Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart AC CStJ MBE, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwyf wedi cael copi o adroddiad y Grŵp Llywio ar Gerbydau Carbon Isel. 
Fe sefydlais y grŵp er mwyn i mi gael cyngor ac argymhellion ar sut i ddatblygu’r sector cerbydau carbon isel yng Nghymru a gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd sydd ar gael yn y sector i dyfu a chreu swyddi a helpu buddiannau cymdeithasol ac amgylcheddol hefyd.
Hoffwn ddiolch i Gadeirydd y Grŵp, yr Athro Garel Rhys, a’r holl aelodau am eu gwaith.
Rwy’n croesawu’r adroddiad sy’n gwneud amrywiaeth o argymhellion ac fel rhan o gyfrifoldebau fy mhortffolio i, rwy’n falch o allu dweud ein bod eisoes yn trafod nifer o’r argymhellion gyda busnesau unigol.
Thema bwysig yr adroddiad yw’r dymuniad i greu dull mwy integredig o roi cyngor a chymorth i’r Llywodraeth, thema yr wyf yn ei chefnogi.  Mae hyn yn cael ei adlewyrchu mewn argymhellion pwysig eraill sydd â goblygiadau pwysig iawn ar draws y portffolio, nid yn unig o ran polisi ond o ran cyllid hefyd.Rwy’n cymeradwyo’r argymhellion ac yn argymell y dylent gael eu hystyried mewn mwy o fanylder yn y dyfodol ac mewn dull cydgysylltiedig er mwyn gallu eu symud ymlaen yn effeithiol.