Catherine Nakielny Aelod
Mae Catherine Nakielny yn ffermwr ac yn gynghorydd annibynnol ar ddefaid. Mae ganddi fferm yn yr ucheldiroedd ar bwys Llandeilo yn Sir Gaerfyrddin.
Gwnaeth Catherine radd mewn amaethyddiaeth ac wedyn PhD mewn brido defaid ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae hi wedi gweithio yn sector defaid y DU ers y 25 mlynedd.
Mae gan Catherine ddiddordeb penodol mewn iechyd defaid, a dealltwriaeth dda o’r clefydau sy’n effeithio ar sector defaid Cymru a’u goblygiadau o ran arian a lles. Gyda diddordeb cynyddol ymhlith cwsmeriaid yn yr effaith mae ffermio da byw yn ei chael ar yr amgylchedd, mae Catherine wedi ymgymryd â nifer o deithiau astudio i wahanol wledydd, drwy Ysgoloriaeth Ffermio Nuffield yn 2011 a Rhaglen Cyfnewid Rheolwyr Cyswllt Ffermio yn 2019.