Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Rydym yn falch o fod yn genedl sy’n rhoi gwerth mawr ar gampau, fel rhai sy’n cymryd rhan ynddynt ac yn eu gwylio ar bob lefel, ond mae’r cyfnod hwn yn amlwg yn gyfnod ansicr iawn i ailddechrau chwaraeon. Mae’r argyfwng iechyd cyhoeddus sy’n gysylltiedig â’r pandemig coronafeirws wedi creu heriau digynsail gyda hyfforddi a chwaraeon cystadleuol wedi’u hatal a chyfyngiadau symud ar waith ers mis Mawrth, gan atal y rhan fwyaf o weithgareddau chwaraeon a hamdden.  

Mae cynllun Llywodraeth Cymru ‘Llacio’r Cyfyngiadau ar ein Cymdeithas a’n Heconomi’, a gyhoeddwyd ar 15 Mai, yn amlinellu sut y gallwn ddychwelyd fesul cam i’n bywydau arferol. O safbwynt chwaraeon, mae’r cynllun yn dangos y gallai’r unigolion hynny yn y maes chwaraeon proffesiynol ac elît ailddechrau rhyw fath o hyfforddiant ar ddechrau cyfnod ‘coch’ y cynllun, gyda chwaraeon tîm a chynulliadau mwy yn digwydd yn hwyrach yn y cyfnod ‘gwyrdd’. 

Wrth i’n cymunedau ddechrau cynllunio ar gyfer llacio cyfyngiadau yng Nghymru, bydd chwaraeon yn ystyriaeth hynod bwysig. Mae clybiau a sefydliadau chwaraeon a’r unigolion sy’n cymryd rhan yn y campau yn rhan annatod o fywyd pob dydd. Byddant hwy a’r cannoedd o filoedd o Gymry sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon am ddychwelyd ac ailgydio ynddynt cyn gynted â phosibl. Ond rhaid cydlynu’r camau yn ofalus, gan roi iechyd pobl yn gyntaf. 

Lluniwyd y canllawiau hyn i gefnogi’r broses honno. Caiff y dull o weithio ei lywio gan y safbwynt ehangach o ran iechyd y cyhoedd, diogelwch pobl a staff yn y maes chwaraeon, a chynaliadwyedd ariannol y sector. Mae’r canllawiau’n cydnabod bod y sector yn un cymhleth, a bod pob camp a phob clwb yn gweithio o fewn cyfres unigryw o amgylchiadau ac yn ymateb i gyd-destunau lleol. Mae hefyd yn bodoli o fewn cyd-destun deddfwriaethol sy’n newid yn barhaus a dylid ei ystyried ochr yn ochr ag egwyddorion a rheoliadau cyffredinol sy’n bodoli eisoes. Nid yw’r canllawiau hyn yn ailadrodd yn llawn y canllawiau sydd eisoes ar gael , ond maent yn atodol i’r canllawiau hynny gyda chyngor penodol i’r sector. Cawsant eu cynllunio i helpu unigolion, clybiau a sefydliadau yn y maes chwaraeon i sicrhau eu bod yn ailgyflwyno hyfforddiant rheolaidd a chwaraeon cystadleuol i athletwyr a staff mewn ffordd ddiogel, gan gadw at ganllawiau pellter cymdeithasol. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio’n agos â nifer o bartneriaid a rhanddeiliaid, gan gynnwys Chwaraeon Cymru a Chymdeithas Chwaraeon Cymru, i ddatblygu’r canllawiau hyn. Mae’r byd chwaraeon yng Nghymru wedi dod ynghyd i fynd i’r afael â’r pryderon o ran iechyd y cyhoedd sy’n codi wrth ailgyflwyno gweithgareddau, hyfforddiant a chystadlu mewn modd cynhwysol. Maent am ddangos eu bod yn gallu mynd ati ar y cyd i roi camau lliniaru ar waith i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Gan fod nifer o faterion yn gyffredin ar draws chwaraeon, gan ddibynnu ar y cyd-destun y cynhelir hwy ynddo, gellir datblygu pethau’n sylweddol drwy gydweithio. 

Nid yw’r canllawiau hyn yn gyngor cyfreithiol nac yn disodli unrhyw gyngor gan y llywodraeth neu Iechyd Cyhoeddus Cymru; nid yw ychwaith yn cynnig unrhyw sylwadau na chyngor ar faterion sy’n gysylltiedig ag iechyd. Dylai unigolion, clybiau chwaraeon, cyrff llywodraethu cenedlaethol a sefydliadau yr effeithiwyd arnynt sicrhau felly eu bod yn cael cyngor annibynnol gan ymarferwyr meddygol cyn rhoi unrhyw gynllun i ailgydio mewn chwaraeon ar waith. 

Proses yw hon, nid digwyddiad, sy’n digwydd o fewn cyd-destun sy’n datblygu. Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw rôl ffurfiol i benderfynu ar brotocolau penodol a ddatblygir gan gampau penodol, clybiau na chyfleusterau ar gyfer dychwelyd i gymryd rhan pan fydd yn briodol ac yn ddiogel i wneud hynny, ond bydd yn parhau i gynghori a byddwn yn cydweithio’n agos â’r sector am gyfnod estynedig i gynorthwyo â’r broses o ailgyflwyno chwaraeon mewn ffordd gynhwysol a diogel. Caiff y canllawiau hyn eu hadolygu’n rheolaidd a bydd diweddariadau’n cael eu darparu drwy ein partneriaid.

Rheoliadau iechyd coronafeirws

Cyflwynodd Cymru, fel gweddill y DU, reoliadau llym ar aros gartref / cadw pellter cymdeithasol a chau busnesau ac adeiladau ddiwedd mis Mawrth, i gyfyngu ar ledaeniad y coronafeirws a diogelu’r GIG.  

Mae’r rheoliadau ar aros gartref yn gofyn i bobl ystyried yn ofalus pryd y dylent adael y cartref. Rhaid bod gan bobl reswm da dros adael y cartref. Er enghraifft: mynd i siopa am hanfodion; mynd i’r gwaith os na allwch weithio o’r cartref; cael gofal iechyd; neu ymarfer corff a mynd allan i’r awyr agored. Bob tro yr ydym yn gadael y cartref, mae perygl y byddwn yn dod i gysylltiad â’r feirws, gan ei ledaenu ymhellach. 

Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu’r rheoliadau bob 21 o ddiwrnodau ac, ar sail y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf, yn ystyried a oes angen iddynt barhau neu a ellir eu llacio. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau a chyfres o gwestiynau cyffredin i ategu unrhyw ddiwygiadau. Mae dogfennau allweddol eraill gan Lywodraeth Cymru hefyd yn cael eu diweddaru yn ôl yr angen i ystyried unrhyw newidiadau neu lacio a wnaed. 

Adolygwyd y rheoliadau ddiwethaf ar 29 Mai 2020. Mae’r dystiolaeth ddiweddaraf gan y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau’r DU (SAGE) a chyngor Prif Swyddog Meddygol Cymru yn dweud bod y brig cyntaf yn nifer y rheini sydd wedi’u heintio wedi pasio a bod y cyfraddau yn parhau i ostwng. Mae’n dal yn rhy gynnar, fodd bynnag, i godi’r gofynion na’r cyfyngiadau yn sylweddol. Mae’r rheoliadau ar gadw pellter cymdeithasol a chau busnesau yn parhau’n weithredol. Rhaid i bobl aros yn eu hardal leol ac ni ddylent fod o dan do gydag unrhyw un nad yw’n byw yn yr un cartref â nhw oni bai bod ganddynt reswm da. 

O 1 Mehefin 2020 ymlaen, bydd unigolion o ddau gartref yn yr un ardal leol yn cael cyfarfod yn yr awyr agored. Wrth wneud hyn, fodd bynnag, bydd rhaid i bobl barhau i ddilyn y canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol a’r arferion hylendid dwylo llym er mwyn rheoli lledaeniad y feirws. Ystyr ‘lleol’ yw peidio â theithio mwy na 5 milltir o’r cartref yn gyffredinol, er mwyn lleihau’r risg y bydd y coronafeirws yn lledaenu rhwng ardaloedd. Golyga’r newidiadau y gall pobl gyfarfod ag eraill o gartref arall yn yr awyr agored yn eu hardal leol, ond bydd yr holl reolau i amddiffyn pobl rhag y coronafeirws yn parhau ar waith am y tro. Mae 'cwestiynau cyffredin' Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r rheoliadau coronafeirws yn cael eu diweddaru’n rheolaidd er mwyn rhoi cyngor ar yr hyn y gall unigolion a busnesau ei wneud, a’r hyn na allant ei wneud, yn ystod y pandemig.

O ran gadael y cartref i ymarfer corff, mae’r rheoliadau yn caniatáu i bobl:

  • ymarfer fwy nag unwaith y dydd;
  • ymarfer ar eich pen eich hun, gyda rhywun sy’n byw gyda chi neu rywun sy’n byw mewn un cartref arall – nid oes caniatâd o hyd i bobl wneud ymarfer corff mewn grwpiau o ffrindiau. Mae cadw pellter o 2 fetr o leiaf yn hanfodol – mae hyn wedi’i gynnwys yn y rheoliadau;  
  • ymarfer yn lleol – dylai ymarfer corff ddechrau a dod i ben yn y cartref. Gallai rhai mathau o ymarfer corff ddechrau’n lleol ond mynd â chi ymhellach am gyfnod (e.e. os byddwch yn beicio, rhedeg neu gerdded am gryn bellter). Mae gwneud ymarfer corff fel math o deithio “llesol” fel hyn yn cael ei ganiatáu yn awr, ar yr amod ei fod yn dechrau ac yn dod i ben yn y cartref.
  • gyrru i rywle i wneud ymarfer corff neu gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored – mae hyn yn cael ei ganiatáu, ar yr amod y byddwch yn aros yn eich ardal leol. Ni ddylid teithio y tu hwnt i’ch ardal leol i wneud ymarfer corff mewn ardaloedd gwledig, ar yr arfordir nac mewn mannau prydferth eraill. Mae llawer o fannau prydferth, er enghraifft, wedi cael eu cau i atal pobl rhag ymgynnull. Ni ddylech deithio ychwaith (mewn car, ar feic modur na thrwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus) i rannau pellaf eich ardal leol cyn dechrau ymarfer corff, er mwyn caniatáu ichi deithio ymhellach y tu hwnt i’ch ardal wrth ichi wneud yr ymarfer corff. Mae’r eithriad sy’n caniatáu i bobl ymarfer corff y tu hwnt i’w hardal leol yn cynnwys y gofyniad bod yr ymarfer corff hwnnw yn dechrau ac yn dod i ben yn y cartref – beicio am gryn bellter, er enghraifft.

Nid yw’r rheoliadau yn rhwystro unrhyw fath penodol o ymarfer corff na gweithgaredd awyr agored, ar yr amod eich bod yn aros yn lleol, ond yn ymarferol mae’r math o ymarfer corff a ganiateir wedi’i gyfyngu i raddau gan y cyfyngiadau sydd wedi’u defnyddio i reoli’r coronafeirws. Er enghraifft, mae pyllau nofio dan do, cyrtiau chwaraeon a chanolfannau hamdden wedi’u cau, a rhai llwybrau troed, safleoedd o harddwch a rhannau o gefn gwlad wedi’u cau. Mae rhestr fwy maith yn cynnwys canolfannau sglefrio rhew, canolfannau ffitrwydd dan do, campfeydd, sbas, meysydd chwarae, cyrtiau chwaraeon a champfeydd awyr agored.

I osgoi cynyddu’r baich ar y GIG, rydym hefyd yn cynghori pobl i beidio â chymryd risgiau diangen wrth wneud ymarfer corff. 

Ceir enghreifftiau o’r dulliau ymarfer a gweithgareddau chwaraeon a ganiateir, gan gynnwys canllawiau ar gyfyngiadau’r gweithgarwch presennol a ganiateir o fewn y rheoliadau.

Datblygu canllawiau ar y cyd i ailgydio mewn chwaraeon yn raddol

Mae cysylltu’n gynnar â’n sectorau chwaraeon, gyda chymorth Chwaraeon Cymru a Chymdeithas Chwaraeon Cymru, wedi bod yn hanfodol i ddechrau datblygu canllawiau ar y cyd i ailgydio mewn chwaraeon yn raddol. Trwy gydweithio, lluniodd y sector fframwaith sylfaenol ar gyfer dychwelyd yn raddol a amlinellwyd yng nghynllun Llywodraeth Cymru ‘Llacio’r Cyfyngiadau ar ein Cymdeithas a’n Heconomi’. 

Bydd yr amseru ac i ba raddau y bydd y gweithgareddau’n ailddechrau ar draws pedai’r thema’r cynllun yn amrywio wrth inni fynd drwy’r cyfnodau ar gyfer dod allan o’r cyfyngiadau symud. Fodd bynnag, mae’r neges yn glir: mae rhai gweithgareddau – oherwydd y cyfyngiadau pellter cymdeithasol – yn ei gwneud yn haws i ailddechrau’n gynharach nag eraill ac mae angen dull gweithredu wedi’i gydlynu. 

  • Cyfyngiadau Caeth - ymarfer corff unwaith y dydd y tu allan i’ch tŷ ar eich pen eich hun neu gydag aelodau eraill o’ch cartref.
  • Coch - ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd a gweithgareddau eraill yr un pryd yn lleol. Agor meysydd chwaraeon awyr agored. Athletwyr elît yn ailddechrau rhai gweithgareddau.
  • Oren - chwaraeon timau ac unigol, chwaraeon a gemau digyffwrdd mewn grwpiau bach y tu mewn ac yn yr awyr agored. Rhai digwyddiadau awyr agored gyda chyfyngiad ar nifer y bobl, a digwyddiadau y tu ôl i ddrysau caeedig i’w darlledu.
  • Gwyrdd - agor pob gweithgaredd chwaraeon, hamdden a diwylliannol gan gadw pellter corfforol. Ailddechrau cynnal pob digwyddiad gyda chyfyngiad ar nifer y bobl. 

Ers cyhoeddi’r cynllun, mae’r sector wedi parhau i ddatblygu dull cydlynol o weithio. Mae hyn wedi golygu sefydlu grwpiau penodol, gyda cynrychiolaeth ar draws y gweithgarwch chwaraeon ledled Cymru, i ystyried heriau mwy penodol yn gysylltiedig â’r themâu canlynol:  

  • chwaraeon elît a phroffesiynol
  • chwaraeon awyr agored
  • chwaraeon dan do a chyfleusterau hamdden

Dibeb pob grŵp yw datblygu dull o ddychwelyd yn raddol ac ystyried y cyfleoedd y gellir eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru fel rhan o bob adolygiad 21 niwrnod. Bydd angen i’r grwpiau hyn ystyried y canllawiau sydd eu hangen i gefnogi’r sector hefyd.   

Gan fod nifer o’r materion hyn yn gyffredin i sawl camp, gan ddibynnu ar y cyd-destun ar gyfer cynnal y gamp, gellir datblygu pethau’n sylweddol drwy gydweithio. Gyda’n gilydd rydym yn canolbwyntio ar annog cydweithio rhwng y cyrff sy’n rheoli chwaraeon a’r rhai sy’n darparu’r cyfleusterau, i ddod o hyd I’r atebion cywir er mwyn dychwelyd yn raddol. Mae’r grwpiau yn ystyried sut y bydd unrhyw argymhellion yn cael effaith ar deuluoedd incwm isel a chyfranogwyr anabl, i sicrhau bod y dull a ddefnyddir mor gynhwysol â phosibl. 

Dylid ystyried y canllawiau hyn hefyd yng nghyd-destun y rheoliadau a’r canllawiau mewn meysydd eraill o fywyd lle y mae rhyngddibyniaethau pwysig fydd yn cael effaith ar sut yr ydym yn symud ymlaen, megis cyfyngiadau ar deithio ac addysg a gofal plant. Bydd ailddechrau rhai gweithgareddau yn ddibynnol ar gael mynediad at safleoedd naturiol a diwylliannol yn yr awyr agored. Darperir canllawiau ar wahân ar agor y safleoedd hyn ar gyfer gweithgareddau hamdden gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Bydd cyfyngiadau ar gyfer aelodau hŷn o’r gymdeithas a/neu bobl sy’n fwy agored i niwed ac sy’n cael eu cynghori y dylent barhau i warchod eu hunain hefyd yn cael effaith ar sut y bydd chwaraeon, clybiau a chyfleusterau yn cynllunio ymlaen llaw ar gyfer dychwelyd yn raddol i gynnal gweithgareddau.

Ar 29 Mai dywedodd y Prif Weinidog y bydd Llywodraeth Cymru, yn yr adolygiad nesaf (18 Mehefin), yn ymchwilio i’r opsiynau gan gynnwys:

  • ailagor safleoedd awyr agored, gan gynnwys cyrtiau chwaraeon;
  • ailagor cyfleusterau ar gyfer athletwyr elît nad ydynt yn broffesiynol i hyfforddi’n ddiogel. 

Mae’r adran ganlynol yn rhoi crynodeb o’r prif faterion a godwyd hyd yma. Bydd angen datblygu canllawiau mwy penodol i gefnogi’r broses o lacio’r rheoliadau i alluogi ailddechrau chwaraeon yn llawn.  

Chwaraeon elît a phroffesiynol

Y prif faterion

Tynnodd y grŵp sylw at yr anhawster o ddychwelyd yn raddol i’r rhan fwyaf o’r chwaraeon elît tan i’r egwyddorion sylfaenol yn y rheoliadau gael eu llacio, megis caniatáu ymarfer corff gyda phobl sydd ddim yn byw gyda chi, caniatáu i fwy na dau berson ymgynnull mewn lle cyhoeddus a chaniatáu mwy o deithio ar gyfer gwneud ymarfer corff na’r hyn a ganiateir ar hyn o bryd (o 1 Mehefin mae hawl gennych i gyfarfod ag unigolion o gartref arall gan gydymffurfio â’r mesurau cadw pellter cymdeithasol a gwneud ymarfer corff gyda nhw). Tynnodd y grŵp sylw hefyd at faterion ehangach megis mynediad at leoliadau a chyfleusterau, y cyfnod rhybudd y mae’n ofynnol i gyfleusterau ei gael ar gyfer paratoi i ailagor yn ddiogel, y costau gormodol o gael timau meddygol a galluoedd profi, cyfyngiadau ar deithio yn y DU ac yn rhyngwladol, ac ystyriaethau economaidd e.e. y cynllun ffyrlo, yswiriant ac atebolrwydd. 

Mater pwysig arall y tynnwyd sylw ato oedd yr angen i lunio opsiynau a fyddai’n ei gwneud yn bosibl dychwelyd yn raddol i hyfforddiant diogel, gan gofio bod y cyfnodau i athletwyr Cymru allu cymhwyso ar gyfer y Gemau Olympaidd, y Gemau Paralympaidd a Gemau’r Gymanwlad yn agosáu. Mae athletwyr elît wedi’u taro gan y cyfyngiadau ar nifer o’r dulliau hyfforddi, a bydd hyn yn cael effaith ar eu gallu i gymhwyso ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol. Byddai rhaid rhoi ystyriaeth benodol hefyd i rai athletwyr paralympaidd a allai wynebu risg uwch, er mwyn eu galluogi i ddychwelyd yn ddiogel i hyfforddiant. Hefyd, fel yn achos chwaraeon proffesiynol, mae angen i athletwyr elît gael amodau cyfatal mewn rhannau eraill o’r DU a, maes o law, yn rhyngwladol. Fel arall, bydd llai o athletwyr o Gymru yn cystadlu ar y lefel uchaf, a bydd effaith ar berfformiad y rhai sy’n cystadlu. 

Effaith y rheoliadau presennol

O 1 Mehefin 2020 bu’n bosibl llacio rhai o’r cyfyngiadau ar wneud ymarfer corff, ond nid oes caniatâd o hyd i grwpiau o unigolion o fwy na dau gartref wneud ymarfer corff gyda’i gilydd ac mae’r rheolau cadw pellter cymdeithasol yn dal mewn grym. 

Yng nghyd-destun y rheoliadau sy’n ymwneud â’r cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru, mae gwahaniaethau ar hyn o bryd rhwng y rhai sydd yn y maes chwaraeon proffesiynol a’r maes chwaraeon elît. Teimlai’r grŵp ei bod yn bwysig egluro’r sefyllfa hon, i sicrhau cysondeb rhwng chwaraeon proffesiynol yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o’r  DU, yn enwedig pan fo cystadlaethau yn gweithredu ar draws ffiniau. Cafodd Pencampwriaeth bêl-droed EFL, sy’n cynnwys Clwb Pêl-droed Abertawe a Chlwb Pêl-droed Caerdydd, ei chrybwyll fel enghraifft. Gwnaeth y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ddatganiad i egluro’r sefyllfa bresennol ar 21 Mai.

Canllawiau – Chwaraeon proffesiynol 

Mae’r rhai sydd yn y maes chwaraeon proffesiynol ar lefel uchaf eu camp a byddant am ddychwelyd i hyfforddi cyn gynted â phosibl. Dyma yw eu gwaith; maent yn ennill bywoliaeth o’r chwaraeon – y maes chwarae yw eu lle gwaith. 

Mae’r rheoliadau sy’n ymwneud â’r cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru yn ei gwneud yn ofynnol i bawb weithio o gartref pan yn bosibl; os nad yw hynny’n bosibl, rhaid i gyflogwyr gymryd pob cam posibl i gydymffurfio â’r mesurau cadw pellter cymdeithasol sy’n ofynnol yn y gweithle. Mewn cyd-destun chwaraeon proffesiynol, golyga hyn y gall y rheini sydd yn y maes chwaraeon yn broffesiynol barhau i hyfforddi a chwarae ar yr amod bod y clybiau – sef y cyflogwyr – yn cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau pellter corfforol yn y gweithle, boed hynny wrth hyfforddi neu mewn stadiwm.  

Y rhai hynny yn y maes chwaraeon proffesiynol yw’r unigolion sy’n ennill cyflog o chwaraeon penodol. O ran chwaraeon proffesiynol, bydd y chwaraewyr, yr hyfforddwyr a’r staff yn cael eu cyflogi ac yn gwneud eu gwaith – ac mae hawl iddynt wneud hynny. Os byddant yn teimlo’n sâl ac yn dangos symptomau o’r coronafeirws, dylent hunanynysu ar unwaith (yn ogystal â phob un arall sy’n byw yn eu cartref), dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar hunanynysu a cyflwyno cais am brawf coronafeirws

Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau i helpu cyflogwyr i ddeall eu cyfrifoldebau ac i ganiatáu i safleoedd gwaith weithredu mor ddiogel â phosibl.  

Canllawiau – Athletwyr Elît 

Nid yw pawb sy’n rhan o chwaraeon elît yn broffesiynol ac yn ennill bywoliaeth drwy chwaraeon. At ddibenion y canllawiau hyn, mae athletwyr elît yn unigolion sy’n cael eu henwebu gan eu corff llywodraethu cenedlaethol, ond dim ond y cyrff llywodraethu hynny sy’n enwebu unigolion i gynrychioli Prydain neu Gymru yn y Gemau Olympaidd, y Gemau Paralympaidd neu Gemau’r Gymanwlad.
 
Nid yw’r rheoliadau yn gwahaniaethu o gwbl ar hyn o bryd ynghylch athletwyr elît ac nid oes modd iddynt ailddechrau hyfforddi ar hyn o bryd. Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried a ellir caniatáu i athletwyr elît ailddechrau hyfforddi yn yr adolygiad nesaf. Caiff y canllawiau hyn eu hadolygu a’u diweddaru os bydd athletwyr elît yn cael yr hawl i ailddechrau hyfforddi o dan reoliadau diwygiedig yn y dyfodol. 

Yn y cyfamser, rydym yn cynghori pob corff llywodraethu cenedlaethol i wneud yn siŵr eu bod wedi sefydlu’r holl brotocolau, polisïau a gweithdrefnau angenrheidiol i baratoi i ailddechrau hyfforddiant mewn modd cyfyngedig, gan gadw athletwyr a staff cymorth yn ddiogel. Rydym yn cynghori’r grŵp i ystyried sut y gallent gefnogi’r cyrff llywodraethu cenedlaethol i ailgyflwyno hyfforddiant yn raddol gan gyfeirio at yr argymhellion yn adrannau perthnasol y canllawiau hyn. Dylai’r chwaraeon elît a Chwaraeon Cymru ystyried yr opsiwn o gyfuno grŵp o chwaraeon elît i lunio clwstwr bychan hawdd ei reoli mewn un lleoliad, gan ystyried gofynion diogelwch y lleoliad a’r safle gwaith. Dylid ystyried hefyd roi cyfle cyfartal o ran daearyddiaeth. 

Chwaraeon awyr agored

Y prif faterion

Awgrymodd y grŵp y dylid defnyddio dull gofalus ailgydio mewn chwaraeon, i gefnogi mesurau iechyd y cyhoedd, caniatáu digon o amser i baratoi i ddychwelyd yn ddiogel a phenderfynu ar effaith llacio’r cyfyngiadau. Mae’n debygol na fydd yn bosibl i rai gweithgareddau amlgyfranogol ailddechrau, gan gynnwys yn yr awyr agored, er ei bod yn bosibl y gallai chwaraeon unigol yn yr awyr agored, a chwaraeon y gellir eu haddasu i’w chwarae yn yr awyr agored gan gadw pellter cymdeithasol, ddychwelyd ar ryw ffurf yn y camau cyntaf o lacio’r cyfyngiadau. 

Mae’n bwysig bod cyfleusterau awyr agored a chyrff llywodraethu cenedlaethol yn cael amser i baratoi ar gyfer ailddechrau, gan fod y galw yn debygol o fod yn uchel pan fydd y cyfleusterau yn ailagor. Bydd angen hyfforddiant ar y coronafeirws a negeseuon clir i’r cyhoedd am yr hyn y gallant ac na allant ei wneud. Hefyd, bydd angen meithrin cysylltiad â staff, pobl ifanc, rhieni a gwirfoddolwyr i’w cefnogi a rhoi hyder iddynt ddychwelyd a’u hannog i barhau i gymryd rhan.
 
Roedd y grŵp yn gweld cyfleoedd i lacio’r rheoliadau ynghylch gyrru ar gyfer ymarfer corff. Gallai hyn olygu bod mwy o bobl yn gallu cymryd rhan mewn campau megis golff, pysgota, marchogaeth a chanŵio, sydd wedi’u cyfyngu ar hyn o bryd oherwydd bod angen cludo offer. Gallai rhai meysydd parcio hefyd allu agor yn ddiogel i helpu i hwyluso gweithgareddau awyr agored. Gellid ystyried agor cyrtiau chwaraeon yn yr awyr agored hefyd i’w defnyddio mewn dull priodol; caniatáu ymarfer corff gydag un person arall sydd ddim yn byw gyda chi (gan ystyried y gofynion cadw pellter cymdeithasol), ac agor awdurdodau porthladdoedd, harbyrau, marinas, dyfrffyrdd y mȏr a llynnoedd a dyfrffyrdd mewndirol, i alluogi rhai chwaraeon dŵr i baratoi a datblygu cynlluniau i adfer y campau fesul cam yn y dyfodol.    

Effaith y rheoliadau presennol

Mae nifer o chwaraeon awyr agored, a hyfforddiant cysylltiedig, yn enwedig gweithgareddau grŵp, wedi’u cyfyngu gan reoliadau a sefydlwyd i reoli lledaeniad y coronafeirws, er gwaetha’r ffaith fod rhai o’r cyfyngiadau ar ymarfer corff wedi’u llacio ar 1 Mehefin 2020 – e.e. gofynion cadw pellter cymdeithasol, cyfyngiadau ar deithio y tu allan i’ch ardal leol ac ymgynnull gyda phobl o fwy nag un cartref, yn ogystal â chau cyfleusterau megis cyrtiau chwaraeon, canolfannau hamdden a champfeydd awyr agored. 

Canllawiau 

Dylai gweithgarwch chwaraeon gael ei gyfyngu i’r rhai hynny sy’n ymarfer mewn grwpiau o ddim mwy na dau gartref, gan gydymffurfio â’r rheolau cadw pellter cymdeithasol. Dylai lleoliadau, wrth iddynt ailagor, gael cyngor i roi arwyddion i nodi hyn. Mae’r heddlu wedi cael pwerau i orfodi mesurau i rwystro pobl rhag ymgynnull yn gyhoeddus y tu hwnt i’r rheini a ganiateir o fewn y rheoliadau. diwygiedig. 

Mae rhestr o enghreifftiau o’r mathau o ymarfer a chwaraeon, gan gynnwys canllawiau ar y cyfyngiadau sydd ar y gweithgarwch a ganiateir ar hyn o bryd o fewn y rheoliadau, yn ogystal â dolenni at gyngor hanfodol yr RNLI i achubwyr bywyd a diogelwch o ran gweithgareddau ar y dŵr ac ar y traeth, ar yr arfordir neu ar y mȏr

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried a ellir caniatáu i gyfleusterau yn yr awyr agored fel cyrtiau tennis a meysydd bowlio ailagor yn yr adolygiad nesaf. Caiff y canllawiau hyn eu hadolygu’n rheolaidd. Pan fydd amgylchiadau yn caniatáu, darperir canllawiau ychwanegol ar fynediad at gyfleusterau awyr agored ac ailgyflwyno gweithgareddau grŵp. 

Mae’n bosibl y bydd hawl i wneud rhai gweithgareddau fydd i ddechrau wedi’u cyfyngu neu wedi’u haddasu, tra bod rhai cyfyngiadau yn parhau. Byddem yn argymell i chwaraeon, clybiau a chyfleusterau ystyried a allent a sut y gallent ddychwelyd i hyfforddi ac / neu chwarae, a hynny mewn ffordd gynhwysol, ar y sail hon (e.e. cadw pellter cymdeithasol, atal neu leihau cyffwrdd corfforol, peidio â rhannu offer neu gyfyngu ar hynny). 

Dylai campau neu glybiau sy’n ystyried y posibilrwydd o ailgyflwyno digwyddiadau sy’n defnyddio safleoedd naturiol a diwylliannol lle mae mynediad i’r cyhoedd (e.e. treiathlonau, digwyddiadau rhedeg) edrych hefyd ar ganllawiau ar wahân ar ailagor y safleoedd hyn ar gyfer digwyddiadau hamdden a ddarperir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Dylai unigolion sy’n gwneud ymarfer corff yn yr awyr agored leihau’r risg iddynt eu hunain ac eraill a dim ond cynnal gweithgarwch sydd o fewn eu gallu. Os byddant yn teimlo’n sâl ac yn dangos symptomau o’r coronafeirws, dylent hunanynysu ar unwaith (yn ogystal â phob un arall sy’n byw yn eu cartref), dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar hunanynysu a cyflwyno cais am brawf coronafeirws

Chwaraeon dan do a chyfleusterau hamdden

Y prif faterion

Nododd y grŵp na ddylid newid y cyfyngiadau ar ddefnyddio cyfleusterau chwaraeon a hamdden dan do yn y tymor byr, gan ddweud ei bod yn debygol mai cyfleusterau dan do sy’n cael eu defnyddio gan y cyhoedd fydd y rhai olaf i gael eu hailagor.  Mae problemau penodol, cymhleth yn gysylltiedig â’r her o lacio’r cyfyngiadau symud ar gyfer cyfleusterau chwaraeon, ac mae angen ystyried y rhain ymhellach. Maent yn cynnwys yr angen hollbwysig i agor mewn dull diogel sy’n atal yr haint rhag lledaenu ymhellach ac sy’n ystyried gofynion hyfforddi staff (e.e. o ran y mesurau cadw pellter cymdeithasol, cemegau / trefniadau glanhau newydd). 

Bydd angen cyfnod o 2-3 wythnos ar y rhan fwyaf o gyfleusterau i ailagor yn ddiogel, yn enwedig pyllau nofio. Byddai angen eglurder ynghylch cyfranogaeth dorfol (e.e. canllawiau ar y nifer a ganiateir mewn adeilad ar yr un pryd). Byddai angen hefyd i gyfleusterau gael arweiniad ar ddarparu gwasanaethau ar draws amryw o weithgareddau chwaraeon a allai fod wedi cyrraedd cyfnodau gwahanol yn eu cynlluniau annibynnol i ddychwelyd yn raddol ar yr un pryd. Nodwyd bod cynllun y Prif Weinidog ar gyfer llacio’r cyfyngiadau yn dangos y gallai rhai chwaraeon dan do gael eu caniatáu yn ystod y cyfnod oren, ond efallai mai cyfyngedig fydd hyn yn ymarferol oherwydd mae’n bosibl na fydd rhai cyfleusterau mewn sefyllfa i ailagor tan y cyfnod gwyrdd.

Mae pryder ynghylch hyfywedd masnachol ailagor, gan fod mesurau cadw pellter cymdeithasol yn debygol o achosi gostyngiad sylweddol mewn incwm, er y gellir defnyddio rhannau o’r adeilad mewn ffordd wahanol i sicrhau cymaint o bellter â phosibl. Bydd hyn yn her arbennig i leoliadau a chlybiau sy’n llai o ran maint, a bydd rhai o’r rheini hefyd wedi colli cyfleoedd allweddol i gynhyrchu incwm o ddigwyddiadau blynyddol sydd wedi gorfod cael eu canslo. Ystyrir bod ymestyn y cynllun ffyrlo ar gyfer swyddi yn hanfodol er mwyn i’r diwydiant hamdden oroesi. Mae ennyn hyder defnyddwyr a staff i ddychwelyd i gyfleusterau yn hanfodol a byddai angen delio â’u disgwyliadau, yn enwedig dealltwriaeth y gallai fod angen newid oriau agor. Dylid ystyried llunio canllawiau safonol ar gyfer rheolwyr a defnyddwyr cyfleusterau. Mae angen eglurder hefyd ar Brofi, Olrhain, Diogelu a’r hyn y bydd angen i bob lleoliad ei wneud i helpu â’r strategaeth hon. Byddai angen cyngor ar brotocolau meddygol, ac mae sicrhau bod cyfarpar diogelu personol ar gael yn fater y bydd angen ei ystyried hefyd. 

Cytunwyd y byddai hyb canolog yn cael ei greu ar gyfer Cymru yn unig, gan ystyried polisïau Cymru i greu cyfres o brotocolau i’w gweithredu. Byddai hwn yn cael ei gynnal gan Gymdeithas Chwaraeon Cymru a byddai’r wybodaeth yn cael ei rhannu drwy’r grŵp a chyrff llywodraethu cenedlaethol. Byddai hyn yn rhoi’r hyder i ddarparwyr cyfleusterau, cyllidwyr, Llywodraeth Cymru a phartneriaid statudol bod y cyfleusterau wedi ystyried pob mater perthnasol ac wedi mynd i’r afael ag ef, a bod cysondeb cyffredinol cyn ailagor. 

Effaith y rheoliadau presennol

Ar hyn o bryd, mae’r holl gyfleusterau chwaraeon a hamdden o dan do wedi’u cau o dan y rheoliadau presennol. 

Canllawiau

Caiff y canllawiau hyn eu hadolygu’n barhaus. Pan fydd amgylchiadau’n caniatáu hynny, darperir canllawiau ychwanegol ar ailddechrau chwaraeon o dan do ac ailagor cyfleusterau chwaraeon a hamdden. Wrth gynllunio i ailagor cyfleusterau o dan do yn y pen draw – ac wedi derbyn canllawiau pellach maes o law – dylai chwaraeon, clybiau a chyfleusterau ystyried ar y cychwyn yr egwyddorion lefel uchel a gyflwynir yn Adran 4 isod. 

Mae’n bosibl y caniatâd i gynnal rhai gweithgareddau o dan do ond y byddant wedi’u cyfyngu neu eu haddasu ar y dechrau, tra bo rhai cyfyngiadau yn parhau. 

Gallai’r wyddoniaeth ddiweddaraf ar ledaeniad microddefnynnau mewn man o dan do sydd heb ei awyru olygu bod mwy o risg. Byddai man chwarae yn yr awyr agored neu mewn ardal agored yn llai o risg. Nid yw ystafelloedd sydd â systemau awyru yn arbennig o effeithiol, ond mae agor ffenestri a drysau ar ochr arall yr adeilad yn creu llif aer sy’n effeithiol o ran cael clirio meicroddefnynnau sy’n cael eu creu a’u cludo drwy’r awyr pan fydd rhywun yn tisian neu’n gweiddi. 

Byddem yn cynghori clybiau a chyfleusterau chwaraeon i ystyried a allent a sut y gallent aillddechrau hyfforddi a / neu chwarae ar y sail hon e.e. cadw pellter cymdeithasol, atal neu leihau cyffwrdd corfforol, peidio â rhannu offer neu gyfyngu ar hynny). 

Canllawiau ar gyfer chwaraeon, clybiau a chyfleusterau

Dim ond yn unol â’r rheoliadau iechyd cyfredol sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws, a phan fo’r canllawiau’n caniatáu hynny, y ceir ailgydio mewn ymarfer corff, chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae crynodeb o’r rheoliadau a’r canllawiau diweddaraf sy’n ymdrin ag ymarfer corff i’w gweld yn Adran 2. 

Eir ati yn yr Adran hon i roi arweiniad lefel uchel ar sut y gellir mynd ati, mewn ffordd ddiogel, i ailddechrau chwaraeon pan fydd y rheoliadau’n caniatáu hynny. Bwriad yr adran hon yw helpu cyrff llywodraethu cenedlaethol, clybiau (h.y. clybiau chwaraeon a sefydliadau eraill sy’n darparu mynediad rheolaidd at weithgareddau chwaraeon) a chyfleusterau i gynllunio ac i baratoi at y dyfodol. Rydym yn gofyn yn benodol i gyrff llywodraethu cenedlaethol ymgysylltu â’r rheini sy’n cymryd rhan a darparwyr cyfleusterau / busnesau nad ydynt yn rhan o’u haelodaeth draddodiadol, er mwyn sicrhau bod unrhyw ‘randdeiliaid sy’n bell’ yn eu campau penodol nhw yn cael mynediad at wybodaeth a chyngor pwysig. 

Bydd disgwyl i bob sefydliad fabwysiadu atebion priodol a phwrpasol a fydd yn canolbwyntio ar ddiogelu’r rheini sy’n cymryd rhan staff a’r cyhoedd, ac a fydd yn rhoi’r ystyriaeth ddyladwy i’r cymunedau lle maent yn bodoli ac yn gweithredu. Yn achos y sefydliadau hynny sy’n rheoli ac yn berchen ar safleoedd sydd ar wasgar yn ddaearyddol, mae’n bwysig bod yr atebion a fabwysiedir yn cael eu teilwra’n briodol at amgylchiadau lleol. Wrth wneud hynny, rhaid ichi ystyried hawliau’r rheini sydd â nodweddion gwarchodedig a sut y gallant barhau i gael mynediad i’ch safle a’ch gweithgareddau yn ddiogel. Rhaid ichi hefyd ystyried sut y byddwch yn parhau i gydymffurfio â deddfwriaeth sy’n ymwneud â’r Gymraeg wrth weithredu unrhyw newidiadau. 

