Neidio i'r prif gynnwy

Prif bwyntiau

Effeithiwyd ar ddata ar gyfer Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus yn 2020-21 (1 Ebrill 2020 i 31 Mawrth 2021) yn sylweddol gan bandemig y coronafeirws (COVID-19). Yng Nghymru, gostyngodd nifer y teithiau a wnaed ar wasanaethau bysiau lleol 71.4%, a gostyngodd cyfanswm y pellter a deithiwyd yn 2020-21 36.0% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Dyma'r gostyngiad mwyaf yn nifer y teithiau a wneir ar wasanaethau bysiau lleol a chyfanswm y pellter a deithiwyd ers dechrau cadw cofnodion. Ym Mhrydain Fawr, gostyngodd nifer y teithiau a wnaed ar wasanaethau bysiau lleol 61.8% dros yr un cyfnod.

Gwnaed 26.0 miliwn o deithiau gan deithwyr ar fysiau lleol yng Nghymru yn 2020-21 o'u cymharu â 91.0 miliwn o deithiau gan deithwyr yn y flwyddyn flaenorol. Cyfanswm y teithiau yn 2020-21 oedd 64.2 miliwn cilomedr cerbyd (siart 2).

Yn 2020-21, gostyngodd nifer y gyrwyr wedi’u cyflogi ar fysiau a choetsis 12.4% i 3,258 o’i chymharu â 2019-20, (siart 5).

Dros yr un cyfnod, gostyngodd nifer y bysiau a choetsis lleol a oedd yn cael eu gweithredu 7.8% i 2,217 (siart 3).

Roedd prisiau tocynnau bws yng Nghymru yn ystod 2021 yn debyg i'r rhai a gofnodwyd yn 2020. Ym Mhrydain Fawr, cododd prisiau tocynnau bws 1.5%, yn is na chyfradd chwyddiant prisiau defnyddwyr dros yr un cyfnod o 2.3% (siart 6).

Fel yr oedd mis Mawrth 2021, roedd nifer y cofrestriadau tacsis wedi gostwng 7.2%, ac roedd cofrestriadau cerbydau hurio preifat wedi gostwng 13.3% o’u cymharu â Mawrth 2020. Roedd cyfanswm o 4,569 o dacsis a 4,594 o gerbydau hurio preifat wedi’u trwyddedu yng Nghymru ym mis Mawrth 2021.

Y diwydiant bysiau lleol yng Nghymru

Caiff gwasanaethau bysiau lleol eu diffinio fel y rhai hynny ble y caiff teithwyr eu cludo ‘gyda tocynnau unigol dros bellter byr’[Troednodyn 1]. Mae gwasanaethau bws yn rhan hanfodol o economi Cymru ac o fywyd cymdeithasol. Roedd Cyfrifiad 2011 yn dangos nad oedd gan 23% o’r boblogaeth yng Nghymru gar neu fan, a bod nifer o bobl yn ddibynnol ar wasanaethau bysiau i deithio i’r gwaith, ar gyfer apwyntiadau ysbytai, i ymweld â ffrindiau, i siopa a defnyddio gwasanaethau hamdden. 

Yn ystod 2020-21, roedd 26.0 miliwn o deithiau ar fysiau lleol yng Nghymru, gyda’r gwasanaethau yn gwneud 64.2 miliwn o gilomedrau cerbyd. Roedd 72.9% o gyfanswm y pellter a deithiwyd ar lwybrau masnachol (siart 2).

Image
Mae Siart 1 yn dangos bod pob gwasanaeth bysiau yng Nghymru yn 2020–21 wedi gwneud cyfanswm o 64.2 miliwn o gilometrau cerbyd. 27% gan wasanaethau â chymhorthdal a 73% gan wasanaethau masnachol.

