Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 15 Chwefror 2023.

Cyfnod ymgynghori:
23 Tachwedd 2022 i 15 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb o’r canlyniad

Mae'r crynodeb o ymatebion bellach ar gael. 

Manylion am y canlyniad

Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 434 KB

PDF
434 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym yn ceisio barn ynghylch a yw'r cod ymarfer yn rhoi digon o ganllawiau o ran sut i fodloni'r gofynion gwahanu ar gyfer y rheoliadau ailgylchu annomestig arfaethedig.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Rydym yn cyflwyno rheoliadau newydd y disgwylir iddynt ddod i rym ar 6 Ebrill 2024 ac sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob safle annomestig (gan gynnwys busnesau, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector) wahanu deunyddiau allweddol y gellir eu hailgylchu yn y ffordd y mae mwyafrif deiliaid tai Cymru eisoes yn gwneud.

Diben yr ymgynghoriad hwn sy'n ymwneud â Chymru yn unig yw gofyn am eich barn ar y cod ymarfer (“y cod”) ac a yw'n rhoi digon o ganllawiau ymarferol ar sut i fodloni'r gofynion gwahanu a nodir yn Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011 (fel y'u diwygiwyd, gan gynnwys fel y'u diwygir gan y Rheoliadau Gwastraff (Diwygio) (Cymru) 2023 arfaethedig).

Gweler yr ymgynghoriad gweithredol cysylltiedig a ganlyn ar gynigion ar gyfer gorfodi rheoliadau ailgylchu busnesau, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru sy'n gysylltiedig â'r rheoliadau hyn.

Gweler ymgynghoriad cysylltiedig: Cynyddu ailgylchu gan fusnesau

Help a chymorth

Am fwy o wybodaeth amdano’r ymgynghoriad hwn, e-bostiwch YmgyngoriadauDiwygiadauAilgylchu@llyw.cymru