Neidio i'r prif gynnwy

Clefyd heintus ar foch sy'n cael ei achosi gan feirws yw clefyd pothellog y moch. Mae'n glefyd hysbysadwy.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r clefyd yn gyffredin mewn rhannau o Ewrop. Ym 1982 y cafwyd yr achos diwethaf o'r clefyd hwn ym Mhrydain.

Amheuon a chadarnhad

Os oes gennych unrhyw amheuon y gall clefyd pothellog y moch fod ar eich anifeiliaid, cysylltwch ag Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar 0300 303 8268 ar unwaith.

Bydd milfeddygon yr Asiantaeth yn archwilio'r achosion hyn.

Arwyddion clinigol

Gallai'r arwyddion clinigol canlynol fod yn bresennol:

  • gwres o hyd at 41 gradd am ychydig
  • pothelli ar y croen rhwng y goes a'r carn
  • pothelli o gwmpas y trwyn, tafod a gwefusau
  • cloffni
  • colli awydd am fwyd

Trosglwyddo ac atal

Gall y clefyd gael ei ledaenu:

  • trwy gysylltiad â moch heintiedig, eu tail a'u hylifau
  • trwy gynnyrch cig heintiedig
  • ar gerbydau, dillad a phobl

Nid oes brechlyn ar gyfer clefyd pothellog y moch.