Neidio i'r prif gynnwy

Mae undebau credyd yn fenthycwyr cymunedol dielw, yn darparu benthyciadau fforddiadwy, a chynilion.

Mae'r angen am gredyd fforddiadwy yn fwy dybryd nawr nag erioed. Mae'r argyfwng costau byw yn pwyso’r drwm ar incwm llawer o aelwydydd. Efallai y bydd teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd yn troi at gredyd drud i fantoli cyllideb eu haelwyd. Efallai y byddan nhw'n troi at roddwyr benthyciadau cost uchel neu roddwyr benthyciadau anghyfreithlon hyd yn oed. Mae pobl sydd â hanes credyd gwael a phobl nad ydyn nhw’n gallu fforddio defnyddio mathau cyffredin o gredyd yn wynebu risg o wneud hyn.

Cwmnïau nid-er-elw, ym mherchnogaeth yr aelodau yw undebau credyd, sy'n cynnig cyfrifon cynilo cymunedol a benthyciadau. Maen nhw'n foesol, ac maen nhw hefyd:

  • yn rhoi cyfle i bobl sydd â hanes credyd gwael fanteisio ar gredyd teg a fforddiadwy
  • yn helpu'r bobl hynny na allan nhw fanteisio ar fathau cyffredin o gredyd
  • neu'r bobl hynny efallai nad ydyn nhw'n gwybod am ddarparwyr fforddiadwy
  • yn darparu benthyciadau yn dechrau o £50
  • yn cynnig ffordd fwy diogel o fenthyg arian am dymor byr
  • yn ystyried fforddiadwyedd bob amser wrth asesu ceisiadau am fenthyciadau
  • yn cynnig opsiwn amgen yn lle benthyciadau diwrnod cyflog, rhoddwyr benthyciadau llog uchel a rhoddwyr benthyciadau stepen drws anonest
  • yn cynnig benthyciadau a chynilion wedi'u diogelu gan y Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol.

Mynnwch help gan yr undeb credyd sy’n cefnogi eich ardal, os ydych yn byw yn: