Neidio i'r prif gynnwy

Mae rhai o ffigurau chwedlonol enwocaf Cymru yn ymddangos yn y ffilm Transformers: The Last Knight, a fu'n ffilmio golygfeydd amlwg ar leoliad yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ogystal â Myrddin a'r Brenin Arthur, mae cynhyrchiad Paramount Pictures hefyd yn cynnwys draig yn y dilyniant hwn cyffrous hwn i'r Ffilm Transformers: Age of Extinction, ble y mae robotiaid enfawr yn edrych ar hanes y Transformers ar y Ddaear er mwyn mynd i'r afael â bygythiad newydd.
Wedi'i gyfarwyddo gan Michael Bay a'i ysgrifennu gan Art Marcum a Matt Holloway (Iron Man) a Ken Nolan (Black Hawk Down), mae'n cynnwys Mark Wahlberg, Syr Anthony Hopkins a Josh Duhamel.
Bydd yn cael ei rhyddhau yn y DU ar 22 Mehefin 2017 ac yn UDA ar 21 Mehefin a dyma fydd un o lwyddiannau mwyaf yr haf.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 

"Mae Transformers yn fasnachfraint hynod lwyddiannus ar y sgrîn fawr ac mae'n newyddion gwych - ac yn addas iawn - eu bod yn dewis ffilmio rhan o'r ffilm hon yng Nghymru. Mae'n cynnwys rhai ffigurau a lleoliadau chwedlonol o Gymru, sy'n cyd-fynd yn berffaith â'n hymgyrch Blwyddyn Chwedlau Croeso Cymru 2017. Mae hefyd yn gyfle gwych i griw o gymru fod yn rhan o hyn ac i fagu profiad hynod werthfawr o weithio ar gynhyrchiad mor fawr.

Bu Sgrîn Cymru yn helpu i ddod o hyd i leoliadau addas ar gyfer y tîm cynhyrchu, a ddewisodd hen chwarel ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog fel cefndir delfrydol ar gyfer rhai o'r rhannau mwyaf dramatig, oedd yn cynnwys Josh Duhamel a rannodd negeseuon ar Instragram am ei amser yng Nghymru, fel y gwnaeth y Cyfarwyddwr Michael Bay hefyd.
Bu'r criw o 400 - sy'n cynnwys 50 o weithwyr llawrydd o Gymru - yn treulio cyfanswm o 28 niwrnod yn yr ardal yn ystod mis Awst y llynedd yn paratoi'r safle, yn ffilmio ac yna'n tynnu'r set i lawr. 
Bu Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, sydd â phrofiad o weithio ar gynyrchiadau mawr sydd wedi ffilmio yn yr ardal yn y gorffennol, hefyd yn helpu yn  ystod y ffilmio.
Ychwanegodd John Cook, Prif Swyddog Gweithredol Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:
"Roedd cael Transformers yn ffilmio ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ystod haf y llynedd yn amser cyffrous i bawb fu'n rhan o hynny. Rydym yn lwcus iawn fod gennym amrywiaeth eang o leoliadau prydferth yma, gan gynnwys popeth o dirweddau agored dramatig, coedwigoedd cynhenid, rhaeadrau anhygoel ac yn yr achos yma hen chwarel. Mae gan ein Swyddog Ffilmio a'n tîm o Wardeniaid brofiad o weithio gydag ystod eang o geisiadau ffilmio ac mae' rhain yn eu tro yn cefnogi'r economi leol."