Neidio i'r prif gynnwy

Busnesau sy'n gorfod cau ar lefel rhybudd 4.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae'r canllawiau hyn yn nodi pa fusnesau a mangreoedd y bydd yn rhaid iddynt gau ar lefel rhybudd 4. Maent hefyd yn nodi at ba ddibenion cyfyngedig y gellir cael mynediad at rai busnesau a mangreoedd sydd wedi cau.

Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i'r rhai sy'n gyfrifol am fangreoedd sy'n parhau i fod ar agor i'r cyhoedd, neu am unrhyw fangre sy'n weithle, gymryd pob cam rhesymol i leihau’r risg o ledaenu’r coronafeirws a rhoi sylw i ganllawiau Llywodraeth Cymru ar yr hyn y mae hynny'n ei olygu.

Rydym yn cydnabod yr ymdrechion enfawr y mae busnesau wedi'u gwneud i sicrhau bod eu safleoedd yn ddiogel. Nid yw'r gofyniad hwn i gau ar lefel rhybudd 4 yn adlewyrchiad ar yr ymdrechion hynny ac rydym yn sylweddoli mai dim ond risg isel neu gymedrol o drosglwyddo’r feirws sydd mewn llawer o safleoedd busnes. Ond ar lefel rhybudd 4, mae lleihau unrhyw gyfraniad at ledaeniad y feirws yn bwysig, a dyna pam mae gofyn i rai busnesau gau dros dro.

Cwmpas y canllawiau hyn

Mae'r canllawiau hyn, a'r cyfyngiadau yn y rheoliadau sy’n ymwneud â chyfnod atal byr y coronafeirws, wedi'u cyfeirio'n bennaf at fangroedd sydd ar agor i'r cyhoedd. Gall y mangreoedd hynny fod o dan do neu yn yr awyr agored. Prif ddiben cau mangreoedd yw lleihau nifer y cynulliadau o bobl a lleihau nifer y siwrneiau y mae pobl yn eu gwneud, yn unol â'r rheol gyffredinol y dylai pobl aros gartref gymaint â phosibl.

Mae rhai mathau o fusnesau'n gallu cynnal eu gweithgareddau mewn amrywiaeth o leoliadau gwahanol, gan gynnwys yng nghartrefi pobl. Pan fo busnesau'n cael eu gwahardd rhag gweithredu mewn un math o fangre, byddant hefyd (yn ddarostyngedig i'r eithriadau a nodir yn y canllawiau hyn) yn cael eu gwahardd rhag gweithredu mewn mangreoedd eraill. Felly, er enghraifft, oherwydd bod gwaharddiad ar siopau trin gwallt rhag agor gan fod hyn yn cael ei ystyried yn weithgaredd nad yw'n hanfodol, ni chaniateir i drinwyr gwallt symudol ddarparu eu gwasanaethau yng nghartrefi cleientiaid na'u cartrefi eu hunain. Mae hyn er mwyn osgoi sefyllfa lle mae pobl yn ymgynnull ar ôl cael eu symud o un lleoliad i'r llall, a lleihau cystadleuaeth annheg rhwng busnesau tebyg.

Golyga hyn nad yw busnesau nad ydynt yn gweithredu o fangreoedd sydd ar agor i'r cyhoedd wedi'u cynnwys yn y rhestrau ar y dudalen hon, a chaniateir iddynt barhau i weithredu. Felly, er enghraifft, nid yw gwaith adeiladu neu gynnal a chadw mewn eiddo preifat, gwaith ffatri a gwasanaethau glanhau wedi'u rhestru yn y canllawiau hyn, ond maent yn gallu parhau ar yr un sail â chyn y cyfnod atal.  

I'r busnesau hynny sy'n parhau i weithredu, rhaid i'r sawl sy'n gyfrifol am y gwaith gymryd pob cam rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws ar y safle, a lleihau'r risg y bydd y rhai sydd wedi bod ar y safle yn lledaenu'r feirws.  Mae canllawiau statudol wedi'u cyhoeddi i helpu pobl i ddeall beth yw ystyr "mesurau rhesymol", y mae'n rhaid i'r rhai sy'n gyfrifol am fangre agored roi sylw iddynt. Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i helpu cyflogwyr, cyflogeion a’r rhai sy’n hunangyflogedig i weithio'n ddiogel yn ystod y pandemig.

Siopau: y rheol gyffredinol

Y sefyllfa ddiofyn o ran siopau ("unrhyw fusnes sy'n gwerthu nwyddau neu wasanaethau i'w gwerthu neu eu llogi ar safle manwerthu") ar lefel rhybudd 4 yw y dylid eu cau i gyd, oni bai eu bod yn gategori o siop sy'n darparu nwyddau neu wasanaethau a ganiateir yn benodol.

A siarad yn gyffredinol, dylai busnesau sy'n gweithredu o siopau dybio y bydd yn ofynnol iddynt gau'r siopau hynny a rhoi'r gorau i'w gweithgareddau, oni bai eu bod wedi'u heithrio am fod y nwyddau neu’r gwasanaethau y maent yn eu darparu yn cael eu hystyried yn “hanfodol”.

