Neidio i'r prif gynnwy

1. Y prif bwyntiau

Mae Siart 1 yn dangos bod pob gwasanaeth bysiau yng Nghymru yn 2018-19 wedi gwneud cyfanswm o 101.8 miliwn o gilometrau cerbydau

  • Mae nifer y teithiau sydd wedi’u gwneud ar wasanaethau bysiau lleol yng Nghymru, a chyfanswm y pellter a deithiwyd, wedi sefydlogi yn ddiweddar. Roedd hyn yn dilyn gostyngiad hirdymor yn y defnydd o fysiau. 
  • Gwnaethpwyd 101.9 miliwn o deithiau ar fysiau lleol yng Nghymru yn ystod 2018-19 gan gynnwys cyfanswm o 101.8 miliwn o gilomedrau cerbydau (siart 2).
  •  Bu i nifer y gyrwyr gynyddu yn 2018-19 o gymharu â 2017-18 tra bo i nifer y cerbydau aros yn weddol debyg.
  • Roedd gostyngiad o 1.2% yn nifer y gyrwyr i 3,754, a nifer y cerbydau wedi aros yn weddol debyg ar 2,449 (siartiau 3 a 5).
  • Bu cynnydd ym mhrisiau tocynnau bws yng Nghymru o 3.2% rhwng 2018 a 2019, sy’n uwch na chyfradd chwyddiant pris defnyddwyr y DU dros yr un cyfnod (siart 6).
  • Bu gostyngiad o 1.0% yn nifer y tacsis a gofrestrodd tra y bu cynnydd yn nifer y cerbydau a gofrestrodd o 10.0% yn 2019.
  • Yng Nghymru, roedd 4,956 o dacsis a 5,429 o gerbydau hurio preifat wedi eu trwyddedu o fis Mawrth 2019.    

2. Y diwydiant bysiau lleol yng Nghymru

Caiff gwasanaethau bysiau lleol eu diffinio fel y rhai hynny ble y caiff teithwyr eu cludo ‘gyda tocynnau unigol dros bellter byr’[1]. Mae gwasanaethau bws yn rhan hanfodol o economi Cymru ac o fywyd cymdeithasol. Roedd Cyfrifiad 2011 yn dangos nad oedd gan 23% o’r boblogaeth yng Nghymru gar neu fan, a bod nifer o bobl yn ddibynnol ar wasanaethau bysiau i deithio i’r gwaith, ar gyfer apwyntiadau ysbytai, i ymweld â ffrindiau, i siopa a defnyddio gwasanaethau hamdden. 

Yn ystod 2018-19, roedd 101.9 miliwn o deithiau ar fysiau lleol yng Nghymru, gyda’r gwasanaethau yn cwmpasu 101.8 miliwn o gilomedrau cerbydau. Mae tri chwarter (74.5%) y pellter a deithiwyd ar lwybrau masnachol (siart 2). Roedd cyfanswm y pellter a deithwyd yn 2018-19 yn debyg iawn i’r flwyddyn flaenorol, yn dilyn tueddiad at ostyngiad hirdymor ers 2010-11. Mae’r ffigur diweddaraf o 19% yn is na’r pellter a deithwyd yn 2008-09, gostyngiad sydd wedi’i yrru gan ostyngiad mawr yn y pellter a deithwyd ar wasanaethau â chymhorthdal (gostyngiad o 37%). Roedd gostyngiad o 10% yn y pellter a deithwyd gan wasanaethau masnachol dros yr un cyfnod.    

O gymharu â 2017-18 roedd y pellter a deithiwyd gan wasanaethau â chymhorthdal wedi cynyddu 9.3% yn 2018-19 tra  bod y pellter a deithwyd gan wasanaethau masnachol wedi gostwng 1.4%. Mewn rhai achosion, mae gwasanaethau masnachol sydd wedi dod i ben wedi’u disodli gan y gwasanaethau â chymhorthdal, sydd o bosibl wedi cyfrannu at y newidiadau diweddaraf hyn. 

Mae Siart 2 yn dangos mai y pellter gafodd ei wneud gan bob gwasanaeth bysiau lleol oedd 101.8 miliwn o gilometrau cerbydau a bod gwasanaethau masnachol yn gyfrifol am 74.5%.

Cilomedrau cerbyd a theithiau gan deithwyr ar fysiau a choetsis yn ôl blwyddyn ar gyfer StatsCymru

Yn gyffredinol, mae’r tueddiad hirdymor yn y pellter sydd wedi’i deithio wedi tracio’r tueddiad yn nifer y bysiau sy’n rhedeg (siart 3). Wedi gostyngiad hirdymor yn y bysiau a’r pellter a deithwyd, mae nifer y bysiau wedi cynyddu ychydig yn y flwyddyn ddiwethaf tra bod cyfanswm y pellter wedi sefydlogi. 

Roedd 2,449 o gerbydau o gwmnïau lleol yng Nghymru yn ystod 2018-19, a chynnydd o 2 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Ers 2008-09 mae nifer y cerbydau wedi gostwng 553 (18.0%).  Roedd y cerbydau hyn yn rhedeg ar 1,539 o lwybrau bysiau cofrestredig (o’r 31 Mawrth 2018).

Mae Siart 3 yn dangos bod 2,448 o gerbydau’n cael eu defnyddio’n lleol yng Nghymru yn ystod 2018-19, sy’n gynnydd o 2 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.  Mae nifer y cerbydau wedi gostwng 553 yn 2018-19 o gymharu â 2008-09.

Nifer y cerbydau bysiau a choetsis yn ôl blwyddyn ar gyfer StatsCymru

Mae nifer y teithiau unigol wedi dilyn tueddiad tebyg i’r pellter a deithiwyd ers 2007-08. Mae nifer y teithiau wedi bod yn gymharol sefydlog ers 2014-15, ac yn y flwyddyn ddiwethaf roeddent 22% yn is na 2008-09. O edrych yn ôl mwy, roedd gostyngiad o 37% rhwng 1988-89 a 2018-19 (siart 4).

Mae Siart 4 yn edrych ar nifer y teithiau bws lleol sydd wedi bod yn gymharol sefydlog ers 2014-15, ac yn y flwyddyn ddiweddaraf roeddent 22% yn is na 2008-09

Cilomedrau cerbyd ar wasanaethau bysiau lleol yn ôl gwlad ac yn ôl blwyddyn ar gyfer StatsCymru

Yn 2018-19 cyflogodd y diwydiant bysiau lleol 4,834 o staff, 78% ohonynt yn yrwyr (3,754). Roedd gostyngiad o 1.2% yn nifer y gyrwyr yn y flwyddyn ddiweddaraf (siart 5) a chynnydd o 5.4% ar gyfer pob staff wedi’u cyfuno. Dros yr hirdymor bu gostyngiad bychan yn nifer y gyrwyr a nifer y staff. Ar y cyfan, mae’r tueddiadau o ran gyrwyr a  nifer staff yn debyg i’r duedd o ran y bysiau sy’n rhedeg. 

Mae Siart 5 yn dangos gostyngiad o 1.2% yn nifer y gyrwyr a gyflogwyd yn y flwyddyn ddiwethaf o gymharu â  2017-18.

Nifer y staff a gyflogir ar fysiau a choetsis yn ôl blwyddyn ar gyfer StatsCymru

[1] Tocynnau ar wahân yw ble y mae pob teithiwr yn gwneud taliad ar wahân i ddefnyddio’r gwasanaeth. Er bod teithiau yn cael eu diffinio fel ‘pellter byr’ mae’n bosibl iddynt fod o unrhyw hyd cyffredinol, cyn belled ag y bo modd i deithwyr fynd oddi ar y bws o fewn 15 milltir i ble y cawsant eu codi.

