Mae'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy, wedi pwysleisio pa mor bwysig yw sicrhau bod pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn gallu cael gafael ar gymorth iechyd meddwl, a hynny i'w helpu "i lwyddo mewn bywyd".
Aeth Ms Murphy a'r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, Dawn Bowden i weld Fy Nhîm Cefnogol, sydd wedi'i leoli yn hen Ysgol Gynradd Victoria Village ym Mhont-y-pŵl, i ddysgu mwy am y cymorth iechyd meddwl a ddarperir i bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal.
Mae rhaglen Fy Nhîm Cefnogol (MyST) Rhanbarthol Gwent yn wasanaeth iechyd meddwl arbenigol i bobl ifanc hyd at 18 oed. Yn y gorffennol, mae'r rhaglen, sy'n cefnogi plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal, wedi elwa ar gyllid o fwy na £1.4 miliwn gan Gronfa Integreiddio Rhanbarthol Llywodraeth Cymru.
Ei nod yw sicrhau bod plant a phobl ifanc, a'u rhwydweithiau cymorth, yn cael y cyfle gorau posibl i lwyddo drwy ystod o waith seicolegol uniongyrchol a dull system gyfan o ymdrin â gofal.
Mae'r rhaglen yn defnyddio amrywiaeth eang o fodelau seicotherapiwtig ac mae wedi rhoi cymorth i 97 o blant a phobl ifanc ag anghenion iechyd meddwl cymhleth a'r oedolion hynny sy'n eu cefnogi dros y deuddeg mis diwethaf.
Yn ogystal â'r gwaith dwys hwn, mae hefyd yn rhoi cymorth seicolegol i 30 o bobl ifanc eraill sy'n rhan o wasanaethau plant.
Dywedodd rhiant, sydd wedi elwa ar gymorth gan ymarferydd therapiwtig arweiniol o Fy Nhîm Cefnogol:
Pan mae hi (yr ymarferydd) yn dod draw, mae ganddi ei chwpan ei hun fel aelod o'r teulu.
Rydyn ni'n siarad am lawer o bethau ond dyw hi byth yn beirniadu. Mae hi'n un dda am wrando a does gen i ddim gair drwg i'w ddweud amdani.
Byddwn i wedi hoffi cael gwasanaeth fel hi pan oeddwn i'n blentyn. Mae MyST wedi gwneud cymaint i fy nwy ferch.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy:
Mae'r cymorth iechyd meddwl yma'n hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i lwyddo mewn bywyd.
Mae Fy Nhîm Cefnogol yn hollbwysig wrth roi cymorth therapiwtig fydd yn gwella eu hiechyd meddwl a'u llesiant.
Dywedodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, Dawn Bowden:
Mae angen inni sicrhau bod plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal, ar gyrion gofal ac mewn gofal maeth yn cael y cymorth cywir i fyw bywydau sefydlog.
Drwy raglenni fel Fy Nhîm Cefnogol, sy'n dod ag awdurdodau lleol, byrddau iechyd a sefydliadau addysgol at ei gilydd, gallwn sicrhau bod y sylfeini ar waith i gyflawni hyn.