Neidio i'r prif gynnwy

Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin, 10 Mehefin 1921 i 9 Ebrill 2021

Darllenwch am y trefniadau yn dilyn marwolaeth Dug Caeredin

Busnesau sy'n gorfod cau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae'r canllawiau hyn yn nodi pa fusnesau a mangreoedd y bydd yn rhaid iddynt gau (gan ystyried addasiadau perthnasol i’r cyfyngiadau. Maent hefyd yn nodi at ba ddibenion cyfyngedig y gellir cael mynediad at rai busnesau a mangreoedd sydd wedi cau.

Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i'r rhai sy'n gyfrifol am fangreoedd sy'n parhau i fod ar agor i'r cyhoedd, neu am unrhyw fangre sy'n weithle, gymryd pob cam rhesymol i leihau’r risg o ledaenu’r coronafeirws a rhoi sylw i ganllawiau Llywodraeth Cymru ar yr hyn y mae hynny'n ei olygu.

Cwmpas y canllawiau hyn

Mae'r canllawiau hyn, a'r cyfyngiadau yn y rheoliadau sy’n ymwneud â chyfnod atal byr y coronafeirws, wedi'u cyfeirio'n bennaf at fangroedd sydd ar agor i'r cyhoedd. Gall y mangreoedd hynny fod o dan do neu yn yr awyr agored. Mae rhai mathau o fusnesau'n gallu cynnal eu gweithgareddau mewn amrywiaeth o leoliadau gwahanol, gan gynnwys yng nghartrefi pobl. Pan fo busnesau'n cael eu gwahardd rhag gweithredu mewn un math o fangre, byddant hefyd (yn ddarostyngedig i'r eithriadau a nodir yn y canllawiau hyn) yn cael eu gwahardd rhag gweithredu mewn mangreoedd eraill. Mae hyn er mwyn osgoi sefyllfa lle mae pobl yn ymgynnull ar ôl cael eu symud o un lleoliad i'r llall, a lleihau cystadleuaeth annheg rhwng busnesau tebyg.

Golyga hyn nad yw busnesau nad ydynt yn gweithredu o fangreoedd sydd ar agor i'r cyhoedd wedi'u cynnwys yn y rhestrau ar y dudalen hon, a chaniateir iddynt barhau i weithredu. Felly, er enghraifft, nid yw gwaith adeiladu neu gynnal a chadw mewn eiddo preifat, gwaith ffatri a gwasanaethau glanhau wedi'u rhestru yn y canllawiau hyn, ond maent yn gallu parhau ar yr un sail â chyn y cyfnod atal.  

I'r busnesau hynny sy'n parhau i weithredu, rhaid i'r sawl sy'n gyfrifol am y gwaith gymryd pob cam rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws ar y safle, a lleihau'r risg y bydd y rhai sydd wedi bod ar y safle yn lledaenu'r feirws.  Mae canllawiau statudol wedi'u cyhoeddi i helpu pobl i ddeall beth yw ystyr "mesurau rhesymol", y mae'n rhaid i'r rhai sy'n gyfrifol am fangre agored roi sylw iddynt. Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i helpu cyflogwyr, cyflogeion a’r rhai sy’n hunangyflogedig i weithio'n ddiogel yn ystod y pandemig.

Siopau a manwerthwyr eraill

Mae Atodlen 3A o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn nodi'r sefyllfa ddiofyn bod pob siop (“unrhyw fusnes sy’n gwerthu nwyddau neu wasanaethau i’w gwerthu neu eu llogi ar safle manwerthu”) yn cael agor o 12 Ebrill 2020. Mae’n ofynnol i fanwerthwyr gymryd pob mesur rhesymol i gyfyngu’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws ar safleoedd sy’n agored i’r cyhoedd a gweithleoedd.