3. Gwasanaethau Bysiau Lleol – tocynnau

Mae Siart 6 yn dangos sut y mae tocynnau ar fysiau yng Nghymru wedi newid ers 1995. Mae’r ffigurau a ddefnyddir yn defnyddio’r prisiau cyfredol (y prisiau a dalwyd). Mae tocynnau bysiau yng Nghymru wedi cynyddu ar raddfa debyg iawn i Brydain Fawr, er bod tocynnau blynyddoedd diweddar wedi cynyddu ychydig mwy ym Mhrydain Fawr na Cymru. Mae tocynnau bysiau wedi cynyddu’n gyson ar raddfa sy’n uwch na chwyddiant (sy’n cael ei fesur gan CPIH[2]). Mae hyn yn cael ei ddangos gan y trywydd mwy serth yn y cynnydd mewn prisiau tocynnau o gymharu â goleddf lai y llinell doredig ar gyfer CPIH. Ers 1995 mae tocynnau yng Nghymru wedi cynyddu 165%, tocynnau ym Mhrydain Fawr wedi cynyddu 173% a CPIH wedi cynyddu 62%. Yn y flwyddyn ddiwethaf roedd cynnydd o 3.2% yng Nghymru a chynnydd o 3.3% ym Mhrydain Fawr, y ddau yn uwch na’r cyfradd chwyddiant o 2.3%.

Mae Siart 6 yn dangos bod prisiau tocynnau bws wedi cynyddu ychydig mwy ym Mhrydian Fawr yn gyfan o gymharu â Chymru.  Mae prisiau tocynnau bws wedi cynyddu’n gyson, mwy na chyfradd chwyddiant (sy’n cael ei fesur gan y CPIH).

Mynegeion prisiau tocynnau ar gyfer gwasanaethau bysiau lleol yng Nghymru a Phrydain yn ôl blwyddyn ar gyfer StatsCymru

[2] Mynegai prisiau defnyddwyr gan gynnwys costau tai perchen-feddianwyr.

4. Gwasanaethau bysiau lleol: teithiau

Mae Cymru yn gyfran fechan o’r farchnad bysiau lleol ym Mhrydain Fawr, gyda dim ond 2.1% o gyfanswm teithiau yn 2018-19. Mae cyfran Cymru o boblogaeth Prydain Fawr yn 4.9%, gan olygu bod teithiau ar fysiau yn llai cyffredin yng Nghymru o gymharu â Prydain Fawr yn gyffredinol. 

Mae Siart 7 yn dangos tueddiadau mewn teithiau ar fysiau yng ngwledydd Prydain Fawr ers 1998-99. Mae’r duedd yng Nghymru yn debyg ar y cyfan i’r hyn a welwyd yn Yr Alban. Mae’r duedd gyffredinol yn Lloegr yn wahanol oherwydd bod Llundain yn camliwio’r sefyllfa, gan y bu cynnydd sylweddol mewn teithiau bws hyd at 2008-09. 

Mae Siart 7 yn dangos bod y duedd mewn teithiau bws lleol yn debyg yng Nghymru i’r hyn a welwyd yn yr Alban a Lloegr (ag eithrio Llundain).  Mae’r duedd gyffredinol ar gyfer Lloegr yn wahanol oherwydd bod ffigurau Llundain yn camliwio’r sefyllfa, ble y gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y teithiau ar fysiau hyd at 2008-09.

Mynegai teithiau bws lleol yn ôl gwlad y DU a Llundain a fesul blwyddyn ar gyfer StatsCymru

Bu gostyngiad yn nifer y teithiau fesul person ledled Prydain ers 2008-09. Fodd bynnag, cofnododd Gymru gynnydd o 1.5% yn 2018-19 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Yng Nghymru, roedd nifer y teithiau fesul person yn llai na hanner y gyfradd yn Yr Alban a Lloegr (siart 8). Mae’r gyfradd wedi aros yn sefydlog fodd bynnag yng Nghymru ers 2014-15, ble y mae’r gyfradd wedi gostwng yn Lloegr a’r Alban dros yr un cyfnod. 

