Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb

  • Awdurdodau Cynllunio Lleol sy'n penderfynu ynghylch ceisiadau cynllunio a cheisiadau cysylltiedig fel arfer; fodd bynnag, mae gan Weinidogion Cymru bwerau i alw cais penodol i mewn er mwyn penderfynu yn ei gylch eu hunain.  
  • Caiff unrhyw un ofyn i Lywodraeth Cymru alw cais cynllunio neu gais cysylltiedig i mewn. 
  • Yn anaml iawn y defnyddir y pŵer i alw cais i mewn, a hynny dim ond pan fydd cynnig yn codi materion sydd o bwys y tu hwnt i'r ardal leol.  
  • Nid yw galw cais i mewn yn golygu y bydd gweinidogion Cymru yn ei wrthod.  Y cyfan mae'n ei olygu yw y bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud y penderfyniad, yn hytrach na'r Awdurdod Cynllunio Lleol.  
  • Ar gyfartaledd, gwneir 25,000 o geisiadau cynllunio a cheisiadau cysylltiedig bob blwyddyn yng Nghymru, a dim ond 5–10 o'r rheini sy'n cael eu galw i mewn bob blwyddyn.  

Y broses ar gyfer gwneud penderfyniadau cynllunio

Mae 25 Awdurdod Cynllunio Lleol ("ACLl") yng Nghymru a nhw sy'n gyfrifol am weithredu'r system gynllunio o ddydd i ddydd.  Mae ACLlau, fel rhan o'u cyfrifoldebau, yn gwneud penderfyniadau mewn perthynas â’r canlynol:  

  • Ceisiadau cynllunio o dan adran 57 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
  • Ceisiadau am ganiatâd mewn perthynas ag adeilad rhestredig o dan adran 10 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990;
  • Ceisiadau caniatâd mewn perthynas â sylweddau peryglus o dan adran 4 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990.  

At ddibenion y canllawiau hyn, gelwir y rhain yn "geisiadau”.

Pwerau i Weinidogion Cymru alw cais i mewn

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau i gyfarwyddo ACLlau i atgyfeirio ceisiadau i Weinidogion Cymru er mwyn iddyn nhw wneud y penderfyniad eu hunain. Enw’r broses hon yw 'galw cais i mewn'.  

Amlinellir y pwerau i alw ceisiadau i mewn yn:  

  • Adran 77 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
  • Adran 12 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990;
  • Adran 20 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990.   

Yn anaml y bydd Gweinidogion Cymru yn arfer eu pwerau i alw cais i mewn, a dim ond lle y gellir cyfiawnhau eu defnyddio.  Mae Llywodraeth Cymru yn glir mai ACLlau a ddylai benderfynu ynghylch ceisiadau lle bynnag y bo modd.

Pryd y gall Gweinidogion Cymru alw cais i mewn

Mae rhai amgylchiadau lle y gall Gweinidogion Cymru ystyried defnyddio pwerau i alw cais i mewn.  Naill ai: 

  • Ar ôl i unigolyn neu sefydliad ofyn i’r cais gael ei alw i mewn; 
  • Os yw'n fath o ddatblygiad neu waith y mae'n rhaid hysbysu Gweinidogion Cymru yn ei gylch cyn y caiff ACLl gymeradwyo cais mewn perthynas ag ef (a elwir yn "ddatblygiad hysbysu"); neu
  • Yn ôl ewyllys Gweinidogion Cymru eu hunain (h.y. nid oes neb wedi gofyn i’r cais gael ei alw i mewn ac nid yw’r cais mewn perthynas â datblygiad hysbysu).  

Dim ond cyn i'r ACLl wneud penderfyniad ynghylch cais o dan sylw y gallai Gweinidogion Cymru arfer eu pwerau i alw cais i mewn.

Sut i ofyn i gais gael ei alw i mewn

Gall unrhyw un ofyn i gais gael ei alw i mewn.  

Rhaid gwneud ceisiadau’n ysgrifenedig i Lywodraeth Cymru, a gellir gwneud hyn drwy anfon e-bost at planning.directorate@llyw.cymru.  

Er mwyn gofyn i gais gael ei alw i mewn rhaid cynnwys y canlynol:

  • Eich enw;
  • Eich cyfeiriad;
  • Pam rydych chi'n credu y dylid galw'r cais i mewn;
  • A ydych yn gofyn i’r cais gael ei alw i mewn fel unigolyn, neu a ydych yn gwneud hynny fel cynrychiolydd pobl eraill, er enghraifft, fel Aelod o’r Senedd, Cynghorydd neu aelod o grŵp cymunedol.

