Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu faint o angen fydd am ddur yn sector cyhoeddus Cymru yn y dyfodol, fel rhan o'i chefnogaeth barhaus i ddiwydiant dur hirdymor a chynaliadwy.
Mae'r adroddiad, a gomisiynwyd gan ffrwd waith caffael tasglu Tata Llywodraeth Cymru, hefyd yn dangos faint o gapasiti sydd gan y diwydiant dur i ddiwallu'r galw hwn yn y dyfodol.
Am y cyfnod 2017-23, amcangyfrifir y bydd galw am 140,000 o dunelli o wahanol fathau o gynhyrchion dur ar gyfer prosiectau sector cyhoeddus Cymru. Mae hyn yn cynnwys fframiau dur adeileddol, bariau cyfnerthedig a gwaith dur sy'n gysylltiedig â gwaith mecanyddol a thrydanol.
Yn seiliedig ar waith ar y cyd â chynrychiolwyr o sector dur Cymru a sector dur y DU, gan gynnwys Tata Steel, Celsa, UK Steel a Chymdeithas Gwaith Dur Adeiladu Prydain (BCSA), mae'r adroddiad yn dangos y gallai capasiti cynhyrchu dur y DU fod yn 1.4m o dunelli o ddur y flwyddyn, ar gyfartaledd.
Mae'r adroddiad yn gwneud wyth argymhelliad, gan gynnwys sicrhau bod cyfarfodydd briffio y diwydiant dur a chyflenwyr, gyda chymorth gan Busnes Cymru, yn cael eu gwneud yn orfodol ar gyfer prosiectau seilwaith sy'n werth mwy nag £1m.
Mae hefyd yn argymell y dylid datblygu gweithdai ar gyfer caffaelwyr cyhoeddus, cyhoeddi canllawiau i ategu'r broses o gyrchu dur mewn prosiectau adeiladu ac annog defnyddio strategaethau caffael mwy cydweithredol.
Wrth gyhoeddi'r adroddiad, dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:
"Fel Llywodraeth, ry'n ni wedi ymrwymo i wneud popeth y gallwn i sicrhau diwydiant dur hirdymor a chynaliadwy yma yng Nghymru. Mae'r rhagamcan o'r galw am ddur ar gyfer ein prosiectau seilwaith ac adeiladu yn y dyfodol wedi'i amlinellu yn yr adroddiad a bydd yn cael ei ddiweddaru bob blwyddyn.
"Mae'n rhoi'r hyder a'r dystiolaeth i gyflenwyr dur Cymru a'r DU bod galw am eu cynnyrch gan y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae hefyd yn cynnwys rhagamcan manwl sy'n dangos faint o ddur a pha fath o ddur y mae ei angen arnom ar gyfer datblygiadau ffyrdd a rheilffyrdd hanfodol, ysbytai newydd, a rhaglen ysgolion yr 21ain ganrif.
"Mae hyn, unwaith eto, yn dangos ein hymrwymiad i ddarparu pecyn cymorth cydgysylltiedig i gyflenwyr dur Cymru yn wyneb heriau byd-eang."
<?XML:NAMESPACE PREFIX = "O" />