Mae hyn yn gyson â'r gofyniad cyffredinol a orfodir ar bobl Cymru i aros gartref ar lefel rhybudd 4. Y sefyllfa ddiofyn yw bod yn rhaid i bobl aros gartref oni bai bod ganddynt esgus rhesymol i adael. Rhestrir esgusodion rhesymol, ond maent yn berthnasol dim ond os yw’n angenrheidiol gadael y cartref. Felly, ni chaniateir gadael y cartref am unrhyw reswm nad yw'n hanfodol.

Mae hyn yn golygu bod dau fater y dylech eu hystyried wrth feddwl a yw mynd i siop yn “hanfodol”.

Cyfrifoldeb ar yr unigolyn yw’r cyntaf.  Dylai pobl ofyn iddyn nhw eu hunain a oes angen iddyn nhw adael eu cartref.  Wrth gwrs, mae digonedd o resymau dilys pam y bydd pobl am adael eu cartref, a’r mwyaf o’r rheini yw mynd allan i brynu bwyd.  Ond dylai pobl wneud popeth yn eu gallu i adael eu cartref i siopa mor anaml â phosibl a threulio cyn lleied ag y medrant o amser o’u cartref. Dylen nhw ystyried hefyd a oes posibiladau eraill fel archebu i’r tŷ.  Hefyd, os nad oes angen prynu cynnyrch arbennig, ni ddylen nhw adael y cartref i wneud hynny.

Yr ail ystyriaeth yw a yw’r cynnyrch y mae pobl am eu prynu ar gael.  Er mwyn osgoi gadael cartref heb eisiau, rydym wedi gofyn i rai mathau o fusnesau manwerthu gau.  Mae’r rheswm dros ofyn iddyn nhw gau yn seiliedig unwaith eto a ellir ystyried bod angen gadael cartref i brynu nwyddau neu wasanaethau o’r siopau hyn. Y busnesau sy’n gyfrifol am hyn – a bydd gofyn i rai ohonynt gau, yn unol â’r gyfraith.

Mae Pennod 2 Rhan 4, Atodlen 4 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn nodi'r sefyllfa ddiofyn bod yn rhaid i bob siop gau, ond mae Pennod 3 yn darparu ar gyfer eithriadau mewn rhai amgylchiadau. Mae Pennod 4 yn rhestru’r safleoedd sy’n gorfod cau ynghyd â’r eithriadau. Ceir hefyd esgus rhesymol cyfatebol dros adael y cartref sy’n darparu y gall pobl fynd i siopau o'r fath os yw’n angenrheidiol.

  1. “"(1) Ni chaiff unrhyw berson ymadael â’r man lle y mae’n byw neu aros i ffwrdd o’r man hwnnw heb esgus rhesymol.
  2. (2)At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—
      1. (a) os yw’r person yn ymadael â’r man lle y mae’n byw, neu’n aros i ffwrdd o’r man hwnnw, at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu
      2. (b) os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (4) yn gymwys.
    1. (3)            Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson ymadael â’r man lle y mae’n byw neu aros i ffwrdd o’r man hwnnw yn cynnwys—
      1. (a) cael cyflenwadau oddi wrth fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraff 12 gan gynnwys—
        1. (i) bwyd a chyflenwadau meddygol ar gyfer y rheini ar yr un aelwyd neu’r aelwyd estynedig (gan gynnwys anifeiliaid ar yr aelwyd neu’r aelwyd estynedig) neu ar gyfer personau hyglwyf
        2. (ii) cyflenwadau ar gyfer cynnal, cynnal a chadw a gweithrediad hanfodol yr aelwyd neu’r aelwyd estynedig, neu aelwyd person hyglwyf;”

Siopau sy'n gwerthu sawl math o gynnyrch

Mae rhai siopau – fel archfarchnadoedd – yn gwerthu sawl math o gynnyrch gan gynnwys y cynnyrch a werthir gan siopau rydym wedi gofyn iddyn nhw gau ar lefel rhybudd 4.  

At ddiben y Rheoliadau, mae’r siopau hyn yn rhedeg mwy nag un math o fusnes ac mae gofyn iddynt gau’r rhannau hynny o’u busnesau sy’n gwerthu cynnyrch y mae gofyn i fath o fusnes a fyddai fel arfer yn eu gwerthu gau.

Ni ellir trosglwyddo i’r cwsmer y cyfrifoldeb am gau safle ac am beidio â gwerthu rhai cynnyrch. Cyfrifoldeb y siop yw hyn. Ni all y siop osgoi’r cyfrifoldeb hwn ac i osgoi unrhyw amheuaeth, os yw’r siop yn trefnu bod ei holl gynnyrch ar gael ond yn gofyn i’w chwsmeriaid (er enghraifft trwy arwyddion neu gyhoeddiadau) beidio â phrynu unrhyw beth y gallent gredu fod ganddynt reswm da i’w brynu, nid yw’n ysgwyddo’i chyfrifoldeb cyfreithiol.

