Neidio i'r prif gynnwy

Sut yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y Rheoliad Cyffredinol ar Reoli Data

O dan y Rheoliad Cyffredinol, mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu unrhyw wybodaeth bersonol a gasglwn gennych chi. Rydym yn defnyddio technolegau newydd a meddalwedd amgryptio i ddiogelu’ch data, ac yn cadw safonau diogelwch llym er mwyn rhwystro unrhyw fynediad heb ei awdurdodi atynt.

Nid ydym yn trosglwyddo’ch manylion i unrhyw drydydd parti nag unrhyw adran arall o’r Llywodraeth.

Eich hawliau

Dan y Rheoliad Cyffredinol, mae gennych hawliau fel unigolion ac mae modd ichi eu harfer mewn perthynas â’r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi. Y rhain yw:

  • yr hawl i weld yr wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y data personol a gedwir amdanoch chi
  • yr hawl i wrthwynebu prosesu’r data sy’n achosi niwed neu drallod neu sy’n debygol o wneud hynny
  • yr hawl i rwystro prosesu’r data i’w marchnata’n uniongyrchol
  • yr hawl i wrthwynebu gwneud penderfyniadau drwy ddull awtomatig
  • yr hawl mewn amgylchiadau penodol i gywiro, rhwystro, dileu neu ddinistrio unrhyw ddata personol gwallus
  • yr hawl i geisio am iawndal am ddifrod a achosir wrth dorri’r Ddeddf.

Gallwch ddarllen rhagor am yr hawliau hyn ar ico.org.uk.

Ymweld â’n gwefan

Mae gwasanaeth ar-lein “Ceisiadau Cynllunio Cymru”, yn cael ei gyflwyno gan PortalPlanQuest Ltd, sy’n masnachu fel y Planning Portal, ar ran Llywodraeth Cymru. Pan fydd rhywun yn ymweld â gwefan y “Ceisiadau Cynllunio Cymru”, mae’r gwasanaeth yn defnyddio trydydd parti, Google Analytics, i gasglu gwybodaeth gofrestru safonol y rhyngrwyd a manylion patrymau ymddygiad ymwelwyr.

Ein bwriad wrth wneud hyn yw darganfod y nifer ymwelwyr â rhannau gwahanol o’r wefan. Nid yw’r wybodaeth hon yn cael ei phrosesu ond mewn anhysbys nad yw’n nodi unrhyw un yn unigol. Nid ydym yn gwneud, ac nid ydym yn caniatáu i Google wneud, unrhyw ymgais i ddarganfod hunaniaeth y rhai sy’n ymweld â’n gwefan. Os ydym am gasglu gwybodaeth bersonol adnabyddadwy trwy ein gwefan, byddwn yn agored am hyn. Byddwn yn ei gwneud hi’n glir wrth inni gasglu gwybodaeth bersonol a byddwn yn egluro’r hyn rydym yn bwriadu ei wneud â hi.

Defnydd o gwcis gan y Porth Cynllunio

Ffeiliau testun bach yw cwcis y mae’r gwefannau rydych chi’n ymweld â nhw yn eu hanfon i’ch cyfrifiadur neu’ch dyfais symudol. Maen nhw’n helpu gwefannau i weithio’n well ac yn rhoi gwybodaeth i berchnogion gwefannau. Er enghraifft, rydym yn defnyddio cwcis iaith er mwyn gwybod ym mha iaith yr hoffech weld y wefan. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis YouTube i osod fideos ar dudalennau a chwcis Google Anaytics i olrhain ymddygiad defnyddwyr ar y wefan. Drwy ddeall sut mae pobl yn defnyddio’n gwefan, gallwn ei gwneud yn haws i’w defnyddio a chynnig cynnwys sy’n diwallu anghenion pobl yn well. Mae’r wybodaeth y mae’r “Ceisiadau Cynllunio Cymru” yn ei chasglu yn cynnwys cyfeiriad IP, tudalennau yr ymwelwyd â nhw, y porwr a’r system weithredu. Ni chaiff y data eu defnyddio i adnabod unrhyw ddefnyddwyr yn bersonol. Dyma’r cwcis rydym yn eu defnyddio ar ein gwefan:

Cwci

Enw

Diben

Dod i ben

Language version

langPrefWAG

Y system rheoli cynnwys sy’n creu’r cwci hwn ac mae’n hanfodol er mwyn i’r wefan ddangos yn yr iaith gywir.

