Gallwch wneud cais am daliad o £500 oddi wrth eich awdurdod lleol os ydych wedi cael gwybod y dylech chi hunanynysu ac os na allwch weithio gartref.
Mae’r cynllun cymorth hunanynysu wedi’i greu ar gyfer pobl ar incwm isel, nad ydynt yn gallu gweithio gartref ac sy’n gorfod hunanynysu. Mae hefyd ar gyfer rhieni a gofalwyr ar incwm isel sydd â phlant sy’n hunanynysu.
Darllenwch ragor i gael gwybod a ydych chi’n gymwys i gael y taliad.