Gostyngodd cyfanswm y pellter a deithiwyd 36.0% yn 2020--21, o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol. Gostyngodd y pellter a deithiwyd gan wasanaethau â chymhorthdal 32.5% yn 2020-21, a gostyngodd y pellter a deithiwyd gan wasanaethau masnachol 37.3%. mae’n debyg bod y gostyngiadau yn y pellter a deithiwyd yn ystod y flwyddyn diwethaf yn adlewyrchu effaith pandemig COVID-19

Roedd cyfanswm y bellter a deithiwyd yn 2019-20 (y cyfnod olaf yr oedd y rhan fwyaf ohono cyn y pandemig) 19.0% yn is na'r pellter a deithiwyd yn 2009-10, o ganlyniad i’r gostyngiad mawr yn y pellter a deithiwyd ar wasanaethau â chymhorthdal (i lawr 40.0%). Gostyngodd y pellteroedd a deithiwyd ar wasanaethau masnachol 7.8% dros yr un cyfnod.

Image
Mae Siart 2 yn dangos y pellter a deithiwyd gan bob gwasanaeth bysiau lleol yng Nghymru. Rhwng y blynyddoedd ariannol 2019–20 a 2020–21 gostyngodd y pellter a deithiwyd 36.0%.

Cilomedrau cerbyd a theithiau gan deithwyr ar fysiau a choetsis yn ôl blwyddyn ar gyfer StatsCymru

Yn gyffredinol, mae’r tueddiad hirdymor yn y pellter sydd wedi’i deithio wedi tracio’r tueddiad yn nifer y bysiau sy’n rhedeg (siart 3). Gostyngodd nifer y bysiau a choetsis yn y flwyddyn diwethaf, gan barhau â’r gostyngiad hirdymor yn nifer y bysiau a’r pellter a deithiwyd, yn ogystal ag adlewyrchu effaith pandemig COVID-19.

Roedd 2,217 o fysiau a choetsis yn cael eu gweithredu gan gwmnïau lleol yng Nghymru yn ystod 2020-21, gostyngiad o 187 o’i chymharu â’r flwyddyn flaenorol.  Ers 2010-11 mae nifer y bysiau a choetsis wedi gostwng 756 (25.4%).  Roedd y cerbydau hyn yn rhedeg ar 1,539 o lwybrau bysiau cofrestredig (fel yr oedd ar 31 Mawrth 2018).

Image
Mae Siart 3 yn dangos bod 2,217 o fysiau a choetsis yn cael eu gweithredu’n lleol yng Nghymru yn 2020–21, gostyngiad o 187 o’i chymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Nifer y cerbydau bysiau a choetsis yn ôl blwyddyn ar gyfer StatsCymru

Mae nifer y teithiau unigol wedi dilyn tueddiad tebyg i’r pellter a deithiwyd ers 2007–08. Mae nifer y teithiau wedi bod yn gymharol sefydlog ers y cyfnod 2014-15 hyd 2020-21, ond bu gostyngiad mawr yn y flwyddyn diwethaf. O'i chymharu â 2019-20, gostyngodd teithiau bysiau lleol 71.4% yn 2020-21, y gostyngiad mwyaf ers dechrau cadw cofnodion (siart 4).

Image
Mae Siart 4 yn edrych ar nifer y teithiau bws lleol, sydd wedi bod yn gymharol sefydlog ers 2014–15, ac yn y flwyddyn diwethaf roeddent 71.4% yn is o’i chymharu â 2019–20.

Cilomedrau cerbyd ar wasanaethau bysiau lleol yn ôl gwlad ac yn ôl blwyddyn ar gyfer StatsCymru

Yn 2020-21 roedd gan y diwydiant bysiau lleol 4,159 o staff, 78.3% (3,258) ohonynt yn yrwyr. Gostyngodd nifer yr holl staff 11.8% yn y flwyddyn ddiweddaraf (siart 5), gyda nifer y gyrwyr yn gostwng 12.4%.  Dros yr hirdymor, bu gostyngiad bychan yn nifer y gyrwyr a nifer y staff.  Ar y cyfan, mae’r tueddiadau o ran gyrwyr a  nifer staff yn debyg i’r duedd o ran y bysiau sy’n rhedeg.