Mae Siart 8 yn dangos bod nifer y teithiau fesul pen o’r boblogaeth wedi gostwng ledled Prydain Fawr ers 2008-09. Yng Nghymru mae nifer y teithiau yn sylweddol is na’r nifer yn yr Alban a Lloegr.

Canran y newid yn Teithiau gan deithwyr ar wasanaethau bysiau lleol yn ôl gwlad fesul pen o'r boblogaeth yn ôl blwyddyn ar gyfer StatsCymru

5. Gwasanaethau bysiau lleol: pellter a deithiwyd

Mae cyfanswm y pellter a deithiwyd yng Nghymru mewn bws yn 4.4% o’r holl gilomedrau gan gerbydau ym Mhrydain Fawr ar gyfer 2018-19 (siart 9).

Yn 2018-19 roedd cyfanswm y pellter a deithiwyd yng Nghymru 2.8% yn uwch na 2017-18, tra bod gostyngiadau yn Lloegr (i lawr 10%) a’r Alban (i lawr 7%). Dros y tymor hir bu gostyngiad yn y pellter a deithiwyd yn y dair gwlad. Ers 2005-06, mae canran y gostyngiad wedi bod fwyaf yng Nghymru (gostyngiad o 20%) o gymharu â 10.4% yn Lloegr a 10.9% yn Yr Alban (siart 9). Fodd bynnag, o gymharu â’r llynedd, mae y pellter a deithiwyd yng Nghymru wedi cynyddu o gymharu â rhanbarthau eraill.

Mae Siart 9 yn dangos bod cyfanswm y pellter a deithiwyd gan wasanaethau bysiau lleol yng Nghymru yn 2018-19, 2.5% yn uwch na’r ffigur ar gyfer 2017-18, ond y bu gostyngiad yn Lloegr a’r Alban.

Cilomedrau cerbyd ar wasanaethau bysiau lleol yn ôl gwlad ac yn ôl blwyddyn ar gyfer StatsCymru

6. Tacsis trwyddedig a cherbydau hurio preifat yng Nghymru

Gall bobl wneud cais am drwydded tacsi, trwydded cerbyd hurio preifat neu drwydded ddeuol. Mae trwydded tacsi yn galluogi’r daliwr i godi teithwyr ar y stryd neu o ranciau tacsi penodol. Mae cerbyd hurio preifat yn galluogi’r daliwr i godi teithwyr sydd wedi gwneud archeb gyda chwmni hurio preifat trwyddedig.  Mae trwydded ddeuol yn galluogi’r daliwr i yrru naill ai dacsi neu gerbyd hurio preifat. 

Yn 2019, roedd 4,956 o dacsis trwyddedig yng Nghymru a 5,429 o Gerbydau Hurio Preifat. O gymharu, roedd cyfanswm o 12,350 o drwyddedau gyrwyr wedi’u cyhoeddi. Mae trwyddedau tacsi wedi bod yn sefydlog am gryn amser a Cherbydau Hurio Preifat wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf. Mae cyfanswm nifer y trwyddedau gyrwyr yng Nghymru wedi aros ar niferoedd 2011 ar y cyfan. (siart 10).

Mae Siart 10 yn dangos bod 4,956 o dacsis trwyddedig yng Nghymru yn 2019, a 5,429 o Gerbydau Hurio Preifat.  Cafwyd cyfanswm o 12,350 o drwyddedau gyrwyr.

Tacsis trwyddedig a cherbydau hurio preifat yn ôl awdurdod lleol a blwyddyn yr arolwg ar gyfer StatsCymru

Roedd 5,429 o gerbydau y fflyd hurio preifat trwyddedig ar gael, gyda 1,783 o yrwyr a 789 o gwmnïau trwyddedig. Roedd 10,113 o yrwyr trwyddedig ar gyfer tacsis a cherbydau hurio phreifat yng Nghymru; gyda 34.7 o’r rhain o awdurdodau lleol Caerdydd ac Abertawe. 