Yr ardaloedd a gaiff fod ar agor mewn siopau sy’n gwerthu sawl math o gynnyrch yw’r ardaloedd sy’n gwerthu:

  • Bwyd a diod.
  • Cynnyrch sy’n gysylltiedig â bwyd a diod, gan gynnwys eitemau untro a ddefnyddir ar gyfer paratoi a storio bwyd (fel ffoil cegin, bagiau bwyd a clingfilm) ond hefyd y cynnyrch sylfaenol sydd eu hangen i baratoi a bwyta bwyd a diod, megis cynwysyddion bwyd, sosbenni, llestri, cyllyll a ffyrc ac eitemau tebyg eraill.
  • Cynnyrch ar gyfer golchi dillad ac ar gyfer glanhau a chynnal a chadw’r cartref gan gynnwys batrïau, bylbiau golau a thanwydd. Mae hyn hefyd yn cynnwys unrhyw gynnyrch sydd eu hangen i ofalu am anifeiliaid.
  • Cynnyrch y stafell ymolchi, gofal personol a nwyddau harddu, fel papur tŷ bach a nwyddau misglwyf.
  • Cynnyrch fferyllol.
  • Cynnyrch ar gyfer babanod gan gynnwys offer, dillad a chewynau (clytiau).
  • Papurau newydd a chylchgronau.
  • Nwyddau papur a chardiau cyfarch.
  • Bwyd anifeiliaid anwes a chyflenwadau tebyg eraill.
  • Cetris Inc Argraffydd
  • Cyflenwadau celf a chrefft
  • Cynnyrch ar gyfer cynnal a chadw beiciau a cheir.
  • Gwasanaethau atgyweirio a chynnal a chadw dyfeisiau telathrebu neu TG.
  • Yn ogystal, caiff archfarchnad werthu unrhyw eitem a werthir fel arfer mewn siop fach, siop gornel a siop ddiodydd drwyddedig.

Mae’r cyfyngiadau hyn yn golygu y bydd yn rhaid i rai siopau gau rhannau o’u safleoedd i gwsmeriaid. Bydd rhai rhannau o siopau mawr yn arddangos y nwyddau “hanfodol” hynny y ceir parhau i’w gwerthu tra bo rhannau eraill yn gwerthu nwyddau “dianghenraid” eraill. Lle bo’n rhesymol ymarferol gwahanu’r rhain mewn ffordd glir, yna ni cheir gwerthu’r nwyddau dianghenraid hynny.

Mewn archfarchnadoedd mawr, bydd yn amlwg yn y rhan fwyaf o achosion bod yn rhaid rhwystro mynediad i rai rhannau o'r siop, neu eu gwagio, a'u cau i'r cyhoedd. Lle bo rhannau penodol o’r siop yn gwerthu (er enghraifft) nwyddau trydan, dillad, teganau, gemau, neu gynnyrch ar gyfer yr ardd, dylid cau’r rheini i’r cyhoedd – ac ni ddylai’r cynnyrch hyn gael eu gwerthu.

Lle nad oes rhannau penodol o’r siop wedi’u neilltuo ar gyfer nwyddau o’r fath, ond eu bod mewn eiliau penodol, dylid cau’r rhain neu rwystro mynediad iddynt os yw’n rhesymol ymarferol. Fodd bynnag, bydd angen i siopau wneud y trefniadau hyn mewn ffyrdd sy’n caniatáu i gwsmeriaid symud yn ddiogel o gwmpas y safle, ac felly mewn safleoedd llai yn arbennig rydym yn cydnabod na fydd bob amser yn bosibl cau eiliau cyfan.

Mewn eil gymysg sy’n cynnwys cyfuniad o’r eitemau a restrir uchod ac eitemau eraill, nid oes rhaid tynnu pob eitem nad yw wedi’i rhestru o’r silffoedd neu eu gorchuddio os nad yw’n rhesymol ymarferol.

Er mai’r maen prawf o ran p’un a yw’n rhesymol ymarferol rhannu siop fel hyn yw beth y byddai person rhesymol yn ei feddwl, bydd elfen o ddisgresiwn gan reolwr y siop gan mai ef neu hi fydd yn deall cynllun y siop orau. Fodd bynnag, ni ddylai archfarchnadoedd ad-drefnu eu siopau neu sut y gosodir eu nwyddau mewn ffordd sy’n ei gwneud yn anoddach gwahaniaethu rhwng nwyddau hanfodol a nwyddau dianghenraid.

Siopau sy’n gwerthu sawl math o gynnyrch: argyfyngau

Mae’r rheoliadau hefyd yn caniatáu i siopau sy’n gwerthu sawl math o gynnyrch werthu unrhyw gynnyrch eraill o rannau o’r siop sydd wedi’u cau ar lefel rhybudd 4, os oes eu hangen mewn argyfwng neu am resymau tosturiol.

Gallai cynnyrch o’r fath gynnwys eitemau y gellir aros i’w prynu fel rheol, ond a all yn sydyn fod yn hanfodol os yw’r hen un yn torri, fel ffwrn ficrodon neu degell, neu os yw’r hen rai yn rhy fach neu wedi treulio, fel dillad neu esgidiau plant.

Bydd angen gwneud trefniadau arbennig i allu gwerthu cynnyrch o dan yr amgylchiadau hyn.  O dan yr amgylchiadau hyn, dylai’r cwsmer ofyn am gael prynu cynnyrch penodol ac ni ddylent gael mynd yn rhydd at y cynnyrch hwnnw yn y siop na chael gweld ystod o’r un cynnyrch.  Caiff siopau roi gwybodaeth trwy arwyddoion neu gyhoeddiadau dros y tanoi, i ddweud wrth gwsmeriaid y dylent ystyried prynu cynnyrch ar-lein ond y caent ofyn am gael eu prynu yn y siop o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir uchod.  Nid yw’n ofynnol i siopau ofyn i’r cwsmer am dystiolaeth i brofi bod yr amgylchiadau hyn yn digwydd.  Yn yr achos hwn, cyfrifoldeb y cwsmer yw cydymffurfio â’r gyfraith trwy fod â rheswm rhesymol dros adael ei gartref i brynu’r cynnyrch, ac nid mater i’r siop yw profi bod angen y cynnyrch ar y cwsmer.

Rydym yn gwerthfawrogi bod staff adwerthu yn gorfod wynebu rhwystredigaeth eu cwsmeriaid ac nad yw hynny’n deg.  Am y rheswm hwnnw, bydd Llywodraeth Cymru hefyd wedi rhoi gwybod i’r cyhoedd beth yw eu cyfrifoldebau a’u hatgoffa i beidio â herio gweithwyr siop a bod ymddygiad drwg yn annerbyniol.  Rydym yn cynghori rheolwyr siopau hefyd i ddefnyddio cyhoeddiadau a negeseuon eraill i atgoffa siopwyr am y rheolau.

Ystafelloedd arddangos

Mae lleoliadau sydd wedi’u cynllunio fel ystafell arddangos i arddangos cynnyrch i’w gosod yn ddiweddarach mewn eiddo preswyl fel cegin, ystafell ymolchi, dodrefn neu ffenestri, gan gynnwys mewn siopau aml-gynnyrch mawr, yn cael eu hystyried yn enghreifftiau o “fusnes sy’n gwerthu nwyddau neu wasanaethau i’w gwerthu neu i’w llogi mewn eiddo manwerthu”. Ar lefel rhybudd 4, mae angen cau ystafelloedd arddangos o’r fath, oni bai eu bod yn gategori o siop sy’n darparu nwyddau neu wasanaethau a ganiateir yn benodol. Gall gwerthiannau clicio a chasglu barhau a chaiff cwsmeriaid fynd yn gorfforol i’r siopau ond os oes angen hynny i wneud gwaith cynnal hanfodol yn yr aelwyd ac nad oes dewis rhesymol ymarferol arall.  Ond dim ond o dan amgylchiadau eithriadol ddylai cwsmeriaid gael crwydro i edrych ar gynnyrch mewn ystafell arddangos, pa un ai yw’r busnesau hynny yn fusnesau neu’n unigolion preifat.  Dim ond mynediad trwy drefniant a ganiateir ac mae rheidrwydd ar siopau i wneud cwsmeriaid yn ymwybodol mai dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y caniateir mynediad iddynt.

Clicio a chasglu a gwasanaethau eraill

Yn wahanol i gyfnodau clo blaenorol, ar lefel rhybudd 4 caiff pob siop gynnig gwasanaethau clicio a chasglu neu wasanaethau tebyg (megis gwasanaethau gollwng), p’un a yw’n ofynnol iddynt gau eu safle ai peidio. Er mwyn lleihau nifer y teithiau y mae pobl yn eu gwneud, rhaid archebu pob eitem a gwasanaeth ymlaen llaw ar-lein, dros y ffôn neu drwy’r post.

Rhaid rhoi pob mesur rhesymol ar waith i sicrhau bod pellter o 2 fetr yn cael ei gynnal rhwng pobl ar y safle, yn ogystal â phobl sy'n aros i gasglu nwyddau wrth fynedfa'r safle, neu fan casglu awyr agored dynodedig arall. Dylai siopau sicrhau hefyd, os yw’n bosibl, nad oes rhaid i gwsmeriaid ddod i mewn i’r safle manwerthu sydd wedi’i gau o gwbl i gasglu eu nwyddau, a bod mannau casglu yn cael eu trefnu mewn ffordd mor ddiogel â phosibl. Er enghraifft, dylai siopau:

  • sefydlu mannau codi a gadael nwyddau lle bo modd, yn hytrach na’u pasio â llaw
  • trefnu amserau casglu gwahanol i gwsmeriaid gasglu eitemau
  • cynllunio eu system clicio a chasglu i osgoi/lleihau cyswllt pobl ag arwynebau
  • parhau i lanhau’n aml arwynebau nad oes modd peidio â’u cyffwrdd a chynyddu’r defnydd o dechnoleg ddigyffwrdd i ddarparu eu gwasanaethau.

 Gweler y canllawiau ar fesurau rhesymol i gael rhagor o wybodaeth.

Gwasanaethau dosbarthu nwyddau

Mae gan yr holl wasanaethau ar y rhestr hon, p'un a yw'n ofynnol iddynt gau ar lefel rhybudd 4 ai peidio, hawl i barhau i ddefnyddio eu safle at ddibenion rheoli'r gwaith o werthu, llogi neu ddosbarthu nwyddau neu wasanaethau os caiff hyn ei reoli ar-lein, dros y ffôn neu drwy'r post.

Dychwelyd nwyddau

Os yw’n ofynnol i’ch busnes gau, ni ddylid caniatáu i gwsmeriaid ddod i mewn i’r siop i ddychwelyd nwyddau. Efallai y byddwch am gynnig dyddiadau hyblyg i ddychwelyd nwyddau.