Mae’r Rheoliadau yn amlinellu nifer o fesurau rhesymol y mae’n rhaid eu cymryd, gan gynnwys y canlynol:

  • cyfyngu ar nifer y cwsmeriaid sydd ar y safle ar unrhyw adeg;
  • darparu cynnyrch hylendid dwylo neu gyfleusterau golchi dwylo i bobl wrth gyrraedd a gadael y safle;
  • sicrhau bod unrhyw fasgedi neu droliau sy’n cael eu defnyddio gan bobl ar y safle yn cael eu glanhau;
  • atgoffa pobl o’r angen i gadw 2 fetr ar wahân a gwisgo gorchuddion wyneb.

Y prif arf i berchnogion busnes a chyflogwyr liniaru risgiau yn y gweithle ac ar lawr y siop yw cwblhau Asesiad Risg penodol COVID-19, sy'n ofynnol o dan y Rheoliadau.  Hwn fydd y man cychwyn ar gyfer gweithredu'r mesurau rhesymol y mae'n ofynnol eu cymryd i leihau amlygiad i'r coronafeirws ar safleoedd sy'n agored i'r cyhoedd ac mewn gweithleoedd. Rhaid cynnal yr asesiad risg ar y cyd â staff neu gynrychiolwyr staff. Mae’r gyfraith yn gofyn ichi gynnal asesiad a bydd angen ei gynnal cyn agor. Mae gan Awdurdodau Lleol y pŵer i gau busnesau nad ydyn nhw’n cadw at y rheolau. Rhaid diweddaru’r asesiad yn gyson a glynu’n agos ato. Mae hefyd yn hanfodol bod yr holl staff yn deall eu rolau a'u rhwymedigaethau yn llawn wrth helpu i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws. 

Os bydd unrhyw safle manwerthu yn bwriadu cynnal sêl nwyddau yn ystod y pandemig (gan gadw mewn cof bod gweithredu gyda’r bwriad neu mewn ffordd sy’n debygol o ddenu llawer o bobl yn debygol o fod yn dramgwydd yn erbyn y ddyletswydd i gymryd y mesurau rhesymol hyn), ynghyd ag unrhyw gamau i’w cymryd i leihau risg¸ rhaid gofalu bod eich Asesiad Risg COVID-19 wedi delio â’r mater penodol hwn. Yr arfer gorau fyddai cyfyngu ar nifer y bobl sy’n cael mynd i’r man gwerthu a phryd, a sicrhau bod y mannau gwerthu hynny wedi’u gwahanu oddi wrth y mannau nad ydynt yn fannau gwerthu. 

Mae sylw manylach i hyn yng nghanllawiau Diogelu Cymru: mewn manwerthu, ynghyd â Rhestr Wirio i Fanwerthwyr a Cherdyn Gweithredu i Fusnesau.

Gwasanaethau cysylltiad agos a gwasanaethau personol

Caniateir i wasanaethau cysylltiad agos a gwasanaethau personol agor. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o fusnesau cysylltiad agos megis trin gwallt a barbwr, ewinedd a harddwch, busnesau estheteg a thatŵs a thyllu'r corff, yn ogystal ag arferion therapi cysylltiad agos megis meddygaeth amgen, triniaeth chwaraeon a thriniaeth adferol a gofal iechyd ataliol ac ategol (cyfannol). Mae gan y busnesau a'r arferion therapi hyn ddyletswydd i gymryd pob cam rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â coronafeirws.

Wrth ddarparu gwasanaethau cysylltiad agos, yn gyffredinol nid yw'n bosibl cadw pellter corfforol. O ganlyniad, bydd angen i'r rhan fwyaf o ddarparwyr gwasanaethau wisgo offer amddiffynnol personol (PPE). Bydd angen gorchudd wyneb o leiaf, ond efallai y byddai'n ddoeth defnyddio cyfarpar diogelu personol eraill fel feisorau wyneb hefyd. Gweler ein canllawiau ychwanegol (gorchuddion wyneb: canllawiau i'r cyhoedd).

Dylai pobl sy'n darparu gwasanaethau cysylltiad agos yn eu cartrefi neu gartrefi pobl eraill hefyd gyfeirio at y canllawiau ar weithio'n ddiogel yn ystod COVID-19 yng nghartrefi pobl eraill.

Clicio a chasglu a gwasanaethau eraill

Caiff pob busnes barhau i gynnig gwasanaethau clicio a chasglu neu wasanaethau tebyg (megis gwasanaethau gollwng) pan fyddant ar agor er mwyn helpu i reoli nifer y cwsmeriaid.

Rhaid i fusnesau sy’n cynnig clicio a chasglu sicrhau eu bod yn rhoi pob mesur rhesymol ar waith i leihau’r perygl o ddod i gysylltiad â’r feirws.

Er enghraifft, dylai busnesau:

  • sefydlu mannau codi a gadael nwyddau lle bo modd, yn hytrach na’u pasio â llaw
  • sicrhau bod pellter o 2 fetr yn cael ei gynnal rhwng pobl ar y safle, yn ogystal â rhwng pobl sy’n aros i gasglu nwyddau wrth y fynedfa neu mewn man casglu allanol arall
  • trefnu amserau casglu gwahanol i gwsmeriaid gasglu eitemau
  • cynllunio eu system clicio a chasglu i osgoi/lleihau cyswllt pobl ag arwynebau
  • parhau i lanhau’n aml arwynebau nad oes modd peidio â’u cyffwrdd a chynyddu’r defnydd o dechnoleg ddigyffwrdd i ddarparu eu gwasanaethau.

Gweler y canllawiau ar fesurau rhesymol i gael rhagor o wybodaeth.

Gwasanaethau dosbarthu nwyddau

Mae gan yr holl wasanaethau ar y rhestr hon, p'un a yw'n ofynnol iddynt gau ai peidio, hawl i barhau i ddefnyddio eu safle at ddibenion rheoli'r gwaith o werthu, llogi neu ddosbarthu nwyddau neu wasanaethau os caiff hyn ei reoli ar-lein, dros y ffôn neu drwy'r post.

Gwaith a wneir yng nghartrefi pobl

Gall gwaith a wneir yng nghartrefi pobl barhau cyn belled â'i fod yn rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall rhesymol ac ymarferol. Mae’n rhaid i’r gwaith gael ei reoli mewn ffordd ddiogel ac mae’n rhaid sicrhau bod y gweithiwr ac aelodau'r aelwyd yn iach ac nad oes ganddynt unrhyw symptomau o’r coronafeirws.

Mae pobl sy'n gwneud gwaith atgyweirio, cynnal a chadw, gweithgareddau sy'n gysylltiedig â symud cartref, gwaith adeiladu, garddio neu lanhawyr domestig, ymhlith yr enghreifftiau o bobl nad ydynt yn realistig yn mynd i allu darparu rhai gwasanaethau heb fynediad i gartrefi neu erddi preifat, felly gall y gwaith hwn barhau'n gyfreithlon.

Mae rheolau ar wahân sy’n caniatáu i ddarparwyr gwasanaethau cysylltiad agos weithio mewn cartrefi preifat.

Fel busnesau eraill, rhaid i bobl sy'n gweithio yng nghartref rhywun arall gymryd pob cam rhesymol i leihau’r risg o ledaenu’r coronafeirws wrth weithio ar aelwydydd pobl eraill. Gweler y canllawiau ar fesurau rhesymol ac ar weithio yng nghartrefi pobl eraill am ragor o wybodaeth.

