Heddiw, cyhoeddodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig y bydd rhaglen Cyswllt Ffermio newydd gwerth £22.9 miliwn ar gael i ffermwyr Cymru dros y ddwy flynedd nesaf er mwyn eu cefnogi wrth iddynt baratoi at symud i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd.
Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cymorth i fusnesau, yn gwella cadernid, yn sicrhau cyfleoedd i fanteisio ar y datblygiadau arloesol diweddaraf yn ogystal â helpu i ddatblygu busnesau ffermio. Trwy gynnig cyngor a chymorth, mae Cyswllt Ffermio yn chwarae rhan allweddol o ran helpu ffermydd i gyflawni arylliadau carbon sero net.
Ers ei lansio yn 2015, mae’r rhaglen Cyswllt Ffermio bresennol wedi cefnogi dros 26,500 o unigolion, gan gynnwys 12,615 o fusnesau.
Bydd y rhaglen newydd yn cael ei chynnal am ddwy flynedd hyd fis Mawrth 2025 a bydd yn canolbwyntio ar baratoi ffermwyr at symud i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd.
Themâu trosfwaol y rhaglen newydd fydd cynaliadwyedd, gwell perfformiad amgylcheddol a gwell cystadleurwydd byd-eang.
Gwnaeth y Gweinidog y cyhoeddiad ar fferm sydd wedi elwa ar Cyswllt Ffermio. Mae Will a Sarah Evans o Fferm Lower Eyton yn Wrecsam wedi arallgyfeirio eu busnes fferm gyda chefnogaeth Cyswllt Ffermio. Maent bellach yn cyflenwi bocsys o lysiau tymhorol ffres sydd wedi’u tyfu’n organig yn syth i gartrefi cwsmeriaid. Mae Watery Lane Produce yn cynnwys cynhyrchion o’r fferm a chan gyflenwyr lleol.
Dywedodd y Gweinidog:
Bydd y rhaglen Cyswllt Ffermio newydd rwy’n ei chyhoeddi heddiw yn fodd o gefnogi ffermwyr Cymru ar adeg allweddol. Bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd yn dechrau yn 2025 a bydd Cyswllt Ffermio yn rhoi’r cymorth y mae ffermwyr ei angen i baratoi at y cynllun newydd.
Mae’r diwydiant yn gwerthfawrogi Cyswllt Ffermio ac rwy’n gwybod y bydd ei wasanaethau yn hanfodol dros y ddwy flynedd nesaf wrth inni baratoi’r ffordd ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Bydd Cyswllt Ffermio yn rhoi cyngor ynghylch sut y gall busnesau ffermio addasu a pharhau’n gystadleuol.
Am y tro cyntaf, bydd yn cynnwys rhaglen arddwriaethol gan roi cymorth sy’n benodol i’r sector ar gyfer yr holl dyfwyr gwledig. Yn ogystal, mae rhaglen ‘geneteg defaid’ wedi’i datblygu ar gyfer ffermwyr defaid.
Rwy’n ymwybodol ei bod yn adeg heriol i’r diwydiant. Bydd y rhaglen yn rhoi cymorth gwerthfawr wrth inni symud tuag at y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Dywedodd Sarah Evans o Fferm Lower Eyton:
Rydyn ni wedi bod yn ffodus iawn o’r cymorth rydyn ni wedi ei gael gan Cyswllt Ffermio hyd yma. Dechreuodd y cyfan â gweithdy digidol cyn symud ymlaen i fod yn aelod o’r grŵp Agrisgôp. Rwyf bellach wedi dod o hyd i swydd rwy’n angerddol amdani, rwy’n gwneud fy rhan o ran yr amgylchedd a newid hinsawdd ac rwyf hefyd yn addysgu fy mhedwar plentyn ynghylch y materion pwysig hyn.
Dywedodd Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig Menter a Busnes, sydd wedi darparu rhaglen Cyswllt Ffermio ar y cyd â Lantra Cymru ers 2015:
Gall ffermwyr ledled Cymru ddisgwyl gweld proses lyfn o drosglwyddo gan fod Cyswllt Ffermio, nid yn unig yn adeiladu ar ei gyflawniadau darparu dros y saith mlynedd ddiwethaf ond hefyd drwy’r cymorth wedi’i dargedu parhaus a fydd yn helpu’r genhedlaeth sydd ohoni heddiw a chenedlaethau’r dyfodol i baratoi at y cyfleoedd a’r heriau sydd o’u blaenau.
Gan ddefnyddio ein gweithlu maes rhanbarthol profiadol a medrus a’n timau o gynghorwyr, mentoriaid a hyfforddwyr achrededig arbenigol, byddwn yn cynnig ein cefnogaeth i’r rheini oll sy’n gweithio yn ein diwydiant, gan gynnwys newydd-ddyfodiaid ifanc neu newydd sy’n awyddus i ddatblygu yn ogystal â busnesau sefydledig sy’n barod i ystyried gwahanol ffyrdd o weithio.
Ychwanegodd Kevin Thomas, cyfarwyddwr Lantra Cymru:
Ein nod yw cefnogi pob busnes i gynyddu effeithlonrwydd. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, drwy feincnodi, trosglwyddo gwybodaeth, arloesi, defnyddio technolegau newydd neu sefydlu mentrau arallgyfeirio. Y nod yw eu galluogi i leihau costau a chynyddu proffidioldeb wrth barhau i gynnal y lefelau uchaf o ran iechyd a lles anifeiliaid a rheoli tir.
Gallwch gysylltu â Cyswllt Ffermio ar 03456 000 813.