Atgyweiriadau telathrebu

Caniateir i siopau gweithredwyr ffonau symudol aros ar agor ar gyfer ymateb i ymholiadau ynglŷn â gwasanaeth ac i ddarparu cymorth i gwsmeriaid, er enghraifft gwaith atgyweirio ffonau. Ni ddylent fod ar agor ar gyfer gwerthu nwyddau yn gyffredinol. 

Fodd bynnag, ceir gwerthu nwyddau os oes eu hangen mewn argyfwng neu ar sail dosturiol. Gallai hyn gynnwys helpu cwsmeriaid i gadw eu cysylltiad â’r rhwydwaith os na fydd eu cerdyn SIM yn gweithio mwyach neu os na fydd y galedwedd neu’r feddalwedd yn gweithio mwyach.

Rhaid rhoi trefniadau penodol ar waith i werthu cynnyrch o dan yr amgylchiadau hyn. O dan y trefniadau hynny, dylai fod yn ofynnol i gwsmeriaid wneud cais i gael prynu cynnyrch penodol, ac ni ddylent gael mynediad fel y dymunant at y cynnyrch yn y siop na chael pori drwy ystod o gynnyrch.  Dylai fod gan siopau arwyddion priodol wrth y fynedfa i ddangos nad ydynt ar agor ar gyfer gwerthu cynnyrch yn gyffredinol ond ar gyfer cynnal gwaith atgyweirio a gwasanaethau hanfodol eraill.

Fodd bynnag, nid yw’n ofynnol i siopau ofyn am dystiolaeth gan gwsmeriaid sy’n dangos bod yr amgylchiadau hyn yn berthnasol. Mae’r cyfrifoldeb yn y sefyllfa hon ar y cwsmer i gydymffurfio â’r gyfraith drwy gael sail resymol dros adael eu cartref i brynu’r cynnyrch, ac nid ar y siop i brofi a oes angen y cynnyrch ar y cwsmer.  

Gwaith a wneir yng nghartrefi pobl

Gall gwaith a wneir yng nghartrefi pobl, er enghraifft gan fasnachwyr, barhau cyn belled â'i fod yn cael ei reoli mewn ffordd ddiogel a bod y gweithiwr ac aelodau'r aelwyd yn iach ac nad oes ganddynt unrhyw symptomau o’r coronafeirws. Fodd bynnag, rydym yn argymell bod pobl yn ystyried a ellir gohirio'r gwaith yn ddiogel hyd nes y bydd cyfnod lefel rhybudd 4 wedi dod i ben.

Fel busnesau eraill, rhaid i bobl sy'n gweithio yng nghartref rhywun arall gymryd pob cam rhesymol i leihau’r risg o ledaenu’r coronafeirws wrth weithio ar aelwydydd pobl eraill. Gweler y canllawiau ar fesurau rhesymol ac ar weithio yng nghartrefi pobl eraill am ragor o wybodaeth.

Argymhellir hefyd na ddylid gwneud unrhyw waith ar unrhyw aelwyd lle mae rhywun yn hunanynysu, oni bai ei fod waith i drwsio nam sy'n peri risg uniongyrchol i ddiogelwch pobl – er enghraifft plymio mewn argyfwng, neu i wneud addasiad er mwyn caniatáu i aelodau’r aelwyd aros yn eu heiddo. Os na ellir osgoi mynd i’r aelwyd (oherwydd sefyllfa frys neu argyfwng), dylid cymryd rhagofalon ychwanegol i gadw gweithwyr a deiliaid tai ar wahân yn llwyr. Yn yr achosion hyn, gall Iechyd Cyhoeddus Cymru roi cyngor i weithwyr ac aelwydydd. Ond ni ddylai gweithiwr sydd â symptomau’r coronafeirws wneud unrhyw waith o gwbl, ni waeth pa mor ysgafn yw’r symptomau.

Ni ddylai busnesau y mae'n ofynnol iddynt gau gynnal eu gwasanaethau yng nghartrefi pobl eraill.

Bwytai, caffis, bariau a thafarndai

Mae'n ofynnol i'r rhain gau ar lefel rhybudd 4, gyda'r eithriadau a nodir yn y tabl sydd ymhellach i lawr y dudalen hon. Fodd bynnag, gall gwasanaethau cludfwyd aros ar agor. Mae hyn yn golygu y gall pobl barhau i fynd i mewn i fangre i ddefnyddio gwasanaethau cludfwyd, gan gynnwys gyrwyr sy’n cludo’r bwys, ond rhaid i bob mesur rhesymol gael ei roi ar waith gan y rhai sy'n gyfrifol am barhau â'r busnes er mwyn lleihau’r risg o ledaenu’r coronafeirws wrth weithio ar aelwydydd pobl eraill. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod 2 fetr o bellter yn cael ei gynnal rhwng personau ar y safle, yn ogystal â phobl sy'n aros i fynd i mewn i'r safle.

Anogir busnesau i gymryd archebion ymlaen llaw ar-lein neu dros y ffôn, ac ni ddylai busnesau ddarparu mannau eistedd dan do nac yn yr awyr agored er mwyn i gwsmeriaid fwyta bwyd neu yfed diod.

Gall bwytai, caffis a thafarndai nad ydynt fel rheol yn cynnig gwasanaethau cludfwyd poeth gynnig gwasanaethau o'r fath ar lefel rhybudd 4.

Rhaid i bobl beidio â bwyta bwyd nac yfed diodydd mewn bwytai, caffis na thafarndai wrth iddynt aros am gludfwyd.

Ni ddylai'r lleoliadau hynny sy'n cynnig gwasanaethau cludfwyd gynnwys diodydd alcoholig yn y rhestr hon os nad yw eu trwydded eisoes yn caniatáu hynny.

Cynnal a chadw mangreoedd

Gall perchnogion neu reolwyr y safle, neu bobl sydd wedi'u hawdurdodi ganddynt, gael mynediad at yr holl wasanaethau ar y rhestr hon at ddibenion cynnal a chadw, atgyweirio neu waith arall er mwyn sicrhau eu bod yn barod i ailagor pan ganiateir hyn.

Cydymffurfiaeth

Rhaid i bawb gydymffurfio â'r cyfyngiadau a'r gofynion a nodir yn y Rheoliadau. Bydd busnes sy'n gweithredu'n groes i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn cyflawni trosedd, a allai arwain at ddirwy nad yw wedi'i chyfyngu ar y graddfeydd statudol. 

Yn ogystal, mae busnesau neu safleoedd y gwelir nad ydynt yn cymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ledaenu’r coronafeirws yn ddarostyngedig i drefn orfodi ar wahân a all arwain yn y pen draw arwain at roi hysbysiad cau mangre.

Cymorth ariannol

Busnesau ac adeiladau y mae'n rhaid iddynt gau ar lefel 4

Bwyd a diod

Busnes, mangre neu le

Eithriadau

Bariau bwytai a thafarndai, gan gynnwys mewn gwestai a chlybiau aelodau

Gall darparu gwasanaeth cludfwyd barhau a gall busnesau a oedd ond yn darparu bwyd i'w fwyta ar eu safle yn awr ddarparu gwasanaeth cludfwyd fel gweithgaredd newydd a gefnogir gan yr hawl datblygu a ganiateir newydd.

Mae hyn yn cynnwys darparu bwyd poeth neu oer, sydd wedi'i baratoi i ddefnyddwyr ei gasglu neu i’w gludo iddynt, ar gyfer ei fwyta, ei aildwymo neu ei goginio gan ddefnyddwyr oddi ar y safle.

Gellir darparu bwyd hefyd i bobl ddigartref, gan gynnwys i'w fwyta ar y safle.

Gall bar neu dafarn werthu diodydd i'w cymryd oddi ar y safle ond dim ond os ydynt wedi’u trwyddedu i wneud hynny.

Caffis a ffreuturau

Gall gwasanaeth cludfwyd barhau (ac fel y nodwyd uchod). 

Caffis a ffreuturau mewn ysbytai, cartrefi gofal, ysgolion neu mewn llety a ddarperir ar gyfer myfyrwyr, ffreuturau carchar a milwrol. 

Caffis a ffreuturau yn y gweithle, pan nas oes dewis ymarferol arall i staff yn y gweithle hwnnw i gael bwyd.

Gellir darparu bwyd a diod hefyd i bobl ddigartref, gan gynnwys i'w bwyta ar y safle.

Manwerthu

Busnes, mangre neu le

Eithriadau

Pob mangre manwerthu gydag eithriadau nodedig fel y'u rhestrir yn y golofn arall

Mae enghreifftiau o fanwerthwyr a fyddai'n cau yn cynnwys siopau nwyddau cartref, siopau dillad a siopau anrhegion.

Dim ond yr eitemau hynny y byddai busnes a restrir yn y golofn eithriadau yn eu gwerthu yn gyffredinol y gall busnesau sy'n gwerthu amrywiaeth o gynhyrchion fel archfarchnadoedd eu gwerthu. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, na fydd archfarchnadoedd yn cael gwerthu’r rhan fwyaf o eitemau i’r cartref, nwyddau trydanol a dillad.

Ar gyfer manwerthwyr sy'n ofynnol iddynt gau, ellir cynnig gwasanaeth clicio a chasglu os yw'n ymarferol i wneud hynny.

Siopau bwyd a diod

Fferyllfeydd a fferyllwyr, gan gynnwys fferyllfeydd nad ydynt yn cael rhoi cyffuriau ar bresgripsiwn 

Gorsafoedd petrol

Peiriant golchi ceir awtomatig

Siopau beiciau

Siopau cyflenwadau adeiladu ac offer, llogi peiriannau ac offer

Milfeddygon a siopau anifeiliaid anwes

Siopau papurau newydd

Siopau diodydd trwyddedig a siopau trwyddedig sy'n gwerthu alcohol, gan gynnwys y rheini mewn bragdai

Golchdai a siopau glanhau dillad

Swyddfeydd Post

Gwasanaethau rhentu cerbydau

Garejys ceir a siopau trwsio, gan gynnwys gwasanaethau MOT

Banciau'r stryd fawr, cymdeithasau adeiladu, darparwyr benthyciadau tymor byr, undebau credyd a pheiriannau arian parod

Siopau cyflenwadau amaethyddol neu ddyframaethu

Marchnadoedd neu arwerthiannau da byw 

Siopau sy’n cynnig gwasanaeth cynnal a chadw neu atgyweirio ffonau neu gyfarpar TG

Cyfleusterau storio a dosbarthu, gan gynnwys mannau gollwng danfoniadau

Gwasanaethau meddygol (fel meddygfeydd deintyddol, optegwyr a chlinigau awdioleg, clinigau ffisiotherapi, clinigau trin traed a phodiatreg, a gwasanaethau meddygol galwedigaethol proffesiynol eraill)

Gwasanaethau trosglwyddo arian, clybiau cynilo, peiriannau arian parod, swyddfeydd cyfnewid arian, a gwasanaethau newid sieciau i gael gafael ar arian neu ei adneuo.

Arwerthiannau

Arwerthiannau da byw

Ystafelloedd arddangos ceir a delwriaethau ceir

 

Salonau gwallt a barbwyr

 

Asiantau tai neu asiantau gosod eiddo a swyddfeydd gwerthiant datblygwyr

 

Gwasanaethau cysylltiad agos – mae hyn yn cynnwys therapyddion harddwch, ymarferwyr harddwch triniaethau uwch ymarfer, arlunwyr colur, technegwyr gwasanaethau ewinedd, adweithegwyr, ymarferwyr estheteg, holistaidd, llesiant ac eraill, ymarferwyr aciwbigo ac ymarferwyr electroserio a therapyddion tylino gan gynnwys therapyddion tylino chwaraeon a chlinigol. 

Mae hefyd yn cynnwys sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau lliw haul, tyllu'r corff, tatŵio a gwasanaethau tebyg.

Triniaethau neu wasanaethau sy'n darparu triniaethau meddygol ar gyfer salwch neu anaf. 

Byddai'r rhain yn cynnwys therapyddion sy'n gweithio ochr yn ochr â gweithiwr iechyd proffesiynol statudol a reoleiddir neu ar y cyd â nhw – er enghraifft, therapydd chwaraeon mewn clinig sy'n eiddo i osteopath, neu sy’n gweithio ochr yn ochr â meddygon neu nyrsys mewn ysbyty neu hosbis i helpu i gefnogi cleifion sy'n cael triniaeth feddygol. Byddai gwasanaethau sy'n darparu laser at ddibenion nad ydynt yn gosmetig / triniaeth feddygol IPL ar gyfer salwch neu anaf hefyd yn cael eu caniatáu.

Siopau betio

 

Canolfannau siopa, arcedau a marchnadoedd dan do neu awyr agored

Gall y rhain fod yn agored i'r cyhoedd i'r graddau bod angen hyn er mwyn cael mynediad at fusnes neu wasanaeth y caniateir iddo aros ar agor.

Llety

Busnes, mangre neu le

Eithriadau

Gwestai, hosteli, llety gwely a brecwast, gwersylloedd a thai preswyl at ddefnydd masnachol

Os yw pobl yn byw yn y rhain fel preswylfa dros dro tra nad yw eu prif breswylfa ar gael, neu eu bod yn byw ynddynt fel eu prif breswylfa, gallant barhau i wneud hynny os ydynt yn gwneud hynny wrth fynd i mewn i Lefel 4.

Gall pobl nad ydynt yn drigolion y DU na allant deithio i'w gwlad breswyl yn ystod y cyfnod hwn barhau i aros mewn gwestai neu leoliad tebyg pan fo angen.

Gall pobl nad ydynt yn gallu symud i gartref newydd oherwydd y cyfyngiadau presennol hefyd aros mewn gwestai neu lety arall yn y categori hwn.

Gall busnesau llety sydd ar gau hefyd ddarparu gwasanaethau at unrhyw ddiben arall yn ôl cais awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru

Pan fydd pobl yn parhau i aros mewn busnes llety sydd ar gau fel arall, gellir parhau i ddarparu bwyd a diod drwy wasanaeth ystafell.

Gall y busnesau hyn hefyd barhau i ddarparu gwasanaethau ar-lein, dros y ffôn, neu drwy'r post. Gweler y canllawiau sy'n benodol i'r sector i gael rhagor o wybodaeth.

Parciau/safleoedd carafannau at ddibenion masnachol

Os yw pobl yn byw'n barhaol mewn parciau carafannau neu'n aros mewn parciau carafannau fel preswylfa dros dro pan na fo eu prif breswylfa ar gael, gallant barhau i wneud hynny os ydynt yn gwneud hynny wrth fynd i mewn i Lefel 4.

Gall pobl nad ydynt yn gallu symud i gartref newydd oherwydd y cyfyngiadau presennol hefyd aros mewn llety yn y categori hwn.

Gall busnesau llety sydd ar gau hefyd ddarparu gwasanaethau at unrhyw ddiben arall yn ôl cais awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru.

