Neidio i'r prif gynnwy

Cymerwch ofal

Gall coed ynn a allai fod yn farw neu sydd ar fin marw fod yn beryglus iawn, achosi risg i bobl, eiddo a seilwaith hanfodol.  Efallai na fydd y risgiau'n amlwg neu'n weladwy, felly dim ond gweithwyr proffesiynol sydd wedi'u hyfforddi ddylai reoli a gweithio gyda choed yr effeithir arnynt. 

 Mae'r ddogfen hon yn nodi dull gweithredu lefel uchel gan Lywodraeth Cymru ac yn darparu dolenni i ffynonellau cyngor. Fe'ch cynghorir i ymgynghori a defnyddio gwasanaethau gweithiwr proffesiynol rheoli coed sydd wedi'i yswirio'n llawn, fel coedwigwr neu dyfwr coed cymwys wrth fynd i'r afael ag unrhyw waith.

Cyflwyniad

Diben y ddogfen hon yw egluro dull polisi Llywodraeth Cymru o ran rheoli clefyd coed ynn ledled Cymru. Mae'n cadarnhau y dylai perchnogion a rheolwyr tir ddefnyddio dull gweithredu sy'n seiliedig ar risg i reoli effeithiau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd y clefyd.

Mae clefyd coed ynn yn atgoffa pobl ar draws tirweddau Cymru o'r difrod y gall plâu a chlefydau coed ei wneud, ac o bwysigrwydd ecosystemau gwydn.

Mae'r ddogfen hon yn rhan o Strategaeth Bioddiogelwch Planhigion Prydain Fawr, y mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno arni ochr yn ochr â'u swyddogion cyfatebol sydd â chyfrifoldeb dros iechyd planhigion yn Lloegr a'r Alban. Mae hefyd yn adlewyrchu cyd-destun yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur a gafodd eu datgan gan Weinidogion Cymru yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

Gwyddom fod gan blâu, pathogenau a rhywogaethau estron goresgynnol y potensial i effeithio ar iechyd a gwytnwch yr amgylchedd naturiol yng Nghymru ac y bydd y risgiau hyn ond yn cynyddu gyda newid yn yr hinsawdd. Rhaid i bob un ohonom weithredu mewn modd cyfrifol, yn unol â'r egwyddorion a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, gan weithio i gynnal ecosystemau bioamrywiol a chydnerth ledled Cymru.

Cynulleidfa a therminoleg

Mae'r ddogfen hon wedi'i chreu ar gyfer unrhyw un sy'n ymwneud â gwaith rheoli coed ynn ledled Cymru.   

Yn y dull polisi hwn rydym wedi defnyddio termau sy'n cael eu defnyddio'n gyffredin er mwyn ei gwneud yn haws ei deall. Er enghraifft, lle rydym yn defnyddio ‘coed ynn’ rydym yn cyfeirio at goed ynn cyffredin, neu Fraxinus excelsior. Lle rydym yn defnyddio ‘goddefiant’ rydym yn cyfeirio at goed sydd â goddefiant ac ymwrthedd i'r clefyd. 

Mae'r dull polisi hwn yn cyfeirio at glefyd coed ynn a achosir gan ffwng Hymenoscyphus fraxineus , y cyfeirir ato weithiau fel Chalara neu glefyd Chalara coed ynn yn seiliedig ar ei ddisgrifiad gwyddonol cychwynnol. Rydym yn cydnabod bod achosion eraill o glefyd coed ynn, fel straen dŵr, sy'n debygol o fod angen strategaeth reoli debyg, yn enwedig os nad yw achos y clefyd yn glir.