Mae’n bosibl gweld nifer y tacsis a’r cerbydau hurio preifat trwyddedig, yn ôl awdurdod lleol, yng Nghymru ar StatsCymru. Ni wnaeth tri o’r awdurdodau lleol (Wrecsam, Merthyr Tudful a Blaenau Gwent) gyhoeddi unrhyw drwyddedau deuol ond yn hytrach drwyddedau gyrwyr tacsis trwyddedig a cherbydau hurio preifat ar wahân. 

7. Gwybodaeth o ansawdd

Diffiniadau

Cwmpas

Mae’r arolwg ond yn cwmpasu y cwmnïau hynny sy’n cynnal gwasanaethau bysiau lleol sydd wedi cofrestru gyda’r Comisiynydd Traffig. 

Gwasanaethau bysiau lleol

Gwasanaethau lleol yw gwasanaethau sy’n aros yn rheolaidd sydd wedi’u cofrestru gyda’r Comisiynydd Traffig. Caiff gwasanaeth lleol ei ddiffinio fel gwasanaeth bws sy’n defnyddio Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus i gludo teithwyr am brisiau ar wahân dros bellter byr. Gall y daith fod o unrhyw hyd, cyn belled â bod modd i deithwyr fynd oddi ar y bysiau o fewn 24.15 cilometr (15 milltir) (wedi’i fesur mewn llinell syth) i ble y cawsant eu codi. Mae’n rhaid i bob teithiwr wneud taliad ar wahân i’r gyrwr, y casglwr tocynnau neu’r asiant er mwyn defnyddio’r gwasanaeth. Mae angen cofrestru gwibdeithiau neu deithiau dim ond os oes angen talu am docynnau ar wahân, a bod y daith gyfan o fewn radiws 24.15 km (15 milltir) i’r pwynt dechrau a’u bod yn rhedeg unwaith neu fwy yr wythnos am o leiaf 6 wythnos ar y tro. Mae’n bosibl i wasanaethau ysgolion a gwaith fod ar fysiau lleol os yw’r defnyddwyr yn talu am docynnau ar wahân, ond nid oes yn rhaid eu cofrestru os yw rhywun ar wahân i’r cwmni bysiau yn gyfrifol am drefnu’r daith, ac nad oes angen hysbysebu y daith ymlaen llaw i’r cyhoedd, a bod pob teithiwr yn teithio i ac o’r un lle, a bod teithwyr yn talu yr un faint waeth pa mor bell y maent yn teithio. 

Siwrnai gan deithwyr

Mae cyfanswm y rhai sy’n mynd ar bob cerbyd yn cael eu cyfrif, felly byddai taith sy’n galw am newid o un bws i un arall yn cael eu cyfrif fel dwy daith yn y ffigurau hyn. Nid yw’r ffigurau yn cynnwys plant o dan 5 mlwydd oed.

Cilometrau cerbydau

Pellter (cilomedrau) sydd wedi’u gwneud gan fysiau lleol yn eu gwasanaethau. Mae hyn ond yn cynnwys milltiroedd ‘byw’ (h.y. gwasanaethau) ac nid teithiau ‘marw’ h.y. o’r depo i ddechrau’r taith. 

Ffynhonnell Data

Mae rhan fwyaf yr wybodaeth a gyflwynir yma wedi deillio o’r ffurflenni blynyddol i’r Adran Drafnidiaeth gan sampl o 700 o ddeiliaid trwyddedau cwmnïau Cerbydau Gwasanaethau Cyhoeddus (‘yr arolwg Cerbydau Hurio Preifat’). Mae’r ffurflen hon yn rhoi gwybodaeth ar deithiau, milltiroedd gan gerbydau, derbynebau teithwyr a chostau gweithredu. Mae arolygon llai, ar wahân, wedi’u rheoli gan yr Adran Drafnidiaeth yn casglu gwybodaeth am newidiadau mewn prisiau tocynnau, dibynadwyedd y gwasanaeth a nifer y teithwyr bob chwarter gan gwmnïau bysiau newydd, mwy.    

