Araith gan Jerermy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.
Diolch o galon I chi am fy ngwahodd I annerch y gynhadledd heddiw ac I'r sefydliad dysgu a gwaith am drefnu'r gynhadledd bwysig hon.
Rwy'n falch iawn bod y gynhadledd hon yn canolbwyntio ar adeiladu cenedl o ail gyfle - lle nad yw byth yn rhy hwyr I ddysgu.
A gobeithio eich bod chi’n teimlo - fel rydw I - ei bod yn amser cyffrous I ni fod yn cyfarfod I drafod y gwaith y gallwn ei wneud gyda'n gilydd I gefnogi oedolion ar eu taith o ddysgu gydol oes.Mae'n rhywbeth rwy'n teimlo’n angerddol amdano yn bersonol, ac mae bob amser yn ysbrydoledig bod yn rhan o drafodaeth gyda chymaint o bobl eraill sy'n teimlo'r un fath ac I allu dysgu o'ch profiad o wneud y gwahaniaeth hwnnw ym mywydau pobl.
I ddechrau, rwy’ am ddweud wrth Scott - mae dy stori di wedi fy ysbrydoli I.
Y ffordd y gwnaeth addysg dy helpu, nid yn unig I newid dy fywyd, ond o bosibl I newid bywydau pobl eraill.
Gobeithio y byddi’n cyflawni dy uchelgais o sied ym mhob tref. Gelli fod yn falch iawn o'r hyn rwyt ti wedi’I gyflawni.
Da iawn ti!
Nawr, I droi at y syniad o genedl ail gyfle – rwy’ am ddweud I ddechrau fy mod I’n gwybod bod rhywfaint o drafodaeth wedi bod am y term yma, a’I union ystyr.
Dydy hynny ddim yn beth newydd.
Fe dechreuon ni drwy glywed gan Scott ond mae Scott arall rwy’ am gyfeirio ato – efallai ychydig yn annisgwyl yng nghyd-destun cynhadledd dysgu gydol oes I oedolion – sef F Scott Fitzgerald. Mae beirniaid a sylwebwyr, fel ei gilydd, yn aml yn ei ddyfynnu drwy ddweud there “are no second acts in american lives”.
Mae hynny’n cyfeirio at syniad mai dim ond ‘un cynnig, un siawns’ sydd gan bobl mewn bywyd cyhoeddus, yn eu gyrfa neu mewn gwleidyddiaeth.
Wel, rwy’n anghytuno’n llwyr.
A phan mae’n dod at addysg, ddylai ein bywydau ni ddim dibynnu ar un cynnig, un siawns, un llwybr, un penderfyniad.
Ddylai hi byth fod yn rhy hwyr I ddysgu.
I ymwneud â’r byd yn fwy democrataidd a beirniadol drwy addsyg.
I ddysgu sgil newydd neu ennill cymhwyster newydd.
I gael boddhad yn bersonol, yn ddiwylliannol ac yn academaidd.
Rwy’ am I gymru fod yn genedl o ail gyfleoedd mewn addysg.
Ac roedd Scott Fitzgerald yn iawn ar un ystyr.
Mae pobl yn aml yn anghofio bod y dyfyniad llawn (o’I draethawd my lost city) – yn dweud:
“I once thought that there were no second acts in american lives,
But there was certainly to be a second act to new york's boom days.”
Gyfeillion, oherwydd amgylchiadau tu hwnt I’m rheolaeth I, yn ystod yr act gyntaf – neu fy mlwyddyn gyntaf I fel gweinidog y gymraeg ac addysg – roedd yn rhaid canolbwyntio ar weithio gyda chi I alluogi’r genedl I ddal ati I ddysgu drwy’r pandemig.
Ar gyfer yr ail act, bydd rhaid I fi – a rhaid I ni – ganolbwyntio’n ddiflino ar rôl ganolog addysg ar gyfer sicrhau dyddiau llewyrchus I gymru yn y dyfodol.
- er mwyn torri’r cysylltiad rhwng amddifadedd a ffawd;
- er mwyn creu a meithrin dinasyddion egwyddorol a brwdfrydig o bob oed, sy’n barod I gael eu cyflogi;
- a chodi safonau ac ehangu mynediad drwy gyfryngau digidol a thechnoleg.