Argymhellir hefyd na ddylid gwneud unrhyw waith ar unrhyw aelwyd lle mae rhywun yn hunanynysu, oni bai ei fod waith i drwsio nam sy'n peri risg uniongyrchol i ddiogelwch pobl – er enghraifft plymio mewn argyfwng, neu i wneud addasiad er mwyn caniatáu i aelodau’r aelwyd aros yn eu heiddo. Os na ellir osgoi mynd i’r aelwyd (oherwydd sefyllfa frys neu argyfwng), dylid cymryd rhagofalon ychwanegol i gadw gweithwyr a deiliaid tai ar wahân yn llwyr. Yn yr achosion hyn, gall Iechyd Cyhoeddus Cymru roi cyngor i weithwyr ac aelwydydd. Ond ni ddylai gweithiwr sydd â symptomau’r coronafeirws wneud unrhyw waith o gwbl, ni waeth pa mor ysgafn yw’r symptomau.

Ni ddylai busnesau y mae'n ofynnol iddynt gau gynnal eu gwasanaethau yng nghartrefi pobl eraill.

Bwytai, caffis, bariau a thafarndai

Mae'n ofynnol i'r rhain gau, gyda'r eithriadau a nodir yn y tabl sydd ymhellach i lawr y dudalen hon. Fodd bynnag, gall gwasanaethau cludfwyd aros ar agor. Mae hyn yn golygu y gall pobl barhau i fynd i mewn i fangre i ddefnyddio gwasanaethau cludfwyd, gan gynnwys gyrwyr sy’n cludo’r bwyd, ond rhaid i bob mesur rhesymol gael ei roi ar waith gan y rhai sy'n gyfrifol am barhau â'r busnes er mwyn lleihau’r risg o ledaenu’r coronafeirws wrth weithio ar aelwydydd pobl eraill. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod 2 fetr o bellter yn cael ei gynnal rhwng personau ar y safle, yn ogystal â phobl sy'n aros i fynd i mewn i'r safle.

Anogir busnesau i gymryd archebion ymlaen llaw ar-lein neu dros y ffôn, ac ni ddylai busnesau ddarparu mannau eistedd dan do nac yn yr awyr agored er mwyn i gwsmeriaid fwyta bwyd neu yfed diod.

Gall bwytai, caffis a thafarndai nad ydynt fel rheol yn cynnig gwasanaethau cludfwyd poeth gynnig gwasanaethau o'r fath.

Rhaid i bobl beidio â bwyta bwyd nac yfed diodydd mewn bwytai, caffis na thafarndai wrth iddynt aros am gludfwyd.

Ni ddylai'r lleoliadau hynny sy'n cynnig gwasanaethau cludfwyd gynnwys diodydd alcoholig yn y rhestr hon os nad yw eu trwydded eisoes yn caniatáu hynny.

Gall bwytai, caffis a thafarnau barhau i gynnig eu hystod lawn o gynnyrch ond dim ond ar sail cludfwyd neu ddosbarthu. Ni all cwsmeriaid ond fynd i mewn i safle i gasglu cludfwyd.

Cynnal a chadw mangreoedd

Gall perchnogion neu reolwyr y safle, neu bobl sydd wedi'u hawdurdodi ganddynt, gael mynediad at yr holl wasanaethau ar y rhestr hon at ddibenion cynnal a chadw, atgyweirio neu waith arall er mwyn sicrhau eu bod yn barod i ailagor pan ganiateir hyn.

Cydymffurfiaeth

Rhaid i bawb gydymffurfio â'r cyfyngiadau a'r gofynion a nodir yn y Rheoliadau. Bydd busnes sy'n gweithredu'n groes i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn cyflawni trosedd, a allai arwain at ddirwy nad yw wedi'i chyfyngu ar y graddfeydd statudol. 

Yn ogystal, mae busnesau neu safleoedd y gwelir nad ydynt yn cymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ledaenu’r coronafeirws yn ddarostyngedig i drefn orfodi ar wahân a all arwain yn y pen draw arwain at roi hysbysiad cau mangre.

Cymorth ariannol

Busnesau ac adeiladau y mae'n rhaid iddynt gau

Bwyd a diod

Busnes, mangre neu le

Eithriadau

Bariau bwytai a thafarndai, gan gynnwys mewn gwestai a chlybiau aelodau

Gall darparu gwasanaeth cludfwyd barhau a gall busnesau a oedd ond yn darparu bwyd i'w fwyta ar eu safle yn awr ddarparu gwasanaeth cludfwyd fel gweithgaredd newydd a gefnogir gan yr hawl datblygu a ganiateir newydd.

