Neidio i'r prif gynnwy

Mae busnesau bach a chanolig yng Nghymru wedi sicrhau cytundebau allforio gwerth dros £320 miliwn o ganlyniad uniongyrchol i gymorth Llywodraeth Cymru ers lansio'r Cynllun Gweithredu Allforio ym mis Rhagfyr 2020.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae cymorth allforio Llywodraeth Cymru i BBaChau yn amrywio o ymchwil fanwl i'r farchnad ar gyfleoedd newydd, dod o hyd i gwsmeriaid newydd a mynd allan i'r farchnad i gryfhau cysylltiadau ac ennill busnes newydd.

Mae'n dilyn 2024 lwyddiannus ar gyfer teithiau masnach dan arweiniad Llywodraeth Cymru, gan helpu i gyflwyno dros 150 o fusnesau ledled Cymru i ddarpar gwsmeriaid mewn ystod o farchnadoedd allforio strategol. Roedd y rhain yn cynnwys cefnogi busnesau yn y sector gwyddorau bywyd i arddangos ym Medica, yn Dusseldorf, a chwmnïau Technoleg Ariannol i fynychu Money 2020 yn Amsterdam.

Un cwmni sydd wedi rhoi hwb sylweddol i'w drosiant drwy allforio, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yw Brainbox Ltd. Mae'r busnes o Gaerdydd, sy'n arbenigo mewn bywiogi anfewnwthiol i'r ymennydd ac offer delweddu'r ymennydd ar gyfer ymchwil niwrowyddoniaeth, wedi sicrhau bargeinion allforio newydd gwerth tua £5 miliwn a mwy.

Dywedodd Dan Phillips, Cyfarwyddwr Masnachol Brainbox:

Mae allforio yn rhyngwladol wedi bod yn hanfodol i'n llwyddiant yn Brainbox; mae wedi caniatáu i ni arddangos ein datrysiadau niwrowyddoniaeth integredig i gynulleidfa fyd-eang, a bod yn flaenllaw ym maes ymchwil barhaus a datblygu cynnyrch.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru, rydym wedi gallu lansio sawl cynnyrch newydd ar y farchnad ryngwladol, meithrin perthynas gref gyda chwsmeriaid a chyflenwyr, a sicrhau twf sylweddol dros y pum mlynedd diwethaf. Mae'n enghraifft wych o sut y gall cymorth masnach wedi'i deilwra helpu busnesau fel ein un ni i ffynnu ar lwyfan y byd.

Mae disgwyl i 2025 fod yn flwyddyn brysur arall i deithiau masnach Llywodraeth Cymru gyda saith digwyddiad masnach dramor yn cael eu cynnal erbyn diwedd mis Mawrth.

Mae hyn yn cynnwys Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau i arddangos yn yr expo gofal iechyd Arabaidd yn Dubai yr wythnos hon, teithio fel rhan o Daith Fasnach i Singapore a Malaysia y mis nesaf, yn ogystal â mynychu Gulfood yn Dubai, y sioe fasnach Foodex yn Tokyo a'r Gynhadledd Datblygwyr Gemau yn San Francisco ym mis Mawrth.

Bydd cynadleddau blynyddol Archwilio Cymru hefyd yn cael eu cynnal ym mis Mawrth eleni. Wedi'i drefnu gan Lywodraeth Cymru, mae'r digwyddiad yn dwyn ynghyd 'Ecosystem Allforio' y cymorth sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru o dan yr un to i ddarparu cyngor ac arweiniad ar bob agwedd ar allforio.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

Mae gan allforio y pŵer i drawsnewid busnesau bach a chanolig, gan ganiatáu iddynt dyfu fel busnes, ehangu eu gweithlu a dod yn fwy gwydn mewn economi fyd-eang gystadleuol. Felly, mae cymorth allforio i fusnesau yng Nghymru yn flaenoriaeth uchel i'r Llywodraeth hon.

Er gwaethaf heriau y blynyddoedd diwethaf, mae'r gwerth sylweddol ychwanegol at economi Cymru o ganlyniad uniongyrchol i'n gwaith yn y maes hwn yn siarad drosto'i hun, ac edrychaf ymlaen at weld ein Cynllun Gweithredu Allforio yn parhau i ddarparu cymorth allforio hanfodol i fusnesau ledled Cymru yn 2025.