Egwyddorion a nodau cyffredinol

Yr egwyddorion canlynol yw sylfaen ein dull ar gyfer byw gyda chlefyd coed ynn:

  • annog mathau o goed ynn sydd â goddefiant naturiol i ddod i'r amlwg a ffynnu gan alluogi'r amgylchedd ehangach i ymateb yn naturiol. Cyn belled ag y bo modd, o fewn cyfyngiadau diogelwch a'r economi, ni ddylid cwympo coed ynn yr effeithir arnynt cyn pryd ond dylid gadael iddynt ymateb yn naturiol i ddatblygiad y clefyd, fel y gellir adnabod unrhyw goed â goddefiant, ac fel y gallant gynhyrchu hadau, a chael cyfle i arwain at goed newydd sydd â mwy o oddefiant i gymryd lle coed ynn a gollwyd yn raddol yn ein cefn gwlad. Er y gall ymddangos yn rhyfedd, yn aml bydd gan goed marw a choed sydd ar fin marw, fanteision cadwraethol ac amgylcheddol sylweddol, a bydd caniatáu i effeithiau amgylcheddol clefyd coed ynn ddatblygu yn naturiol dros nifer o flynyddoedd, a hyd yn oed degawdau, yn darparu cyfle i brosesau naturiol addasu. Mae gan goed ynn marw neu goed ynn sydd ar fin marw rôl bwysig i'w chwarae wrth gefnogi bioamrywiaeth, gan ddarparu cynefinoedd ar gyfer pryfed, adar, cennau a ffyngau, ymhlith eraill
  • hyrwyddo dull gweithredu sy'n seiliedig ar risg ar gyfer gwneud penderfyniadau sy'n ymwneud â rheoli clefyd coed ynn. Mae defnyddio dull gweithredu sy'n seiliedig ar risg ar gyfer blaenoriaethu gwaith rheoli coed ynn yn cydnabod her sylweddol ac effaith economaidd bosibl clefyd coed ynn i berchnogion a rheolwyr tir, gan gydbwyso hyn â ffactorau cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae'r dull hwn yn cydnabod bod angen cydbwyso nifer o risgiau wrth i ni geisio delio â chlefyd coed ynn, gan gynnwys risgiau i bobl a seilwaith ond hefyd i'r amgylchedd megis colli cynefinoedd
  • cadw pobl a'n seilwaith hanfodol yn ddiogel. Dylai perchnogion a rheolwyr tir weithredu i ddiogelu'r cyhoedd, y rhai sy'n gweithio gyda choed a'n seilwaith hanfodol rhag y risg a achosir gan goed ynn gwan neu beryglus. Lle mae coed ynn yn tyfu wrth ymyl seilwaith hanfodol megis gwifrau trydanol, ffôn neu fand eang, ffyrdd cyhoeddus, rheilffyrdd a hawliau tramwy neu dir arall y mae gan y cyhoedd fynediad iddo, mae presenoldeb coed heintiedig yn peri mwy o risg y mae gan berchnogion a rheolwyr tir gyfrifoldeb i'w reoli. Mae dolenni i ganllawiau iechyd a diogelwch perthnasol wedi'u cynnwys o dan 'Strategaethau a chyngor cysylltiedig' yn y ddogfen hon

Dyma ein nodau tymor hir ar gyfer clefyd coed ynn:

  • lleihau effeithiau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol clefyd coed ynn
  • codi ymwybyddiaeth o'r clefyd a'r angen am fesurau bioddiogelwch da a chael gwared ar y coed ynn sydd â'r clefyd yn ddiogel pan fo angen, gan ddilyn canllawiau iechyd a diogelwch
  • annog perchnogion a rheolwyr tir i reoli eu coed ynn drwy ddarparu canllawiau priodol
  • defnyddio dull rheoli ecosystemau a chynefinoedd sy'n caniatáu i goed ynn sydd â goddefiant i'r clefyd barhau i ffurfio rhan o'n hamgylchedd naturiol
  • blaenoriaethu gwaith rheoli coed ynn sy'n achosi'r risg iechyd a diogelwch uchaf
  • annog gwaith cynllunio tymor hir ar draws pob math o ddefnydd tir y mae clefyd coed ynn yn effeithio arnynt, gan gydnabod bod angen i berchnogion coetiroedd reoli eu tir yn rhagweithiol at ddibenion amgylcheddol ac economaidd, gan geisio cadw coed ynn lle bo hynny'n bosibl

Er bod cyngor eisoes ar gael, rydym yn cydnabod yr angen am ganllawiau mwy penodol yng nghyd-destun Cymru sy'n nodi gwahanol ddulliau rheoli yn dibynnu ar lefel y risg a lleoliad y coed ynn. Datblygwyd hyn gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac yn rhoi cyngor ymarferol, gweithredol sydd ei angen ar y rhai sy'n delio â chlefyd coed ynn. 

