Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am gyraeddiadau llong, teithio tramor a domestig, a chargo ar gyfer 2020.

Mae’r ystadegau hyn yn ymwneud â blwyddyn galendr 2020. Effeithiwyd ar y cyfnod hwn gan bandemig y y coronafeirws (COVID-19) a chan y cyfnod yn arwain at ymadael â’r UE.

Prif bwyntiau

  • Gwelwyd gostyngiad o 3.2% yng nghyfanswm pwysau’r nwyddau a gludwyd trwy borthladdoedd Cymru yn 2020 i 51.3 miliwn tunnell.
Image
Siart yn dangos lefelau cyfanswm y freigh sy'n pasio trwy borthladdoedd Cymru rhwng 1976 a 2020
  • O gyfanswm y nwyddau a gludwyd trwy brif borthladdoedd Cymru, roedd 87.0% yn nwyddau tramor gyda 74.8% yn fewnforion. Roedd y rhan fwyaf o fewnforion ac allforion tramor yn gynnyrch swmpus gan gynnwys olew crai, cynhyrchion olew, nwy hylif a mwynau.
  • Porthladdoedd Cymru yw’r porth rhwng Gweriniaeth Iwerddon a gweddill Ewrop.  Gwnaeth dros 80%, cyfwerth â 0.5Mt, o’r nwyddau a gludwyd rhwng Gweriniaeth Iwerddon ac Ewrop ar gerbydau nwyddau trwm oedd wedi eu cofrestru yng Ngweriniaeth Iwerddon fynd trwy borthladdoedd Cymru. Aeth 72.5% o gyfanswm y pwysau trwy borthladd Caergybi.
  • Dros y tymor hir, mae nifer y bobl sy’n teithio ar y môr rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Chymru wedi gostwng.  Gwelwyd 60.3% o ostyngiad yn y traffig teithwyr môr yn 2020 o’i gymharu â 2019.

Adroddiadau

Cludiant môr: 2020 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.