Pan fyddwch yn cau eich porwr

Session Tracking

JSessionID

Er mwyn olrhain sesiwn pan fo’r cwcis wedi’u diffodd. Mae hyn yn caniatáu i’r porwr gadw eich sesiwn.

Ar ddiwedd y sesiwn

GoogleAnalytics

_ga

Caiff y cwci hwn ei ddefnyddio i weld sut mae ymwelwyr yn defnyddio’n gwefan. Rydyn ni’n defnyddio’r wybodaeth i’n helpu i wella’r wefan. Mae’r cwci yn casglu gwybodaeth yn ddienw, gan gynnwys gwybodaeth ddemograffig, nifer yr ymwelwyr â’r wefan, a ydyn nhw wedi ymweld â’r wefan o’r blaen, a’r tudalennau y maen nhw’n ymweld â nhw.

2 flynedd

CookieControl

civicAllowCookies
civicShowCookieIcon

Mae’r cwci hwn yn cofnodi a yw defnyddiwr wedi derbyn y defnydd o gwcis ar ein gwefan.

10 awr

YouTube

VISITOR_INFO1_LIVE

PREF

use_hitbox

Mae’r cwcis hyn yn hanfodol i ddangos fideos YouTube ar ein gwefan.

8 mis

 

Ar ddiwedd y sesiwn

Mae modd rheoli rhywfaint ar gwcis drwy osodiadau eich porwr. I ddysgu rhagor am gwcis a sut i’w rheoli, ewch i www.allaboutcookies.org.

Pa wybodaeth sy’n cael ei chasglu gennym?

Rydym yn casglu’r wybodaeth a gyflwynwyd fel rhan o’ch cais, ac rydym yn ei throsglwyddo i’r Awdurdod Cynllunio Lleol sy’n gyfrifol am benderfynu ar y cais perthnasol. Rydym hefyd yn cadw copi o unrhyw gais, naill ai wedi’i baratoi ar ffurf drafft neu wedi’i gyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol perthnasol, am 4 blynedd er mwyn hwyluso ailgyflwyno cais, neu i’w defnyddio fel templed ar gyfer cais yn y dyfodol

Yn unol â deddfwriaeth gynllunio, mae’n ofynnol i Awdurdodau Cynllunio Lleol gasglu a phrosesu gwybodaeth benodol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio a chaniatadau cysylltiedig. Mae’r “Ceisiadau Cynllunio Cymru” yn rhoi pwynt mynediad at y gwasanaethau hyn. Yn syml, ar ôl ichi gyflwyno’ch data i Awdurdodau Cynlluniau Lleol trwy “Ceisiadau Cynllunio Cymru”, nhw hefyd sy’n gyfrifol amdanynt. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb ar ran Awdurdodau Cynllunio Lleol o ran y data y maent yn eu cael neu’n eu prosesu neu os byddant yn colli’r data.

Rydym yn monitro gweithgarwch defnyddwyr er mwyn gwella cynnwys y wefan hon. Mae’r wefan hon yn defnyddio Google Analytics, gwasanaeth dadansoddi ar y we a ddarperir gan Google Inc. (‘Google’). Mae Google Analytics yn defnyddio ‘cwcis’ a chod JavaScript i helpu i ddadansoddi gweithgarwch defnyddwyr ar wefannau. Bydd yr wybodaeth a gynhyrchir am eich defnydd o’r wefan (gan gynnwys eich cyfeiriad IP dienw) yn cael ei throsglwyddo i weinyddion Google yn yr Unol Daleithiau a’i storio.

Bydd Google yn defnyddio’r wybodaeth hon i lunio adroddiadau am weithgarwch  defnyddwyr y wefan hon. Caiff Google hefyd drosglwyddo’r wybodaeth hon i drydydd parti pan fydd yn ofynnol i wneud hyn yn ôl y gyfraith, neu pan fydd trydydd parti yn prosesu’r wybodaeth ar ran Google.

Ni fydd Google yn cysylltu’ch cyfeiriad IP ag unrhyw ddata eraill a gedwir ganddo o’r blaen. Gallwch wrthod defnyddio cwcis drwy ddewis y gosodiadau priodol ar eich porwr, ond nodwch os gwnewch hyn efallai na fyddwch yn gallu defnyddio’r wefan hon yn llawn. Drwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn rhoi caniatâd i Google brosesu data amdanoch yn y dull ac at y dibenion a nodir uchod.

