Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwaith ar y gweill i edrych ar yr opsiynau ar gyfer uwchraddio hanfodol i'r A494 ar Bont Afon Dyfrdwy yn Sir y Fflint, yn ôl cyhoeddiad gan Ken Skates y Gweinidog Trafnidaieth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae arolygon amgylcheddol ac ar y tir yn cael eu cynnal ar hyn o bryd yn yr ardal a chynhelir Arddangosfeydd Gwybodaeth i'r Cyhoedd ym mis Gorffennaf i gyflwyno'r tîm, hysbysu'r cyhoedd ar y sefyllfa bresennol a sut y byddant yn edrych ar yr opsiynau i wella'r groesfan.

Mae uwchraddio y Bont ar yr Afon Dyfrdwy yn cael ei ddisgrifio yn nogfen 'Symud Cymru Ymlaen' gan Lywodraeth Cymru fel cynllun datblygu i fynd i'r afael â'r tagfeydd traffig presennol a goresgyn y problemau sydd ar hyn o bryd gyda'r bont.

Mae'r groesfan, a adeiladwyd yn 1960, yn llwybr strategol allweddol rhwng Gogledd-ddwyrain Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr ac mae'n cludo dros 61,000 o gerbydau y dydd.

Mae'r ffigwr hwnnw i gynyddu dros yr 20 mlynedd nesaf ac rydym yn edrych ar welliannau posibl ar hyn o bryd i sicrhau bod y bont yn fwy gwydn.

Mae Llywodraeth Cymru, drwy Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru, wedi comisiynu Mott MacDonald a'u partneriaid Richards, Morehead & Laing i edrych ar yr opsiynau ar gyfer gwella.

Cynhelir yr Arddangosfeydd Gwybodaeth i'r Cyhoedd yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy ddydd Sadwrn 14 Gorffennaf rhwng 10am-4pm ac yn Neuadd Eglwys St Andrews Garden City ddydd Llun 16eg Gorffennaf rhwng 2pm-8pm. Mae'r ddau ddigwyddiad am ddim ac mae croeso i bawb.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth:

"Rydym yn buddsoddi cyllid sylweddol yn ardal Glannau Dyfrdwy i wella'r seilwaith trafnidiaeth ac i fynd i'r afael â'r problemau ar hyn o bryd gyda'r traffig.

"Mae cynllun gwelliant Pont yr Afon Dyfrdwy ar yr A494 yn ddatblygiad pwysig fydd yn sicrhau bod y bont bresennol yn fwy gwydn ac yn cynnig cyfleoedd i alinio'r gerbytffordd yn well i helpu i leihau tagfeydd a gwella diogelwch.

"Mae'r gwaith cychwynnol ar y gweill gydag arolygon yn cael eu cynnal ar hyn o bryd ac mae'r Arddangosfeydd Gwybodaeth i'r Cyhoedd yn gyfle da i bobl gyfarfod y tîm a dysgu mwy am y cynllun."