Canllawiau i ddefnyddwyr potiau a thrapiau i'n helpu i reoli pysgodfeydd cregyn cynaliadwy.
Dogfennau
Cimychiaid, cimychiaid coch, crancod, corgimyciaid a chregyn moch: canllawiau pysgota â photiau a thrapiau (is-ddeddf 30) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 215 KB
PDF
215 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Manylion
Mae B30 yn berthnasol i ardal o'r môr o'r Parlwr Du (Sir y Fflint) i Drwyn Cemaes (Ceredigion). Bydd y drwydded yn rhoi rhif cofrestru i'w arddangos ar unrhyw gwch sy'n cael ei defnyddio a'r holl offer pysgota. Mae trwyddedau yn cyfyngu ar nifer y:
- potiau neu drapiau y cewch eu defnyddio
- pysgod cregyn sy'n cael eu dal bob dydd