Image
Mae Siart 5 yn dangos y bu gostyngiad o 11.8% yn nifer y gyrwyr wedi’u cyflogi yn y flwyddyn diwethaf o’i chymharu â  2019–20.

Nifer y staff a gyflogir ar fysiau a choetsis yn ôl blwyddyn ar gyfer StatsCymru

Gwasanaethau bysiau lleol: tocynnau

Mae Siart 6 yn dangos sut y mae tocynnau ar fysiau yng Nghymru wedi newid ers 1995. Mae’r ffigurau a ddefnyddir yn defnyddio’r prisiau cyfredol (y prisiau a dalwyd).  Mae tocynnau bysiau yng Nghymru wedi cynyddu ar raddfa debyg iawn i Brydain Fawr, er bod tocynnau blynyddoedd diweddar wedi cynyddu ychydig mwy ym Mhrydain Fawr na Cymru.  Mae tocynnau bysiau wedi cynyddu’ ar raddfa sy’n uwch na chwyddiant (sy’n cael ei fesur gan CPIH[Troednodyn 2]). Mae hyn yn cael ei ddangos gan y trywydd mwy serth yn y cynnydd mewn prisiau tocynnau o gymharu â goleddf lai y llinell doredig ar gyfer CPIH.  Ers 1995 mae tocynnau yng Nghymru wedi cynyddu 185%, tocynnau ym Mhrydain Fawr wedi cynyddu 174% a CPIH wedi cynyddu 64%. Yn y flwyddyn diwethaf ni newidiodd prisiau tocynnau yng Nghymru, a bu cynnydd o 1.5% ym Mhrydain Fawr, yn is na’r cyfradd chwyddiant o 2.3%.

Image
Mae Siart 6 yn dangos bod prisiau tocynnau bws wedi aros yr un peth yng Nghymru, o’i chymharu â Phrydain Fawr, lle maent wedi cynyddu 1.5%.

Mynegeion prisiau tocynnau ar gyfer gwasanaethau bysiau lleol yng Nghymru a Phrydain yn ôl blwyddyn ar gyfer StatsCymru

Gwasanaethau bysiau lleol: teithiau

Mae Cymru yn gyfran fechan o’r farchnad bysiau lleol ym Mhrydain Fawr, gyda dim ond 1.5% o gyfanswm y teithiau yn 2020-21. Mae'r gyfran hon yn dangos bod teithio ar fysiau’n llai cyffredin yng Nghymru nag ar draws Prydain Fawr yn gyffredinol, gyda Chymru'n cyfrif am 4.9% o boblogaeth Prydain Fawr. Yn 2020-21 bu gostyngiad yn nifer y teithiau ar wasanaethau bysiau lleol yn holl wledydd Prydain Fawr. Mae’n debyg bod hyn yn adlewyrchu'r effaith a gafodd COVID-19 ar gerbydau gwasanaeth cyhoeddus ledled Prydain. O'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol, yng Nghymru y gwelwyd y gostyngiad canrannol mwyaf mewn teithiau ar wasanaethau bysiau lleol (-71.4%), wedyn yr Alban (-65.0%) ac wedyn Lloegr (-61.3%) (Siart 7).

Mae Siart 7 yn dangos tueddiadau mewn teithiau ar fysiau yng ngwledydd Prydain Fawr ers 1998-99. Mae’r duedd yng Nghymru yn debyg ar y cyfan i’r hyn a welwyd yn Yr Alban.  Mae’r duedd gyffredinol yn Lloegr yn wahanol oherwydd bod Llundain yn camliwio’r sefyllfa, gan y bu cynnydd sylweddol mewn teithiau bws hyd at 2008-09.

Image
Mae Siart 7 yn dangos bod y duedd mewn teithiau bws lleol yn debyg yng Nghymru i’r hyn a welwyd yn yr Alban a Lloegr (ac eithrio Llundain). Bu gostyngiad ym mhob gwlad yn ystod y flwyddyn diwethaf.

