Neidio i'r prif gynnwy

2. Pwy sy'n gymwys

Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael gwelliannau effeithlonrwydd ynni i'r cartref am ddim gan Nyth.

Gallech fod yn gymwys i gael gwelliannau effeithlonrwydd ynni i'r cartref am ddim os ydych yn bodloni'r 3 amod isod:

  • rydych yn berchen ar eich cartref neu'n ei rentu drwy drefniant preifat (nid drwy awdurdod lleol neu gymdeithas dai) 
  • rydych yn derbyn budd-dal sy'n destun prawf modd neu rydych yn byw mewn aelwyd incwm isel
  • bod gan eich cartref sgôr EPC o 54 (E) neu is; neu sgôr EPC o 68 (D) neu is os oes gennych chi neu aelod o’ch cartref gyflwr iechyd cymwys

Rydych chi’n berchen ar eich cartref neu’n ei rentu’n breifat 

Os ydych chi’n berchen ar eich cartref, bydd angen i chi ddarparu un o’r canlynol fel tystiolaeth.

  • cyfriflen morgais
  • polisi yswiriant adeiladau
  • gweithredoedd eiddo neu gopi swyddogol o’r teitl cyfreithiol

Os ydych chi’n rhentu eich cartref yn breifat, bydd angen i chi ddarparu manylion eich landlord fel y gallwn ofyn am ganiatâd i gyflawni unrhyw waith.

Nid yw tenantiaid awdurdod lleol neu gymdeithas tai yn gymwys. Cysylltwch â’ch awdurdod lleol neu gymdeithas tai i drafod effeithlonrwydd ynni yn eich cartref.

Budd-dal sy’n dibynnu ar brawf modd

Y budd-daliadau sy'n destun prawf modd sy'n gymwys yw:

  • Credyd Treth Plant ac incwm unigol o dan £18,660 y flwyddyn
  • Gostyngiad y Dreth Gyngor yn ymwneud ag incwm
  • Budd-dal Tai
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • Cymhorthdal Incwm
  • Credyd Pensiwn
  • Credyd Cynhwysol
  • Credyd Treth Gwaith ac incwm unigol o dan £18,660 y flwyddyn

Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth eich bod yn derbyn budd-dal sy’n dibynnu ar brawf modd, fel llythyr dyfarnu budd-dal neu ddatganiad y Dreth Gyngor. 

Cartref incwm isel

Mae aelwyd ag incwm sy'n is na 60% o'r cyfartaledd canolrifol y Deyrnas Unedig yn cael ei ystyried yn aelwyd incwm is ar gyfer y cynllun hwn. Ni fyddwn yn cyfrif unrhyw daliadau neu fudd-daliadau sy'n gysylltiedig ag anabledd fel incwm.

Bydd eich trothwy yn dibynnu ar oedran a nifer y bobl yn eich aelwyd. Rhoddir enghreifftiau yn nhablau 1 i 3. Mae’r rhain yn seiliedig ar gyfanswm incwm y cartref ar ôl taliadau morgais neu rent.

Tabl 1: Trothwyon incwm ar gyfer cwpl gyda phlant neu heb blant

Math o aelwydTrothwy wythnosolTrothwy misolTrothwy blynyddol 
Cwpwl heb plant£373£1,615£19,383
Cwpl gydag un plentyn dan 14 oed£447

£1,938

 

£23,259
Cwpl gydag un plentyn 14 oed neu drosodd£496£2,148£25,779
Cwpl gyda dau o blant dan 14 oed£522£2,261£27,136
Cwpl gyda dau o blant 14 oed neu drosodd£619£2,681£32,176

Tabl 2: Trothwyon incwm ar gyfer oedolyn sengl gyda phlant neu heb blant

Math o aelwydTrothwy wythnosolTrothwy misolTrothwy blynyddol 
Aelwyd 1 oedolyn heb plant£250£1,082£12,987
1 oedolyn gydag un plentyn o dan 14 oed£324£1,405£16,863
1 oedolyn gydag un plentyn 14 oed neu drosodd£373£1,615£19,383
1 oedolyn gyda dau o blant o dan 14 oed £399£1,728£20,740
1 oedolyn gyda dau o blant 14 oed neu drosodd£496£2,148£25,779

Tabl 3: Trothwyon incwm ar gyfer oedolion sy’n cael y pensiwn y wladwriaeth

Math o aelwydTrothwy wythnosolTrothwy misolTrothwy blynyddol 
Pensiynwr sengl£250£1,082£12,987
Cwpwl sy'n bensiynwyr£373£1,615£19,383

Os nad yw eich aelwyd wedi’i ddisgrifio yn y tablau yma, rhowch galwad i’n cynghorwyr os gwelwch yn dda, ar 0808 808 2244 (Dydd Llun i Ddydd Gwener rhwng 9am a 6pm).

Sgôr EPC a chyflyrau iechyd

Rhaid i’ch cartref fod â sgôr EPC o 54 (E) neu is oni bai bod gennych chi neu aelod o’ch cartref gyflwr iechyd cronig cymwys. 

Pan fydd gennych chi neu aelod o’ch cartref gyflwr iechyd cronig cymwys rhaid bod gan eich cartref sgôr EPC o 68 (D) neu is. Mae cyflyrau iechyd cronig cymwys yn cynnwys:

  • clefyd anadlol (heintiau anadlol, broncoddarwasgiad yn gysylltiedig ag asthma a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint)
  • clefyd cylchrediad y gwaed (gan gynnwys clefyd cardiofasgwlaidd, strôc a thrawiad ar y galon)
  • iechyd meddwl (gan gynnwys iselder, gorbryder, seicosis ac anhwylderau deubegynol)
  • dementia
  • anhwylderau deallusol ac anhwylderau datblygu 

Rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o’ch cyflwr iechyd, er enghraifft:

  • presgripsiwn
  • pecyn meddyginiaeth
  • cynllun triniaeth
  • llythyr apwyntiad meddyg teulu neu ysbyty neu lythyr cyfeirio

Gwiriwch eich sgôr EPC ar wefan GOV.UK neu cysylltwch â ni a gallwn ni eich helpu. Pan fyddwch chi’n rhoi eich cyfeiriad, byddwn ni’n gwirio i gadarnhau eich bod yn gymwys.