Neidio i'r prif gynnwy

Mae ffilm hyrwyddo newydd, sy'n cynnwys clipiau o'r cynyrchiadau mawr diweddaraf a ffilmiwyd yng Nghymru, wedi cael ei lansio gan Sgrin Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r ffilm, sy'n cael ei chyflwyno gan Michael Sheen, yn cynnwys clipiau o The Bastard Executioner (Fox), The Collection (Lookout Point), Doctor Who (BBC) a Sherlock (Hartswood Films) ac uchafbwyntiau cynyrchiadau eraill a ffilmiwyd yng Nghymru gan gynnwys Criminal, Me Before You, King Arthur, Legend of the Sword, Transformers: The Last Knight a The Man from U.N.C.L.E.

Mae'n cynnwys cyfweliadau â chynhyrchwyr gan gynnwys Steven Moffat (Doctor Who; Sherlock), Jane Tranter, cyd-sefydlydd Bad Wolf, ac Oliver Goldstick (The Collection) sydd i gyd yn canmol manteision ffilmio yng Nghymru sy'n cynnwys lleoliadau arbennig, criwiau profiadol, cyfleusterau a llety gwych, ei haddasrwydd cyffredinol ar gyfer ffilmio a'r gefnogaeth sydd ar gael.

Mae lleoliadau'n chwarae rhan fawr yn y ffilm hyrwyddo, gan ddangos amlochredd harddwch golygfeydd Cymru drwy ddefnyddio clipiau HD o'r awyr sydd wedi dod o lyfrgell Croeso Cymru.

Mae'r ffilm newydd yn adlewyrchu blwyddyn hynod o brysur a llwyddiannus yn 2016 i Sgrin Cymru - rhan o dîm Diwydiannau Creadigol Llywodraeth Cymru. Gwnaeth ddelio â 386 o ymholiadau cynhyrchu a chofnododd fod dros £41 miliwn wedi cael ei wario yng Nghymru gan gynyrchiadau a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 

"Roedd 2016 yn flwyddyn ardderchog ar gyfer cynhyrchu rhaglenni teledu a ffilmiau yng Nghymru ac mae ein strategaeth i ddenu cynyrchiadau drama o safon uchel yn talu ffordd. 

"Mae'r ffilm newydd yn offeryn hyrwyddo gwych sy'n canolbwyntio ar bopeth y gall Cymru ei gynnig i gynhyrchwyr ffilmiau. Bydd yn cael ei defnyddio'n helaeth mewn digwyddiadau arbenigol drwy gydol y flwyddyn er mwyn targedu cynrychiolwyr allweddol rhyngwladol a Phrydeinig yn y sector creadigol."

Dywedodd Michael Sheen: 

“Gall Cymru gynnig y gorau o bopeth i gwmnïau ffilm. Credaf mai’r dechrau yn unig yw llwyddiannau 2016. Mae dyfodol y diwydiannau creadigol yng Nghymru’n ddyfodol cyffrous iawn.” 

Ychwanegodd fod 2016 wedi dod i ben gyda llwyddiant i sector creadigol Cymru pan dderbyniodd Sherlock ac Ethel & Ernest - dau gynhyrchiad mawr a dderbyniodd cymorth grant gan Lywodraeth Cymru - adolygiadau gwych a chynulleidfaoedd mawr wrth gael eu darlledu ar BBC1 dros y Nadolig.

Gwnaeth dangosiad cyntaf cyfres 4 Sherlock ddenu 11.3 miliwn o wylwyr, gan ei gwneud y rhaglen deledu a wyliwyd gan y nifer mwyaf o bobl ar draws yr holl sianeli ar Ddydd Calan. Gwyliwyd Ethel & Ernest gan 4 miliwn o bobl ac roedd ar frig y siartiau teledu swyddogol, gan werthu mwy na Game of Thrones, Planet Earth 2, The Night Manager ac eraill. Gwnaeth argraffiad cyntaf y Ethel & Ernest DVD werthu allan yn ystod y cyfnod archebu ymlaen llaw.

Mae Sgrin Cymru yn annog ac yn helpu cynyrchiadau ffilm a theledu i ddefnyddio lleoliadau, criwiau a chyfleusterau ledled Cymru. Mae hefyd yn helpu mewnfuddsoddi  a chynyrchiadau brodorol mewn ffordd ymarferol gan sicrhau eu bod yn gwario cymaint â phosibl yn economi Cymru.