Mynegai teithiau bws lleol yn ôl gwlad y DU a Llundain a fesul blwyddyn ar gyfer StatsCymru

Bu gostyngiad yn nifer y teithiau fesul person ledled Prydain ers 2008-09. Gwelodd pob gwlad ostyngiad yn ystod y flwyddyn diwethaf, gyda gostyngiad o 72.4% yng Nghymru. Yng Nghymru, roedd nifer y teithiau fesul person yn llai na hanner y gyfradd yn yr Alban a Lloegr (siart 8). Mae’r gyfradd wedi aros yn sefydlog yng Nghymru ers 2014-15, lle y mae’r gyfradd fesul person wedi gostwng yn Lloegr a’r Alban dros yr un cyfnod.

Image
Mae Siart 8 yn dangos bod nifer y teithiau fesul pen o’r boblogaeth wedi bod yn gostwng ledled Prydain Fawr ers 2008–09. Bu gostyngiad ym mhob gwlad dros y flwyddyn diwethaf, gyda gostyngiad o 72.4% yng Nghymru.

Canran y newid yn Teithiau gan deithwyr ar wasanaethau bysiau lleol yn ôl gwlad fesul pen o'r boblogaeth yn ôl blwyddyn ar gyfer StatsCymru

Gwasanaethau bysiau lleol: pellter a deithiwyd

Cyfanswm y pellter a deithiwyd yng Nghymru mewn bws yw 3.4% yn unig o’r holl gilomedrau gan gerbydau ym Mhrydain Fawr yn 2020-21 (siart 9).

Yn 2020-21, roedd cyfanswm y pellter a deithiwyd yng Nghymru 36.0% yn is na 2019-20, a bu gostyngiadau yn Lloegr a’r Alban o 16.0% a 24.0% yn y drefn honno. Dros y tymor hir bu gostyngiad yn y pellter a deithiwyd yn y tair gwlad.  Ers 2005-06, mae canran y gostyngiad wedi bod fwyaf yng Nghymru (gostyngiad o 49.6%) o’i chymharu â 27.2% yn Lloegr a 31.7% yn yr Alban (siart 9).

Image
Mae Siart 9 yn dangos bod cyfanswm y pellter a deithiwyd gan wasanaethau bysiau lleol yng Nghymru yn 2020–21 36.0%  yn is na’r ffigur ar gyfer 2019–20.

Cilomedrau cerbyd ar wasanaethau bysiau lleol yn ôl gwlad ac yn ôl blwyddyn ar gyfer StatsCymru

Tacsis trwyddedig a cherbydau hurio preifat yng Nghymru

Gall unigolion wneud cais am drwydded tacsi, trwydded cerbyd hurio preifat neu drwydded ddeuol. 

  • Mae trwydded tacsi yn galluogi’r daliwr i godi teithwyr ar y stryd neu o ranciau tacsi penodol. 
  • Mae trwydded cerbyd hurio preifat yn galluogi’r daliwr i godi teithwyr sydd wedi bwcio gyda gweithredwr cerbydau hurio preifat trwyddedig. 
  • Mae trwydded ddeuol yn galluogi’r daliwr i yrru naill ai dacsi neu gerbyd hurio preifat.

Ym mis Mawrth 2021, roedd 4,569 o dacsis trwyddedig yng Nghymru a 4,594 o gerbydau hurio preifat.  Rhoddwyd cyfanswm o 9,432 o drwyddedau deuol i yrru tacsi a cherbydau hurio preifat, 82.7% o gyfanswm y trwyddedau, ac roedd gyrwyr â thrwydded tacsis yn unig yn cynrychioli dim ond 2.4% o’r cyfanswm. Mae trwyddedau tacsi wedi bod yn sefydlog am gryn amser a Cherbydau Hurio Preifat wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf. Gostyngodd cyfanswm nifer y trwyddedau gyrwyr yng Nghymru, fel yr oedd ym mis Mawrth 2021, 4.6% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. (siart 10).

Image
Mae Siart 10 yn dangos bod 4,569 o dacsis trwyddedig yng Nghymru yn 2021, a 5,594 o gerbydau hurio preifat.

