Casglu eich eiddo ar ôl symud allan o’ch cartref: coronafeirws
Beth i’w wneud os ydych wedi symud allan o’ch cartref neu lety myfyrwyr ond bod angen i chi gasglu eich eiddo.
Maint Ffeil 94 KB. Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Cynnwys
Cynnwys
Cyflwyniad
Mae’r canllaw hwn wedi ei anelu at denantiaid (yn cynnwys myfyrwyr) sydd eisoes wedi gadael eu llety rhent preifat oherwydd argyfwng Covid-19 ac sy’n dymuno dychwelyd i’r llety hwnnw er mwyn casglu eu heiddo yn unig.
Dylai myfyrwyr sy’n byw mewn llety sy’n cael ei redeg gan y Brifysgol gysylltu â’r Brifysgol i drafod sut i fynd i gasglu eu heiddo.
Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i Gymru yn unig. Os oes angen i chi deithio o rywle arall i Gymru, neu o Gymru i rywle arall, bydd angen i chi hefyd ystyried canllawiau teithio a llety y wlad honno.
Canllawiau’r Llywodraeth
Dylid darllen Canllawiau Llywodraeth Cymru ar aros gartref a chadw i ffwrdd oddi wrth eraill wrth ystyried casglu eich eiddo.
Siaradwch â’ch landlord ac edrychwch ar eich cytundeb tenantiaeth
Os ydych yn gwybod na fedrwch ddychwelyd i’ch llety i gasglu eich eiddo cyn i’ch tenantiaeth ddod i ben, dylech gael gair â’ch landlord neu’ch asiant gosod eiddo yn gyntaf i drafod y broses o adhawlio eich eiddo mewn ffordd ddiogel, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chanllawiau’r Llywodraeth.
Efallai bod eich cytundeb tenantiaeth yn amlinellu’r protocol ar gyfer diwedd tenantiaeth, sy’n gymwys i’ch llety chi, a’r disgwyliadau sydd arnoch chi ac ar eich landlord, mewn perthynas â chlirio eich eiddo o’r llety, a’r hyn fydd yn digwydd i unrhyw eiddo sy’n cael ei adael ar ôl unwaith y bydd y denantiaeth wedi dod i ben.
Dylech drafod eich sefyllfa benodol chi gyda’r landlord neu’ch asiant gosod eiddo. Os yw’ch tenantiaeth wedi dod i ben, neu os bydd y denantiaeth yn dod i ben yn fuan, dylech, lle bo modd, geisio gwneud trefniant gyda’ch landlord. Dylech sicrhau eich bod yn cadw cofnod o unrhyw ohebiaeth gyda'ch landlord neu'r asiant gosod eiddo ac yn gofyn am gadarnhad ysgrifenedig o unrhyw drefniadau sy’n cael eu gwneud.
Os nad oes modd i chi ddod i gytundeb i storio eich eiddo yn ddiogel, a bod y landlord yn gofyn i chi gasglu’ch eiddo o’r llety, gallwch wneud hynny on rhaid i chi ystyried y canllawiau ar aros gartref a chadw i ffwrdd oddi wrth eraill.
Os oes angen i chi gasglu eiddo, a’ch bod yn rhannu’r llety gydag eraill, efallai y byddwch am ddod i gytundeb rhwng eich gilydd a’r landlord i gasglu’r eiddo ar amseroedd gwahanol, er mwyn dod i gyn lleied â phosib o gysylltiad ag eraill, a sicrhau eich bod yn cadw at y ddeddfwriaeth a chanllawiau’r Llywodraeth.
Eiddo nad ydych am eu cadw bellach
Os ydych wedi gadael eiddo yn eich llety, ac nad ydych am eu cadw bellach, byddwch yn ymwybodol y gallai’ch landlord godi tâl arnoch am eu gwaredu. Dylech edrych ar delerau eich cytundeb tenantiaeth.
Os ydych wedi gadael eiddo nad ydych am eu cadw bellach, ond a allai fod o ddefnydd i rywun arall, efallai y byddwch am eu cynnig i bobl anghenus. Dylech siarad â thîm digartrefedd yr awdurdod lleol perthnasol i gael rhagor o wybodaeth.
Cefnogaeth a chyngor pellach
Os, ar ôl ystyried eich cytundeb tenantiaeth a siarad â’ch landlord neu’ch asiant gosod eiddo, rydych yn bryderus am beth fydd yn digwydd i’ch eiddo, rydym yn awgrymu eich bod yn chwilio am gyngor pellach. Dyma rai enghreifftiau o’r cymorth sydd ar gael:
Advicelink Cymru
Ffôn: 03444 772 020
Mae’r llinellau ffôn yn weithredol rhwng 9am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener, a dechrau a diwedd y dydd yw’r adegau prysuraf fel arfer. Nid ydynt yn agored ar ddyddiau gwyliau cyhoeddus
Gwasanaeth Text Relay: 03444 111 445
Help/cyngor ynghylch tai a chyngor arbenigol ar ddyled: 08000 495 495 (mae’r llinellau ffôn yn weithredol rhwng 9.30am a 4.00pm, dydd Llun i ddydd Gwener)
Efallai y byddwch hefyd am gael eich cyngor cyfreithiol eich hun ar ba opsiynau eraill a allai fod ar gael i chi, pe bai angen.
Os ydych yn fyfyriwr ac yn cael anhawster dod i gytundeb gyda'ch landlord neu asiant gosod eiddo, efallai y bydd o fudd i chi hefyd gysylltu â'ch Prifysgol, neu'r Undeb Cenedlaethol i Fyfyrwyr am gymorth pellach.