Dylai cynlluniau fod yn gymesur, dylent gael eu hadolygu’n rheolaidd, a rhaid iddynt gynnig ffordd ofalus a graddol o ailagor. Dylai sefydliadau hoelio sylw hefyd ar greu atebion hyblyg y gellir rhoi’r gorau iddynt dros dro neu eu gwrthdroi’n gyflym os ceir rhagor o achosion o’r coronafeirws. 

Bydd ennyn hyder ymhlith y cyhoedd yn hollbwysig er mwyn ailgydio’n llwyddiannus mewn busnes a gwneud hynny mewn ffordd a fydd yn fasnachol hyfyw.

Egwyddorion ar gyfer paratoi i ailgydio’n ddiogel mewn hyfforddiant a chwaraeon

Mae’r egwyddorion a ddisgrifir yn y ddogfen hon ar gyfer dychwelyd yn ddiogel i hyfforddi neu chwarae yn dangos lefel y paratoadau a’r gweithgarwch a ddisgwylir gan y cyrff llywodraethu cenedlaethol mwyaf, timau a chlybiau proffesiynol neu elît, a chyfleusterau sy’n darparu gwasanaethau ar y lefel honno neu i’r sefydliadau hynny. Nid oes bwriad iddynt fod yn rhagnodol ar gyfer pob sefydliad sy’n darparu gweithgareddau chwaraeon a hamdden. Dylai cynlluniau ar gyfer ailddechrau hyfforddi neu chwarae fod yn briodol i natur y sefydliad a’r gweithgaredd dan sylw. 

Fodd bynnag, mae’n bwysig pwysleisio y byddem yn disgwyl i bob clwb, sefydliad neu gyfleuster sy’n darparu gweithgareddau ar unrhyw lefel, beth bynnag y bo eu maint, cyrhaeddiad neu leoliad, gadw’r egwyddorion hyn mewn cof wrth gynllunio ar gyfer ailddechrau gweithgareddau. Os gwneir hynny, gallwn sicrhau bod hyn yn digwydd yn ddiogel, gan gydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru ar y Rheoliadau Coronafeirws. 

Dylid addasu’r egwyddorion ar gyfer eu defnyddio yn ôl yr angen, gan fod yn gymesur â lefel, maint a chwmpas y gweithgareddau a ddarperir a’u teilwra’n effeithiol, gan ddibynnu (fel y bo’n briodol) ar gyngor meddygol ac ymgyngoriadau â’r corff llywodraethu cenedlaethol priodol. Gallai Cymdeithas Chwaraeon Cymru neu Chwaraeon Cymru hefyd allu darparu cymorth a chyngor a helpu i ddod o hyd i arferion gorau, ond ni fyddai ganddynt unrhyw rôl ffurfiol o ran cytuno ar achosion unigol ar gyfer dychwelyd at gynlluniau chwaraeon. 

Gweithio yn unol â rheoliadau a chanllawiau ar iechyd y cyhoedd

Dim ond os gellir dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar gadw pellter cymdeithasol y dylid ailddechrau gweithgareddau. 

Dylai unrhyw weithgarwch gyd-fynd â chanllawiau Llywodraeth Cymru ar iechyd, cadw pellter cymdeithasol a hylendid.

O dan yr amgylchiadau presennol, mae hynny’n golygu bod yn rhaid i’r rheini a fydd yn cymryd rhan, ac eraill, gadw pellter diogel o ddau fetr rhyngddynt, bod arferion da o ran hylendid yn eu lle, bod cyfarpar yn cael ei ddiheintio'n rheolaidd, a’i bod yn glir na ddylai unrhyw un sydd â symptomau − neu sy’n amau ei fod wedi dod i gysylltiad â’r feirws − gymryd rhan. Dylent hunanynysu ar unwaith (yn ogystal â phob un arall sy’n byw yn eu cartref), dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar hunanynysu a cyflwyno cais am brawf coronafeirws

Penodi swyddogion atebol allweddol

Dylai swyddog atebol y sefydliad enwi aelod presennol o’r sefydliad yn swyddog coronafeirws. Y swyddog hwnnw fydd yn gyfrifol am oruchwylio asesiadau risg mewn perthynas â’r coronafeirws, am sicrhau bod y lefel angenrheidiol o asesiadau risg a chamau i liniaru risg yn eu lle, a bod y sefydliad yn gallu ysgwyddo’r cyfrifoldebau sydd arno o dan y canllawiau o fewn cyfyngiadau lleol.   

Cydnabod hawliau a llesiant unigolion

Bydd ystyried llesiant athletwyr a staff cymorth o’r pwys mwyaf; bydd angen opsiwn optio i mewn/optio allan clir a di-gosb i bawb, yn ogystal ag ymwadiad ar gyfer y rheini a fydd yn optio i mewn. 

Asesiadau risg

Dylai asesiadau risg nodi mesurau synhwyrol mewn modd amserol i reoli’r risgiau yn eich amgylchedd hyfforddi a chwarae a’r gwasanaeth a ddarperir gennych. Bydd datblygu asesiad risg yn eich helpu i benderfynu a ymdriniwyd â’r holl faterion a’ch helpu i wneud penderfyniadau a phennu mesurau rheoli.  

Dylai campau / clybiau baratoi asesiad risg a chynllun lliniaru risg, i’w cwblhau cyn ailgydio mewn gweithgareddau ym mhob lleoliad, ac a fydd yn pennu ac yn amlinellu’r hyn y gellir ac na ellir ei gyflawni mewn perthynas â hyfforddiant a / neu chwaraeon yn y cyd-destun lleol. 

Dylai’r asesiad risg a’r cynllun lliniaru risg fod yn ddigon i sicrhau y gellir rhedeg gweithgareddau mewn ffordd ddiogel, sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth a chanllawiau Llywodraeth Cymru ac yn diogelu pob unigolyn dan sylw (e.e. athletwyr, staff, gwylwyr) mewn ffordd briodol. Dylid adolygu’r asesiad risg yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn parhau’n berthnasol ac yn briodol o dan amgylchiadau sy’n newid.

Dylai protocolau clir ar gyfer rheoli unrhyw berson sy’n datblygu symptomau yn yr amgylchedd hyfforddi neu chwarae gael eu cynnwys yn y cynllun ar gyfer asesu risg a lliniaru risg. 

Dylid pennu protocolau clir ar gyfer rhoi/dangos negeseuon clir i unigolion sy’n dangos symptomau o’r coronafeirws na ddylent ddod i hyfforddi na chwarae. Dylent hunanynysu ar unwaith (yn ogystal â phob un arall sy’n byw yn eu cartref), dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar hunanynysu, a chyflwyno cais am brawf coronafeirws. 
 
Dylid pennu protocolau clir i gefnogi strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu Llywodraeth Cymru a’r goblygiadau cysylltiedig mewn perthynas â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) o gadw gwybodaeth bersonol unigolion, a’i darparu, yn ôl yr angen, a hynny mewn perthynas ag aelodau o staff ac unigolion yn yr amgylchedd hyfforddi a chwarae. 

Dylai’r asesiad risg a’r cynllun lliniaru risg, yn yr un modd, amlinellu sut y bydd staff sy’n dychwelyd i’r amgylchedd hyfforddi neu chwarae ar ôl bod yn hunanynysu neu’n ynysu gyda holl aelodau eu cartref oherwydd achos yr amheuwyd, neu y cadarnhawyd, ei fod yn coronafeirws neu am unrhyw reswm arall sy’n ymwneud â’r coronafeirws (fel gorfod ynysu mewn cartref lle y cadarnhawyd neu yr amheuwyd bod gan aelod(au) y coronafeirws) yn cael eu hasesu’n feddygol cyn iddynt ddychwelyd.

Dylid paratoi asesiad risg a chynllun lliniaru risg hefyd ar gyfer digwyddiadau a chystadlaethau chwaraeon unigol, megis ar gyfer gemau a gaiff eu chwarae y tu ôl i ddrysau caeedig ac a ddarlledir yn fyw ar y teledu.

Mae dyletswydd ar gyflogwyr i ymgynghori â gweithwyr ar faterion iechyd a diogelwch. Dylid cynnwys gweithwyr yn y broses o asesu risgiau yn y gweithle a datblygu ac adolygu polisïau iechyd a diogelwch yn y gweithle mewn partneriaeth â’r cyflogwr. Dylai undebau llafur neu sefydliad cynrychioliadol arall eu cefnogi lle y bo hynny’n briodol. Dylai gweithwyr gael eu hannog i nodi a mynegi barn ar risgiau a mesurau rheoli, a rhoi adborth arnynt, er mwyn iddynt gael eu haddasu. 

Wrth feddwl am risg, dylai’r prif egwyddorion gynnwys: 

  • ystyried yr effaith a’r niwed posibl i iechyd corfforol a meddyliol y rhai sy’n cymryd rhan, staff, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr;
  • lleihau’r angen am deithio a chysylltiad wyneb yn wyneb;
  • ystyried oed unigolion a pha mor agored i niwed ydynt;
  • ystyried beth yw’r isafswm lefel staffio diogel – er enghraifft er mwyn cynnal y protocolau penodol mewn perthynas â’r coronafeirws, neu pe byddai aelod o staff neu wirfoddolwr yn mynd yn sâl, neu’n gorfod hunanynysu dro ar ôl tro (gallai hyn effeithio ar gapasiti ymwelwyr y safle);
  • rhoi trefniadau ar waith pe byddai rhywun yn mynd yn sâl tra bo ef/hi ar y safle;
  • cadw asesiadau risg fel dogfennau ‘byw’ a’u hadolygu’n rheolaidd;
  • cydnabod bod cyfathrebu, hyfforddi, ac offer priodol yn ffactorau perthnasol er mwyn helpu i leihau risg. 