Mae hyn yn cynnwys darparu bwyd poeth neu oer, sydd wedi'i baratoi i ddefnyddwyr ei gasglu neu i’w gludo iddynt, ar gyfer ei fwyta, ei aildwymo neu ei goginio gan ddefnyddwyr oddi ar y safle.

Gellir darparu bwyd hefyd i bobl ddigartref, gan gynnwys i'w fwyta ar y safle.

Gall bar neu dafarn werthu diodydd i'w cymryd oddi ar y safle ond dim ond os ydynt wedi’u trwyddedu i wneud hynny.

Gall gwestai a llety arall â gwasanaeth gynnig gwasanaeth i westeion yn eu hystafelloedd gwely. 

Caffis a ffreuturau

Gall gwasanaeth cludfwyd barhau (ac fel y nodwyd uchod). 

Caffis a ffreuturau mewn ysbytai, cartrefi gofal, ysgolion neu mewn llety a ddarperir ar gyfer myfyrwyr, ffreuturau carchar a milwrol. 

Caffis a ffreuturau yn y gweithle, pan nas oes dewis ymarferol arall i staff yn y gweithle hwnnw i gael bwyd.

Gellir darparu bwyd a diod hefyd i bobl ddigartref, gan gynnwys i'w bwyta ar y safle.

Llety

Busnes, mangre neu le

Eithriadau

Llety gwyliau nad yw’n hunangynhwysol

Llety hunanddarpar lle nad yw’n ofynnol i westeion rannu cyfleusterau golchi, toiledau na cheginau.

Caiff safleoedd gwersylla a safleoedd gwyliau agor os mai’r unig gyfleusterau a rennir yw pwyntiau dŵr a phwyntiau gwaredu gwastraff.

Gall busnesau llety sydd ar gau hefyd ddarparu gwasanaethau at unrhyw ddiben arall yn ôl cais awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru

Pan fydd pobl yn aros mewn busnes llety, gellir parhau i ddarparu bwyd a diod drwy wasanaeth ystafell.

Gall y busnesau hyn hefyd barhau i ddarparu gwasanaethau ar-lein, dros y ffôn, neu drwy'r post. Gweler y canllawiau sy'n benodol i'r sector i gael rhagor o wybodaeth.

Sefydliadau amhreswyl

Busnes, mangre neu le

Eithriadau

Canolfannau cymunedol, canolfannau ieuenctid a lleoedd tebyg

Caniateir iddynt agor i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar gais awdurdod lleol neu un o Weinidogion Cymru at unrhyw ddiben. Ni all busnesau unigol wneud cais am eithriad i barhau i fasnachu.

Ymgynnull a hamdden

Busnes, mangre neu le

Eithriadau

Amgueddfeydd, orielau a gwasanaethau archifau

Llyfrgelloedd a gwasanaethau archifau

Gellir agor y rhain ar gais awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru. Ni all busnesau unigol wneud cais am eithriad i barhau i fasnachu.

Clybiau nos

Gellir agor y rhain os gofynnir amdanynt neu eu hawdurdodi gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru. Ni all busnesau unigol wneud cais am eithriad i barhau i fasnachu.

Sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd

Gellir darlledu perfformiadau heb gynulleidfa, boed dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu. Argymhellir bod canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael eu dilyn i sicrhau diogelwch staff sy'n cymryd rhan.

Gellir agor y rhain os gofynnir amdanynt neu eu hawdurdodi gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru. Ni all busnesau unigol wneud cais am eithriad i barhau i fasnachu.

Neuaddau bingo

Gellir darlledu sesiynau heb gynulleidfa, boed dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu. Argymhellir bod canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael eu dilyn i sicrhau diogelwch staff sy'n cymryd rhan.