Darllenwch Bolisi Preifatrwydd Google a Thelerau Gwasanaeth Google i gael yr wybodaeth fanwl.

Pobl sy’n anfon e-bost atom

Rydym yn defnyddio Transport Layer Security i amgryptio a diogelu e-byst yn unol â gofynion y Llywodraeth. Os nad yw’ch gwasanaeth e-bost yn gallu defnyddio Transport Layer Security, nodwch ei bod yn bosibl na fydd yr e-byst rydym yn eu cael neu’n eu hanfon yn cael eu trosglwyddo’n ddiogel.

Byddwn hefyd yn monitro unrhyw e-byst sy’n cael eu hanfon atom, gan gynnwys atodiadau, am feirysau neu feddalwedd faleisus. Cofiwch, chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod unrhyw e-bost y byddwch yn ei anfon yn cydymffurfio â’r gyfraith. 

Cofrestru

Er mwyn defnyddio’r “Ceisiadau Cynllunio Cymru”, rhaid ichi gofrestru. Yr wybodaeth y mae’n rhaid ichi ei rhoi er mwyn cofrestru yw’ch cyfeiriad e-bost. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei storio yn y DU ac mae’n cael ei thrin yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a gadarnheir yma. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei storio nes byddwch chi wedi dewis dileu’ch cyfrif.

Gallwch newid eich dewisiadau cofrestru, eich cyfeiriad e-bost a’ch manylion mewngofnodi drwy’r wefan ar unrhyw adeg.

Cwynion neu ymholiadau

Mae PortalPlanQuest Ltd yn ceisio bodloni’r safonau uchaf wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Felly, rydym yn ymdrin ag unrhyw gŵynion a ddaw i law ynghylch hyn o ddifrif. Rydym yn annog pobl i ddwyn unrhyw fater i’n sylw lle maent yn credu ein bod yn casglu neu’n defnyddio gwybodaeth mewn modd annheg, camarweiniol neu anaddas. Byddem hefyd yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwella’n  gweithdrefnau.

Cafodd y polisi preifatrwydd hwn ei ddrafftio i fod yn gryno ac yn eglur. Nid yw’n cynnwys holl fanylion pob agwedd ar y ffordd y mae PortalPlanQuest yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn fodlon darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol neu eglurhad yn ôl yr angen. Dylid anfon unrhyw geisiadau am hyn i’r cyfeiriad isod.

Dolenni at wefannau eraill

Nid yw’r polisi preifatrwydd hwn yn cynnwys y dolenni sy’n arwain at wefannau eraill. Rydym yn eich annog i ddarllen y datganiadau preifatrwydd ar y gwefannau eraill y byddwch yn ymweld â nhw.

Newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn

Os yw’r polisi preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn rhoi fersiwn ddiwygiedig ar y dudalen hon. Byddwn yn adolygu’r dudalen hon yn rheolaidd er mwyn sicrhau eich bod yn ymwybodol bob amser pa wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth honno ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y byddwn yn ei rhannu â phartïon eraill.

Cafodd y polisi preifatrwydd hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar 10 Mai 2018.

Sut i gysylltu â ni

Os hoffech ofyn am wybodaeth am ein polisi preifatrwydd, gallwch anfon e-bost atom drwy webmaster@llyw.gov neu ysgrifennu at:

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

dataprotectionofficer@llyw.cymru

Adborth

Rydym yn croesawu’ch adborth. Os byddwch yn cysylltu â ni i ofyn am wybodaeth, efallai y bydd yn rhaid inni gysylltu ag adrannau eraill o’r Llywodraeth i gael gafael ar yr wybodaeth honno. Os yw eich cwestiwn yn dechnegol, efallai y bydd yn rhaid inni ei anfon at ein cyflenwyr technoleg.

Ni fyddwn yn rhoi’ch gwybodaeth bersonol i unrhyw un wrth ddelio â’ch ymholiad, oni bai y byddwch wedi rhoi caniatâd inni wneud hynny. Ar ôl inni ymateb i’ch ymholiad, byddwn yn cadw cofnod o’ch neges at ddibenion archwilio.

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych ragor o gwestiynau ynghylch sut y bydd PortalPlanQuest yn defnyddio’ch data, ysgrifennwch ato gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod:

PortalPlanQuest Ltd
Suite 4C
Spectrum Building
Bond Street
Bristol
BS1 3LG