Mae manylion llawn y ffynonellau data a’r dulliau a ddefnyddir i’w cael yn y canllawiau.

Perthnasedd

Ystadegau yr Adran Drafnidaieth yw’r ffynhonnell fwyaf gynhwysfawr o ddata swyddogol ar y diwydiant bysiau ym Mhrydain Fawr, ac mae’n darparu data sy’n cael eu defnyddio i fonitro tueddiadau, gan ddatblygu polisïau a bod yn atebol am y cymhorthdal sy’n cael ei ddarparuiI’r diwydiant ar lefel uchel. 

Cywirdeb

Mae arolwg Cerbydau Gwasanaethau Cyhoeddus yn defnyddio techneg briodoli i ddod o hyd i ffigurau allweddol ar gyfer cwmnïau na chafodd eu dewis yn y sampl ar gyfer y flwyddyn honno, neu na wnaeth ymateb. Weithiau gellir gwella’r technegau priodoli ar gyfer blynyddoedd blaenorol gan ddefnyddio data  data sy’n cael ei gofnodi’n uniongyrchol ar gyfer blynyddoedd mwy diweddar. Gall diwygiadau bychain i ddata blaenorol ddigwydd o ganlyniad, er mai prin yw’r newid sylweddol i dueddiadau o ganlyniad i hynny. 

Ar gyfer y prif ddangosyddion (siwrneau gan deithwyr a milltiroedd gan gerbydau) mae’r data a ddarperir gan gwmni yn cynnwys oddeutu, neu mwy na 90% o’r cyfanswm, gyda’r gweddill yn cael ei briodoli. Mae’r gymhariaeth gyda ffynonellau eraill yn awgrymu, yn ei grynswth (Prydain Fawr), bod yr ystadegau yn debygol o ddarparu mesur gweddol gadarn o lefelau a thueddiadau cyffredinol.   

Fodd bynnag, dylid bod yn ofalus gyda’r ffigurau sy’n cynrychioli’r grwpiau llai o gwmnïau ac un newid flwyddyn ar ôl blwyddyn gan bod y rhain yn fwy tebygol o gynnwys camgymeriadau mesur (er enghraifft, ffurflen anghywir gan gwmni, neu newid i ddull cwmni o gynhyrchu’r ffigurau sydd eu hangen) sy’n fwy tebygol o gael eu colli ar lefel genedlaethol. Am y rheswm hwn, dylid bod yn ofalus wrth ddehongli ffigurau ar lefel ranbarthol, ac yn enwedig ar lefel awdurdodau lleol.

Prydlondeb

Roedd y data wedi ei gasglu gan gwmnïau i Adran y Drafnidiaeth yn ystod haf 2019 i’w gyhoeddi ym mis Ionawr 2020. 

Hygyrchedd ac eglurder

Cafodd y Bwletin Ystadegol hwn ei gyhoeddi ymlaen llaw ac yna ei gyhoeddi ar wefan Ystadegau ac Ymchwil gyda adroddiadau StatsCymru

Cymhariaeth a chydlyniaeth

Mae nifer o’r ystadegau hyn wedi’u casglu ar sail gymharol ar y cyfan gan gwmnïau am sawl blwyddyn. Fodd bynnag, yn dilyn diwygio’r fethodoleg a ddefnyddir i baratoi y ffigurau a gyhoeddwyd, 2004-05 yw y flwyddyn gynharaf i gymharu ffigurau ar union yr un sail. 