Mae’r canllawiau'n cynnwys gwybodaeth am reoli coed ynn mewn ardaloedd risg uchel, rheoli coed ynn mewn ardaloedd o werth cadwraethol mawr, a choed ynn yng nghefn gwlad yn gyffredinol ac mewn ardaloedd trefol. 

Ymrwymiadau

Yn unol â'r egwyddorion a'r nodau a nodir yn y ddogfen hon, mae Llywodraeth Cymru, ar y cyd â Cyfoeth Naturiol Cymru a grŵp Strategol Clefyd Coed Ynn Cymru, wedi nodi'r camau canlynol dros y pum mlynedd nesaf: 

  • llunio a chyhoeddi canllawiau i gefnogi perchnogion a rheolwyr tir yng Nghymru sy'n delio â chlefyd coed ynn
  • mynd ati'n rhagweithiol i drosglwyddo'r canllawiau hyn i randdeiliaid er mwyn codi ymwybyddiaeth a sicrhau bod gofynion cyfreithiol ac arferion da yn cael eu dilyn
  • cynnal fforwm rhanddeiliaid (grŵp Strategol Clefyd Coed Ynn Cymru) i drafod materion sy'n berthnasol i gyflawni'r dull gweithredu hwn, gan gynnwys datblygu canllawiau a datrys materion ymarferol
  • cynnal cysylltiadau â strategaethau, fforymau a grwpiau ledled Prydain Fawr a'r DU sy'n berthnasol i reoli clefyd coed ynn, a gwaith ymchwil byd-eang ar iechyd coed yn fwy cyffredinol
  • cynnal cysylltiadau â'r Strategaeth Gwyddoniaeth ac Arloesi ar gyfer Coedwigaeth ym Mhrydain Fawr sy'n cynnwys cydweithio ar flaenoriaethau ymchwil sy'n ymwneud â chlefyd coed ynn ac iechyd coed yn fwy cyffredinol 
  • gwerthuso ac adolygu ein dull gweithredu strategol a'n canllawiau yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gyfredol, gan adlewyrchu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r gwaith ymchwil gwyddonol diweddaraf ar glefyd coed ynn

Diogelwch

  • mae gweithio gyda choed marw a choed sy'n pydru bob amser yn dasg beryglus iawn ac mae dolenni wedi'u darparu i gyngor sydd eisoes ar gael i'r rhai sy'n gweithio gyda choed ynn y mae clefyd coed ynn yn effeithio arnynt 
  • mae'n bosibl na fydd y perygl yn hawdd ei ganfod ac efallai na fydd difrifoldeb y clefyd sy'n bresennol bob amser yn amlwg, felly mae'n hanfodol bod y gwaith yn cael ei wneud gan weithwyr proffesiynol sydd wedi'u hyfforddi ac sy'n meddu ar yr offer a'r sgiliau angenrheidiol i'w gyflawni'n ddiogel. Yn aml, y gweithwyr coed proffesiynol hyn fydd yn agored i'r risg fwyaf, ond efallai y bydd pobl eraill gerllaw megis defnyddwyr ffyrdd neu lwybrau troed mewn perygl, yn ogystal ag eiddo neu seilwaith hanfodol
  • dylai effaith diogelwch bob amser fod yn flaenoriaeth i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a dylid ei ystyried yn llawn wrth ystyried cadw coed ynn, yn unol â'r dull gweithredu a nodir yn y ddogfen hon. Mae hyn yn cynnwys pan fo rhywogaethau gwarchodedig o anifeiliaid neu adar dan sylw, ac mae canllawiau pellach ar gael gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar y prosesau i'w dilyn yn y sefyllfaoedd hyn

Y cefndir

Ers ei nodi gyntaf ym Mhrydain Fawr yn 2012, mae clefyd coed ynn wedi lledaenu'n gyflym, ac mae'r clefyd bellach yn endemig yng Nghymru. 

