Neidio i'r prif gynnwy

Partneriaeth newydd rhwng Llywodraeth Cymru ac OpenAI i wella ChatGPT yn Gymraeg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fel rhan o’r ymdrech i gynyddu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi partneriaeth ddata newydd gydag OpenAI i wella sut mae technoleg AI yn gweithio yn Gymraeg.

Yn y Senedd yn ddiweddarach heddiw bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg, Jeremy Miles, yn amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer y Gymraeg, gyda thechnoleg yn llinyn arian yn rhedeg ar draws bob un. 

Mae ei flaenoriaethau’n cynnwys:

  • cyhoeddi Bil Addysg Gymraeg yn ystod yr wythnosau nesaf a fydd yn galluogi pob disgybl ysgol yng Nghymru i ddod yn siaradwyr Cymraeg annibynnol a hyderus;
  • cefnogi datblygiad economaidd mewn cymunedau sydd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg i sicrhau bod yr iaith yn ffynnu ochr yn ochr â thwf economaidd;
  • creu cyfleoedd i siarad a mwynhau yn y Gymraeg drwy gynyddu trosglwyddiad iaith yn y cartref ac o fewn cymunedau.

Dywedodd Jeremy Miles: 

Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac mae dyletswydd ar bob un ohonom i’w diogelu a sicrhau ei bod yn tyfu ym mhob agwedd ar gymdeithas. Mwy o Gymraeg i fwy o bobl - dyna rwy eisiau ei weld, a bydd y blaenoriaethau rwy’n eu hamlinellu heddiw yn sicrhau ein bod ni ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg a chynyddu defnydd dyddiol o’r iaith erbyn 2050.

"Mae pob un ohonom yn defnyddio technoleg mewn un ffordd neu’i gilydd, ac yn gynyddol, rydyn ni’n gweld AI yn cael ei ddefnyddio mewn mwy o sefyllfaoedd. Rwy’n edrych ymlaen i weld sut bydd y bartneriaeth ddata newydd gydag OpenAI yn arwain at wella sut mae technoleg AI yn gweithio yn Gymraeg. Drwy weithio gydag OpenAI yn y gorffennol, rydyn ni wedi gallu rhannu adnoddau iaith Gymraeg a chydrannau rydyn ni fel Llywodraeth Cymru wedi ariannu."

Bydd y bartneriaeth yn creu archifau data agored i gyfrannu data i'r gymuned ymchwil, er mwyn gwella perfformiad ieithyddol modelau a chydrannau AI.

Dywedodd Anna Makanju, Is-lywydd Materion Rhyngwladol OpenAI:

 Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn bartner gwych wrth greu set ddata agored ar gyfer hyfforddi modelau iaith. Yn OpenAI, rydyn ni am i'n modelau ddeall cymaint o ieithoedd a diwylliannau â phosib, fel bod modd i gynifer o bobl â phosib eu defnyddio."

Ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi’r Cynllun gweithredu technoleg Cymraeg yn 2018, mae wedi ariannu, creu a gweithio ar nifer o’r elfennau digidol angenrheidiol i’r iaith.

Ychwanegodd Jeremy Miles: 

Rwy’n falch iawn o’r hyn yr ydym wedi’i gyflawni o dan y Cynllun gweithredu technoleg Cymraeg blaenorol, ond nid yw’r gwaith byth ar ben. Felly heddiw, rwy’n gwahodd pobl i gyflwyno gwybodaeth neu syniadau am ba ddatblygiadau technolegol fyddai’n eu helpu nhw i ddefnyddio mwy ar y Gymraeg, a’r hyn sydd angen digwydd i’w gwneud hi’n haws iddyn nhw ddefnyddio technoleg yn Gymraeg."

Gall pobl gyflwyno gwybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â hyn, bydd y llywodraeth hefyd yn siarad â phobl ledled Cymru a thu hwnt, i gael eu mewnbwn i waith ar gyfer technoleg iaith Gymraeg yn y dyfodol.