Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth ar gyfer Maes Awyr Cymru Caerdydd, gan gynnwys symudiadau awyrennau, teithwyr a nwyddau a thraffig teithwyr awyr rhyngwladol ar gyfer 2019.

Image
Mae'r siart yn dangos bod nifer y teithiau gan deithwyr wedi gostwng rhwng 2007 a 2012, ond wedi cynyddu ers 2014.

Prif bwyntiau

  • Yn 2019, gwelwyd nifer y teithwyr sy'n defnyddio maes awyr Rhyngwladol Caerdydd yn cynyddu 4.3% i 1.63 miliwn. Mae'r ffigurau'n cynnwys teithwyr sy'n cyrraedd ac yn gadael.
  • Yn 2019, roedd awyrennau o faes awyr Caerdydd yn hedfan i 76 o gyrchfannau tramor, 19 yn fwy nag yn 2018.
  • Amsterdam oedd y cyrchfan tramor mwyaf poblogaidd yn 2019 a Chaeredin y cyrchfan domestig mwyaf poblogaidd.
  • Cafwyd tua 32,000 o hediadau i mewn ac allan o faes awyr Rhyngwladol Caerdydd yn 2019, cynnydd o 2.6% o'u cymharu â 2018.
  •  Wedi cyfnod o ychydig iawn o symudiadau cludo nwyddau, cafodd 1,800 tunnell o nwyddau eu cludo drwy faes awyr Caerdydd yn 2019, cynnydd o 23.6% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
  • Dim ond 13.0% o deithwyr oedd wedi teithio i Faes Awyr Caerdydd gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn 2019.

Adroddiadau

Cludiant awyr, 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.