Symptomau’r coronafeirws neu ddychwelyd ar ôl bod yn sâl

Dylai fod gan bob corff llywodraethu cenedlaethol swyddog meddygol penodol ar gyfer y coronafeirws, a dylai’r swyddog hwnnw fod yn gyfarwydd â’r dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg am batholeg ar ôl dioddef o’r coronafeirws. Bydd disgwyl iddo:

  • arwain o ran sicrhau bod unrhyw achosion lle yr amheuwyd neu y cadarnhawyd coronafeirws yn cael eu rheoli yn unol â phrotocolau’r gamp ar gyfer rheoli achosion o’r coronafeirws a chanllawiau cyfredol y Llywodraeth ; 
  • oruchwylio’n feddygol unrhyw athletwyr a oedd yn achos yr amheuwyd, neu y cadarnhawyd, ei fod yn coronafeirws;
  • cynorthwyo’r swyddog coronafeirws ag unrhyw agweddau meddygol ar y broses asesu a lliniaru risg. 

Os nad oes yw campau’n gallu manteisio ar wasanaeth swyddog meddygol i ysgwyddo’r cyfrifoldebau hyn, dylent sicrhau eu bod yn trefnu darpariaeth feddygol i oruchwylio’r prosesau cyn caniatáu i bobl ailddechrau unrhyw weithgarwch wedi’i drefnu. Caiff gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sydd wedi cael yr hyfforddiant priodol sgrinio’n rheolaidd am symptomau yn yr amgylchedd hyfforddi neu chwarae, gan weithio yn unol â set o brotocolau a ddiffinnir yn yr asesiad risg a’r cynllun lliniaru risg ac a fydd wedi’u cymeradwyo gan y swyddog meddygol.

Pan fydd athletwyr yn dychwelyd i’r amgylchedd hyfforddi neu chwarae ar ôl bod yn ynysu oherwydd achosion lle yr amheuwyd neu y cadarnhawyd coronafeirws, neu am resymau eraill sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (fel gorfod ynysu gydag holl aelodau’r cartref lle yr amheuwyd neu y cadarnhawyd bod gan aelod(au) y coronafeirws), rhaid iddynt wneud hynny o dan gyfarwyddyd meddyg/swyddog meddygol sy’n gyfarwydd â’r dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg am batholeg ar ôl dioddef o’r coronafeirws, a chan ddilyn y camau diweddaraf ar gyfer ailgydio mewn hyfforddiant. Dylai hyn gynnwys cael archwiliad gan yr un swyddog meddygol cyn ailgydio yn yr hyfforddiant neu’r chwarae.

Os ceir achos yr amheuwyd, neu y cadarnhawyd, ei fod yn coronafeirws yn yr amgylchedd hyfforddi / chwarae, neu os gwelir bod unigolyn wedi bod mewn cysylltiad ag achos pendant, dylai’r unigolyn/ion o dan sylw hunanynysu ar unwaith (yn ogystal â phob un arall sy’n byw yn eu cartref), dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar hunanynysu, a chyflwyno cais am brawf coronafeirws. Dylid rhoi gwybod i’r swyddog meddygol dynodedig ar unwaith os nad oedd yn gysylltiedig ag adnabod ac ynysu’r achos yn y lleoliad hyfforddi.

Dylid atgoffa’r unigolyn yr effeithiwyd arno ac unrhyw un y gallai fod wedi dod i gysylltiad agos ag ef/hi yn yr amgylchedd hyfforddi neu chwarae o’r camau y dylent eu cymryd fel rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru i Brofi, Olrhain, Diogelu sydd wedi’i chynllunio i wella gwyliadwriaeth iechyd yn y gymuned, olrhain cysylltiadau yn effeithiol ac yn eang, a chefnogi pobl i hunanynysu pan fo’n ofynnol gwneud hynny. 

Bydd Profi, Olrhain, Diogelu yn golygu gofyn i bobl adrodd am eu symptomau, profi unrhyw un yn y gymuned sy’n dangos symptomau o’r coronafeirws, ac olrhain y rheini y maen nhw wedi dod i gysylltiad agos â nhw. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfrifoldebau cyflogwyr i helpu gyda phrofi am y coronafeirws ac olrhain cysylltiadau.

Dylai athletwyr neu staff y bernir eu bod yn ‘eithriadol o agored i niwed’ barhau i ddilyn cyngor Llywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd, mae’r rhain yn dweud y dylai’r bobl hynny sy’n ‘gwarchod’ eu hunain barhau i wneud hynny. Fodd bynnag, maent yn caniatáu i unigolion adael y cartref i gael ymarfer corff yn yr awyr agored, gydag unigolion eraill o hyd at un cartref arall, ar yr amod eu bod yn cydymffurfio’n llwyr â’r rheolau ar gadw pellter cymdeithasol. Ni ddylai’r unigolion hyn felly ddychwelyd i weithgareddau hyfforddi neu chwarae a drefnwyd ond gallant wneud ymarfer corff yn yr awyr agored ar adegau pan fydd llai o bobl o gwmpas. Mae hyn er mwyn helpu i gyfyngu ymhellach ar y risg y byddant yn dal y coronafeirws.

Amserlen ar gyfer ailagor

Dim ond pan fydd y rheoliadau’n caniatáu hynny a phan fyddwch yn teimlo y gallwch wneud hynny’n ddiogel y dylech ailagor neu ailddechrau gweithgareddau. Dylech aros ar gau nes y byddwch yn teimlo bod ailagor yn beth diogel a chyfrifol i’w wneud.

Staff sydd ar ffyrlo

Mater i bob cyflogwr unigol yw penderfynu pryd y mae’n briodol i ddod â staff yn ôl i’r gwaith a, phan fo hynny’n briodol, pryd i roi’r gorau i gyflwyno unrhyw hawliadau perthnasol am gyflogau sy’n cael eu gwneud ar hyn o bryd drwy’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y coronafeirws a gynigir gan Lywodraeth y DU.

Caiff gweithiwr cyflogedig sydd ar ffyrlo wneud gwaith gwirfoddol – os nad yw’r gwaith hwnnw’n darparu gwasanaethau i’ch sefydliad chi neu i sefydliad cysylltiedig neu’n creu refeniw ar eu cyfer, neu ar eu rhan. 

Wrth gynllunio i ailagor, bydd angen ichi ystyried unrhyw gyfnodau o rybudd neu drefniadau eraill fydd eu hangen ar gyfer staff sydd ar ffyrlo, neu sydd wedi’u hadleoli, i ddychwelyd i’r gwaith. 

Costau ailagor

Ni fydd Llywodraeth Cymru, yn gyffredinol, yn helpu i dalu’r costau a fydd yn gysylltiedig ag ailagor, a mater i bob sefydliad unigol fydd penderfynu a yw’n briodol iddynt ailagor ar adeg benodol. Bydd angen i gampau a’r rheini sy’n eu trefnu / cynnal (fel y bo’n gymwys) drafod a chytuno, cyn i’r hyfforddiant neu’r chwarae ailddechrau, sut i ymdrin ag unrhyw gostau anarferol a fydd yn codi yn sgil defnyddio cyfleusterau yn ystod cyfnodau pan fo cyfyngiadau.

Ceir ffynonellau eraill o gymorth o bosibl drwy Chwaraeon Cymru neu gyrff llywodraethu cenedlaethol, ond bydd cyllid o’r fath wedi’i flaenoriaethu ac felly ni ellir rhoi sicrwydd o gyllid. 

Darparwyd canllawiau ar wahân ar opsiynau i gynghorau ar gyfer cefnogi darparwyr hamdden gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Cyfarpar diogelu ar gyfer staff

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar Coronafeirws a chyfarpar diogelu personol (PPE). Dylid dilyn y canllawiau hynny, a fydd yn cael eu diweddaru’n rheolaidd. 

Gorchuddion wyneb

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar orchuddion wyneb a’r coronafeirws. Mae’r canllawiau hyn yn egluro sut a phryd y dylid gwisgo gorchudd wyneb i ddiogelu’r rheini o’ch cwmpas, os byddwch yn dewis gwisgo gorchudd o’r fath. 

Cyfathrebu 

Bydd angen i sefydliadau gyfathrebu’n glir ac yn rheolaidd ag aelodau a’r rheini sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon, gan nodi’r hyn y maent yn ei wneud i reoli risg a pha gyngor y maent yn ei roi i unigolion wneud yr un peth.  

Yn ddelfrydol, dylai sefydliadau gyhoeddi cynllun gweithredu sy’n manylu ar y cynlluniau sydd ganddynt i ailagor yn ddiogel ac ar y camau y maent yn eu cymryd i osgoi ac i leihau’r posibilrwydd o drosglwyddo’r haint.

Dylai sefydliadau hefyd gyhoeddi’r amserau agor yn glir a sut y gall pobl fanteisio ar gyfleusterau yn ddiogel, os yw hynny’n berthnasol – er enghraifft, drwy system archebu neu giwio.

Mae’n bwysicach nag erioed eich bod yn ystyried canllawiau cynhwysol ar gyfer pobl y mae angen cymorth arnynt i fod yn egnïol. Dylai sefydliadau ystyried bod hynny’n rhan o’u gwaith i annog pobl i ddychwelyd. 

Adolygu

Dylech sicrhau bod pob polisi’n cael ei adolygu’n rheolaidd (yn wythnosol, o leiaf) ac yn enwedig yng ngoleuni unrhyw newidiadau i ganllawiau’r Llywodraeth, yng ngoleuni unrhyw wersi a ddysgwyd ac unrhyw enghreifftiau o arferion gorau mewn mannau eraill. 

