Neidio i'r prif gynnwy

Bellach, mae modd i fusnesau sydd wedi’u lleoli yn Ardal Fenter Glannau Port Talbot wneud cais o dan Gynllun Ardrethi Busnes Ardaloedd Menter.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r Cynllun Ardrethi Busnes Ardal Fenter yn gynllun grant dewisol i fentrau bach a chanolig. Mae’n gallu helpu’r mentrau i leihau eu costau gweithredu drwy gynnig grant ar gyfer yr Ardrethi Busnes a ddaeth i’w rhan yn ystod 2016/17. 

Gwahoddir busnesau sydd wedi’u lleoli yn Ardal Fenter Glannau Port Talbot i ystyried y cyfleoedd er mwyn iddynt fanteisio ar y Cynllun Ardrethi Busnes drwy fynychu gweithdy. Cynhelir y gweithdy ddydd Gwener 29 Gorffennaf rhwng 10am ac 1pm yng Ngwesty Best Western Aberavon Beach, Bae Abertawe, Port Talbot, SA12 6QP

I sicrhau’ch lle, dylech gofrestru drwy fynd i wefan Busnes Cymru.

Gwnaeth Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith bwyso ar bob busnes cymwys yn yr Ardaloedd Menter i wneud cais o dan y cynllun:

“Hoffwn annog pob busnes bach a chanolig sydd naill ai wedi’u lleoli yn Ardal Fenter Glannau Port Talbot neu sy’n ystyried dechrau busnes yn yr Ardal honno i wneud cais. Gall y  cynllun hwn fod o gymorth mawr i gwmnïau a fydd yn helpu i hyrwyddo twf economaidd ac yn creu swyddi yn yr ardal”.

Mae’r Cynllun Ardrethi Busnes Ardaloedd Menter, a lansiwyd yn 2012, wedi cynnig mwy na  £9 miliwn ar gyfer dros 200 o fusnesau.  

Gellir cyflwyno cais ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol hyd ddydd Gwener 30 Medi 2016.

Er mwyn bod yn gymwys i wneud cais, bydd angen ichi ddangos yn gyntaf fod eich busnes:

  • wedi'i leoli yn Ardal Fenter Glannau Port Talbot
  • wedi’i gofrestru i dalu ardrethi busnes
  • o fewn diffiniad yr UE o Fusnesau Bach a Chanolig
  • ddim yn gwasanaethu marchnad leol yn unig neu mewn sector o farchnad y DU sydd eisoes yn cael ei wasanaethu'n llawn.
Yn ail, bydd yn rhaid i fusnes cymwys ddangos ei fod yn fusnes newydd ac/neu’n mynd ati i gynyddu ei weithlu parhaol.
Rhoddir ystyriaeth hefyd i weithgarwch busnes arall sy’n gysylltiedig â’r sectorau, cynyddu’r hyn a gynhyrchir ac Arloesoedd/Ymchwil a Datblygu.

Os nad ydych yn gallu mynd i’r gweithdy ond hoffech fwy o wybodaeth neu gymorth, mae croeso i chi ffonio ein llinell gymorth am ddim ar 03000 6 03000, e-bostio cymorthbusnes@cymru.gsi.gov.uk neu ewch i www.porttalbot-ez.gov.wales i gael ffurflen gais.