Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, bydd canllawiau newydd a syml yn cael eu lansio i helpu mwy o fusnesau yng Nghymru i gyflogi cyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Er bod lefelau cyflogaeth yng Nghymru wedi tyfu'n raddol yn y blynyddoedd diwethaf, gwyddom fod cyflogwyr yn aml yn ei chael hi'n anodd recriwtio pobl i swyddi sy'n gofyn am sgiliau arbennig ar gyfer eu busnesau sy'n tyfu. 


Gwyddom hefyd fod gan Gymru nifer o bobl sy'n meddu ar gymwysterau unigryw ac sy'n perfformio ar lefel uchel, ond sydd angen ychydig bach o gefnogaeth ychwanegol i gamu i'r byd gwaith. Drwy weithio gyda chyflogwyr i gynyddu nifer y cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth gynaliadwy, gallwn helpu i atal y problemau cymdeithasol a’r problemau iechyd mwyaf difrifol sydd ynghlwm â diweithdra, megis digartrefedd ac iechyd meddwl gwael.


Dyna pam y mae Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, wedi gofyn i Busnes yn y Gymuned ddatblygu pecyn cymorth ar gyfer cyflogwyr yng Nghymru, sy'n cael ei lansio mewn digwyddiad gyda chyflogwyr a chyn-filwyr yng Nghaerdydd heddiw.


Nod y Pecyn Cymorth i Gyflogwyr - Inspire, Hire Grow: How to capitalise on military talent - yw codi ymwybyddiaeth ymhlith darpar gyflogwyr o'r ystod eang ac unigryw o sgiliau sydd gan cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog a sut y gall y sgiliau a'r profiad sydd ganddynt fod o fudd i gwmnïau.


Dywedodd Alun Davies,


"Mae pob un ohonom yn cydnabod pa mor werthfawr yw ein Lluoedd Arfog yng Nghymru, ac rydym yn falch o'n cyn-filwyr a'n hanes milwrol.


"Mae'n bleser gen i lansio'r Pecyn Cymorth i Gyflogwyr er mwyn codi ymwybyddiaeth ymhlith y cwmnïau hynny sydd efallai heb ystyried y manteision o gyflogi'r rheini sydd wedi gadael y Lluoedd Arfog a chyn-filwyr o'r blaen. Mae'n dangos sut y gall cyflogwyr gryfhau eu gweithlu drwy fanteisio ar y sgiliau a'r disgyblaethau a gafodd eu meithrin yn ystod eu cyfnod gyda'r Lluoedd Arfog, gan gynnwys sgiliau arwain a threfnu a chydnerthedd.


"Mae ein cyn-filwyr yn haeddu pob cyfle i gael ail yrfa lwyddiannus ar ôl gwneud cymaint dros eu gwlad."


Dywedidd Matt Appleby, Cyfarwyddwr Busnes yn y Gymuned:


"Mae'n gwneud synnwyr i ni fanteisio i'r eithaf ar ein cyn-filwyr yng Nghymru. Mae gennym brinder sgiliau yma, ac mae gan tua 6% o gyflogwyr o leiaf un swydd angen ei llenwi. Mae gan nifer o’n cyn-filwyr gymwysterau unigryw, a gyda'r gefnogaeth gywir, byddai modd iddynt gamu nôl i fyd gwaith. Yn ôl un o'n haelodau sy'n cyflogi cyn-filwyr, mae pobl o'r Lluoedd Arfog yn hyblyg ac yn amryddawn, gan eu bod wedi arfer cael eu taflu i sefyllfaoedd dieithr a bwrw ati â'r dasg. Yn aml hefyd, maent yn meddu ar sgiliau trefnu a chydnerthedd all fod yn fanteisiol iawn yn y byd busnes." 

"Mae Llywodraeth Cymru a busnesau yn cydweithio'n agos i fanteisio i'r eithaf ar dalentau cyn-filwyr. I fusnesau sydd am fanteisio ar dalent pobl o gefndir milwrol, mae Busnes yn y Gymuned yn cynnig cyngor ymarferol a phecyn cymorth i fusnesau, a nifer o astudiaethau achos ysbrydoledig."