Mae clefyd coed ynn yn cyflwyno her sylweddol o ran rheoli tir i berchnogion tir, rheolwyr tir a ffermwyr sydd â choed ynn ar eu tir. Er bod y niferoedd yn cael eu lleihau oherwydd y clefyd, mae coed ynn yn dal i fod yn rhywogaeth llydanddail toreithiog yng Nghymru, ac maent y tu mewn a'r tu allan i goetiroedd, ar hyd ochrau ffyrdd a rheilffyrdd, mewn gwrychoedd neu'n goed unigol mewn caeau neu barciau a gerddi. 

Mae coed ynn yn brif rywogaeth canopi, sy'n meddiannu dros 20% o'r canopi mewn 48% o goetiroedd Llydanddail Iseldir Cymru a hefyd mewn 18% o Goetiroedd Llydanddail Ucheldir Cymru (Broome a Mitchell 2017). Mae cryfder a hyblygrwydd ei bren yn ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer defnyddiau mor amrywiol â fframiau cychod, handlenni offer, batiau pêl fas a ffyn hyrli. 

Yn ôl y Rhestr Goedwigoedd Genedlaethol (NFI (ar forestresearch.gov.uk), mae tua 17,500ha o goetir yng Nghymru lle mai coed ynn yw'r elfen gryfaf o'r canopi. Mae tua 600ha o'r coetir ynn hwn wedi'i leoli o fewn Ystad Goetir Llywodraeth Cymru a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae llawer o goed ynn yn bresennol y tu allan i goetiroedd, fodd bynnag, ni all y Rhestr Goedwigoedd Genedlaethol lunio amcangyfrifon cywir ar gyfer nifer y coed ynn sy'n goed ynn unigol, yn ffurfio nodweddion llinellol fel gwrychoedd a choed ar strydoedd, ymylon ffyrdd ac ochrau rheilffyrdd neu sydd o fewn coetir yn llai na <0.5ha ar dir preifat. 

Mae gan goetir ynn fanteision bioamrywiaeth pwysig ac mae'n lletya llawer o organebau, gan gynnwys rhai y mae'n “anorfod“ ar eu cyfer, sy'n golygu mai dyma'r unig ecosystem sy'n eu cefnogi. Er enghraifft, mae coed ynn o bwysigrwydd arbennig i gymunedau epiffytig mwsogl, llysiau'r afu a chennau ac mae wedi dod yn fwyfwy pwysig yn dilyn colli coed llwyfen yn eang. Mae'r pwysigrwydd sylweddol hwn yn gysylltiedig â pH uchel rhisgl coed ynn (Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur, 2014). 

Mae coed ynn hefyd arwyddocaol yn ddiwylliannol ac yn cael eu gwerthfawrogi am amrywiaeth eang o resymau, gan gynnwys rhesymau treftadaeth, ysbrydol a hamdden, yn ogystal ag am eu cyfraniad i'r dirwedd (Hall et al, 2021). 

Gwaith ymchwil cyfredol

Ers i glefyd coed ynn gael ei ganfod gyntaf ym Mhrydain yn 2012 bu ymdrech ar y cyd gan wyddonwyr ledled Prydain Fawr i ariannu ac arwain gwaith ymchwil i'r clefyd. Mae llawer iawn o'r gwaith ymchwil wedi'i gynnwys yn Strategaeth Ymchwil Clefyd Coed Ynn DEFRA (ar gov.uk) a'r strategaeth Gwyddoniaeth ac Arloesi ar gyfer Coedwigaeth ym Mhrydain Fawr (SIS). O fewn yr SIS mae gwaith ymchwil pellach yn cael ei wneud i ddeall yn well y berthynas bosibl rhwng Armillaria spp. (ffwng melog) a chlefyd coed ynn.

Yn eu gwaith ymchwil ar glefyd coed ynn hyd yn hyn, mae gwyddonwyr wedi canfod:

  • mae'r sborau yn annhebygol o oroesi am fwy nag ychydig ddyddiau
  • mae coed angen dos uchel o sborau i gael eu heintio
  • mae tebygolrwydd isel o wasgaru ar ddillad neu gan anifeiliaid ac adar
  • mae'r clefyd yn dod yn amlwg o fewn misoedd yn hytrach na blynyddoedd
  • ni fyddai cynhyrchion pren yn lledaenu'r clefyd pe baent yn cael eu trin yn iawn
  • ar ôl iddynt gael eu heintio, ni ellir gwella coed, ac
  • nid yw pob coeden yn marw o'r haint - mae rhai yn debygol o fod â ffactorau genetig sy'n rhoi goddefiant iddynt rhag y clefyd

Bydd y dull polisi hwn ar waith i ddechrau am 5 mlynedd a bydd yn cael ei hadolygu yn rheolaidd i sicrhau ei bod yn cyd-fynd â'r wybodaeth wyddonol ddiweddaraf am glefyd coed ynn. Ymdrinnir isod â dwy raglen ymchwil gyfredol: 

Prosiect Coed Ynn Byw

Mae'r Prosiect Coed Ynn Byw (ar livingashproject.org.uk) yn ei ail gam, a'i nod yw nodi nifer fawr ac amrywiol o goed ynn sydd â goddefiant da i glefyd coed ynn, er mwyn sicrhau'r deunydd hwn ar gyfer gwaith bridio pellach, a sicrhau bod y deunydd hwn ar gael yn gyflym i'r diwydiant. Bydd coed sy'n cael eu dewis yn cael eu sgrinio ymhellach ar gyfer goddefiant mewn dwy ffordd wahanol, drwy olion bysedd cemegol ac yn uniongyrchol drwy inocwleiddiadau a reolirGallwch gyfrannu at eu gwaith drwy roi gwybod am sbesimenau coed ynn sydd â goddefiant i'r prosiect.

Forest Research: ymchwil Chalara

Ers 2012, pan nodwyd clefyd coed ynn gyntaf yn y DU, mae Forest Research wedi bod yn ymwneud â gwaith i ddeall nodweddion ac ymddygiad y pathogen clefyd coed ynn Hymenoscyphus fraxineus ac effeithiau'r clefyd ar boblogaethau coed ynn yn y wlad hon (ar forestresearch.gov.uk). Mae'r gwaith pwysig hwn wedi cynnwys treialon goddefiant ac ymwrthedd, ymchwiliadau i strategaethau sborynnu pathogenau a heintiau, ac ecoleg a phatholeg clefyd coed ynn. Mae'r holl wybodaeth a gesglir yn hanfodol ar gyfer gwaith modelu clefydau sy'n fwy cywir a gwella gwaith modelu a rheoli clefydau.

Dyfodol coed ynn yng Nghymru

Er gwaethaf yr heriau presennol, credir y bydd amrywiaeth enetig o goed ynn cyffredin sy'n tyfu yn y DU yn cynnwys cyfran o goed unigol sydd â goddefiant i glefyd coed ynn a all fod yn sail i'r rhywogaeth barhau i ffurfio rhan o'n hamgylchedd naturiol fel coed aeddfed yn y dyfodol. 

