Mae clefyd y croen talpiog yn glefyd hysbysadwy ar anifeiliaid sy'n cael ei ledaenu gan feirws.
Amheuon a chadarnhad
Os oes gennych unrhyw amheuon y gall clefyd y croen talpiog fod ar eich anifeiliaid, cysylltwch ag Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar 0300 303 8268 ar unwaith.
Bydd milfeddygon yr Asiantaeth yn archwilio'r achosion hyn.
Arwyddion clinigol
Gallai'r arwyddion clinigol canlynol fod yn bresennol:
- gwres ac anhwylder
- un neu fwy o lympiau (talpiau) ar unrhyw ran o'r corff. Yn bennaf ar y pen, ochrau, y gadair (pwrs) a'r organau cenhedlu.
- briwiau yn y trwyn a'r llwybr treulio
- mwy o boer a llif o'r trwyn
- nodau lymff wedi chwyddo (Lymffadenopathi)
- llai o laeth
- gwartheg cyflo'n erthylu
- buchod yn anffrwythlon am gyfnod
- teirw yn anffrwythlon am gyfnod neu am byth
- rhai anifeiliaid yn marw.
Trosglwyddo ac atal
Y gred yw mai pryfed sy'n sugno gwaed o'r briwau ar y croen sy'n lledaenu'r clefyd.
Gallwch helpu i atal y clefyd trwy:
- gadw at y mesurau bioddiogelwch
- cadw golwg ar iechyd yr anifail
- trafod unrhyw bryderon yn syth â'r milfeddyg