Mae cyfreithiau newydd yn ei gwneud hi’n ofynnol i rai hawliau tramwy a thir mynediad gael eu cau o dan yr amgylchiadau canlynol:
- mae nifer uchel o bobl yn dueddol o ddod ynghyd neu fod yn rhy agos at ei gilydd yn yr ardaloedd
- gallai’r defnydd ohonynt olygu bod perygl uchel y gallai coronafeirws gael ei ledaenu o fewn yr ardal
Y cyfreithiau newydd yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020, ac maent yn berthnasol i:
- awdurdodau lleol
- awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Nid yw’r rheoliadau hyn yn atal pobl rhag gwneud ymarfer corff yn yr awyr agored. Maent yn ei gwneud hi’n bosibl i gau ardaloedd lle y gallai pobl ddod ynghyd ac maent yn cydnabod pwysigrwydd gallu gwneud ymarfer corff yn agos at eich cartref.
Mae’r penderfyniadau ynghylch cau yn dibynnu ar arbenigedd y sefydliadau sy’n gyfrifol am eu rheoli.
Gau yn eich ardal
Awdurdodau lleol
Parciau Cenedlaethol
Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog