Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau chwilio am Gomisiynydd Pobl Hŷn nesaf Cymru.
Cafodd rôl Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, sef llais annibynnol ac eiriolwr dros bobl hŷn 60 oed a throsodd ledled Cymru, ei chreu gan Lywodraeth Cymru yn 2008. Mae gwaith y Comisiynydd yn cael ei arwain gan yr hyn y mae pobl hŷn yn ei ddweud sy’n bwysig iddynt hwy ac mae'n sicrhau bod eu llais wrth wraidd popeth y mae'r comisiynydd yn ei wneud.
Mae’r Comisiynydd Pobl Hŷn yn:
- hybu ymwybyddiaeth o hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru
- herio gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn yng Nghymru
- annog arferion gorau yn y ffordd y mae pobl hŷn yn cael eu trin yng Nghymru
- adolygu’r gyfraith sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru.
Penodwyd y comisiynydd presennol, Sarah Rochira, ym mis Mehefin 2012 am gyfnod o bedair blynedd. Cafodd y cyfnod hwnnw ei ymestyn y llynedd am ddwy flynedd arall, ac mae'n dod i ben ym mis Mehefin 2018.
Mae Llywodraeth Cymru bellach yn gwahodd ceisiadau gan bobl sydd â diddordeb mewn bod yn drydydd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Y dyddiad cau yw 13 Hydref 2017.
Yn dilyn ymarfer penodiadau cyhoeddus llawn, a fydd yn cynnwys cynrychiolwyr pobl hŷn, disgwylir y bydd comisiynydd newydd yn cael ei benodi gan y Prif Weinidog yn y gwanwyn 2018 am gyfnod cychwynnol o bedair blynedd, gyda'r comisiynydd newydd yn dechrau yn y rôl ym mis Mehefin 2018.
Dywedodd y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans:
“Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i sefydlu rôl Comisiynydd Pobl Hŷn, i helpu i sicrhau ein bod yn wlad lle mae pobl hŷn yn cael eu parchu, eu gwerthfawrogi a'u cefnogi i fyw bywyd diogel a dedwydd, a’u bod yn cael clust i wrando.
“Mae'r rôl hon o bwys mawr i Lywodraeth Cymru ac edrychaf ymlaen at gael ceisiadau gan ystod eang o ymgeiswyr o'r radd flaenaf sydd â diddordeb mewn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl hŷn yng Nghymru.”