Gellir agor y rhain os gofynnir amdanynt neu eu hawdurdodi gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru. Ni all busnesau unigol wneud cais am eithriad i barhau i fasnachu.

Casinos

Gellir agor y rhain os gofynnir amdanynt neu eu hawdurdodi gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru. Ni all busnesau unigol wneud cais am eithriad i barhau i fasnachu.

Sbas

Caniateir i sbas ailagor ar gyfer triniaethau harddwch a therapi yn unig. Rhaid i gampfeydd sba, pyllau sba, sawnas, ystafelloedd stêm a phyllau nofio aros ar gau.

Gellir agor y rhain os gofynnir amdanynt neu eu hawdurdodi gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru. Ni all busnesau unigol wneud cais am eithriad i barhau i fasnachu.

Lleoliadau adloniant rhywiol (o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 2A o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982).

 

Lleoliadau ar gyfer cynadleddau a digwyddiadau busnes

Gellir agor y rhain os gofynnir amdanynt neu eu hawdurdodi gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru. Ni all busnesau unigol wneud cais am eithriad i barhau i fasnachu.

Hamdden

Busnes, mangre neu le

Eithriadau

Pyllau nofio

Gellir agor y rhain os gofynnir amdanynt neu eu hawdurdodi gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru. Ni all busnesau unigol wneud cais am eithriad i barhau i fasnachu.

Stiwdios ffitrwydd, campfeydd, sbas dan do neu ganolfannau neu gyfleusterau hamdden dan do eraill.

Gellir darlledu dosbarthiadau heb gynulleidfa, boed dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu. Argymhellir bod canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael eu dilyn i sicrhau diogelwch staff sy'n cymryd rhan.

Gellir agor y rhain os gofynnir amdanynt neu eu hawdurdodi gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru. Ni all busnesau unigol wneud cais am eithriad i barhau i fasnachu.

Arcedau diddanu, alïau bowlio, canolfannau chwarae medal, canolfannau trampolinio a lleoliadau tebyg

Gellir agor y rhain os gofynnir amdanynt neu eu hawdurdodi gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru. Ni all busnesau unigol wneud cais am eithriad i barhau i fasnachu.

Canolfannau sglefrio a pharciau sglefrio (boed dan do)

Parciau sglefrio awyr agored

Gellir agor y rhain os gofynnir amdanynt neu eu hawdurdodi gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru. Ni all busnesau unigol wneud cais am eithriad i barhau i fasnachu.

Ffeiriau pleser (boed yn yr awyr agored neu dan do), parciau difyrrwch neu barciau thema

Gellir agor y rhain os gofynnir amdanynt neu eu hawdurdodi gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru. Ni all busnesau unigol wneud cais am eithriad i barhau i fasnachu.

Cyrtiau chwaraeon a lleiniau caeëdig (boed dan do)

Cyrtiau chwaraeon a lleiniau gan gynnwys cyrsiau golff, cyrtiau tenis, rampiau sglefrio, cyrtiau pêl-fasged a lleoliadau tebyg eraill (awyr agored)

Gellir agor y rhain os gofynnir amdanynt neu eu hawdurdodi gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru. Ni all busnesau unigol wneud cais am eithriad i barhau i fasnachu.

Atyniadau i ymwelwyr

Rhai atyniadau awyr agored i ymwelwyr, gan gynnwys ardaloedd awyr agored sy’n rhan o henebion, parciau neu erddi.

Gellir agor y rhain os gofynnir amdanynt neu eu hawdurdodi gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru. Ni all busnesau unigol wneud cais am eithriad i barhau i fasnachu.

Gall darparwyr gwasanaethau angladd fel trefnwyr angladdau a chartrefi angladdau sy'n cynnal angladdau aros ar agor, yn amodol ar ganllawiau fel y nodwyd yn y tabl uchod.