Heddiw gwnaeth Carl Sargeant, yr Ysgrifennydd dros Gymunedau, gwrdd â'r elusen Cymru Ddiogelach i drafod eu prosiect Streetlife a lansio eu cerbyd allgymorth newydd.
Mae Cymru Ddiogelach yn gweithio gyda phobl sy'n dioddef cam-drin domestig, trais rhywiol a throseddau casineb, ynghyd â gweithwyr rhyw ar y stryd a phobl ifanc sydd mewn perygl.
Mae eu prosiect Streetlife yn amddiffyn menywod y mae pobl yn cam-fanteisio arnynt drwy buteindra, gan weithio gydag awdurdodau lleol, y GIG a phartneriaid eraill. Mae'r cerbyd yn helpu gwirfoddolwyr i fynd allan sawl gwaith yn ystod yr wythnos i gynnig cymorth a chyngor i fenywod a mynediad at wasanaethau.
Dywedodd Carl Sargeant:
"Rwy'n falch iawn bod Cymru Ddiogelach wedi gallu prynu cerbyd newydd drwy gymorth gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn wedi eu galluogi i gynyddu eu gwasanaeth drwy recriwtio gwirfoddolwyr ychwanegol a gwneud gwaith allgymorth ar draws Caerdydd ac Abertawe ar yr un pryd.