Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cwmni Clayton Engineering Limited i ehangu'n sylweddol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dyma'r contract unigol mwyaf y mae'r cwmni o Drefyclo wedi'i ennill hyd yma, ac mae'n un o'r contractau mwyaf sylweddol a ddyfarnwyd gan yr RNLI ar gyfer offer lansio ac adfer cychod. 

Bydd Clayton Engineering Limited, sy'n gwmni dylunio a datblygu arbenigol, yn gweithgynhyrchu hanner fflyd yr RNLI o gerbydau Shannon sy'n cael eu harchebu ar hyn o bryd. Bydd y cwmni hefyd yn gyfrifol am ddarparu cymorth cynhwysfawr i'r fflyd gyfan drwy gontract cymorth logisteg integredig. 

Mae system lansio ac adfer Shannon yn gerbyd hydrostatig pedwar trac sy'n 22 o fetrau o hyd ac yn pwyso 37 o dunelli. Mae'n gerbyd hynod symudol a gall ddringo graddiant dros 25% ar draeth cerrig mân gan gario bad achub sy'n pwyso 15 o dunelli. 

Er mwyn i Clayton Engineering Limited allu bodloni'r contract newydd yn effeithlon, mae angen i'r cwmni ehangu ei gyfleuster cynhyrchu i gynyddu capasiti. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu grant datblygu eiddo gwerth £99,593 tuag at y gost o adeiladu estyniad gwerth £500,000 i'r adran saernïo a weldio. Ar hyn o bryd, mae'r cwmni'n cyflogi 42 o bobl a bydd y buddsoddiad yn diogelu wyth swydd yn ogystal â chreu cyfleoedd i hyfforddi o leiaf tri aelod o staff medrus newydd i weithio yn y gweithdy. 

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:

"Dyma gontract pwysig iawn i Clayton Engineering Limited ac mae'n brawf o arbenigedd gweithgynhyrchu, gallu a gweithlu hynod fedrus y cwmni. 

"Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn gallu cefnogi'r cwmni i dyfu ac ehangu drwy grant datblygu eiddo. Bydd hyn yn sicrhau bod y busnes yn parhau'n gystadleuol iawn ac yn dal i ddarparu gwasanaeth o'r radd flaenaf o'r canolbarth. 

"Mae'n newyddion da clywed bod y cwmni'n meithrin y talent sydd gennym yng Nghymru, yn datblygu gweithlu'r cwmni ac yn creu cyfleoedd drwy ei gynllun prentisiaethau." 


Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Clayton Engineering, David White: 

"Rydyn ni'n cynnal rhaglen fuddsoddi sylweddol i ddatblygu ein seilwaith a hyfforddi staff newydd er mwyn gwella gallu ac adnoddau'r cwmni.

"Elfen allweddol o'r strategaeth hon yw'r cyfleuster weldio newydd a fydd yn galluogi i strwythurau trymach a llawer mwy gael eu gweithgynhyrchu ar y safle. Bydd hefyd yn caniatáu i'r storfeydd a'r adran lle daw nwyddau i mewn i'r safle ehangu i'r rhan lle bu'r weldwyr yn gweithio pan fydd y gweithdy newydd yn barod tuag at ddiwedd mis Mawrth 2017. 

"Ar y cyfan, rydyn ni'n buddsoddi tua £750,000 yn ein cyfleusterau a'n cyfarpar. Mae'r grant datblygu eiddo yn rhan hanfodol o'r buddsoddiad hwn gan ei fod yn sail i'r benthyca ychwanegol a'r gallu i ryddhau'r buddsoddiad cyfalaf sydd ei angen i ariannu datblygiad mor fawr ar gyfer cyfleusterau gweithgynhyrchu Clayton Engineering." 


Mae'r cerbyd lansio ac adfer Shannon cyntaf gan Clayton Engineering bellach ar waith yng Ngorsaf Bad Achub Ilfracombe. Mae'n un o'r darnau mwyaf cymhleth o gyfarpar y mae'r cwmni'n ei gynhyrchu ac mae wedi defnyddio'i holl alluoedd peirianneg craidd, y gwaith o gynhyrchu saernïaeth gymhleth a mawr ac adeiladu a phrofi cerbyd sy'n cynnwys system hydroleg soffistigedig a reolir yn electronig. Mae disgwyl i'r contract gweithgynhyrchu presennol ar gyfer cerbydau Shannon ddod i ben tuag at ddiwedd 2020, gyda'r contract cymorth yn parhau tan 2022.