Mae’r dyheadau hyn yr un mor berthnasol mewn addysg drydyddol – gan gynnwys dysgu oedolion ac yn y gymuned – ag ydyn nhw I ysgolion.
Felly, rwy’ am dreulio ychydig o amser heddiw yn edrych ar ffyrdd o symud ymlaen gyda’n gilydd ar hyn.
A hyd yn oed os nad oes ail act I fywydau Americanaidd,
Rwy’n benderfynol y bydd cymru yn genedl ail gyfle, a bod modd I ni wireddu’r uchelgais gyda’n gilydd.
Yn gyntaf, rwy’ am ddiolch I’r sector am eich holl waith dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydych chi wedi ysgwyddo’r her o weithio gyda ni er mwyn rhoi model ariannu a chynllunio newydd ar waith, gan ganolbwyntio ar degwch a chydraddoldeb.
Rwy’n gwybod, wrth gwrs, bod rhagor o waith I’w wneud, ond nawr mae llwyfan ar gael I adeiladu arno.
Ac rwy’ am drafod sut I wneud hynny yng nghyd-destun pedwar dull gweithredu:
Pwysigrwydd strategaeth a dyletswyddau strategol;
- Y cyfrifoldeb rydyn ni’n ei rannu ar gyfer hyn;
- Yr angen am gynaliadwyedd; a’r
- Syniad o ail gyfle.
Gan droi at y cyntaf – strategaeth a dyletswyddau strategol.
Gyfeillion – mae rhywbeth cyffrous yn digwydd I’r gyfraith a dysgu gydol oes yng nghymru ar hyn o bryd.
Rwy’n cydnabod bod y diffiniad o rywbeth “cyffrous” ychydig bach yn wahanol I fi fel cyfreithiwr nag I nifer o bobl eraill.
Ond gadewch I fi eich atgoffa chi.
Yn y bil addysg drydyddol ac ymchwil, a basiodd y cyfnod egwyddorion cyffredinol yn y senedd yn ddiweddar; rydyn ni’n deddfu am y tro cyntaf erioed I hyrwyddo dysgu gydol oes.
Ei roi mewn cyfraith.
Gosod dyletswydd ar y Comisiwn Addysg Drydyddol Newydd.
Y ddyletswydd strategol gyntaf o’I bath yn y bil.
Efallai na wnaethoch chi sylwi ar hynny yn y bil drafft a gafodd ei gyhoeddi llynedd.
Mae rheswm da am hynny – doedd e ddim yna.
Ond wrth ddod yn weinidog – fe benderfynais bod rhaid rhoi mwy o’n gwerthoedd a’n huchelgeisiau ni yn y bil.
I fi, mae hynny’n dechrau gyda dysgu gydol oes, gydag addysg I oedolion yn y gymuned wrth galon hynny.
Mae’n eistedd wrth ochr dyletswyddau eraill – yn diogelu ein hegwyddorion a’n gwerthoedd cyffredin – cyfle cyfartal, cydweithio, addysg drydyddol drwy gyfrwng y gymraeg, cenhadaeth ddinesig ac edrych allan ar y byd.
Rhaid I’r comisiwn newydd – ein stiward newydd ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil – weithredu dan yr egwyddorion a’r dyletswyddau hyn.
Mae hyn hefyd yn gysylltiedig â dibenion ac egwyddorion ein cwricwlwm cenedlaethol newydd I ysgolion, yn grymuso ein pobl ifanc I ddysgu drwy gydol eu bywydau.
Mae’r cwricwlwm newydd yn cynrychioli’r hyn rydyn ni am ei weld ac yn ei ddisgwyl gan ddinasyddion y dyfodol.
Gan warantu sgiliau craidd llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, mae’n grymuso dysgwyr I dyfu fel dinasyddion drwy brofiadau, gwybodaeth a sgiliau eang a chytbwys.
Mae ganddo lawer yn gyffedin gyda ‘chwricwlwm dinasyddion’ arloesol y sefydliad dysgu a gwaith, sy’n ceisio taclo’r rhwystrau sy’n atal oedolion rhag dysgu,
Fel bod dysgu’r sgiliau hanfodol fel llythrennedd a rhifedd yn gallu bod yn fwy perthnasol, drwy gyd-awduro a darpariaeth yn y gymuned.
