Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am gyraeddiadau llong, teithio tramor a domestig, a chargo ar gyfer 2018.

Cyfanswm traffig nwyddau porthladdoedd Cymru mewn miliwn tunnell (Mt), 1976 i 2018

Prif bwyntiau

Gostyngodd y traffig nwyddau ym mhorthladdoedd Cymru o 4.8% yn 2018 i  49.2 miliwn tunnell (Mt), ei bwynt isaf ers cychwyn cofnodion tebyg yn 1976. O draffig prif borthladdoedd Cymru, roedd 84.0% yn draffig tramor gyda 60.1% o hwnnw’n fewnforion. Roedd y rhan fwyaf o fewnforion ac allforion tramor yn draffig swmpus (er enghraifft olew crai, cynhyrchion olew, nwy hylifol a mwynau.

Porthladdoedd Cymru yw porth Gweriniaeth Iwerddon i weddill Ewrop. Roedd bron i dri chwarter (0.4 Mt) o nwyddau a gludwyd ar gerbydau nwyddau trwm oedd wedi eu cofrestru yng Ngweriniaeth Iwerddon rhwng Gweriniaeth Iwerddon ac Ewrop trwy borthladdoedd Cymru. Aeth 71% o’r traffig hwn trwy borthladdoedd y Gogledd.

Dros y tymor hir, mae nifer y bobl sy’n teithio ar y môr rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Chymru wedi gostwng. Defnyddiodd 75.5% o’r teithwyr a deithiodd rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Chymru yn 2018 y gwasanaeth rhwng Caergybi a Dulyn.

Adroddiadau

Cludiant môr, 2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.