Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am gyraeddiadau llong, teithio tramor a domestig, a chargo ar gyfer 2017.

Siart: Gostyngodd cyfanswm y traffig nwyddau ym mhorthladdoedd Cymru o 3.6% yn 2017 i  51.6 miliwn tunnell (Mt), ei bwynt isaf ers cychwyn cofnodion tebyg yn 1976.

Prif bwyntiau

Gostyngodd cyfanswm y traffig nwyddau ym mhorthladdoedd Cymru o 3.6% yn 2017 i  51.6 miliwn tunnell (Mt), ei bwynt isaf ers cychwyn cofnodion tebyg yn 1976. O draffig prif borthladdoedd Cymru, roedd 87.0% yn draffig tramor gyda 63.6% o hwnnw’n fewnforion. Roedd y rhan fwyaf o fewnforion ac allforion tramor yn draffig swmpus (er enghraifft olew crai, cynhyrchion olew, nwy hylifol a mwynau.

Porthladdoedd Cymru yw porth Gweriniaeth Iwerddon i weddill Ewrop. Aeth 0.3 Mt o’r nwyddau a gludwyd ar gerbydau nwyddau trwm oedd wedi eu cofrestru yng Ngweriniaeth Iwerddon rhwng Gweriniaeth Iwerddon ac Ewrop trwy borthladdoedd Cymru. Aeth 73.6% o’r traffig hwn trwy borthladdoedd y Gogledd.

Dros y tymor hir, mae nifer y bobl sy’n teithio ar y môr rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Chymru wedi gostwng. Ers dileu’r gwasanaeth rhwng Caergybi a Dun Laoghaire yn 2015, mae nifer y teithwyr ar fferi Caergybi i Ddulyn wedi cynyddu. Defnyddiodd 74.9% o’r teithwyr a deithiodd rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Chymru yn 2017 y gwasanaeth rhwng Caergybi a Dulyn.

Adroddiadau

Cludiant môr, 2017 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 820 KB

PDF
Saesneg yn unig
820 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.