Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am wasanaethau bysiau, tocynnau bws, amlder bysiau a thacsis ar gyfer Ebrill 2016 i Fawrth 2017.

Cilomedrau cerbydau a deithwyd ar fysiau a choetsys yng Nghymru yn 2016/17. 100.3 miliwn o gilometrau deithiwyd yng Nghymru. Gwasanaethau cymorthdaledig: 21.1 %. Gwasanaethau masnachol: 78.9 %. Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o Arolwg Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus yr Adran Drafnidiaeth

Prif bwyntiau

  • Cafwyd gostyngiad yn nifer y bobl sydd wedi'u cyflogi a nifer y cerbydau ar waith yn y diwydiant bysiau lleol yn 2016/17 o'i gymharu â'r flwyddyn gynt.
  • Yn 2016/17 roedd y diwydiant bysiau lleol yng Nghymru yn cyflogi 4,592 o staff ac roedd ganddo 2,360 o gerbydau ar waith ar 31 Mawrth 2017. O'i gymharu â  2015/16, gostyngodd y niferoedd a oedd wedi'u cyflogi 8.2% a gostyngodd nifer y cerbydau 13.0%.
  • Cafwyd gostyngiadau yn nifer y teithiau gan deithwyr a chilometrau cerbyd ar y gwasanaethau bysiau lleol yng Nghymru yn 2016/17 o'i gymharu â'r flwyddyn gynt.
  • Yn ystod y flwyddyn roedd 99.6 miliwn o deithiau gan deithwyr yn deithiau ar fysiau lleol a deithiodd miliwn 100.3 o gilometrau cerbyd. O'r teithiau hyn roedd gwasanaethau masnachol yn cyfrif am 78.9% a gwasanaethau â chymhorthdal yn cyfrif am 21.1%. O'i gymharu â 2015/16, mae teithiau gan deithwyr a chilometrau cerbyd a deithiwyd wedi gostwng 0.7 a 4.3% yn eu trefn.
  • Cynyddodd prisiau bws yng Nghymru rhwng 2016 a 2017.
  • Cynyddodd prisiau bws yng Nghymru 0.5% rhwng 2016 a 2017, sy'n is na'r cynnydd cyffredinol mewn prisiau defnyddwyr (fel y'i mesurir gan y Mynegai Prisiau Defnyddwyr, gan gynnwys costau tai perchenogion preswyl - CPIH), dros yr un cyfnod. 
  • Mae cofrestriadau tacsis wedi gostwng (1.1%) ond mae cerbydau hurio preifat wedi cynyddu (15.1%) yn 2017, o'i gymharu â 2015.
  • Yng Nghymru, cafodd 5,085 o dacsis a thros 4,770 o gerbydau hurio preifat eu trwyddedu yn ôl y sefyllfa ym Mawrth 2017.

Adroddiadau

Cerbydau gwasanaeth cyhoeddus, Ebrill 2016 i Fawrth 2017 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.