Egwyddorion ar gyfer paratoi i reoli cyfleusterau dan do ac awyr agored yn ddiogel 

Cyfleusterau sy’n helpu gyda’r argyfwng iechyd cyhoeddus

Ni ddylai ailgydio mewn chwaraeon wedi’u trefnu gyfyngu mewn unrhyw ffordd ar allu’r trefnydd i ganiatáu i’r cyfleusterau barhau i gael eu defnyddio i gynorthwyo gydag anghenion y GIG neu weithwyr allweddol. 

Penodi swyddogion cyfrifol

Dylai fod gan bob sefydliad ei swyddog coronafeirws penodol ei hun. Dylai’r swyddog hwnnw fod yn gyfrifol am oruchwylio asesiad risg a chynllun lliniaru risg y lleoliad mewn perthynas â’r coronafeirws, gan sicrhau bod risg yn cael ei hasesu a’i lliniaru i’r graddau angenrheidiol a bod campau a threfnwyr yn gallu cadw at y canllawiau hynny o fewn eu cyfleusterau nhw. 

Rheoli cyfleusterau

Rhaid i bawb sy’n cynnal neu’n trefnu gweithgareddau sicrhau bod staff ac ymwelwyr yn cael gwybod yn ffurfiol am y risgiau ac am y camau sy’n cael eu cymryd i liniaru’r risgiau hynny. Dylid gofyn iddynt ‘optio i mewn’ os ydynt yn gyfforddus â gweithio yn yr amgylchedd hyfforddi, gan wneud hynny drwy roi caniatâd ysgrifenedig.

Dylai lleoliadau ddangos negeseuon clir ar gyfer holl ddefnyddwyr eu cyfleusterau na ddylai unrhyw un sydd â symptomau o’r coronafeirws geisio defnyddio’r cyfleusterau. Dylent hunanynysu ar unwaith (yn ogystal â phob un arall sy’n byw yn eu cartref), dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar hunanynysu a cyflwyno cais am brawf coronafeirws

Pan fo sawl camp / clwb yn defnyddio’r un safle(oedd) hyfforddi, dylai’r holl swyddogion coronafeirws rannu eu hasesiadau risg a’u cynlluniau gweithredol, er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’i gilydd ac osgoi unrhyw wrthdaro posibl rhwng y cynlluniau. 

Dim ond os ydynt yn gallu cydymffurfio â’r gyfraith, â chanllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, a dim ond pan fo ganddynt yr  holl sicrwydd yswiriant hanfodol arferol sydd ei angen i redeg y cyfleusterau, (a bod yr yswiriant hwnnw’n ddilys), y dylai’r rheini sy’n rhedeg lleoliadau gytuno i’w hailagor.  

Dylai campau a’r rheini sy’n rhedeg safleoedd drafod a chytuno ar sut y bwriedir ymdrin ag unrhyw gostau anarferol a fydd yn codi wrth ddefnyddio’r cyfleuster yn ystod cyfnodau pan fo cyfyngiadau, gan wneud hynny cyn i’r hyfforddi ailddechrau.

Darparwyd canllawiau ar wahân ar opsiynau i gynghorau ar gyfer cefnogi darparwyr hamdden gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Cyflogwyr a diogelu pobl yn y gwaith

Mae’n ofyniad cyfreithiol y bydd pob cam rhesymol wedi cael ei gymryd er mwyn cyfyngu ar drosglwyddiadau’r coronafeirws yn y gweithle. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar gymryd pob cam rhesymol i gynnal pellter corfforol yn y gweithle, a hefyd ganllawiau i gyflogwyr a gweithwyr ar gyfer cadw'n ddiogel yn y gweithle.

Rhaid cymryd pob cam rhesymol i gynnal pellter o ddau fetr rhwng unigolion yn y gweithle. Bydd y canllawiau uchod o gymorth wrth ystyried pa gamau sydd eu hangen i leihau cyfraddau trosglwyddo’r feirws yn y gwaith. 

Ymhlith yr arferion eraill y dylid eu hystyried y mae’r materion a ganlyn:

  • sut y mae staff yn cael mynediad i’r gweithle ac yn gadael;
  • trefniadau ar gyfer meysydd parcio / beiciau staff;
  • protocolau ar gyfer rhoi mynediad i’r rheini sy’n defnyddio drysau cefn y safle gan gynnwys ymdrin â nwyddau sy’n cyrraedd, contractwyr sy’n ymweld, ymdrin ag arian parod (lle y bo hynny’n angenrheidiol a phan nad oes modd ei osgoi); 
  • sut i gynnal cyfarfodydd ar y safle ac oddi arno, gan gynnwys gweithio o bell;
  • yr angen i lanhau cyfleusterau a thoiledau staff yn fwy trwyadl a rheolaidd.

Dylech hefyd ystyried: 

  • darparu’r wybodaeth a’r hyfforddiant priodol i staff a gwirfoddolwyr yng nghyd-destun y rolau a’r cyfrifoldebau newydd sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws;
  • llesiant staff, er enghraifft, pa mor bryderus yw staff am ddychwelyd i’r adeilad/safle; 
  • y posibilrwydd y bydd lefelau absenoldeb yn uwch gan effeithio ar weithgareddau hanfodol a sut y gellid osgoi hyn (er enghraifft, ystyried hyfforddi rhai aelodau o staff i ymgymryd â gwahanol rolau); 
  • diweddaru polisïau a gweithdrefnau adnoddau dynol i ystyried materion sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (fel y rheini sy’n ymwneud â salwch, absenoldeb, llesiant, iechyd meddwl, gweithio a hyfforddi o bell/hyblyg – cofiwch ymdrin ag unrhyw resymau newydd am absenoldebau gan gynnwys gorfod ynysu yn sgil dod i gysylltiad agos ag unigolyn sydd â symptomau’r coronafeirws neu unigolion sy'n gorfod cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith i ofalu am ddibynyddion) a rhannu negeseuon clir ynglŷn â’r newidiadau i staff;  
  • rhoi cymorth i staff ddychwelyd i’r gwaith yn dilyn digwyddiadau trawmatig fel marwolaeth neu salwch un o’u hanwyliaid, neu drafferthion ariannol;
  • cyfyngu ar yr ymwneud sydd rhwng aelodau o staff – er enghraifft drwy batrymau sifft, gweithio hyblyg, amrywio amseroedd egwyl a defnyddio cyfleusterau lles;
  • rhoi rhagor o arferion gweithio diogel arbenigol ar waith a allai fod yn berthnasol i’ch lleoliad – gan ymgynghori â staff, cynrychiolwyr staff a gwirfoddolwyr;
  • rhoi gwybod i staff sut y gallant godi pryderon ynghylch iechyd a diogelwch yn y gweithle, a phrotocol drafft ar sut y gellid datrys y materion hyn;
  • cofio efallai y bydd rhai aelodau o staff yn dal i fod gartref a cheisio parhau i gyfathrebu â nhw, a’u cynnwys yn y gwaith o gynllunio ar gyfer ailagor ac ar gyfer y newidiadau sydd i ddod yn y dyfodol;
  • sicrhau nad yw staff yn dod i’r gwaith os oes ganddynt symptomau o’r coronafeirws, neu os oes gan un aelod o’u cartref symptomau o’r coronafeirws ac mewn achos o’r fath dylent hunanynysu ar unwaith (yn ogystal â phob aelod arall o’u cartref), dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar hunanynysu a cyflwyno cais am brawf coronafeirws

Gwneud yn siŵr bod staff yn ymwybodol o strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu Llywodraeth Cymru a gofynion y sefydliad i gydymffurfio â’r strategaeth honno, yn ogystal â’r goblygiadau cysylltiedig mewn perthynas â’r GDPR o gadw gwybodaeth bersonol unigolion, a’i darparu, yn ôl yr angen, a hynny mewn perthynas ag aelodau o staff ac unigolion yn yr amgylchedd hyfforddi a chwarae. Dylai staff gael gwybod am y data sy’n cael eu cadw amdanynt, y polisi cadw ac at ba ddibenion y gellid defnyddio’r wybodaeth bersonol honno, gan gynnwys cael gwybod y gallai’r data hynny gael eu rhyddhau os bydd angen fel rhan o ymchwiliad Profi, Olrhain, Diogelu.

Archebu

Byddai’n well pe byddech yn trefnu i bobl gael archebu ymlaen llaw, ar-lein neu dros y ffôn. Os nad oes modd gwneud hynny, a bod staff ar gael yn y lleoliad i bobl fedru archebu yno (er enghraifft, cyrtiau neu rowndiau), dylech ystyried trefnu taliadau digyffwrdd neu o leiaf daliadau â cherdyn, er mwyn osgoi trafod arian parod. 

Cofiwch nad oes gan rai unigolion fynediad at y rhyngrwyd. Dylech wneud darpariaeth er mwyn iddynt allu archebu / gwneud ymholiadau all-lein. 

Profi, Olrhain, Diogelu

Rhoi system cadw cofnodion briodol a manwl ar waith i gefnogi strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu Llywodraeth Cymru o ran yr aelodau o staff sydd ar ddyletswydd yn y cyfleusterau, a’r unigolion sy’n defnyddio’r cyfleusterau mewn lleoliadau i sicrhau bod modd eu olrhain, cysylltu â nhw, eu cynghori i hunanynysu a’u profi yn ôl yr angen ar gyfer y coronafeirws os byddant wedi bod yn defnyddio’r cyfleusterau, neu wedi bod yn gweithio yn y lleoliad, ar yr un adeg ag unigolyn, neu aelod o staff, sydd wedi cael prawf positif ar gyfer y coronafeirws yn y cyfamser. 

Wrth dderbyn archebion bydd angen i leoliadau sicrhau bod defnyddwyr y cyfleusterau yn cael gwybod fel sy’n briodol (ar lafar dros y ffôn, neu drwy wefan neu system archebu ar-lein) fod angen i’w gwybodaeth bersonol gael ei chadw, o dan reolau’r GDPR, a’r rhesymau dros wneud hynny, yn ogystal â chael eu hysbysu am ba hyd y caiff yr wybodaeth honno ei chadw, er mwyn cefnogi strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu Llywodraeth Cymru. 

