Neidio i'r prif gynnwy

Yn ystod ymweliad diweddar â Fferm Trychfilod Dr Beynon, cafodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies gyfle i ddysgu mwy am ryfeddodau pryfed, y rôl y maent yn ei chwarae yn ein bywydau a'r hyn y gall bodau dynol ei wneud i'w helpu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wedi'i leoli ger Tyddewi, mae Fferm Trychfilod Dr Beynon yn ganolfan ymchwil ac ymwelwyr arloesol ac unigryw, fferm a gwarchodfa natur sydd â Sŵ Trychfilod Trofannol, Amgueddfa Drychfilod, Tŷ Trychfilod Prydeinig, Arddangosfa Ffermio Trychfilod, Llwybrau Fferm a Gardd Furiog.

Yn ystod ei ymweliad, cafodd Ysgrifennydd y Cabinet gyfle i weld sut mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru o'r Gronfa Rhwydweithiau Natur a chyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur wedi ei ddefnyddio i redeg ei phrosiect Cysylltu Tir Comin a’r Ganolfan Adfer Natur.

Nod y prosiect yw llenwi'r bylchau yn y coridor cynefinoedd tameidiog ar draws penrhyn Tyddewi i gryfhau gwytnwch ei rwydwaith o dir gwarchodedig.

Cafodd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd gyfle i weld llwybr y peillwyr sy'n cael ei ail-lansio eleni. Arweiniodd Llwybr Peillwyr Tyddewi at ddynodi Tyddewi fel dinas 'Cyfeillgar i Wenyn' gyntaf Cymru.

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet: 

Mae wedi bod yn wych ymweld â Fferm Trychfilod Dr Beynon sy'n canolbwyntio cymaint ar adfer natur, gallwn ni i gyd ddysgu o'r hyn sydd wedi'i gyflawni yma.  Mae popeth yn dod at ei gilydd yma mewn gwe wych o fwyd, ffermio, ymchwil a chadwraeth i hyrwyddo bioamrywiaeth ac adfer natur.

"Roedd yn ddiddorol dysgu mwy am bwysigrwydd chwilod y dom Prydain sydd yn anffodus yn dirywio. Maent yn chwarae rhan hanfodol wrth leihau tail ar borfa. Mae chwilod y dom ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn y dom eraill yn awyru pridd yn naturiol yn ogystal â lleihau nwyon tŷ gwydr.

"Diolch yn fawr iawn i bawb yn Fferm Trychfilod Dr Beynon - am le gwych i ymweld ag ef."

Meddai Dr Sarah Beynon, Cyfarwyddwr Sefydlu: 

"Roedd yn wych dangos ein gwaith gyda ffermwyr, milfeddygon a chyrff cadwraeth  i Ysgrifennydd y Cabinet wrth gysylltu cynefin bywyd gwyllt yma ar benrhyn Tyddewi. Mae gennym gyfle gwych i'r gwaith hwn gael ei ddefnyddio fel astudiaeth achos o atebion arloesol a chydweithredol ar gyfer adfer natur ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd cynaliadwy. Edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr i'r Fferm Drychfilod i weld y prosiect hwn ar waith".