Neidio i'r prif gynnwy

Mae busnes sydd ag enw da am ddarparu cynhyrchion dur o safon uchel yn ehangu ei weithrediadau ac yn ehangu ei bencadlys gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Kiernan Structural Steel Ltd yn gwneud buddsoddiad o £1.4 miliwn yn ei bencadlys yn Llandrindod. Bydd hyn yn cryfhau ei gapasiti, gan ei helpu i fodloni gofynion y farchnad sy'n datblygu a gwneud y mwyaf o gyfleoedd ar gyfer twf.

Bydd y prosiect yn creu 39 o swyddi newydd, gan gynnwys pum prentisiaeth, ac yn diogelu 24 swydd arall, gyda £140,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Ar hyn o bryd mae'r busnes yn cyflenwi cynnyrch i ystod o sectorau amrywiol, o adeiladu a seilwaith, i weithgynhyrchu a deunydd fferyllol.

Bydd y buddsoddiad yn ychwanegu gallu mewnol ar gyfer chwistrellu paent gwrthsefyll gwres, y mae llawer o’r gwaith yn cael ei is-gontractio ar hyn o bryd i safleoedd yn Scunthorpe a Southampton.

Meddai Frank a Dolores Kiernan, Cyfarwyddwyr Kiernan Structural Steel (Wales) Ltd:

Mae ehangu ein gweithrediadau yn Llandrindod yn adlewyrchu ein hymrwymiad nid yn unig i gryfhau ein capasiti ond hefyd i gefnogi economi Cymru a diwallu anghenion ein cwsmeriaid ledled y DU.

Mae'r buddsoddiad hwn yn ein galluogi i adeiladu ar ein henw da am ddarparu cynhyrchion dur o safon uchel trwy wneud mwy o'n gwasanaethau arbenigol yn fewnol, lleihau costau ac effaith amgylcheddol, a chreu swyddi gwerthfawr a chyfleoedd hyfforddi ar gyfer talent leol.

Rydym yn teimlo'n gyffrous i barhau â'n twf gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru ac edrychwn ymlaen at wasanaethu Cymru a mwy o wledydd Prydain hyd yn oed yn fwy effeithlon ac arloesol.

Mae Cronfa Dyfodol yr Economi Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau i fuddsoddi, datblygu ac adeiladu economi Cymru.

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

Mae Kiernan Structural Steel wedi buddsoddi mwy na £5 miliwn yn ei weithrediadau yng Nghymru ers 2021.

Bydd y buddsoddiad diweddaraf yn creu ac yn diogelu swyddi sy'n talu'n dda, yn cadw gwerth yng Nghymru, ac yn lleihau ôl troed carbon y cwmnïau sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth.

Byddwn bob amser yn cefnogi busnesau yng Nghymru sydd wedi ymrwymo i dwf, gwaith teg, iechyd a sgiliau gweithwyr, a datgarboneiddio.