Tacsis trwyddedig a cherbydau hurio preifat yn ôl awdurdod lleol a blwyddyn yr arolwg ar gyfer StatsCymru

  • Roedd 4,594 o gerbydau’r fflyd hurio preifat trwyddedig yn gweithredu, fel yr oedd ym mis Mawrth 2021, gyda 1,693 o yrwyr a 779 o gwmnïau trwyddedig. 
  • Roedd 9,432 o yrwyr â thrwydded ar gyfer tacsis a cherbydau hurio phreifat yng Nghymru, fel yr oedd ym mis Mawrth 2021; gyda 35.5% o’r rhain o awdurdodau lleol Caerdydd ac Abertawe. 

Mae’n bosibl gweld nifer y tacsis a’r cerbydau hurio preifat trwyddedig, yn ôl awdurdod lleol, yng Nghymru ar StatsCymru. Ni roddwyd unrhyw drwyddedau deuol gan ddau awdurdod lleol (Wrecsam a Merthyr Tudful), fel yr oedd ar 31 Mawrth 2021, yn hytrach rhoddwyd trwyddedau gyrwyr tacsis trwyddedig a cherbydau hurio preifat ar wahân.

Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Ffynhonnell data

Mae rhan fwyaf yr wybodaeth a gyflwynir yma wedi deillio o’r ffurflenni blynyddol i’r Adran Drafnidiaeth gan sampl o 700 o ddeiliaid trwyddedau cwmnïau Cerbydau Gwasanaethau Cyhoeddus (‘yr arolwg Cerbydau Hurio Preifat’). Mae’r ffurflen hon yn rhoi gwybodaeth ar deithiau, milltiroedd gan gerbydau, derbynebau teithwyr a chostau gweithredu. Mae arolygon llai, ar wahân, wedi’u rheoli gan yr Adran Drafnidiaeth yn casglu gwybodaeth am newidiadau mewn prisiau tocynnau, dibynadwyedd y gwasanaeth a nifer y teithwyr bob chwarter gan gwmnïau bysiau newydd, mwy.    

Mae manylion llawn y ffynonellau data a’r dulliau a ddefnyddir i’w cael yn y canllawiau (Yr Adran Drafnidiaeth).

Cwmpas

Mae’r arolwg ond yn cwmpasu y cwmnïau hynny sy’n cynnal gwasanaethau bysiau lleol sydd wedi cofrestru gyda’r Comisiynydd Traffig.

Diffiniadau

Gwasanaethau bysiau lleol

Gwasanaethau lleol yw gwasanaethau sy’n aros yn rheolaidd sydd wedi’u cofrestru gyda’r Comisiynydd Traffig. Caiff gwasanaeth lleol ei ddiffinio fel gwasanaeth bws sy’n defnyddio Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus i gludo teithwyr am brisiau ar wahân dros bellter byr. Gall y daith fod o unrhyw hyd, cyn belled â bod modd i deithwyr fynd oddi ar y bysiau o fewn 24.15 cilometr (15 milltir) (wedi’i fesur mewn llinell syth) i ble y cawsant eu codi. Mae’n rhaid i bob teithiwr wneud taliad ar wahân i’r gyrwr, y casglwr tocynnau neu’r asiant er mwyn defnyddio’r gwasanaeth. Mae angen cofrestru gwibdeithiau neu deithiau dim ond os oes angen talu am docynnau ar wahân, a bod y daith gyfan o fewn radiws 24.15 km (15 milltir) i’r pwynt dechrau a’u bod yn rhedeg unwaith neu fwy yr wythnos am o leiaf 6 wythnos ar y tro. Mae’n bosibl i wasanaethau ysgolion a gwaith fod ar fysiau lleol os yw’r defnyddwyr yn talu am docynnau ar wahân, ond nid oes yn rhaid eu cofrestru os yw rhywun ar wahân i’r cwmni bysiau yn gyfrifol am drefnu’r daith, ac nad oes angen hysbysebu y daith ymlaen llaw i’r cyhoedd, a bod pob teithiwr yn teithio i ac o’r un lle, a bod teithwyr yn talu yr un faint waeth pa mor bell y maent yn teithio.