Cyhoeddiadau cysylltiedig

Mae yr Adran Drafnidiaeth yn cynhyrchu ystadegau ar y sector bysiau lleol ym Mhrydain Fawr. Mae'n cyflwyno gwybodaeth am:

  • deithiau teithwyr
  • milltiroedd cerbydau
  • lefelau refeniw
  • costau a chymorth llywodraeth
  • fflyd o gerbydau
  • y staff a gyflogwyd
  • dangosyddion eraill gan gynnwys prydlondeb

Mae Trafnidiaeth yr Alban yn cynhyrchu cyhoeddiad blynyddol o’r enw 'Teithio ar fysiau a choetsys' sy’n cyfuno amrywiol ddata am fysiau a coetsus i roi dealltwriaeth fwy cynhwysfawr a chyflawn o dueddiadau ac ymddygiad teithwyr ar draws y dulliau hyn o deithio. Mae’r data sy’n cael ei gyflwyno yn cynnwys data cwmnïau bysiau Adran Drafnidiaeth yr Alban, data tocynnau teithio rhatach ar fysiau Transport Scotland a dadansoddiad pellach o’r wybodaeth am fysiau sy’n cael ei gasglu gan y Arolwg cartrefi'r Alban (SHS).

Mae Adran Seilwaith Gogledd Iwerddon yn cynhyrchu cyhoeddiad blynyddol ystadegol o’r enw 'Ystadegau Trafnidiaeth Gogledd Iwerddon' sy’n cynnwys pennod ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Statws Ystadegau Cenedlaethol

Mae Awdurdod Ystadegau y Deyrnad Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn fel Ystadegau Cenedlaethol, yn unol â Deddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 ac maent yn nodi eu bod yn cydymffurio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.     

Mae Ystadegau Cenedlaethol yn golygu bod ystadegau swyddogol yn bodloni’r safonau uchaf o ran ymddiriedaeth, ansawdd a gwerth cyhoeddus.   

Dylai pob ystadegyn swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Maent yn derbyn statws Ystadegau Cenedlaethol yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau y DU.  Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau yn bodloni’r safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a thrafodaethau cyhoeddus.  Cafodd ddynodiad yr ystadegau hyn fel Ystadegau Cenedlaethol ei gadarnhau ym mis Chwefror 2013 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer.   

Ers yr adolygiad diwethaf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol, ac wedi gwneud y newidiadau canlynol:

  • Cael gwared ar dablau di-angen o’r bwletin gan eu bod ar gael ar StatsCymru
  • Elfennau gweledol gwell a sylwadau ar y tueddiadau hirdymor ar gyfer pob cerbyd gwasanaethau cyhoeddus 

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw sicrhau eu bod yn parhau i gydymffurfio â’r safonau disgwyliedig ar gyfer Ystadegau Cenedlaethol. Os ydym yn poeni ynghylch a yw’r ystadegau hyn yn parhau i fodloni’r safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon gyda’r Awdurdod yn brydlon.    

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Diben Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith o nodau llesiant ar gyfer Cymru. Mae’r rhain ar gyfer Cymru mwy cyfartal, llewyrchus, cadarn, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda cymunedau cydlynol a diwylliant bywiog a iaith Gymraeg sy’n ffynnu. O dan adran (10)(1) y Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ('dangosyddion cenedlaethol') sy’n rhaid eu defnyddio er mwyn mesur y cynnydd tuag at gyflawni’r nodau Llesiant, a (b) gyflwyno copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Cafodd y 46 dangosydd cenedlaethol eu cyflwyno ym mis Mawrth 2016 ac nid yw hyn yn cynnwys unrhyw un o’r 46 dangosydd cenedlaethol. 

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, yn ogystal â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth ar Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sy’n cael eu cynnwys yn y datganiad hwn ddarparu’r naratif hefyd i’r dangosyddion cenedlaethol a’i ddefnyddio gan y byrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer eu hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol. 

8. Manylion cyswllt

Ystadegydd: Ian Shipley
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Ystadegau Gwladol

SB 7/2020