Sefydliadau amhreswyl

Busnes, mangre neu le

Eithriadau

olfannau cymunedol, canolfannau ieuenctid a lleoedd tebyg

Gellir agor y rhain i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol hanfodol. Caniateir iddynt hefyd agor i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar gais awdurdod lleol neu un o Weinidogion Cymru. Dyma rai enghreifftiau o wasanaethau y cânt agor ar eu cyfer:

  • rhoi gwaed
  • gorsafoedd pleidleisio
  • banciau bwyd
  • cynnal profion torfol ar gyfer y coronafeirws neu roi brechlynnau
  • gofal plant
  • gwasanaethau iechyd meddwl
  • cymorth camddefnyddio sylweddau neu i’r rheini sy’n gaeth i sylweddau

Ni all busnesau unigol wneud cais am eithriad i barhau i fasnachu.

Ymgynnull a hamdden

Busnes, mangre neu le

Eithriadau

Llyfrgelloedd

Gellir agor y rhain at unrhyw ddiben y gofynnir amdano neu a awdurdodir gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru.

Caiff llyfrgelloedd mewn ysbytai a sefydliadau addysgol aros ar agor i'r rheini y caniateir iddynt gael mynediad atynt.

Amgueddfeydd, orielau a gwasanaethau archifau

Gellir agor y rhain ar gais awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru. Ni all busnesau unigol wneud cais am eithriad i barhau i fasnachu.

Clybiau nos

Gellir agor y rhain os gofynnir amdanynt neu eu hawdurdodi gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru. Ni all busnesau unigol wneud cais am eithriad i barhau i fasnachu.

Sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd

Gellir darlledu perfformiadau heb gynulleidfa, boed dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu. Argymhellir bod canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael eu dilyn i sicrhau diogelwch staff sy'n cymryd rhan.

Gellir agor y rhain os gofynnir amdanynt neu eu hawdurdodi gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru. Ni all busnesau unigol wneud cais am eithriad i barhau i fasnachu.

Neuaddau bingo

Gellir darlledu sesiynau heb gynulleidfa, boed dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu. Argymhellir bod canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael eu dilyn i sicrhau diogelwch staff sy'n cymryd rhan.

Gellir agor y rhain os gofynnir amdanynt neu eu hawdurdodi gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru. Ni all busnesau unigol wneud cais am eithriad i barhau i fasnachu.

Casinos a siopau betio

Gellir agor y rhain os gofynnir amdanynt neu eu hawdurdodi gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru. Ni all busnesau unigol wneud cais am eithriad i barhau i fasnachu.

Sbas a pharlyrau tylino

Gellir agor y rhain os gofynnir amdanynt neu eu hawdurdodi gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru. Ni all busnesau unigol wneud cais am eithriad i barhau i fasnachu.

Lleoliadau adloniant rhywiol (o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 2A o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982).

 

Lleoliadau ar gyfer cynadleddau a digwyddiadau busnes

Gellir agor y rhain os gofynnir amdanynt neu eu hawdurdodi gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru. Ni all busnesau unigol wneud cais am eithriad i barhau i fasnachu.

Hamdden

Busnes, mangre neu le

Eithriadau

Pyllau nofio

Gellir agor y rhain os gofynnir amdanynt neu eu hawdurdodi gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru. Ni all busnesau unigol wneud cais am eithriad i barhau i fasnachu.

Stiwdios ffitrwydd, campfeydd, sbas dan do neu ganolfannau neu gyfleusterau hamdden dan do eraill.

Gellir darlledu dosbarthiadau heb gynulleidfa, boed dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu. Argymhellir bod canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael eu dilyn i sicrhau diogelwch staff sy'n cymryd rhan.

Gellir agor y rhain os gofynnir amdanynt neu eu hawdurdodi gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru. Ni all busnesau unigol wneud cais am eithriad i barhau i fasnachu.

Arcedau diddanu, alïau bowlio, canolfannau chwarae medal, canolfannau trampolinio a lleoliadau tebyg

Gellir agor y rhain os gofynnir amdanynt neu eu hawdurdodi gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru. Ni all busnesau unigol wneud cais am eithriad i barhau i fasnachu.

Canolfannau sglefrio a pharciau sglefrio

Gellir agor y rhain os gofynnir amdanynt neu eu hawdurdodi gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru. Ni all busnesau unigol wneud cais am eithriad i barhau i fasnachu.

Ffeiriau pleser (boed yn yr awyr agored neu dan do), parciau difyrrwch neu barciau thema

Gellir agor y rhain os gofynnir amdanynt neu eu hawdurdodi gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru. Ni all busnesau unigol wneud cais am eithriad i barhau i fasnachu.

Cyrtiau chwaraeon a lleiniau caeëdig (boed yn yr awyr agored neu dan do), gan gynnwys cyrsiau golff, cyrtiau tenis, rampiau sglefrio, cyrtiau pêl-fasged a lleoliadau tebyg eraill.

Gellir agor y rhain os gofynnir amdanynt neu eu hawdurdodi gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru. Ni all busnesau unigol wneud cais am eithriad i barhau i fasnachu.

Atyniadau i ymwelwyr

Gellir agor y rhain os gofynnir amdanynt neu eu hawdurdodi gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru. Ni all busnesau unigol wneud cais am eithriad i barhau i fasnachu.

Gall darparwyr gwasanaethau angladd fel trefnwyr angladdau a chartrefi angladdau sy'n cynnal angladdau aros ar agor, yn amodol ar ganllawiau fel y nodwyd yn y tabl uchod.