Siwrnai gan deithwyr

Mae cyfanswm y rhai sy’n mynd ar bob cerbyd yn cael eu cyfrif, felly byddai taith sy’n galw am newid o un bws i un arall yn cael eu cyfrif fel dwy daith yn y ffigurau hyn. Nid yw’r ffigurau yn cynnwys plant o dan 5 mlwydd oed.

Cilometrau cerbydau

Pellter (cilomedrau) sydd wedi’u gwneud gan fysiau lleol yn eu gwasanaethau. Mae hyn ond yn cynnwys milltiroedd ‘byw’ (h.y. gwasanaethau) ac nid teithiau ‘marw’ h.y. o’r depo i ddechrau’r taith.

Perthnasedd

Ystadegau yr Adran Drafnidaieth yw’r ffynhonnell fwyaf gynhwysfawr o ddata swyddogol ar y diwydiant bysiau ym Mhrydain Fawr, ac mae’n darparu data sy’n cael eu defnyddio i fonitro tueddiadau, gan ddatblygu polisïau a bod yn atebol am y cymhorthdal sy’n cael ei ddarparuiI’r diwydiant ar lefel uchel.

Cywirdeb

Mae arolwg Cerbydau Gwasanaethau Cyhoeddus yn defnyddio techneg briodoli i ddod o hyd i ffigurau allweddol ar gyfer cwmnïau na chafodd eu dewis yn y sampl ar gyfer y flwyddyn honno, neu na wnaeth ymateb. Weithiau gellir gwella’r technegau priodoli ar gyfer blynyddoedd blaenorol gan ddefnyddio data  data sy’n cael ei gofnodi’n uniongyrchol ar gyfer blynyddoedd mwy diweddar. Gall diwygiadau bychain i ddata blaenorol ddigwydd o ganlyniad, er mai prin yw’r newid sylweddol i dueddiadau o ganlyniad i hynny. 

Ar gyfer y prif ddangosyddion (siwrneau gan deithwyr a milltiroedd gan gerbydau) mae’r data a ddarperir gan gwmni yn cynnwys oddeutu, neu mwy na 90% o’r cyfanswm, gyda’r gweddill yn cael ei briodoli. Mae’r gymhariaeth gyda ffynonellau eraill yn awgrymu, yn ei grynswth (Prydain Fawr), bod yr ystadegau yn debygol o ddarparu mesur gweddol gadarn o lefelau a thueddiadau cyffredinol.   

Fodd bynnag, dylid bod yn ofalus gyda’r ffigurau sy’n cynrychioli’r grwpiau llai o gwmnïau ac un newid flwyddyn ar ôl blwyddyn gan bod y rhain yn fwy tebygol o gynnwys camgymeriadau mesur (er enghraifft, ffurflen anghywir gan gwmni, neu newid i ddull cwmni o gynhyrchu’r ffigurau sydd eu hangen) sy’n fwy tebygol o gael eu colli ar lefel genedlaethol. Am y rheswm hwn, dylid bod yn ofalus wrth ddehongli ffigurau ar lefel ranbarthol, ac yn enwedig ar lefel awdurdodau lleol.

Prydlondeb

Data wedi ei gasglu oddi wrth weithredwyr gan yr Adran Drafnidiaeth yn ystod haf 2021 i’w gyhoeddi ym mis Tachwedd 2021.

Hygyrchedd ac eglurder

Cafodd y Bwletin Ystadegol hwn ei gyhoeddi ymlaen llaw ac yna ei gyhoeddi ar wefan Ystadegau ac Ymchwil gyda adroddiadau StatsCymru.