Er bod hwn yn ddull gweithredu newydd – mae’n seiliedig ar y traddodiad addysg oedolion o gymuned, diwylliant a dinasyddiaeth.
Gan ennyn diddordeb a grymuso oedolion I ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus, bod yn ddinasyddion gweithgar a mwynhau gwell canlyniadau iechyd a chyflogaeth.
Rwy’n meddwl bod potensial gwirioneddol I’r syniad hwn yng nghymru, felly rwy’ wedi gofyn I’n grŵp cyfeirio allanol newydd ar gyfer dysgu oedolion edrych ar y dull gweithredu hwn, a chynnig argymhellion ar gyfer cwricwlwm dinasyddion peilot yng nghymru.
Fe gafodd ein cwrciwlwm ysgol newydd ei gyd-awduro gyda’r rhai sydd â phrofiad o ddysgu ein pobl ifanc, felly rwy’ am fanteisio ar y ffordd honno o weithio, a’r ysbryd yna o gyd-ddatblygu a chyd-awduro, gyda’r holl brofiad a phrofiadau sydd yn y gynhadledd hon, I gynllunio fframwaith cenedlaethol newydd yn barod I’w addasu a’I gyflawni yn lleol.
Ac mae hynny’n fy arwain at y thema nesaf, rhannu cyfrifoldeb
Mae cyfuno’r cenedlaethol a’r lleol, gyda dysgwyr yn y canol, yn hanfodol ar gyfer fy syniad I o rannu cyfrifoldeb.
Fe soniais am y grŵp cyfeirio newydd ar gyfer dysgu oedolion rai munudau yn ôl.
Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf rai wythnosau yn ôl, dan ddylanwad adroddiad ardderchog Sue Pember ar gyfer canolfan polisi cyhoeddus cymru.
Byddant yn edrych ar y rhwystrau systemig sydd o’n blaen.
Rydyn ni I gyd yn gwybod bod y rhwystrau hynny’n gymhleth ac yno ers amser, felly bydd angen bod yn ddyfeisgar ac yn greadigol wrth eu taclo.
Bydd y ddwy flynedd nesaf yn hanfodol ar gyfer adeiladau capasiti a’r gallu sydd ei angen I gyflawni’r ymrwymiad hwn.
Wrth helpu I lunio rhaglen o gydweithio cenedlaethol, bydd y grŵp yn cynghori ac yn craffu ac yn sicrhau ein bod ni’n cyrraedd cynulleidfa mor eang â phosibl.
Rwy’n falch o gyhoeddi fy mod I wedi darparu £2m o gyllid dros y ddwy flynedd nesaf I ategu’r gwaith yma.
Er mwyn helpu I baratoi’r sector at y dyfodol.
Rhaid I ni gael rhaglen o gydweithredu cenedlaethol yn seiliedig ar gydweithio agos rhwng darparwyr.
Rwy’n gofyn I bob un ohonoch chi sydd yma heddiw I gymryd rhan yn y gwaith, er mwyn I ni weithio gydag - ac ar draws - yr holl system addysg drydyddol.
Yr her I ni I gyd yw gwella mynediad at gyfleoedd dysgu oedolion ffurfiol ac anffurdiol, sy’n canolbwyntio ar sgiliau, a gwella ansawdd y cyfleoedd hynny, a helpu pob un o’n dysgwyr gyda’u cynnydd.
Rhaid I ni gael hyn yn iawn wrth I ni symud ymlaen I greu comisiwn ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil.
Bydd y comisiwn yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros ariannu a chyfeiriad strategol cyffredinol dysgu oedolion, yn ogystal ag addysg bellach, addysg uwch, prentisiaethau a chweched dosbarth ysgolion.
Bydd yn darparu cyllid I awdurdodau lleol, colegau, ac addysg oedolion cymru sydd mor hanfodol ar gyfer gwirieddu cenhadaeth addysg oedolion.
Ond bydd yn gwneud hyn gyda ffocws strategol newydd – wedi’I ddiogelu mewn cyfraith fel y dywedais yn gynharach – ar alluogi a sicrhau cyfleoedd dysgu gydol oes I bobl o bob cefndir a galwedigaeth.