Ni fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried unrhyw geisiadau nad ydynt yn cynnwys yr holl wybodaeth uchod.  

Bydd pob cais yn cael ei ystyried yn yr un ffordd, ni waeth pwy sy'n ei wneud na’i leoliad.  

Ni fydd gohebiaeth sy'n mynegi barn unigolyn ar gynnig neu'n gofyn i Weinidogion Cymru ei wrthwynebu neu ei gefnogi yn cael ei thrin fel cais i alw i mewn.  

Er na fydd Llywodraeth Cymru yn datgelu pwy sydd wedi gofyn i’r cais gael ei alw i mewn fel mater o gwrs, mae’n bosibl y bydd y mater yn destun cais Rhyddid Gwybodaeth, ac efallai y bydd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth sy'n ymwneud â galw’r cais i mewn', gan gynnwys gwybodaeth bersonol.  Ymdrinnir ag ymateb i gais Rhyddid Gwybodaeth sy'n ymwneud â galw cais i mewn yn unol â'r dyletswyddau a osodir ar Weinidogion Cymru gan y ddeddfwriaeth berthnasol. Mae hyn yn cynnwys:

  • Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000;
  • Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004
  • Deddf Diogelu Data 2018.

Pan ofynnir i gais mewn perthynas â chynnig a fydd yn ennyn cryn ddiddordeb yn yr ardal leol gael ei alw i mewn

Gall rhai cynigion ennyn diddordeb sylweddol mewn ardal.  Ar adegau o'r fath, yn aml y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn llawer o geisiadau’n gofyn i’r cais penodol hwn gael ei alw i mewn.     

Nid yw llawer o bobl yn gofyn i gais gael ei alw i mewn yn golygu bod y cais yn fwy tebygol o gael ei alw i mewn nag achos lle mae un cais yn unig yn gofyn am hynny, ac ni fydd nifer y bobl sy’n gofyn i’r cais gael ei alw i mewn yn cael dylanwad mwy wrth benderfynu a ddylid galw cais i mewn neu beidio. 

Rydym yn cynghori unigolion a grwpiau i beidio ag annog eraill i ofyn i Lywodraeth Cymru alw cais i mewn am yr un rhesymau â phobl eraill sydd eisoes wedi gofyn i’r cais gael ei alw i mewn.  Mae’n gallu cymryd llawer o amser i Lywodraeth Cymru brosesu ceisiadau o'r fath, a gallai hyn arwain at beidio â gwneud penderfyniad ynghylch galw’r cais i mewn modd amserol.  

Lle mae llawer o bobl mewn cymuned yn teimlo’n gryf mewn perthynas â chynnig, mae Llywodraeth Cymru yn annog unigolion yn gryf i gyflwyno un cais ar y cyd yn gofyn i’r cais gael ei alw i mewn, sy’n rhoi sylw i’r rhesymau ar y cyd dros ofyn i’r cais gael ei alw i mewn.  

Bydd yr holl resymau o fewn un cais yn gofyn i gais gael ei alw i mewn yn derbyn yr un ystyriaeth â nifer o geisiadau yn gofyn i gais gael ei alw i mewn sy’n tynnu sylw at yr un mater.  Yn y pen draw, bydd pob cais yn cael ei ystyried yn unol â'r polisi hwn mewn perthynas â galw ceisiadau i mewn.
 

Pryd y gellir gofyn i gais gael ei alw i mewn?

Dylai rhywun ofyn i gais gael ei alw i mewn cyn gynted â’i fod yn penderfynu ei fod am i Weinidogion Cymru ystyried galw’r cais i mewn.  

Rhaid gwneud unrhyw gais yn gofyn i gais gael ei alw i mewn cyn i'r ACLl benderfynu ar y cais, neu cyn pwyllgor cynllunio'r ACLl, pan gynhelir cyfarfod o'r fath mewn perthynas â'r cais.  

Mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â nifer o achosion o bobl yn gofyn i geisiadau gael eu galw i mewn, a phan ofynnir i gais gael ei alw i mewn yn fuan cyn y dyddiad ar gyfer penderfynu yn ei gylch, mae’n bosibl na fydd gan Weinidogion Cymru ddigon o amser i ystyried a ddylid galw'r cais i mewn ai peidio.  Gall hyn ddigwydd yn amlach pan benderfynir ynghylch ceisiadau gan swyddogion ACLl yn hytrach na gan Fwrdd Cynllunio'r ACLl.  Rhaid rhybuddio’r rhai sy’n gofyn i gais gael ei alw i mewn am y posibiliad hwn.

Beth sy'n digwydd ar ôl i rywun ofyn i gais gael ei alw i mewn

Bydd Llywodraeth Cymru yn cydnabod rhywun sydd wedi gofyn i gais gael ei alw i mewn o fewn 15 diwrnod gwaith, ac wedyn bydd yn ystyried a yw'r cais yn bodloni polisi ar gyfer galw cais i mewn (a amlinellir ar y dudalen hon).  

Y dystiolaeth allweddol wrth ystyried cais yn gofyn i gais gael ei alw i mewn yw adroddiad swyddog yr ACLl.  Dyma adroddiad gan yr ACLl sy'n nodi ei resymau y tu ôl i’r penderfyniad i argymell rhoi neu wrthod caniatâd.  Mae'n ofynnol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 i adroddiad y swyddog fod ar gael i'r cyhoedd o leiaf tri diwrnod cyfan cyn cyfarfod y pwyllgor cynllunio perthnasol.  Yn aml, nid yw adroddiad swyddog yn barod tan y dyddiad hwn.

Penderfynir ynghylch rhai ceisiadau heb eu cyflwyno i bwyllgor cynllunio'r ACLl; mae'r rhain yn aml yn geisiadau gan ddeiliaid tai neu fân geisiadau masnachol. Ar gyfer y rhan fwyaf o geisiadau, mae ACLlau yn anelu at wneud penderfyniad o fewn wyth wythnos, gyda llawer o geisiadau’n cael eu penderfynu cyn wyth wythnos.  Mewn achosion o'r fath, efallai na fydd yn bosibl i Lywodraeth Cymru weld adroddiad y swyddog cyn gwneud penderfyniad ynghylch y cais, ac mae’n bosib wedyn y bydd y cais yn gofyn i’r cais gael i alw i mewn yn methu.   

Os yw'n glir nad yw cais yn bodloni polisi ar gyfer galw cais i mewn, gellir cyhoeddi canlyniad mewn perthynas â galw’r cais i mewn heb weld adroddiad y swyddog.  Bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio rhoi canlyniad mewn perthynas â phob cais y gofynnir iddo gael ei alw i mewn, ond mae’n bosibl y bydd rhai ceisiadau fethu, a rhaid i’r rhai sy’n gofyn i gais gael ei alw i mewn fod yn barod am hyn.

Datblygiad Hysbysu

Mae rhai dosbarthiadau o ddatblygiad y mae'n rhaid i ACLlau hysbysu Gweinidogion Cymru amdanynt cyn i benderfyniad gael ei wneud yn eu cylch, er mwyn i Weinidogion Cymru ystyried a ddylid eu galw i mewn neu peidio. Os bydd cais yn ddarostyngedig i'r gofynion hysbysu hyn, nid oes angen gofyn i’r cais gael ei alw i mewn, gan y bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu a ddylid galw’r cais i mewn beth bynnag.  

Mae rhestr lawn o ddatblygiadau hysbysu isod:  

Cyfarwyddiadau o dan Erthygl 18(1) o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 ("Cyfarwyddiadau atal”)

Ar adegau, ar ôl i rywun ofyn i gais gael ei alw i mewn, mae’n bosibl y bydd Gweinidogion Cymru yn cyflwyno cyfarwyddyd atal mewn perthynas â'r cais cynllunio o dan sylw.  Mae cyfarwyddiadau atal yn galluogi Gweinidogion Cymru i atal ACLl rhag rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad y gofynnwyd i’r cais gael ei alw i mewn.  Yn ymarferol, mae hyn er mwyn rhoi rhagor o amser i Weinidogion Cymru ystyried y cais yn gofyn i’r cais gael ei alw i mewn.  

Yn anaml y rhoddir cyfarwyddiadau atal ac ni fydd pob cais y gofynnwyd iddo gael ei alw i mewn yn destun cyfarwyddyd atal.  

