Mae'n ofynnol i bob ceidwad defaid a geifr gwblhau stocrestr unwaith y flwyddyn.
Mae hyn yn rhan o Orchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2015.
Mae'r stocrestr flynyddol yn gofnod o nifer y defaid a geifr sydd ar ddaliad a dylai gynnwys:
- defaid magu
- hyrddod
- ŵyn gwryw
- ŵyn stôr ac ŵyn wedi'u pesgi
- mamogiaid/hyrddod i’w difa, a
- defaid eraill a geifr
Rhaid ichi hefyd gofnodi nifer y defaid a geifr ar eich daliad yn Llyfr y Ddiadell ar eich fferm.
Rhaid ichi restru yn y stocrestr bob rhif daliad (CPH) lle rydych yn berchennog y defaid a/neu'r geifr. Mae hyn yn cynnwys tir comin a thir dros dro.
Os na fyddwch yn cwblhau'r stocrestr, rydych yn fwy tebygol o gael eich dewis ar gyfer archwiliad.
Newidiadau Pwysig
Bydd y ffordd mae'r stocrestr yn cael ei chynnal yng Nghymru yn newid. Er mwyn sicrhau bod y stocrestr flynyddol yn gyson â holl wledydd eraill y DU, y dyddiad ar gyfer stocrestr yng Nghymru fydd 1 Rhagfyr nawr, ond ni fydd yr wybodaeth sydd ei hangen yn newid.
Mae dau newid arwyddocaol:
- mae'r dyddiad ar gyfer y stocrestr yn newid
Y dyddiad yn y dyfodol ar gyfer pob stocrestr flynyddol fydd 1 Rhagfyr. Y dyddiad nesaf y gofynnir ichi gofnodi nifer y defaid a/neu'r geifr sydd gennych fydd 1 Rhagfyr 2024.
- symud i Stocrestr Flynyddol Ar-lein yn unig
O hyn ymlaen, ni fydd y copi caled arferol o'r stocrestr flynyddol yn cael ei gyhoeddi mwyach. Gallwch gwblhau'r stocrestr ar-lein ar eidcymru.org.
Yn y dyfodol, bydd angen cyflwyno eich stocrestr drwy eich cyfrif EIDCymru ar-lein. Anogir ceidwaid nad oes ganddyn nhw gyfrif i gofrestru ar gyfer un dros yr haf. Mae cydweithwyr swyddfa EIDCymru yn hapus i'ch helpu i Maent ar gael:
- drwy e-bost yn contact@eidcymru.org, neu
- dros y ffôn: 01970 636959
Rydym yn cydnabod y gallai hyn fod yn wahanol i'r ffordd rydych wedi cwblhau eich stocrestr o'r blaen. Rydym yn eich annog i gysylltu â EIDCymru cyn gynted â phosibl. Gallant helpu gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych am y broses newydd.
Cyn i'r stocrestr agor, bydd unrhyw geidwad heb gyfrif EIDCymru yn derbyn llythyr gyda dolen ar-lein fel dull amgen o gwblhau'r rhestr. Os oes amgylchiadau eithriadol, fe'ch cynghorir i gysylltu â EIDCymru.
Os hoffech drafod y newid, gallwch siarad â chydweithwyr o:
- EIDCymru
- y Gwasanaeth Cyswllt Ffermio, a
- Cyswllt Ffermio
Byddant yn y Sioe Frenhinol, sioeau rhanbarthol a marchnadoedd da byw. Byddant yn hapus i roi arweiniad pellach.