Bydd y comisiwn hefyd yn gyfrifol am gymeradwyo cytundebau canlyniadau gyda cholegau a phrifysgolion.
Rwy’ am I ni fod mewn sefyllfa lle mae’r sefydliadau yn adlewyrchu’r ddyletswydd dysgu gydol oes drwy dosbarthu eu gwaith yn ehangach.
Boed yn gyrsiau ar-lein, sesiynau blasu, darlithoedd neu seminarau cyhoeddus, neu’n gweithio gyda chyflogwyr a mentrau lleol – mae angen I ni weld ymgysylltiad ehangach a dyfnach.
Ac er ein bod ni’n trafod cenhadaeth ddinesg, dydy hynny ddim yn rhyw “waith cenhadu” fel y dywedodd fy niweddar gyfaill hywel francis. Yn hytrach dylai fod yn rymuso ac ymgysylltiad gwirioneddol ddemocrataidd.
Rwy’n disgwyl I hyn fod yn flaenoriaeth allweddol yn y cytundebau canlyniadau yma yn y dyfodol.
Wrth ochr hyn, rwy’ hefyd yn awyddus I archwilio’r syniad o siarter cenedlaethol ar gyfer dysgu gydol oes.
Mae cefnogi pobl ar eu taith ddysgu, I'w helpu I ffynnu a helpu I gryfhau ein cymunedau wrth wneud hynny, yn ymestyn y tu hwnt I sefydliadau addysg I bartneriaid fel llyfrgelloedd, amgueddfeydd, ond gallant hefyd gyrraedd y tu hwnt I hynny I gyrff cyhoeddus eraill ac efallai I dechnoleg, y cyfryngau ac yn wir I gwmnïau eraill – sut allwn ni ddatblygu hyn a threfnu ffordd o gytuno ar egwyddorion a chamau gweithredu sy'n cefnogi dysgu cymunedol a dysgu gydol oes.
Rwy’ am I ni wneud mwy I annog y gwaith yma, yn arbennig o ran addysg ar ddinasyddiaeth, taclo camwybodaeth, a chymhwysedd digidol. Rwy’n gwybod bod cyfarwyddwr yr amgueddfa genedlaethol yn disgrifio’r sefydliad fel ‘central service for learning’ , ac rwy’ am gadarnhau’r ysbryd yna, a rhannu cyfrifoldeb.
Nesaf, cynaliadwyedd
Rydyn ni wedi cyrraedd man tyngedfennol wrth greu system gynaliadwy a chadarn.
Mae’r ffordd y byddwn yn manteisio ar ddysgu digidol a thechnoleg yn hanfodol ar gyfer y cynaliadwyedd hwnnw.
Mae’r syniad o ddod ynghyd I ddysgu,
I chwalu rhwystrau,
I drafod ac archwilio,
Yn hanfodol ar gyfer addysg a lles y cyhoedd yn gyffredinol.
A rhaid I hyn fod yn wir, boed yn yr ystafell ddosbarth, yn y gymuned neu ar-lein.
Rwy’ eisoes wedi darparu bron I £6m I wella gallu digidol a rhoi sylw I heriau zero net yn y sectorau dysgu oedolion a cholegau.
Mae £2m hefyd wedi ei neilltuo I’r rhwydwaith dysgu oedolion mewn awdurdodau lleol I ail ennyn diddordeb y dysgwyr anoddaf cyrraedd atynt yn ein cymdeithas. I helpu darparwyr I hyrwyddo a chynnig darpariaeth ymgysylltu.
Gan adeiladu ar brofiadau dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rwy’n awyddus I wneud mwy I helpu’r sector dysgu oedolion I ehangu ei gyrhaeddiad drwy ddysgu cyfunol a digidol.
Rydyn ni wedi sicrhau bod cymorth penodol ar gael I’r sector drwy jisc, er mwyn helpu pob darparwr I adeiladu ei allu digidol.
Drwy’r grŵp cyfeirio a’r rhaglen o gydweithredu cenedlaethol, mae’n hanfodol I ni edrych am ffyrdd o ddatblygu hyn a chyfleoedd pellach yn y maes, gan rannu adnoddau ar gyfer oedolion sy’n ddysgwyr yn amlach.