Dim ond pan fydd yn debygol y bydd y datblygiad arfaethedig yn codi materion cynllunio sydd o bwys y tu hwnt i’r ardal leol y cyflwynir cyfarwyddyd atal, ac mae’n annhebygol iawn y byddant yn cael eu cyflwyno mewn perthynas â chais gan ddeiliad tŷ neu gais masnachol bach.  

Fel mater o gwrs, cyhoeddir cyfarwyddiadau atal mewn perthynas â'r holl gynigion lle y gofynnir i’r cais gael ei alw i mewn yn ystod unrhyw gyfnod cyn etholiad, ni waeth a yw’n debygol y byddant yn codi materion sydd o bwys y tu hwnt i’r ardal leol neu beidio.  

Ni ellir rhoi cyfarwyddiadau atal mewn perthynas â cheisiadau caniatâd ar gyfer adeilad rhestredig na cheisiadau caniatâd mewn perthynas â sylweddau peryglus. 

Rhesymau pam mae Llywodraeth Cymru yn galw ceisiadau i mewn a pholisi ar gyfer galw cais i mewn

Nid yw'r penderfyniad i alw cais i mewn yn cael ei wneud ar sail rhinweddau'r cais. Y nod yw penderfynu pwy sydd yn y sefyllfa orau i wneud penderfyniad ynghylch y cais, yng ngoleuni'r materion y mae'n eu codi.

Mae paragraff 1.35 o Bolisi Cynllunio Cymru yn amlinellu Llywodraeth Cymru ar gyfer galw ceisiadau i mewn .  Mae’r polisi yn dweud bod pwerau i alw cais i mewn yn cael eu defnyddio yn ddetholus a bod pob cais yn cael ei ystyried yn unigol. Fel arfer nid ystyrir bod galw cais i mewn yn briodol oni bai bod cynnig yn codi materion cynllunio sydd o bwys y tu hwnt i’r ardal leol. Gellid ystyried ei fod yn briodol, er enghraifft, yn achos y cynigion canlynol:

  • cynigion sy’n gwrthdaro â pholisïau cynllunio cenedlaethol;
  • cynigion a allai gael effeithiau helaeth y tu hwnt i’w hardal leol;
  • cynigion a allai achosi dadlau mawr y tu hwnt i’r ardal leol;
  • cynigion sy’n debygol o effeithio’n sylweddol ar safleoedd o ddiddordeb gwyddonol, cadwraeth natur neu ddiddordeb hanesyddol neu ardaloedd sy’n bwysig ar sail eu tirwedd;
  • cynigion sy’n codi materion sy’n gysylltiedig â diogelwch cenedlaethol; neu
  • cynigion sy’n codi materion cynllunio newydd.

Gall Gweinidogion Cymru arfer eu pwerau i alw cais i mewn am unrhyw reswm.  Canllaw yw’r rhestr hon ac ni fwriedir iddi gynnwys popeth. Yn yr un modd, nid yw'n dilyn yn awtomatig y bydd cais sy’n codi’r materion a nodir uchod yn cael ei alw i mewn.  Er enghraifft, Mae’n bosibl y bydd cynnig yn gwrthdaro â pholisïau cynllunio cenedlaethol, ond gall ystyriaethau perthnasol eraill gyfiawnhau cymeradwyo'r cais. 

Yn y rhan fwyaf o achosion o alw cais i mewn, bydd Gweinidogion Cymru yn nodi'r materion cynllunio a godwyd gan y cais, ac yn asesu a yw'r ACLl wedi nodi ac wedi ystyried y materion perthnasol yn adroddiad ei swyddog, ac wedi rhoi’r sylw dyledus iddynt. Wedyn bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu a yw'r cynnig yn codi materion cynllunio sydd o bwys y tu hwnt i’r ardal leol.  Fodd bynnag, mewn rhai achosion, efallai na fydd Gweinidogion Cymru yn ystyried bod angen ymarfer o'r fath gan nad yw'r cynnig yn amlwg yn codi materion cynllunio sydd o bwys y tu hwnt i’r ardal leol.  

Rhesymau pam na fydd Gweinidogion Cymru yn galw cais i mewn

Yn gyffredinol, ni fydd ceisiadau nad ydynt yn codi materion cynllunio sydd o bwys y tu hwnt i’r ardal leol yn cael eu galw i mewn i'w penderfynu gan Weinidogion Cymru.  Yn hynny o beth, mae'n annhebygol iawn y bydd ceisiadau gan ddeiliad tai neu geisiadau ar gyfer datblygiadau masnachol bach yn cael eu galw i mewn.  