Mae dull gweithredu strategol Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar wneud popeth o fewn ein gallu ar y cyd i feithrin goroesiad coed ynn sydd â goddefiant i'r clefyd yng Nghymru.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gydag awdurdodau iechyd planhigion ledled y DU i atal cyflwyno bygythiadau eraill i goed ynn, yn enwedig y tyllbryf onn emrallt (Agrilius planipennis). Mae hyn yn cynnwys deddfwriaeth i atal coed ynn rhag cael eu mewnforio o drydydd gwledydd y tu allan i'r UE sy'n parhau i gael eu gwahardd gan reoliadau iechyd planhigion, o dan ddarpariaeth sy'n gwahardd mewnforio rhywogaethau ‘risg uchel’ penodol. Mae hyn yn lleihau'r prif risg o gyflwyno mathau newydd o glefyd coed ynn sy'n bresennol yng ngwledydd Asia ond nid Ewrop, yn ogystal â phlâu fel y tyllbryf onn emrallt. 

Nid oes rheoliad iechyd planhigion sy'n ei gwneud yn ofynnol cael gwared ar goed ynn yn y DU. Yn wir, mae rhagdybiaeth o blaid gadael y coed hyn i sefyll er mwyn helpu poblogaethau coed sydd â goddefiant i oroesi a thyfu, a galluogi goroesiad hirdymor y coed ynn cyffredin fel rhywogaeth eang ei gwasgariad yn ein cefn gwlad.

Nid oes unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol ar symud coed ynn o fewn y DU a dim cyfyngiad ar symud pren coed ynn. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, nid oes unrhyw goed ynn gwarantedig sydd â goddefiant i'r clefyd ar y farchnad yn y DU. 

Cynghorir yn erbyn plannu coed ynn a symud planhigion ynn i'w plannu o ystyried y risg y byddant eisoes wedi'u heintio neu y byddant yn cael eu heintio cyn bo hir. Fodd bynnag, ni fwriedir i'r cyngor hwn atal y gwaith o gasglu neu luosogi eginblanhigion ynn a allai fod â godddefiant.

Nodweddion clefyd coed ynn

Mae'r clefyd i'w ganfod ledled Cymru ac er y bydd llawer o goed wedi cael eu heffeithio ers sawl blwyddyn, mae cynnydd y clefyd, a'r effaith y mae'n ei gael ar y coed yn amrywio.  Mae'r map hwn yn dangos clefyd coed ynn yn yr amgylchedd ehangach (ar chaleramap.fera.co.uk).

Gall coed cyfagos ddangos effeithiau amlwg amrywiol iawn a allai fod yn rhannol oherwydd gwahaniaethau ym mhotensial genetig coed ynn unigol i oddef y ffwng. Fodd bynnag, mae llawer o ffactorau ar waith, gan gynnwys nifer yr achosion o organebau heintio eilaidd, cymhlethdod morffolegol y goeden a statws iechyd cyffredinol yr onnen unigol. 

Mae H. fraxineus yn ffwng asgomysét sy'n heintio dail a phetiolau drwy sborau yn yr awyr. Mae'r symptomau'n amrywio o smotiau ar ddail i'r gangen yn gwywo a marwolaeth coed ynn a rhywogaethau Fraxinus eraill (Stokes. J. a Jones, 2019). Mae symptomau'r clefyd i'w gweld ar wefan Forest Research.

Mewn rhywogaethau coed ynn Asiaidd, ymateb y coed i'r haint yw i'r dail a'r petiolau ddisgyn oddi ar y goeden gan atal haint pellach i'r canghennau a'r prif goesyn. Nid yw'r mecanwaith amddiffyn hwn yn bresennol mewn coed ynn Ewropeaidd. Unwaith y bydd y ffwng yn lledaenu i rannau coediog y goeden, gall difrod a gwywo ddigwydd, yn gyntaf yn y blagur a'r brigau ac yn y pen draw yn y canghennau a'r prif goesyn.