Mewn ysgolion a cholegau, mae gennym ased anhygoel sef ein platfform dysgu byd-enwog, hwb. Beth am blatfform cyfatebol ar gyfer dysgwyr sy'n oedolion. Cyrchfan y gellir ymddiried ynddi, sy'n adnabyddus, gyda chynnig eang o gynnwys – adnoddau, hyfforddiant, canllawiau, a'r cynnwys yn syml I'w ddefnyddio, yn hawdd dod o hyd iddo ac yn gyfleus. Rwy'n awyddus I glywed gan ddysgwyr a chan y sector pa botensial y gallai hyn ei gael I gefnogi dysgu.
Rwy’n gwybod bod dysgu oedolion yn achubiaeth I gymaint o bobl, felly roedd cadw mewn cysylltiad yn hanfodol bwysig yn ystod y cyfnod clo. Dywedodd un awdurdodau lleol bod:
Un dysgwr bregus, ynysig, oedd yn byw wrth ei hun… wedi llefain pan ddarparwyd y cyfarpar iddi. Dywedodd ei bod hi’n teimlo fel rhan o’r byd eto, nawr bod modd idd weld pobl.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae nifer o ddysgwyr wedi ffeindio’u ffordd ar-lein ac wedi dod I arfer â dysgu o bell.
Ond hefyd mae’n rhaid I ni gydnabod bod effaith y cyfnod hwn – yn gymdeithasol, yn bersonol ac ar les – yn golygu bod nifer o bobl yn bellach nag erioed rhag dysgu.
Rydyn ni eisoes yn gwybod bod 24% o oedolion heb gymhwyster lefel 2;
14% heb gymhwyster lefel 1;
A bron I hanner yr oedolion o’r grwpiau economaidd-gymdeithasol isaf heb gael unrhyw hyfforddiant ers gadael addysg amser llawn.
Rhaid I ni daclo hyn gyda’n gilydd.
Mae ganddom ni dargedau uchelgeisiol I ostwng nifer yr oedolion oedran gweithio sydd heb gymhwysterau I 5% neu lai.
Ac I sicrhau bod gan 75% o oedolion oedran gwaith yng nghymru gymhwyster lefel 3 o leiaf erbyn 2050.
Ond mae dros ddegawd wedi bod ers yr archwiliad cenedlaethol diwethaf o sgiliau llythrennedd oedolion yng nghymru.
Mae’n bryd cywiro hynny – a chael darlun cyfoes o’r sefyllfa, wrth ochr y data a’r targedau ar gyfer cymwysterau.
Felly rwy’ wedi gofyn I’m swyddogion gomisiynu archwiliad newydd I ganfod ‘cyflwr y genedl’ o ran llythrennedd a rhifedd oedolion.
Wrth greu cenedl ail gyfle, lle nad yw byth rhy hwyr I ddysgu, rhaid I ni ddechrau drwy fod yn fwy onest a deall hyd a lled yr her sydd o’n blaen. Bydd gen I ragor I’w ddweud am yr archwiliad dros yr wythnosau nesaf.
Mae cynaliadwyedd y gweithlu yn hanfodol ar gyfer symud ymlaen yn llwyddiannus.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydyn ni wedi gallu neilltuo £175,000 I’r sector dysgu oedolion I gefnogi iechyd meddwl a datblygu proffesiynol.
Mae tipyn o hyn wedi canolbwyntio ar gefnogi lles, gan helpu I gryfhau dysgwyr a staff.
Byddwn yn parhau I gydweithio’n agos gyda chi er mwyn gwneud yn siwr bod y cymorth cywir yn ei le.
Mae’r prosiect datblygu’r gweithlu ôl-16 ar waith ar hyn o bryd, I ddatblygu fframwaith dysgu proffesiynol ar gyfer staff ar draws pob cwr o’r sector ôl-16.
Mae dysgu oedolion yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith hwn, ac rwy’n falch bod cynrychiolwyr o’r sector yn cymryd rhan drwy’r grŵp llywio a grwpiau gorchwyl a gorffen.
