Neidio i'r prif gynnwy

Mae clefyd y crafu'n glefyd niwrolegol sy'n angheuol i ddefaid a geifr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Math o Enseffalopathi Sbyngffurf Trosglwyddadwy yw e. Mae dau fath o glefyd y crafu:

  • cyffredin
  • annodweddiadol

Mae'r Crafu Cyffredin yn fwy o destun pryder o ran iechyd anifeiliaid.

Amheuon a chadarnhad

Os oes gennych unrhyw amheuon fod clefyd y crafu ar eich anifeiliaid, cysylltwch â'ch swyddfa Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion leol ar 0300 303 8268 ar unwaith.

Bydd milfeddygon yr Asiantaeth yn archwilio'r achosion hynny.

Arwyddion clinigol

Mae arwyddion y crafu'n amrywio o anifail ac anifail a gall ddatblygu'n araf. Maen nhw fel arfer i'w gweld mewn defaid rhwng dwy a phump oed. Mae anifeiliaid heintiedig fel arfer yn dangos yr arwyddion canlynol:

  • newid yn eu hymddygiad
  • cryndod
  • colli cydsymudiad yn y cyhyrau
  • colli pwysau
  • prwritis (cosi difrifol) sy'n gwneud i'r ddafad rwbio'i gwlân a thrwy hynny, anafu'i chroen

Gallai anifail heintiedig ymddangos yn iawn ond o'i gynhyrfu â sŵn mawr neu drwy ei symud neu ei drin yn ormodol, gallai gwympo gan wingo a chrynu.

Trosglwyddo, atal a thriniaeth

Mae clefyd cyffredin y crafu'n gallu lledaenu rhwng anifeiliaid all ei ddal. Ond nid y crafu annodweddiadol.

Mae clefyd y crafu'n cael ei ledaenu fel arfer:

  • gan famog i'w hoen e.e. trwy'r llaeth tor a'r llaeth
  • i ŵyn eraill trwy gysylltiad â brych a hylifau'r brych

Gall dafad fyw am hyd at chwe mis ar ôl yr arwyddion clinigol cyntaf ond mae'r clefyd yn sicr o'i lladd.

Mae rhai defaid wedi etifeddu mwy o ymwrthedd i'r crafu cyffredin na defaid eraill. Gallwch ddefnyddio profion genoteipio i weld pa ddefaid sydd ag ymwrthedd iddo. Gallai defnyddio'r defaid hyn i fridio fod yn ffordd dda o atal y clefyd.

Ar hyn o bryd, nid oes modd trin clefyd y crafu. Dylech ddifa'r anifeiliaid rydych yn credu bod clefyd y crafu arnyn nhw, gyda chymorth APHA.