Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am gyraeddiadau llong, teithio tramor a domestig, a chargo ar gyfer 2019.

Mae’r ystadegau hyn yn ymwneud â blwyddyn galendr 2019, oedd cyn pandemaig y coronafeirws (COVID-19).

Prif bwyntiau

  • Gwelwyd gostyngiad o 7.7% yng nghyfanswm pwysau’r nwyddau a gludwyd trwy borthladdoedd Cymru yn 2019 i 52.9 miliwn tunnell o’i gymharu â 2018.
Image
Siart yn dangos lefelau cyfanswm y nwyddau sy'n mynd drwy borthladdoedd Cymru rhwng 1976 a 2018
  • O gyfanswm y nwyddau a gludwyd trwy brif borthladdoedd Cymru, roedd 88.7% yn nwyddau tramor gyda 66.0% yn fewnforion tramor. Roedd y rhan fwyaf o fewnforion ac allforion tramor yn gynnyrch swmpus gan gynnwys olew crai, cynhyrchion olew, nwy hylif a mwynau.
  • Porthladdoedd Cymru yw’r porth rhwng Gweriniaeth Iwerddon a gweddill Ewrop.  Gwnaeth bron i dri chwarter (0.4 Mt) o’r nwyddau a gludwyd rhwng Gweriniaeth Iwerddon ac Ewrop ar gerbydau nwyddau trwm oedd wedi eu cofrestru yng Ngweriniaeth Iwerddon fynd trwy borthladdoedd Cymru. Aeth 70.2% o ran pwysau trwy borthladd Caergybi.
  • Dros y tymor hir, mae nifer y bobl sy’n teithio ar y môr rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Chymru wedi gostwng. Gwnaeth 77.0% o’r teithwyr a deithiodd rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Chymru yn 2019 ddefnyddio’r gwasanaeth rhwng Caergybi a Dulyn.

Adroddiadau

Cludiant môr, 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.