Ni fydd Gweinidogion Cymru yn galw cais i mewn oherwydd pryderon am y ffordd y mae'r ACLl yn ymdrin ag ef.  Dylai aelodau'r ACLl ystyried a phleidleisio ar geisiadau er budd ehangach y cyhoedd, a dylent fod yn weladwy wrth wneud hynny. Dylent gymryd gofal arbennig i osgoi canfyddiadau eu bod wedi ffurfio barn ar gais cyn gwneud y penderfyniad yn ei gylch.  Mae methu â gweithredu mewn modd gwrthrychol a diduedd yn torri Cod Ymarfer Awdurdodau Lleol.  

Os oes gan rywun bryderon am unrhyw weithredoedd neu ddiffyg gweithredu gan yr ACLl, rhaid ymdrin â'r rhain drwy Swyddog Monitro'r ACLl neu drwy Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.  Os bydd rhywun o'r farn bod twyll neu unrhyw drosedd arall wedi cael ei chyflawni gan ACLl wrth iddo ystyried a phenderfynu ynghylch cais, dylent gyflwyno eu tystiolaeth i Archwilio Cymru a/neu'r Heddlu.  

Rhaid i ACLlau benderfynu ynghylch ceisiadau yn unol â'r weithdrefn a amlinellir mewn cyfraith gynllunio. Os yw'r ACLl eisoes wedi penderfynu ynghylch cais, yr unig ffordd o herio’r canlyniad hwn yw i unigolyn neu sefydliad ofyn am Adolygiad Barnwrol.  Dim ond ar y sail honiad bod yr ACLl wedi ymdrin â'r achos mewn ffordd gyfreithiol ddiffygiol y gellir mynd ar drywydd hwn; ni fydd deiseb i geisio Adolygiad Barnwrol yn seiliedig ar rinweddau'r penderfyniad yn cael ei ystyried gan y llysoedd.  Dylai unrhyw un sy'n ystyried ceisio Adolygiad Barnwrol o benderfyniad cynllunio geisio ei gyngor cyfreithiol ei hun fel mater o frys.

Ni fydd y broses galw i mewn yn cael ei defnyddio i ddyblygu'r mecanweithiau hyn.

Ni fydd Llywodraeth Cymru yn galw cais i mewn o ganlyniad i anghydfod rhwng unigolion nac ar sail pwy yw'r ymgeisydd.  
 

Beth sy'n digwydd yn dilyn canlyniad ynghylch galw cais i mewn

Pan fydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu galw cais i mewn, caiff ei drosglwyddo o'r ACLl i Weinidogion Cymru benderfynu yn ei gylch.  Bydd Llywodraeth Cymru yn penodi arolygydd cynllunio annibynnol i archwilio'r cais, naill ai drwy: 

  • sylwadau ysgrifenedig;
  • gwrandawiad; 
  • ymchwiliad cyhoeddus
  • cymysgedd o ddau neu fwy o'r dulliau uchod.  

Yn dilyn archwiliad, bydd yr arolygydd cynllunio yn cyflwyno adroddiad gydag argymhelliad i Weinidogion Cymru i gymeradwyo neu wrthod y cais.  Bydd un o Weinidogion Cymru yn penderfynu a ddylid rhoi cydsyniad mewn perthynas â'r cais ai peidio.  

Os na chaiff cais ei alw i mewn, bydd yr AcLl yn rhydd i gyhoeddi penderfyniad mewn perthynas â'r cais.  

Nid oes hawl i apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad gan Weinidogion Cymru i alw cais i mewn neu beidio, neu mewn perthynas â phenderfyniad ynghylch gais a alwyd i mewn.  
 

Gwirio statws cais y gofynnwyd iddo gael ei alw i mewn

Gallwch weld ein rhestr o geisiadau y gofynnwyd iddynt gael eu galw i mewn ar ein gwefan.  Mae’r rhain yn cael eu diweddaru'n wythnosol.

Os nad ydych am ofyn i gais gael ei alw i mewn, ond bod gennych ddiddordeb yng nghanlyniad cais, anfonwch e-bost at planning.directorate@llyw.cymru gyda manylion y cynnig, gan ddweud yr hoffech weld y penderfyniad mewn perthynas ag ef.