Neidio i'r prif gynnwy

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Tai ac Adfywio fod mwy na hanner y rheini a ymatebodd i'r ymgynghoriad yn cefnogi gwahardd codi ffioedd ar denantiaid yn y sector rhentu preifat.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Y llynedd, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar gynigion i newid y ffordd y caiff ffioedd eu codi gan asiantaethau gosod tai, landlordiaid a thrydydd partïon ar denantiaid yn y sector rhentu preifat, yn dilyn pryderon a godwyd gan Carl Sargeant, cyn-Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau. 

Cytunodd mwy na hanner y rheini a ymatebodd i'r ymgynghoriad, gan gynnwys nifer sylweddol o landlordiaid, y dylid gwahardd ffioedd diangen.  

Canfu'r ymgynghoriad fod lefel y ffioedd y mae asiantaethau yn eu codi ar denantiaid yn amrywio'n fawr - roedd y ffioedd a gofnodwyd gan denantiaid yn amrywio rhwng £50 a £1,700 am y cytundeb yn unig.  

Dyma rai o'r prif bethau a ddaeth i'r amlwg drwy'r ymgynghoriad: 

  • Roedd 56% o bawb a ymatebodd yn cytuno y dylid gwahardd ffioedd diangen yn llwyr
  • Lle caiff ffioedd eu codi, dywedodd y tenantiaid y codir £249.47 ar gyfartaledd arnynt i ddechrau tenantiaeth, £108 i adnewyddu tenantiaeth a £142 ar ddiwedd tenantiaeth.
  • Dywedodd 62% o denantiaid fod ffioedd wedi effeithio ar eu gallu i symud i eiddo rhent, a dywedodd 86% fod ffioedd wedi effeithio ar eu penderfyniad i ddefnyddio asiant.
  • Nid oedd 61% o landlordiaid yn gwybod pa ffioedd yr oedd eu tenantiaid yn talu eu hasiant. 
Dywedodd Rebecca Evans: 

"Fe gawson ni nifer uchel dros ben o ymatebion i'r ymgynghoriad, a dw i'n credu bod hyn yn adlewyrchu pa mor gryf mae pobl yn teimlo am y mater.  Mae rhai o'r ffioedd y mae tenantiaid yn eu talu ar ddechrau eu tenantiaeth yn anghredadwy, ac maen nhw'n effeithio ar eu gallu i symud i'r sector rhentu preifat neu i symud o fewn y sector.  

"Dw i'n awyddus i weithio'n agos gyda thenantiaid, landlordiaid ac asiantaethau gosod tai i sicrhau bod y costau y mae pobl yn eu hwynebu yn rhesymol, gan ei gwneud yn haws iddyn nhw gael llety rhent preifat. Dw i hefyd yn chwilio am gyfleoedd i weithio gyda landlordiaid ac asiantaethau preifat i wella a moderneiddio'r sector i bawb. 

"Mae llety rhent preifat yn rhan gynyddol o'r sector tai yng Nghymru, gan gyfrif am ryw 15% o bob aelwyd, a dw i am iddo fod yn opsiwn diogel a deniadol. 

"Dw i eisoes wedi cyhoeddi fy mwriad i gyflwyno Bil sy'n gwahardd ffioedd yn y sector rhentu preifat.  Mae casgliadau'r ymgynghoriad hwn yn ychwanegu at y dystiolaeth dros yr angen i weithredu i fynd i'r afael â'r ffioedd sy'n cael eu codi ar denantiaid ar hyn o bryd.  Fe wna i nawr fynd ati i gwblhau'r cynigion deddfwriaethol a chyflwyno Bil i'r Cynulliad yn nes ymlaen eleni."

Ymatebodd mwy na 680 o unigolion a sefydliadau i'r ymgynghoriad, ac mae crynodeb o'r ymatebion hynny yn cael eu cyhoeddi heddiw.