Mae’r tair thema rwy’ wedi eu trafod – strategaeth, rhannu cyfrifoldeb a chynaliadwyedd – I gyd yn arwain at y bedwaredd, brif thema – y syniad o genedl ail gyfle lle nad yw byth yn rhy hwyr I ddysgu.
Fe soniais I am y camddehongliad o un o linellau enwog f scott fitzgerald yn gynharach.
Fe ddylwn I ychwanegu bod fitzergald hefyd wedi dweud:
“no grand idea was ever born in a conference”…
Ond gyfeillion,
Gadewch I fi eich sicrhau chi,
Roedd y syniad o genedl ail gyfle yn bodoli cyn y gynhadledd hon,
Ond rwy’n gwybod y bydd yn datblygu, yn esblygu ac yn cael ei wireddu drwy gyfraniadau, syniadau a thrafodaethau pobl yn y gynhadledd hon a thu hwnt.
Ac rydyn ni eisoes wedi dechrau adeiladu’r dyfodol newydd hwnnw.
Bydd ein bil newydd yn gosod dyletswydd ar y comisiwn newydd I sicrhau cyfleusterau priodol ar gyfer addysg bellach a hyfforddiant I oedolion cymwys.
Dyma gam mawr ymlaen mewn darpariaeth I oedolion. Bydd yn cael ei gefnogi gan gyllid ac fe fyddwn ni’n gweithio gyda chi er mwyn diffinio cwmpas y ddyletswydd honno mewn rheoliadau dros y ddwy flynedd nesaf.
Fy ngweledigaeth I yn y tymor hir yw sicrhau hawl gyffredinol I gael addysg gydol oes, er mwyn I bob dinesydd gael y cyfle hwnnw.
Mae angen I ni gydweithio I gynyddu nifer yr oedolion sy’n dysgu yng nghymru.
Dwi ddim am I ni gyfyngu ein gorwelion.
Fe wnaeth geiriau diweddar syr alan tuckett fy nharo I.
Bod rhaid I ni symud oddi wrth ystyriaeth ddeuaidd o ddiben dysgu oedolion a dysgu gydol oes.
Fe ddywedodd:
[there has been] “too narrow a focus on investment as a choice between vocational education and neglected education for citizenship and cultural fulfilment.
“economic prosperity and social cohesion both benefit from sustained commitments to lifelong learning”.
Rwy’n cytuno’n llwyr.
Ac rwy’n benderfynol o symud ymlaen yn yr ysbryd hwnnw.
Mae mentrau fel ‘taith’, ein rhaglen gyfnewid fyd-eang newydd yn dangos y pwyslais rydyn ni’n ei roi ar greu cyfleoedd newydd.
Rwy’n gwybod bod Susana, cyfarwyddwr taith yma I siarad am y rhaglen, ond rwy’ am ddweud mai dyma’r rhaglen symudedd rhyngwladol sydd wedi’I ariannu orau erioed yng nghymru, gyda chyllid ar gael ar gyfer ceisiadau penodol o’r sector dysgu oedolion eleni.
Gadewch I ni wneud y mwyaf o’r holl gyfleoedd cyffrous y bydd taith yn eu cynnig I oedolion sy’n ddysgwyr a staff ar draws y wlad.
I gloi, gyfeillion, rwy’n hyderus bod dyddiau llewyrchus ar gyfer dysgu oedolion o’n blaen.
Bydd angen I ni gadw’r ffydd.
Rhannu cyfrifoldeb.
A chreu cyfleoedd sy’n wirioneddol gynaliadwy.
Mae’r hen ddihareb yn dweud ‘tri chynnig I gymro”.
Gyfeillion, ddylai cyfleoedd addysg a dysgu gydol oes ddim bod yn fater o lwc.
Cenedl ail gyfle yw un lle rydyn ni yn gweithio gyda’n gilydd,
Gan adeiladu dinasyddiaeth gyffredin,
A thaclo effaith tlodi ar uchelgais, cyfleoedd ac addysg.
Does dim byd yn bwysicach na hynny ar gyfer economi fodern a llwyddiannus, cymunedau sydd wedi’u grymuso a chymdeithas deg a chynhwysol.
A chenedl lle nad yw byth yn rhy hwyr I ddysgu.
Diolch yn fawr.