Cymhariaeth a chydlyniaeth

Mae nifer o’r ystadegau hyn wedi’u casglu ar sail gymharol ar y cyfan gan gwmnïau am sawl blwyddyn. Fodd bynnag, yn dilyn diwygio’r fethodoleg a ddefnyddir i baratoi y ffigurau a gyhoeddwyd, 2004-05 yw y flwyddyn gynharaf i gymharu ffigurau ar union yr un sail.

Cyhoeddiadau cysylltiedig

Mae yr Adran Drafnidiaeth yn cynhyrchu ystadegau ar y sector bysiau lleol ym Mhrydain Fawr. Mae'n cyflwyno gwybodaeth am: deithiau teithwyr, milltiroedd cerbydau, lefelau refeniw, costau a chymorth llywodraeth, fflyd o gerbydau, y staff a gyflogwyd, dangosyddion eraill gan gynnwys prydlondeb.

Mae Trafnidiaeth yr Alban yn cynhyrchu cyhoeddiad blynyddol o’r enw 'Teithio ar fysiau a choetsis' sy’n cyfuno amrywiol ddata am fysiau a coetsus i roi dealltwriaeth fwy cynhwysfawr a chyflawn o dueddiadau ac ymddygiad teithwyr ar draws y dulliau hyn o deithio. Mae’r data sy’n cael ei gyflwyno yn cynnwys data cwmnïau bysiau Adran Drafnidiaeth yr Alban, data tocynnau teithio rhatach ar fysiau Transport Scotland a dadansoddiad pellach o’r wybodaeth am fysiau sy’n cael ei gasglu gan y Arolwg cartrefi'r Alban (SHS).

Mae Adran Seilwaith Gogledd Iwerddon yn cynhyrchu cyhoeddiad blynyddol ystadegol o’r enw 'Ystadegau Trafnidiaeth Gogledd Iwerddon' sy’n cynnwys pennod ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Statws Ystadegau Cenedlaethol

Mae Awdurdod Ystadegau y Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn fel Ystadegau Cenedlaethol, yn unol â Deddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 ac maent yn nodi eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.     

Mae Ystadegau Cenedlaethol yn golygu bod ystadegau swyddogol yn bodloni’r safonau uchaf o ran ymddiriedaeth, ansawdd a gwerth cyhoeddus.   

Dylai pob ystadegyn swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Maent yn derbyn statws Ystadegau Cenedlaethol yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau y DU.  Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau yn bodloni’r safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a thrafodaethau cyhoeddus.  Cafodd ddynodiad yr ystadegau hyn fel Ystadegau Cenedlaethol ei gadarnhau ym mis Chwefror 2013 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer.   

Ers yr adolygiad diwethaf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac wedi gwneud y newidiadau canlynol:

  • cael gwared ar dablau di-angen o’r bwletin gan eu bod ar gael ar StatsCymru
  • elfennau gweledol gwell a sylwadau ar y tueddiadau hirdymor ar gyfer pob cerbyd gwasanaethau cyhoeddus 

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw sicrhau eu bod yn parhau i gydymffurfio â’r safonau disgwyliedig ar gyfer Ystadegau Cenedlaethol. Os ydym yn poeni ynghylch a yw’r ystadegau hyn yn parhau i fodloni’r safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon gyda’r Awdurdod yn brydlon.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021. yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, yn ogystal â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth ar Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sy’n cael eu cynnwys yn y datganiad hwn ddarparu’r naratif hefyd i’r dangosyddion cenedlaethol a’i ddefnyddio gan y byrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer eu hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Troednodiadau

[1] Tocynnau ar wahân yw ble y mae pob teithiwr yn gwneud taliad ar wahân i ddefnyddio’r gwasanaeth.  Er bod teithiau yn cael eu diffinio fel ‘pellter byr’ mae’n bosibl iddynt fod o unrhyw hyd cyffredinol, cyn belled ag y bo modd i deithwyr fynd oddi ar y bws o fewn 15 milltir i ble y cawsant eu codi.

[2] Mynegai prisiau defnyddwyr gan gynnwys costau tai perchen-feddianwyr.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: James Khonje
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.masnach@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Ystadegau Gwladol

SB 9/2022