Awyru

Dylech sicrhau, os oes modd, bod y ffenestri a’r drysau allanol ar ochr arall unrhyw adeilad yn cael eu hagor er mwyn creu llif aer, oherwydd mai dyma’r ffordd fwyaf effeithiol o glirio microddefnynnau sy’n cael eu creu a’u cludo drwy’r awyr pan fo rhywun yn tisian neu’n gweiddi.    

Cadw cyfleusterau a chyfarpar yn lân

Dylech roi protocolau glanhau yn eu lle i gyfyngu ar drosglwyddo’r coronafeirws mewn mannau cyhoeddus. Argymhellir bod pethau y mae pobl yn cyffwrdd â nhw (e.e. dolenni drysau, cownteri, rheiliau cyffwrdd a gatiau) yn cael sylw penodol a’u glanhau’n amlach. 

Fe’ch cynghorir i lanhau ardaloedd gwaith a chyfarpar bob tro y cânt eu defnyddio, gan ddefnyddio’ch cynhyrchion glanhau arferol. Fe’ch cynghorir hefyd i glirio mannau gwaith a symud gwastraff ac eiddo personol ar ddiwedd pob shifft. 

I helpu pawb i gynnal hylendid da, dylid ystyried: 

  • defnyddio arwyddion a phosteri i ennyn ymwybyddiaeth am dechneg dda wrth  olchi dwylo, am yr angen i olchi dwylo’n amlach, i osgoi cyffwrdd â’r wyneb, ac i beswch neu disian i mewn i blyg y fraich;
  • darparu hysbysiadau atgoffa ac arwyddion rheolaidd er mwyn cynnal safonau hylendid;
  • darparu hylif diheintio dwylo mewn sawl man yn ogystal ag yn yr ystafelloedd ymolchi/toiledau;  
  • pennu canllawiau clir ar ddefnyddio a glanhau ystafelloedd newid a thoiledau er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cadw’n lân a bod pobl yn cadw pellter cymdeithasol i’r graddau mwyaf posibl;   
  • mwy o lanhau mewn mannau prysur; 
  • darparu mwy o gyfleusterau gwastraff a chasglu sbwriel yn amlach; 
  • rhoi tywelion papur mewn cyfleusterau golchi dwylo yn lle peirannau sychu dwylo;  
  • defnyddio toiledau cludadwy i’r graddau lleiaf posibl; 
  • darparu digon o declynnau cyflenwi hylif diheintio mewn mannau cyhoeddus.

Mannau arlwyo, ystafelloedd newid a meysydd parcio

Bydd angen i fannau arlwyo barhau ar gau nes y dywedir yn wahanol. 

Os oes gennych gapasiti ac adnoddau sy’n eich rhoi mewn sefyllfa i weini cludfwydydd a diodydd, cewch weini bwyd poeth ac oer i’w fwyta oddi allan (h.y. y tu allan i’r adeilad). 

Yn y mannau talu, dylech ystyried cyflwyno taliadau digyswllt neu o leiaf daliadau â cherdyn, er mwyn osgoi trafod arian parod. Dylech sicrhau hefyd fod pellter cymdeithasol o ddau fetr rhwng cwsmeriaid sy’n aros i dalu, a gweinyddion a chwsmeriaid pan fo bwyd neu ddiod yn cael ei weini.

Dylid cadw cyfleusterau dan do, heblaw toiledau a thramwyfeydd, ar gau. 

Cewch ailagor meysydd parcio os oes angen.

Elfennau allweddol canllawiau Llywodraeth Cymru

Enghreifftiau o weithgareddau chwaraeon a ganiateir

Genweirio (pysgota â gwialen)

Caniateir i bobl ymgymryd â gweithgareddau genweirio ond rhaid eu gwneud yn lleol, sy’n golygu na all pobl yrru y tu hwnt i’w hardal leol, a rhaid ichi wneud hyn ar eich pen eich hun neu gydag aelod o’ch cartref neu un cartref arall (gan gymhwyso’r rheolau cadw pellter cymdeithasol yn yr ail achos hwn). Rhaid i siopau sy’n gwerthu offer pysgota aros ar gau (yn yr un modd â’r rhan fwyaf o siopau chwaraeon eraill) ond cânt weithio o bell drwy ddanfon nwyddau neu gynnig gwasanaethau ‘clicio a chasglu’.

Beicio    

Caniateir i bobl feicio ond rhaid ichi ei wneud ar eich pen eich hun neu gydag aelod o’ch cartref neu un gartref arall (gan gymhwyso’r rheolau cadw pellter cymdeithasol yn yr ail achos hwn). Ni chaniateir i bobl feicio mewn grwpiau mwy o faint, ni waeth a ddilynir arferion cadw pellter cymdeithasol ai peidio. 

Dim ond ar lwybrau/ffyrdd y maent yn eu hadnabod yn dda ac sydd o fewn eu lefel gallu y dylai pobl feicio. Dylai beicwyr ar lwybrau cyd-ddefnyddio fod yn ystyriol o gerddwyr, rhedwyr a phobl eraill sy’n beicio: dylent gadw pellter o ddau fetr rhyngddynt a phobl eraill, arafu a dod i stop er mwyn gadael i bobl fynd heibio, fel sy’n briodol. Mae beicio i’r gwaith, neu at ddibenion gwaith, hefyd yn cael ei ganiatáu, os nad ydych yn gallu gweithio o gartref.

Golff    

Caniateir i bobl chwarae golff ond rhaid ei wneud yn lleol, sy’n golygu na all pobl yrru y tu hwnt i’w hardal leol i chwarae golff, a rhaid ichi chwarae golff ar eich pen eich hun neu gydag aelod o’ch cartref neu un cartref arall (gan gymhwyso’r rheolau cadw pellter cymdeithasol yn yr ail achos hwn).  

Ar hyn o bryd, nid yw cyrsiau golff yn cael eu rhestru yn y rheoliadau fel busnesau neu safleoedd y mae'n rhaid iddynt gau, ond efallai na fydd rhai yn gallu parhau ar agor oherwydd y cyfyngiadau ar weithgareddau.

Marchogaeth

Cewch farchogaeth ceffyl, ar yr amod eich bod ar eich pen eich hun neu gydag aelodau o’ch cartref eich hun neu un cartref arall (gan gymhwyso’r rheolau cadw pellter cymdeithasol yn yr ail achos hwn). Dylech hefyd gadw pellter cymdeithasol os oes modd pan fyddwch yn dod ar draws marchogion eraill neu’r cyhoedd. 

Nofio

Mae pyllau nofio dan do ac awyr agored ar gau ar hyn o bryd. Caniateir ichi nofio mewn dyfroedd agored ar eich pen eich hun, neu gydag aelodau o’ch cartref eich hun neu cartref arall (gan gymhwyso’r rheolau cadw pellter cymdeithasol yn yr ail achos hwn), ar yr amod eich bod yn gwneud hynny yn eich ardal leol a’ch bod yn osgoi rigiau diangen. Dylech ofalu peidio â rhoi pwysau diangen ar y gwasanaethau brys ar unrhyw adeg, ond yn enwedig yn ystod y cyfnod pan fo cyfyngiadau ar symud.  

Dylech ddarllen cyngor diogelwch hanfodol y Sefydliad Brenhinol Badau Achub (RNLI) ar weithgareddau dŵr ar y traeth, ar yr arfordir neu ar y môr cyn ichi adael eich cartref. Darperir dolenni yn yr adran isod ar Chwaraeon Dŵr.

Chwaraeon Dŵr, gan gynnwys gweithgareddau ar y traeth ac ar gwch

Cewch fynd i’r traeth i ymarfer corff ar yr amod eich bod ar eich pen eich hun neu gydag aelodau o’ch cartref neu un cartref arall (gan gymhwyso’r rheolau cadw pellter cymdeithasol yn yr ail achos hwn), a’ch bod yn aros yn lleol. Cewch hefyd fynediad i farinas, porthladdoedd a harbyrau yn eich ardal leol os ydynt ar agor. Caniateir ichi gymryd rhan yn y rhan fwyaf o chwaraeon dŵr y cymerir rhan ynddynt ar ddyfrffyrdd agored, gan gynnwys hwylio, bordhwylio, canŵio, rhwyfo, ceufadu, syrffio, a phadlfyrddio, ond dylech osgoi risgiau diangen.

Ni ddylid aros ar gychod dros nos, ac ni ddylai cychod lanio mewn cymunedau sydd y tu hwnt i’w hardaloedd lleol cyfagos ac mae’n ofynnol dychwelyd i’ch man cychwyn. Dim ond criwiau o bobl o’r un cartref ddylid ymgymryd â gweithgareddau ar gwch. Rydym yn cynghori y rheini sy’n defnyddio cychod i ystyried yn ofalus yr effaith bosibl y gallech ei chael ar bersonau eraill sy’n defnyddio’r dŵr ac i beidio â rhoi straen ychwanegol ddiangen ar yr RNLI a’r gwasanaethau brys.

Dylech ddarllen cyngor diogelwch hanfodol y Sefydliad Brenhinol Badau Achub (RNLI) ar weithgareddau dŵr ar y traeth, ar yr arfordir neu ar y môr cyn ichi adael eich cartref. Mae llawer o draethau a’u meysydd parcio yn parhau ar gau, neu efallai nad yw’r gwasanaethau achub bywyd arferol ar gael, oherwydd bod y gwasanaeth achub bywyd arferol wedi dod i ben am y tro ddiwedd Mawrth yn sgil y camau a roddwyd yn eu lle i atal y coronafeirws rhag lledaenu. Mae cyngor yr RNLI ar draethau sydd â gwasanaeth achub bywyd i’w gweld yma

Rhannu’r dudalen hon