysau’r nwyddau a gludwyd drwy borthladdoedd Cymru yn 2021 i 47.0 miliwn tunnell (Mt).
- O gyfanswm pwysau’r nwyddau a gludwyd drwy brif borthladdoedd Cymru, roedd 87.2% yn draffig rhyngwladol, gydag ychydig dros dri chwarter (76.8%) yn fewnforion.
- Porthladdoedd Cymru yw’r porth rhwng Gweriniaeth Iwerddon a gweddill Ewrop, er bod symudiadau cerbydau nwyddau trwm wedi gostwng yn 2021. Aeth 33.1% (0.23Mt) o nwyddau a gludwyd ar gerbydau nwyddau trwm cofrestredig Gwyddelig rhwng Gweriniaeth Iwerddon ac Ewrop drwy Gymru, o'i gymharu â 80.0% (0.5Mt) yn 2020.
- Gwelwyd 6.1% o gynnydd yn y traffig teithwyr môr yn 2021, o'i gymharu â 2020, yn dilyn gostyngiad o 60.3% rhwng 2019 a 2020 yn ystod cyfnodau cynnar pandemig y coronafeirws (COVID-19).
Adroddiadau
Cludiant môr: 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.