Neidio i'r prif gynnwy

Croesawodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, Chetwood Financial Ltd i Gymru yn ffurfiol wrth iddynt lansio cyfres newydd o ddulliau o fenthyca o’u canolfan newydd yn Wrecsam

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cwmni newydd, sy’n creu 90 o swyddi o safon uchel yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, yn cael ei arwain gan dîm rheoli sydd wedi gweithio ar lefel uwch-weithredol mewn banciau i fusnesau bychain ym Mhrydain a thramor.   


Mae’r cwmni yn falch o ddefnyddio y dechnoleg ddiweddaraf i ddatblygu a chynnig gwasanaethau ariannol i ddefnyddwyr.  Maent wedi derbyn £750,000 o gyllid busnes gan Lywodraeth Cymru i helpu gyda symud i Gymru.    


Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:


“Dwi’n falch iawn o groesawu Chetwood i Wrecsam, a bod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi hyn gyda cyllid o £750,000. 


“Mae ein buddsoddiad yn Chetwood yn helpu i greu 90 o swyddi dawnus sy’n talu’n dda, yn yr hyn sy’n datblygu yn sector gwasanaethau proffesiynol ac ariannol sy’n ffynnu yng Ngogledd-ddwyrain Cymru.    


“Mae’n beth da iawn i weld Chetwood yn gweithio gyda Coleg Cambria, Prifysgol Glyndwr ac eraill i sicrhau bod eu busnes yn manteisio ar ddoniau lleol.  


“Gyda’r wlad yn denu nifer cynyddol o arbenigwyr ariannol, a Banc Datblygu Cymru yn un ohonynt, rwy’n edrych ymlaen at weld Chetwood Financial yn ychwanegu at enw da Gogledd-ddwyrain Cymru fel cyrchfan ar gyfer cwmnïau gwasanaethau ariannol, gan sicrhau bod canolfan ariannol yn datblygu yn y dyfodol yn y rhan yma o Gymru.”  


Wrth siarad yn y lansiad, dywedodd Andy Mielczarek y Prif Swyddog Gweithredol:

 

“Dyma garreg filltir enfawr inni i agor ein drysau o’r diwedd ac i allu gweithredu yma yn Wrecsam, fy nhref enedigol.  Mae’r cymorth gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn hanfodol ac rydym yn hyderus y bydd eu buddsoddiad yn talu ar ei ganfed i bobl Wrecsam a’r cyhoedd yn ehangach wrth inni gyflawni ein cynlluniau i greu cynnyrch ariannol doethach sy’n sicrhau fod pobl yn gyfoethocach.”  


Wrth drafod y lansiad, ychwanegodd y Prif Swyddog Gweithrediadau Mark Jenkinson: 

“Efallai ei fod yn swnio’n gymhleth pan fyddwn yn egluro ein bod yn creu cynnyrch ariannol yn hytrach nac yn fanc – ond mae’r hyn yr ydym  yn ei gynnig yn hynod syml.   Rydym yn cynnig cynnyrch ariannol o safon uchel, sy’n gost-effeithiol, fydd yn defnyddio meddalwedd fodern fel eu bod yn wahanol i’r cynnyrch sy’n cael ei gynnig ar hyn o bryd.  Boed yn fenthyciad, cyfrif cynilo neu forgais – byddant yn gynnyrch clyfar, deinamig fydd yn golygu bod pobl yn gyfoethocach ac yn rhoi profiad gwell iddynt hefyd.”