Mae'r clefyd yn wahanol i bathogenau eraill sy'n effeithio ar goed yng Nghymru fel Phytophthora ramorum, a fydd, unwaith y byddant wedi mynd i mewn i'w lletywr yn parhau i dyfu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Gyda H. fraxineus, mae'r haint yn ynysig yn hytrach nag yn barhaus, ac ar ôl y tymor tyfu, mae angen ailheintio â sborau ffres er mwyn i'r clefyd ddatblygu ymhellach. Ar ôl blynyddoedd olynol o haint, bydd y brigdyfiant yn dechrau teneuo a bydd canghennau'n dysychu (Enderle, 2019). Mae cyflymder y dirywiad yn amrywio ond gall marwolaeth ddigwydd o fewn dau dymor tyfu gyda'r goeden yn gwanhau o ran cryfder y pren ac yn agored i fethu'n strwythurol. Mae coed sydd wedi'u heffeithio'n ddifrifol yn creu amodau cwympo coed risg uchel i weithredwyr sy'n gweithio ar y goeden neu gerllaw iddi (Comisiwn Coedwigaeth, 2018).

Nodwedd bwysig arall o glefyd coed ynn yw'r effaith y gall ei chael ar waelod a system wreiddiau'r goeden gan y gall unrhyw bydredd yn yr ardal honno effeithio'n sylweddol ar gyfanrwydd strwythurol y goeden. 

Mae'r ffwng yn lledaenu drwy sborau yn yr awyr. Caiff y rhain eu rhyddhau gan ffrwythgyrff sy'n dod i'r amlwg ar ddail a oedd wedi'u heintio o'r blaen, a geir yn aml yn yr haen sbwriel o amgylch yr onnen heintiedig.

Gellir gweld ffrwythgyrff o fis Mehefin i fis Medi sef pan gaiff sborau eu rhyddhau. Mae ymchwilwyr wedi canfod y gall sborau a ryddhawyd deithio hyd at ddegau o gilometrau wrth i wynt eu gwasgaru. 

Effeithiau ar yr amgylchedd a chynefinoedd

Mae coed ynn a choetir ynn yn elfen bwysig yn ein tirwedd. Hyd yn oed pan fydd y clefyd yn effeithio arnynt, maent yn darparu cynefinoedd pwysig ar gyfer rhywogaethau anifeiliaid a phlanhigion eraill. Mae coed marw a choed sydd ar fin marw yn darparu mannau gorffwys ar gyfer rhywogaethau adar ac anifeiliaid fel ystlumod a chnocellod y coed. 

Lle bo'n bosibl ac yn ddiogel gwneud hynny, dylid gadael coed ynn i bydru'n naturiol yn hytrach na'u cwympo. Wrth gwympo coed ynn, dylid cymryd gofal mawr i osgoi difrod i gynefinoedd pwysig a dylid cael cyngor gan Cyfoeth Naturiol Cymru lle gellid effeithio ar rywogaethau a warchodir.

Strategaethau a chyngor cysylltiedig

Mae strategaethau a chyngor cysylltiedig eraill y dylid eu darllen ar y cyd â'r dull polisi hwn yn cynnwys: 

Strategaethau

  • yn Strategaeth Bioddiogelwch Planhigion Prydain Fawr (2023 i 2028), rydym yn gweithio mewn partneriaeth i fynd i'r afael â'r heriau sy'n codi o'r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae'r strategaeth hon yn nodi ffyrdd y byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i atal plâu a chlefydau eraill rhag dod i mewn a lledaenu ledled Cymru yn ogystal â chanolbwyntio ar waith ymchwil 
  • mae strategaeth Coetiroedd i Gymru (2018)  wedi ymrwymo i ddod â mwy o goetiroedd o dan fesurau rheoli, ehangu coetiroedd yng Nghymru a gwella gwytnwch coetiroedd a choed er budd y cyhoedd 
  • mae'r ddogfen Common Sense Risk Management of Trees (ar forestresearch.gov.uk) a gyhoeddwyd gan y Grŵp Diogelwch Coed Cenedlaethol yn nodi dull pragmatig, cymesur o ran risg a delio â choed heintiedig a'r perygl y gallant ei beri, wedi'i anelu at berchnogion a rheolwyr tir

Cyngor a chanllawiau