Heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar sefydlu cronfa newydd i roi cymorth ychwanegol i bobl anabl ymgeisio am swydd etholedig yn etholiadau'r Senedd yn 2021 ac etholiadau Llywodraeth Leol yn 2022.
Mae'r ymgynghoriad yn rhoi gwybodaeth am yr ystod o gymorth y bydd y gronfa'n ei ddarparu, gan gynnwys cymorth ar gyfer "namau anweledig". Mae'r meysydd y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio adborth arnynt yn cynnwys:
- y meini prawf cymhwystra ar gyfer y gronfa
- cyfyngiadau ar ddyraniadau cyllid fesul ymgeisydd
- rheoli’r gronfa a’r pwynt lle mae cymorth o’r gronfa yn dod i ben; ac
- enw’r gronfa.
Bydd prosiect peilot yn cael ei sefydlu ar gyfer etholiadau'r Senedd yn 2021 – a bydd y gronfa’n agored i unigolion y mae eu namau yn dod o dan y diffiniad o anabledd.
Dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:
Mae pobl anabl yn debygol o wynebu mwy o gostau wrth ymgeisio am swydd etholedig, a bydd y gronfa hon yn helpu i leihau rhai o'r rhwystrau ariannol a wynebir.
Rydyn ni wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth ar draws pob agwedd ar fywyd cyhoeddus, gan gynnwys mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n atal unigolyn rhag cymryd rhan weithredol mewn democratiaeth leol drwy ymgeisio am swydd etholedig. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn llywio'r trefniadau manwl ar gyfer gweithredu a rheoli'r gronfa, sy'n cael ei datblygu gan Anabledd Cymru. Bydd y gronfa hon yn helpu unigolion i chwarae rhan lawn yn y gwaith o gefnogi a chynrychioli eu cymunedau.
Dywedodd Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip:
Bydd creu Cymru fwy cyfartal, lle mae pawb yn cael cyfle i gymryd rhan, cyrraedd eu potensial llawn, ac yn gallu cyfrannu'n llawn at yr economi, yn galluogi Cymru i fod yn fwy llewyrchus ac yn arloesol.
Mae unigolion yn cael eu cyfyngu drwy rwystrau anableddau yn y gymdeithas mewn sawl ffordd. Ac, yn dibynnu ar eu namau neu eu cyflwr penodol, mae'n debygol y bydd angen cymorth gwahanol iawn ar bob unigolyn. Bydd y rhain yn amrywio o gymorth i dalu am deithiau mewn tacsi, i offer arbenigol fel meddalwedd darllen sgrin i ddehongli Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer ymgeiswyr byddar. Gwyddom nad yw rhai pobl yn sefyll mewn etholiadau am nad yw cefnogaeth o’r fath ganddynt, ac mae'r gronfa hon yn ceisio goresgyn hynny a galluogi pawb ledled Cymru i allu cymryd rhan a chynrychioli eu cymunedau.
Dywedodd Rhian Davies, Prif Weithredwr Anabledd Cymru:
Mae'r Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig yng Nghymru yn garreg filltir bwysig o ran hyrwyddo cydraddoldeb i bobl anabl yng Nghymru. Mae’n ehangu hawliau i gyfranogiad democrataidd yn ogystal â sicrhau bod y rhai sy'n cael eu hethol i gynrychioli ein cymunedau hefyd yn adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau.
Mae Anabledd Cymru yn llawn cyffro am y cyfle i weithio gyda phobl anabl sydd â diddordeb mewn sefyll am swydd etholedig, gyda phleidiau gwleidyddol ar draws amrediad eang o ddiddordebau, a gyda rhanddeiliaid sy'n rhan o'r broses etholiadol, wrth gynllunio a chyflawni'r cynllun peilot. Bydd y cymorth i ymgeiswyr a ddarperir drwy'r gronfa yn cyfrannu'n sylweddol at greu chwarae teg i bobl anabl sy'n chwilio am swydd etholedig, boed yn genedlaethol neu'n lleol.