Neidio i'r prif gynnwy

Sut i newid cais ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru sydd wedi’i wrthod a beth sy’n digwydd pan fo lleoliad wedi’i ddatgofrestru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Newid cais sydd wedi’i wrthod

Os bydd yr Awdurdod Lleol yn gwrthod eich cais i gofrestru lleoliad, bydd angen i chi gysylltu â'r Awdurdod Lleol neu AGC i ddarganfod y rheswm.

Os yw'n briodol, gall yr Awdurdod Lleol ddiwygio'r statws i Wedi’i wrthod' i 'Wedi’i gymeradwyo' heb fod angen ailymgeisio.

Lleoliadau sydd wedi’u datgofrestru gan Arolygiaeth Gofal Cymru

Os bydd Arolygiaeth Gofal Cymru yn dadgofrestru lleoliad yna bydd taliadau ar gyfer y Cynnig Gofal Plant i'r lleoliad hwnnw yn cael eu hatal o’r dyddiad hwnnw.